- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
16 Awst 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 99 o’r Ddeddf;
ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(3) o Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(4);
mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576(5) o Ddeddf 1996;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(6);
mae i “yn ardal” (“in the area”) yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(7) o Ddeddf 1996.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
(a)y Ddeddf,
(b)rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
(c)unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
(i)darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu
(ii)person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
(5) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl os caiff ei thynnu’n ôl, neu—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei gwneud.
(6) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
(7) At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—
(a)pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
(b)pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
(8) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae mater yn mynd rhagddo—
(a)pan fydd awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
(b)pan fydd cais wedi ei wneud o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i gydymffurfio â’r cais;
(c)pan fydd cais wedi ei wneud o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(d)pan fydd awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
(e)pan fydd awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad yn dilyn asesiad ac—
(i)nad yw’r cyfnod y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii)gwnaed apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(f)pan fydd rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;
(g)pan fydd rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r datganiad wedi ei wneud;
(h)pan fydd asesiad o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo.
(9) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae apêl yn mynd rhagddi—
(a)pan fydd cais wedi ei wneud o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i)bod apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(ii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(b)pan fydd awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad yn dilyn asesiad ac—
(i)bod apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(ii)gwnaed apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
2. Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i blentyn y mae mater yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ef ar 1 Medi 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo—
(a)adrannau 2 i 4;
(b)adrannau 6 i 14;
(c)adrannau 17 i 36;
(d)adran 38;
(e)adrannau 40 i 44;
(f)adrannau 47 i 49;
(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h)adran 50(4) a (5);
(i)adrannau 51 i 53;
(j)adran 55;
(k)adran 59;
(l)adrannau 63 i 66;
(m)adrannau 68 a 69;
(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o)yn yr Atodlen—
(i)paragraff 1;
(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
(iii)paragraff 4(2) i 4(6);
(iv)paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn(8);
(v)paragraff 4(8) a (9);
(vi)paragraff 4(10);
(vii)paragraff 4(13) i 4(18);
(viii)paragraff 4(19) (b);
(ix)paragraff 4(20) a 4(21);
(x)paragraff 4(23) i 4(29);
(xi)paragraff 4(32) (a) (i) a (ii) a pharagraff 4(32) (b);
(xii)paragraff 7;
(xiii)paragraff 8;
(xiv)paragraff 11(a);
(xv)paragraff 12(a);
(xvi)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
(xvii)paragraff 14(2) a (3);
(xviii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
(xix)paragraff 19(5) (e) (ii);
(xx)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
(xxi)paragraff 21(2) (a) (i) a (2) (b) (ii);
(xxii)paragraff 22;
(xxiii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
(xxiv)paragraff 23(4);
(xxv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
(xxvi)paragraff 24(3) a (6) (a).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud
4. Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 a 10 ac erthyglau 12 i 15, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996(9) wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo—
(a)mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a
(b)nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud
5. Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—
(a)bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a
(b)y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 5 mewn grym ar y dyddiad gwneud
6. Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Ergl. 6 mewn grym ar y dyddiad gwneud
7. Effaith yr hysbysiad CDU yw—
(a)y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 7 mewn grym ar y dyddiad gwneud
8. Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—
(a)y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Ergl. 8 mewn grym ar y dyddiad gwneud
9.—(1) Pan fo awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn erbyn 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
(2) Pan fo cais yn cael ei wneud o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol ar 1 Medi 2022 wedi penderfynu pa un ai i gydymffurfio â’r cais, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
(3) Pan fo awdurdod lleol yn cynnal asesiad o dan adran 323 neu 331 o Ddeddf 1996 ar 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
(4) Pan na fo’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan adran 325(2), 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 wedi dod i ben ar 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
(5) Pan fo apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2), 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 a bod yr apêl honno yn mynd rhagddi ar 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r apêl honno gael ei dyfarnu’n derfynol.
(6) Pan fo rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn neu nad yw’r datganiad wedi ei wneud ar 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Ergl. 9 mewn grym ar y dyddiad gwneud
10.—(1) Caiff plentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod lleol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cais.
(2) Nid yw’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU ym mharagraff (1) yn gymwys—
(a)pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, neu
(b)pan fydd erthyglau 12 i 15 yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Ergl. 10 mewn grym ar y dyddiad gwneud
11.—(1) Pan roddir hysbysiad CDU yn unol ag erthygl 9 neu 10, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai—
(a)bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys,
(b)bod adran 31 o’r Ddeddf yn gymwys, neu
(c)bod amgylchiadau eithriadol.
(2) Os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) yn gymwys neu os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(3) Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol yn gymwys pan fydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Ergl. 11 mewn grym ar y dyddiad gwneud
12.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024,
(b)nad yw erthygl 13 yn gymwys iddo, ac
(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Ergl. 12 mewn grym ar y dyddiad gwneud
13.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Ergl. 13 mewn grym ar y dyddiad gwneud
14.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn pan fo apêl yn mynd rhagddi ar 30 Awst 2024 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
(a)oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol;
(b)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar yr apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Ergl. 14 mewn grym ar y dyddiad gwneud
15.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)sy’n symud o ardal yr awdurdod lleol yr oedd y plentyn ynddi ar 1 Medi 2022,
(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys iddo.
(2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn symud o ardal yr awdurdod lleol yr oedd y plentyn ynddi ar 1 Medi 2022—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Ergl. 15 mewn grym ar y dyddiad gwneud
16. Pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Ergl. 16 mewn grym ar y dyddiad gwneud
17.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i blentyn y mae mater yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ef ar 1 Medi 2022.
(2) Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n gymwys i berson pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
(3) Nid yw dyletswydd ym mharagraff (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
(4) Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—
(a)y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthygl 9;
(b)y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 10;
(c)y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 11(1).
(5) Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(6) Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Ergl. 17 mewn grym ar y dyddiad gwneud
18.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i blentyn y mae mater yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ef ar 1 Medi 2022.
(2) Nid yw dyletswydd ym mharagraff (3) na’r pŵer ym mharagraff (4) yn gymwys pan fydd person yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
(3) Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant yn erthygl 9;
(b)y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan riant o dan erthygl 10;
(c)y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i riant o fewn 12 wythnos yn erthygl 11(1).
(4) Y pŵer y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw y pŵer i riant ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn erthygl 10.
(5) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(6) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Ergl. 18 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Awst 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlant penodol sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol ar 1 Medi 2022 ond nad oes ganddynt ddatganiad anghenion addysgol arbennig (erthygl 2).
Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith.
Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad i blentyn (erthygl 9). Y modd y mae’r plentyn yn ymwneud â’r fframwaith statudol presennol ar 1 Medi 2022 sy’n pennu pa bryd y mae rhaid i’r awdurdod lleol roi’r hysbysiad. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y bydd y plentyn hwnnw yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd.
Caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).
Caiff plentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn cael ei roi (erthygl 10).
Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau penodol yn gymwys (erthygl 11).
Os nad yw’r plentyn wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd erbyn 31 Awst 2024, mae erthyglau 12 i 14 yn nodi ar ba ddyddiad y mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac y mae’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn.
Mae erthygl 15 yn ymdrin â’r sefyllfa pan fo amgylchiadau’r plentyn yn newid ar ôl 1 Medi 2022.
Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, o dan amgylchiadau penodol rhaid rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig yr oedd y plentyn yn ei chael yn union cyn trosglwyddo i’r gyfraith newydd (erthygl 16).
Mae erthygl 17 yn adlewyrchu adran 84 o’r Ddeddf sy’n darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol yn y Ddeddf honno mewn perthynas â phlant (e.e. i roi copi o gynllun datblygu unigol i blentyn) yn gymwys os ystyrir nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
Mae erthygl 18 yn darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â rhieni yn y Gorchymyn hwn (e.e. i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant) yn gymwys pan fydd y plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(10):
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)(11) | |
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) ( C. 12) | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 9 i 14 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 16 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) (13) |
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 22 i 31 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 33 i 35 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 38 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 48 i 49 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 54 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 55 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 56 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adrannau 57 i 58 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 66 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 70 i 73 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 75 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 76 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 77 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adrannau 78 i 81 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
Adran 83 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 84 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 85 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adrannau 86 i 90 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 91 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 92 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adrannau 93 i 94 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 95 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2) (b) a 2(3) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 3 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19) (b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32) (a) (i) a (ii), 4(32) (b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19) (a), 4(22), 4(30) (a) (ii), 4(30) (b), 4(31), 4(32) (a) (iii), 4(33) (a), 4(33) (b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33) (d), 4(33) (e) a 4(33) (g) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 6(d) (v), 6(f), 6(g), 6(j) (i), 6(l) (i), 6(l) (iii), 6(n) (ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraffau 9 a 10 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 11(b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 12(b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 13 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 18 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5) (a) i (d), (5) (e) (i), (5) (f) a (6) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5) (g) ac (h) (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267) (C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5) (e) (ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 20 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2) (a) (i) a (2) (b) (ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b) (i) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3) (a) i (c) a (5) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6) (a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6) (b) ac (c) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) (14) |
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 180 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.
Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.
Mae paragraff 4(7) (“y ddarpariaeth”) wedi ei ddiddymu gan baragraff 75 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) (“Deddf 2021”). Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth wedi ei harbed gan Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 (O.S. 2022/111 (Cy. 39)) mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm (h.y. nad yw Deddf 2021 wedi cychwyn mewn perthynas ag ef). Effaith y ddarpariaeth arbed honno yw bod paragraff 4(7) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn parhau mewn grym hyd nes y darperir addysg o dan Ddeddf 2021 i’r plentyn neu’r disgybl.
Gweler erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn a gychwynnodd y darpariaethau hynny.
Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/891 (Cy. 188) (C. 55)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022 (O.S. 2022/893 (Cy. 190) (C. 57)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022 (O.S. 2022/894 (Cy. 191) (C. 58)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022 (O.S. 2022/895 (Cy. 192) (C. 59)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/896 (Cy. 193) (C. 60)), Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022 (O.S. 2022/897 (Cy. 194) (C. 61)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022 (O.S. 2022/898 (Cy. 195) (C. 62)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.
Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80) .
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys