Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Hydref 2023.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Addysg a Gwella Iechyd Cymru” (“Health Education and Improvement Wales”) yw’r corff a sefydlwyd gan Orchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017 (1);

ystyr “anghymhwysiad cenedlaethol” (“a national disqualification”) yw—

(a)

penderfyniad a wneir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 115 o’r Ddeddf(2) (anghymhwysiad cenedlaethol);

(b)

penderfyniad a wneir o dan ddarpariaethau sydd mewn grym yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy’n cyfateb i adran 115 o’r Ddeddf;

mae i “archwiliad llygaid” (“eye examination”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG” (“the NHS Counter-Fraud Authority”) yw’r corff a sefydlwyd gan Orchymyn Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG (Sefydlu, Cyfansoddiad, Darpariaethau Trosglwyddo Staff a Darpariaethau Trosglwyddo Eraill) 2017(3);

mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 206 o’r Ddeddf (dehongli);

ystyr “claf” (“patient”) yw person y mae contractwr wedi cytuno i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ar ei gyfer;

ystyr “contractwr” (“contractor”) yw ymarferydd cymwysedig, ac eithrio myfyriwr optometreg, sydd wedi ymrwymo i drefniant â Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol;

ystyr “corff cyfatebol” (“equivalent body”) yw—

(a)

o ran Lloegr, GIG Lloegr, fel y’i sefydlwyd gan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(4);

(b)

o ran yr Alban, Bwrdd Iechyd a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5);

(c)

o ran Gogledd Iwerddon, yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon;

ystyr “corff trwyddedu neu reoleiddio” (“licensing or regulatory body”) yw corff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio unrhyw broffesiwn y mae’r ymarferydd cymwysedig yn aelod ohono neu wedi bod yn aelod ohono, gan gynnwys corff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio addysg, hyfforddiant neu gymwysterau’r proffesiynau hynny, ac unrhyw gorff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio unrhyw broffesiwn o’r fath, ei addysg, ei hyfforddiant neu ei gymwysterau, y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) yw—

(a)

cyfarwyddwr i gorff corfforedig;

(b)

aelod o gorff o bersonau sy’n rheoli corff corfforedig (pa un a yw’n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ai peidio);

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw unrhyw gyflogaeth, pa un ai â thâl neu’n ddi-dâl a pha un ai o dan gontract gwasanaeth ai peidio, a rhaid dehongli “cyflogai”, “cyflogedig” a “cyflogwr” yn unol â hynny;

mae “cyflogwr” (“employer”) yn cynnwys unrhyw bartneriaeth y mae ymarferydd cymwysedig yn aelod ohoni, neu yr oedd yn aelod ohoni;

mae i “y Datganiad” (“the Statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 31;

mae i “digwyddiadau cychwynnol” (“originating events”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 3;

ystyr “dirprwy” (“deputy”) yw ymarferydd meddygol offthalmig neu optometrydd sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr gyfunol ac sy’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol;

ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym o dan reoliad 1(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol” (“primary ophthalmic services form”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol y mae rhaid ei chwblhau gan gontractwr i gael taliad am ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol o dan y Rheoliadau hyn;

mae i “y gofrestr” (“the register”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 3;

mae i “gwasanaethau archwilio llygaid” (“eye examination services”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

mae i “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” (“general ophthalmic services”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

mae i “gwasanaethau offthalmig sylfaenol” (“primary ophthalmic services”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

ystyr “gwasanaethau symudol” (“mobile services”) yw gwasanaethau offthalmig sylfaenol a ddarperir mewn man nad yw’n fangre gofrestredig;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

ystyr “mangre gofrestredig” (“registered premises”) yw cyfeiriad sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr offthalmig mewn perthynas â chontractwr, yn unol â pharagraff 1(g) o Atodlen 3;

mae i “meddygol” yr ystyr a roddir i “medical” yn adran 206 o’r Ddeddf (dehongli);

ystyr “myfyriwr optometreg” (“student optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 8A o Ddeddf Optegwyr 1989(6) (cofrestr myfyrwyr) fel person sy’n ymgymryd â hyfforddiant i fod yn optometrydd;

ystyr “NHS Resolution” (“NHS Resolution”) yw Awdurdod Ymgyfreitha’r GIG, sef corff a sefydlwyd gan Orchymyn Awdurdod Ymgyfreitha’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Sefydlu a Chyfansoddiad) 1995(7);

ystyr “optegydd corfforedig” (“corporate optician”) yw corff corfforedig sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf Optegwyr 1989(8) (rhestr o gyrff corfforedig sy’n cynnal busnes fel optegwyr), sy’n cynnal busnes fel optometrydd, ac at ddiben y diffiniad hwn, mae i “optometrydd” yr ystyr a roddir i “optometrist” yn adran 36 o’r Ddeddf honno(9) (dehongli);

ystyr “optegydd cyflenwi” (“dispensing optician”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel optegydd cyflenwi yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989(10) (cofrestr optegwyr);

ystyr “optometrydd” (“optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel optometrydd yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989 (cofrestr optegwyr);

mae i “person cymwys” (“eligible person”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

mae i “practis symudol” (“mobile practice”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 3;

ystyr “Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig” (“Ophthalmic Qualifications Committee”) yw pwyllgor a benodir gan sefydliadau sy’n gynrychioliadol o’r proffesiwn meddygol ac a gaiff ei gydnabod gan Weinidogion Cymru at ddibenion cymeradwyo—

(a)

ysbytai offthalmig, graddau academaidd, cyrsiau academaidd neu ôl-raddedig mewn offthalmoleg a swyddi sy’n rhoi cyfleoedd arbennig ar gyfer caffael y sgil a’r profiad angenrheidiol o’r math sy’n ofynnol ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol, a

(b)

cymwysterau ymarferwyr meddygol at ddiben gwasanaethau offthalmig cyffredinol;

mae i “rhestr atodol” (“supplementary list”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

ystyr “rhestr gofal sylfaenol” (“primary care list”) yw rhestr y cyfeirir ati yn adran 115(1)(a) i (d) o’r Ddeddf;

ystyr “rhestr gyfatebol” (“equivalent list”) yw rhestr a gedwir gan gorff cyfatebol sy’n cyfateb i restr gofal sylfaenol;

mae i “rhestr gyfunol” (“combined list”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

mae i “rhestr offthalmig” (“ophthalmic list”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

ystyr “rhif cofrestru proffesiynol” (“professional registration number”) yw’r rhif gyferbyn ag enw’r ymarferydd cymwysedig yn y gofrestr berthnasol a gynhelir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu’r Cyngor Optegol Cyffredinol;

mae i “swyddog” yr ystyr a roddir i “officer” yn adran 206 o’r Ddeddf (dehongli);

ystyr “telerau gwasanaeth” (“terms of service”) yw’r telerau a nodir yn Atodlen 4;

ystyr “Tribiwnlys Haen Gyntaf” (“First-tier Tribunal”) yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf a sefydlwyd o dan adran 3(1) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007(11) (y Tribiwnlys Haen Gyntaf);

ystyr “wedi ei atal dros dro” (“suspended”) yw wedi ei atal dros dro—

(a)

o dan y Ddeddf;

(b)

o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(c)

o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

(d)

o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(12);

ystyr “ymarferydd cymwysedig” (“qualified practitioner”) yw—

(a)

optegydd corfforedig;

(b)

optometrydd;

(c)

ymarferydd meddygol offthalmig;

(d)

myfyriwr optometreg;

ystyr “ymarferydd meddygol” (“medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered person” yn adran 55 o Ddeddf Meddygaeth 1983(13) ac sy’n dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;

ystyr “ymarferydd meddygol offthalmig” (“ophthalmic medical practitioner”) yw person a gydnabyddir o dan reoliad 9 ac Atodlen 2;

mae “ymddygiad proffesiynol” (“professional conduct”) yn cynnwys materion sy’n ymwneud ag ymddygiad proffesiynol a pherfformiad proffesiynol fel ei gilydd;

mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” yn adran 206 o’r Ddeddf (dehongli);

mae “ysbyty offthalmig” (“ophthalmic hospital”) yn cynnwys adran offthalmig mewn ysbyty.

RHAN 2Trefniadau ar gyfer gwasanaethau offthalmig

Dyletswydd i drefnu archwiliadau llygaid

3.—(1Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol drefnu, mewn cysylltiad â’i ardal, ar gyfer darparu archwiliadau llygaid yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol weinyddu’r trefniadau ar gyfer y gwasanaethau hyn yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “archwiliad llygaid” yw archwiliad o’r llygad at ddiben gwneud diagnosis o gyflwr llygaid neu benderfynu ar driniaeth ar gyfer cyflwr llygaid, neu adolygu cyflwr presennol, sy’n cynnwys y profion a’r gweithdrefnau hynny a’r cyngor hwnnw sy’n briodol i’r arwyddion a’r symptomau sy’n ymgyflwyno yn y claf, ac i anghenion y claf hwnnw, a

(b)cyfeirir at y gwasanaethau sy’n ofynnol gan baragraff (1) fel “gwasanaethau archwilio llygaid”.

Gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau offthalmig sylfaenol

4.  Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” yw’r gwasanaethau y mae rhaid i gontractwr eu darparu o dan baragraff 23 (profion golwg) o’r telerau gwasanaeth, a

(b)ystyr “gwasanaethau offthalmig sylfaenol” yw, gyda’i gilydd—

(i)gwasanaethau offthalmig cyffredinol, a

(ii)gwasanaethau archwilio llygaid.

RHAN 3Cymhwystra i gael prawf golwg a cheisiadau am brawf golwg

Cymhwystra i gael prawf golwg

5.  Mae person sy’n bodloni unrhyw un neu ragor o’r meini prawf ym mharagraff 1 o Atodlen 1 yn gymwys i gael prawf golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol (a chyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “person cymwys”).

Cais am brawf golwg

6.—(1Caiff person cymwys wneud cais i gontractwr am brawf golwg.

(2Rhaid i’r cais—

(a)cael ei wneud ar ffurflen a ddarperir at y diben hwnnw i gontractwyr gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, a

(b)cynnwys datganiad ysgrifenedig, wedi ei lofnodi gan y ceisydd yn ysgrifenedig neu’n electronig, i’r perwyl ei fod yn berson cymwys.

(3Cyn darparu prawf golwg o’r fath, rhaid i gontractwr y mae cais wedi ei wneud iddo—

(a)ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys, ofyn i’r person ddangos tystiolaeth foddhaol ei fod yn bodloni un o’r meini prawf ym mharagraff 1 o Atodlen 1,

(b)pan ofynnwyd i’r person am dystiolaeth foddhaol ei fod yn berson cymwys ond nad yw wedi ei darparu, gofnodi’r ffaith honno ar ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol y person,

(c)sicrhau bod manylion y person a bras ddyddiad ei brawf golwg diwethaf, os oes un, yn cael eu cofnodi ar ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol, a

(d)ei fodloni ei hun bod y prawf golwg yn angenrheidiol.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan—

(a)bo’r person yn gymwys oherwydd paragraff 1(1)(d) o Atodlen 1, a

(b)bo tystiolaeth foddhaol o gymhwystra’r person eisoes ar gael i’r contractwr.

(5Mae paragraff 2 o Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dystiolaeth benodol y mae rhaid i gontractwr ofyn amdani cyn darparu prawf golwg i bersonau penodol.

(6O ran y contractwr—

(a)caiff benodi aelod o’i staff i gyflawni gofynion paragraff (3)(a) a (b) ar ei ran, a

(b)rhaid iddo sicrhau bod yr aelod o staff a benodir at y diben hwnnw yn cael cyfarwyddyd i’w alluogi i gyflawni’r gofynion ar ran y contractwr.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), caniateir gwneud cais am wasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Rheoliadau hyn, a chaniateir rhoi llofnod sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn—

(a)ar ran unrhyw berson o dan 16 oed, gan y naill riant neu’r llall, gan y gwarcheidwad neu gan oedolyn arall a chanddo ofal dros y plentyn;

(b)ar ran unrhyw berson o dan 18 oed sydd—

(i)yng ngofal awdurdod lleol y traddodwyd y person i’w ofal o dan Ddeddf Plant 1989(14) neu sydd wedi derbyn y person i’w ofal o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(15), gan berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan yr awdurdod hwnnw;

(ii)yng ngofal sefydliad gwirfoddol, gan y sefydliad hwnnw neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan y sefydliad;

(c)ar ran unrhyw berson arall nad oes ganddo’r gallu i wneud y cais neu i roi’r llofnod, gan berthynas neu unrhyw oedolyn arall a chanddo ofal dros y person hwnnw.

(8Ni chaiff y contractwr y gwneir y cais iddo lofnodi cais.

Gwasanaethau eraill sy’n cael eu trin fel pe baent yn wasanaethau offthalmig cyffredinol

7.—(1Mae paragraff (5) yn gymwys pan—

(a)bo person yn cael prawf golwg, ac eithrio gwasanaethau offthalmig cyffredinol, gan gontractwr,

(b)yn union cyn cael y prawf golwg, nad oedd y person hwnnw yn berson cymwys, ac

(c)bo Amod A, Amod B neu Amod C wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person.

(2Mae Amod A wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person os dangosir, wrth ddarparu’r prawf golwg, fod y person yn bodloni’r maen prawf cymhwystra ym mharagraff 1(1)(e) o Atodlen 1.

(3Mae Amod B wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person os yw’r person—

(a)cyn diwedd cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y darparwyd y prawf golwg, yn dod yn berson cymwys oherwydd ei fod yn bodloni’r maen prawf cymhwystra ym mharagraff 1(1)(d) o Atodlen 1 drwy gyfeirio at baragraff 1(2)(c), (d) neu (g) o’r Atodlen honno, a

(b)cyn diwedd y cyfnod o 3 mis gan ddechrau â’r diwrnod y darparwyd y prawf golwg, yn darparu i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad o hawlogaeth i’r perwyl hwnnw.

(4Mae Amod C wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod o 3 mis gan ddechrau â’r diwrnod y darparwyd y prawf golwg, yn dod yn berson cymwys oherwydd ei fod yn bodloni’r maen prawf cymhwystra ym mharagraff 1(1)(d) o Atodlen 1 drwy gyfeirio at baragraff (2)(n) o’r Atodlen honno.

(5Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid trin y prawf golwg fel pe bai wedi bod yn wasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Ddeddf—

(a)at ddibenion rheoliad 8(1)(a) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(16), a

(b)at y dibenion a bennir yn adran 71(8) a (9) o’r Ddeddf.

(6Pan fo’r prawf golwg a geir gan berson yn cael ei drin yn rhinwedd paragraff (3) neu (4) fel pe bai’n wasanaethau offthalmig cyffredinol—

(a)caiff y person hwnnw ddarparu i’r Bwrdd Iechyd Lleol dderbynneb ar gyfer unrhyw ffi a dalwyd am y prawf golwg hwnnw, neu dystiolaeth arall o unrhyw ffi a dalwyd amdano, a

(b)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni o ran y swm a dalwyd am y prawf golwg hwnnw, rhaid iddo dalu i’r person hwnnw swm sy’n hafal i’r ffi a dalwyd.

RHAN 4Rhestrau cyfunol

PENNOD 1

Darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol

8.—(1Caiff ymarferydd cymwysedig (ac eithrio myfyriwr optometreg) ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol os yw wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw (gweler rheoliad 10(2)(a)).

(2Caiff ymarferydd cymwysedig (ac eithrio myfyriwr optometreg) gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yng Nghymru os yw wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig neu yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol (gweler rheoliad 10(2)(a) a (b)).

(3Caiff myfyriwr optometreg gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yng Nghymru i’r graddau y mae wedi ei gymhwyso i wneud hynny ac o dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol offthalmig neu optometrydd y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr gyfunol, os yw’r myfyriwr optometreg wedi ei gynnwys yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol (gweler rheoliad 10(2)(b)).

Cymwysterau ymarferwyr meddygol offthalmig

9.—(1Y cymwysterau rhagnodedig y mae rhaid i ymarferydd meddygol feddu arnynt at ddibenion adran 71 o’r Ddeddf (trefniadau ar gyfer gwasanaethau offthalmig cyffredinol) yw’r rhai a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 2.

(2Mae paragraff 2 o Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chymeradwyo cymwysterau ymarferwyr meddygol offthalmig gan y Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig.

(3Mae paragraff 3 o Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag apelau yn erbyn penderfyniadau gan y Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig.

PENNOD 2Llunio a chyhoeddi rhestr gyfunol

Dyletswydd i lunio rhestr gyfunol

10.—(1Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol lunio, ar gyfer ei ardal, restr gyfunol.

(2Rhaid i’r rhestr gyfunol gynnwys—

(a)rhestr o’r ymarferwyr cymwysedig sy’n ymgymryd â darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ac sydd wedi eu cymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 13 (“y rhestr offthalmig”), a

(b)mewn rhan ar wahân, restr o’r ymarferwyr cymwysedig sydd wedi eu cymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddiben cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol o dan reoliad 13 (“y rhestr atodol”).

(3Rhaid i’r rhestr gyfunol gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

Cyhoeddi’r rhestr gyfunol

11.—(1Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi ei restr gyfunol a rhoi copi ohoni ar gael i edrych arno—

(a)yn ei swyddfeydd, a

(b)mewn unrhyw fan arall yn ei ardal y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

(2Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)anfon copi o’i restr gyfunol i’r Pwyllgor Meddygol Lleol perthnasol a’r Pwyllgor Optegol Lleol perthnasol, a

(b)fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis, hysbysu pob un ohonynt am unrhyw newid a wneir yn y rhestr honno.

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Pwyllgor Meddygol Lleol perthnasol” (“relevant Local Medical Committee”) yw’r pwyllgor a gydnabyddir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 54 o’r Ddeddf;

ystyr “Pwyllgor Optegol Lleol perthnasol” (“relevant Local Optical Committee”) yw’r pwyllgor a gydnabyddir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 78 o’r Ddeddf.

PENNOD 3Cynnwys ymarferydd mewn rhestr

Cais i gynnwys ymarferydd mewn rhestr

12.—(1Caiff ymarferydd cymwysedig, ac eithrio myfyriwr optometreg, wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol i gael ei gynnwys yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Caiff ymarferydd cymwysedig wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol i gael ei gynnwys yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Rhaid i gais i gynnwys ymarferydd yn rhestr offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—

(a)ymgymeriad—

(i)i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw;

(ii)i gydymffurfio â’r telerau gwasanaeth a nodir yn Atodlen 4;

(b)pan fo’r ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau symudol, ddatganiad i’r perwyl hwnnw ynghyd ag ymgymeriad i ddarparu gwasanaethau symudol;

(c)yr wybodaeth, yr ymgymeriadau a’r datganiadau sy’n ofynnol gan baragraffau 3, 4 a 7 o Atodlen 3.

(4Rhaid i gais i gynnwys ymarferydd yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth, yr ymgymeriadau a’r datganiadau sy’n ofynnol gan baragraffau 5, 6 a 7 o Atodlen 3.

(5Yn achos cais i Fwrdd Iechyd Lleol gan ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei gynnwys yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, ac sy’n ceisio tynnu’n ôl o’r rhestr honno a chael ei gynnwys yn ei restr offthalmig, nid yw’n ofynnol i’r ymarferydd cymwysedig hwnnw ddarparu unrhyw wybodaeth nac unrhyw ymgymeriadau sy’n ofynnol gan baragraff (3) ac Atodlenni 3 a 4 ond i’r graddau—

(a)nad yw’r ymarferydd cymwysedig hwnnw eisoes wedi eu darparu i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, neu

(b)y mae’r wybodaeth wedi newid ers cael ei darparu.

Penderfyniadau a seiliau dros wrthod

13.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sy’n cael cais o dan reoliad 12—

(a)penderfynu pa un ai i gymeradwyo’r ymarferydd cymwysedig i’w gynnwys yn ei restr offthalmig neu yn ei restr atodol (yn ôl y digwydd), a

(b)oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys, hysbysu’r ymarferydd cymwysedig am ei benderfyniad o fewn 7 niwrnod i’r penderfyniad hwnnw.

(2Cyn penderfynu ar gais o dan baragraff (1)(a), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gwirio’r wybodaeth a ddarperir gan yr ymarferydd cymwysedig, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, yn enwedig yr wybodaeth honno a ddarperir o dan Atodlen 3,

(b)gwirio gydag Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG a oes gan yr ymarferydd cymwysedig unrhyw hanes o dwyll,

(c)gwirio gyda Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw ffeithiau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol mewn perthynas ag ymchwiliadau neu achosion, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, sy’n ymwneud â’r ymarferydd cymwysedig neu sy’n gysylltiedig ag ef, ac ystyried y ffeithiau hynny, a

(d)cael geirdaon oddi wrth y canolwyr a enwir gan yr ymarferydd cymwysedig o dan baragraff 3(l) neu 5(h) o Atodlen 3 (fel y bo’n briodol), ac ystyried y geirdaon a ddarperir.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wrthod cynnwys ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol pan fo unrhyw un neu ragor o’r seiliau ym mharagraff 8 o Atodlen 3 yn gymwys.

(4Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wrthod cynnwys ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol pan fo unrhyw un neu ragor o’r seiliau ym mharagraff 9 o Atodlen 3 yn gymwys.

(5Wrth ystyried gwrthodiad o dan baragraff (4), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 10 o Atodlen 3.

(6Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod cais, rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1)(b) gynnwys—

(a)datganiad o’r rhesymau dros benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), a

(b)manylion ynghylch sut i apelio yn erbyn y gwrthodiad o dan reoliad 28.

(7Pan fo cais yn cael ei wneud i Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 12, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol wrthod y cais ond yn unol â pharagraffau (3) a (4).

Cynnwys ymarferydd yn amodol

14.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)penderfynu cynnwys ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol yn ddarostyngedig i amodau;

(b)mewn perthynas ag ymarferydd cymwysedig sydd wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol, amrywio’r telerau gwasanaeth a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn at ddiben gosod yr amodau hynny, neu mewn cysylltiad â gosod yr amodau hynny.

(2Wrth osod amodau ar ymarferydd cymwysedig o dan baragraff (1)(a), rhaid gwneud hynny gyda’r bwriad o—

(a)rhwystro unrhyw niwed i effeithlonrwydd darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol, neu

(b)rhwystro unrhyw weithredoedd neu anweithredoedd o’r math a ddisgrifir yn adran 107(3)(a) o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr).

(3Caiff Bwrdd Iechyd Lleol adolygu ei benderfyniad i osod neu amrywio amod o dan baragraff (1), ac os gofynnir yn ysgrifenedig gan yr ymarferydd cymwysedig iddo adolygu penderfyniad o’r fath, rhaid iddo wneud hynny.

(4Ni chaiff ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad o dan baragraff (3) tan ar ôl cyfnod o dri mis gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol.

(5Ar ôl i adolygiad ddigwydd, ni chaiff yr ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad pellach cyn diwedd cyfnod o chwe mis gan ddechrau â dyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad blaenorol.

(6Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn adolygu ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn, caiff—

(a)amrywio’r amodau a osodir ar yr ymarferydd cymwysedig,

(b)gosod amodau gwahanol ar yr ymarferydd cymwysedig,

(c)dileu’r amod neu’r amodau a osodir ar yr ymarferydd cymwysedig, neu

(d)dileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr gyfunol.

(7Caiff ymarferydd cymwysedig apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y penderfyniadau a ganlyn gan y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)penderfyniad i osod amodau, neu unrhyw amod penodol, ar yr ymarferydd cymwysedig;

(b)penderfyniad i amrywio amod;

(c)penderfyniad i amrywio telerau gwasanaeth yr ymarferydd cymwysedig.

(8Ac eithrio mewn achos o fewn is-baragraff (10), ni chaniateir i unrhyw benderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol a gaiff fod yn destun apêl o dan is-baragraff (4) gael effaith hyd nes bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi penderfynu unrhyw apêl yn ei erbyn neu fod yr amser ar gyfer unrhyw apêl wedi dod i ben.

(9Mae is-baragraff (10) yn gymwys pan—

(a)bo ymarferydd cymwysedig wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu y caniateir i ymarferydd cymwysedig gael ei gynnwys yn ei restr atodol yn ddarostyngedig i amodau.

(10Os yw’r ymarferydd cymwysedig yn cytuno’n ysgrifenedig i gael ei rwymo gan yr amodau a osodir hyd nes bod yr amser ar gyfer apelio wedi dod i ben neu fod unrhyw apêl wedi ei phenderfynu, caniateir i’r ymarferydd cymwysedig gael ei gynnwys (neu barhau i gael ei gynnwys) yn y rhestr honno—

(a)yn ystod y cyfnod ar gyfer unrhyw apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan reoliad 28, neu

(b)os caiff apêl ei dwyn, hyd nes bod yr apêl wedi ei phenderfynu.

Gohirio penderfyniadau

15.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried penderfyniad o dan reoliad 13 pan fo unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn Rhan 4 o Atodlen 3 yn gymwys.

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)hysbysu’r ymarferydd cymwysedig ei fod wedi gohirio ei benderfyniad, a

(b)rhoi rhesymau dros y gohiriad hwnnw.

(3Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried penderfyniad o dan baragraff (1) ond hyd nes bod canlyniad y digwyddiad perthnasol a grybwyllir ym mharagraff 11(1)(c) a (2) o Ran 4 o Atodlen 3 yn hysbys neu tra bo’r ymarferydd cymwysedig wedi ei atal dros dro o dan baragraff 11(1)(a) neu (b) o’r Atodlen honno.

(4Ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddod yn ymwybodol o ganlyniad y digwyddiad perthnasol a grybwyllir ym mharagraff 11(1)(c) a (2) o Ran 4 o Atodlen 3, neu ar ôl i’r ataliad dros dro y cyfeirir ato ym mharagraff 11(1)(a) neu (b) o’r Atodlen honno ddod i ben, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ymarferydd cymwysedig ei bod yn ofynnol iddo—

(a)diweddaru ei gais o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad (neu unrhyw gyfnod hwy a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol), a

(b)cadarnhau yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ei fod yn dymuno bwrw ymlaen â’i gais.

(5Ar yr amod bod unrhyw wybodaeth ychwanegol wedi dod i law o fewn 28 o ddiwrnodau, neu o fewn yr amser y cytunwyd arno, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ymarferydd cymwysedig cyn gynted ag y bo modd—

(a)bod ei gais wedi bod yn llwyddiannus, neu

(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu gwrthod ei gais neu osod amodau ar gynnwys yr ymarferydd hwnnw—

(i)am y penderfyniad hwnnw a’r rhesymau drosto (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), a

(ii)ynghylch sut i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw o dan reoliad 28.

Gofynion y mae rhaid i ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr atodol gydymffurfio â hwy

16.—(1Wrth ddod yn ymwybodol o newid i’r wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymarferydd cymwysedig yn unol â pharagraffau 5 i 7 o Atodlen 3 wrth wneud cais i gael ei gynnwys yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r ymarferydd cymwysedig hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod.

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r ymarferydd cymwysedig ddarparu’r holl awdurdod angenrheidiol er mwyn galluogi i gais gael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol i unrhyw gyflogwr (neu gyn-gyflogwr), unrhyw gorff trwyddedu, unrhyw gorff rheoleiddio neu unrhyw gorff arall yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, am wybodaeth sy’n ymwneud â’r hysbysiad a roddir gan yr ymarferydd cymwysedig o dan is-baragraff (1).

(3Rhaid i ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei gynnwys yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol gyflenwi i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw dystysgrif cofnod troseddol manwl o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(17) mewn perthynas â’r ymarferydd cymwysedig os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw adeg, am achos rhesymol, yn rhoi hysbysiad i’r ymarferydd cymwysedig i ddarparu tystysgrif o’r fath.

PENNOD 4Dileu etc. ymarferydd o restr, ac aildderbyn yr ymarferydd iddi

Dileu ymarferydd o restr

17.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddileu ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig neu o’i restr atodol (fel y bo’n briodol)—

(a)pan ddaw’n ymwybodol bod yr ymarferydd cymwysedig wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;

(b)pan ddaw’n ymwybodol bod yr ymarferydd cymwysedig yn ddarostyngedig i anghymhwysiad cenedlaethol;

(c)pan ddaw’n ymwybodol bod yr ymarferydd cymwysedig wedi marw;

(d)pan ddaw’n ymwybodol bod yr ymarferydd cymwysedig wedi peidio fel arall â bod yn ymarferydd cymwysedig;

(e)yn achos ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol, pan ddaw’n ymwybodol bod yr ymarferydd cymwysedig wedi ei gynnwys yn rhestr atodol unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol;

(f)yn achos ymarferydd cymwysedig sydd yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol, pan ddaw’n ymwybodol bod yr ymarferydd cymwysedig wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol arall;

(g)pan fo’r ymarferydd cymwysedig yn ymarferydd meddygol offthalmig, pan ddaw’n ymwybodol bod yr ymarferydd meddygol offthalmig yn destun—

(i)cyfarwyddyd a roddir gan Dribiwnlys Ymarferwyr Meddygol o dan adran 35D(2)(a) neu (b) o Ddeddf Meddygaeth 1983(18) (swyddogaethau Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol);

(ii)gorchymyn neu gyfarwyddyd a wneir gan Dribiwnlys Ymarferwyr Meddygol o dan adran 38(1) o Ddeddf Meddygaeth 1983 (pŵer i orchymyn atal dros dro gydag effaith ar unwaith etc.);

(iii)o adeg dod i rym erthygl 13 o Orchymyn Deddf Meddygaeth 1983 (Diwygio) 2002(19), gyfarwyddyd gan Dribiwnlys Ymarferwyr Meddygol ar gyfer dileu neu atal dros dro gydag effaith ar unwaith o dan adran 35D(2)(a) neu (b), (5)(a) neu (b), (10)(a) neu (b), neu (12)(a) neu (b) (swyddogaethau Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol), neu adran 38(1) (pŵer i orchymyn atal dros dro gydag effaith ar unwaith etc.) o Ddeddf Meddygaeth 1983;

(h)yn achos optometrydd, pan ddaw’n ymwybodol bod yr ymarferydd cymwysedig yn destun cyfarwyddyd a wneir gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y Cyngor Optegol Cyffredinol ac eithrio mewn achos iechyd i ddileu enw’r ymarferydd o’r gofrestr briodol neu i atal dros dro gofrestriad yr ymarferydd o dan adran 13F(3)(a) neu (b), (7)(a) neu (b) neu (13)(a) neu (b) o Ddeddf Optegwyr 1989(20) (pwerau’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer);

(i)pan y’i hysbysir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf ei fod wedi ystyried apêl gan yr ymarferydd cymwysedig hwnnw yn erbyn cynnwys yr ymarferydd yn amodol yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol a bod yr ymarferydd hwnnw wedi ei gynnwys yn amodol wrth aros am ganlyniad yr apêl, a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi penderfynu peidio â chynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn y rhestr atodol;

(j)pan y’i hysbysir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf ei fod wedi ystyried apêl gan yr ymarferydd cymwysedig hwnnw yn erbyn dileu’r ymarferydd yn ddigwyddiadol o restr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol, a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi penderfynu dileu’r ymarferydd cymwysedig o’r rhestr atodol honno yn lle hynny.

(2Ac eithrio mewn achos y mae paragraff (1)(c) yn gymwys iddo, pan fo ymarferydd cymwysedig yn cael ei ddileu o restr Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (1), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi gwybod ar unwaith i’r ymarferydd cymwysedig ei fod wedi ei ddileu o’r rhestr honno.

(3Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ddileu ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig neu o’i restr atodol (fel y bo’n briodol)—

(a)pan fo’r ymarferydd cymwysedig wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol ac wedi methu â chydymffurfio â’r telerau gwasanaeth;

(b)pan fo’r ymarferydd cymwysedig wedi methu â chydymffurfio ag amod a osodir o dan reoliad 14;

(c)pan fo’r ymarferydd cymwysedig wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd (ac eithrio llofruddiaeth), a gyflawnwyd ar neu ar ôl 30 Gorffennaf 2002 yn achos y rhestr offthalmig, neu ar neu ar ôl 1 Chwefror 2006 yn achos y rhestr atodol, a bo’r ymarferydd cymwysedig wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio);

(d)pan fo’r ymarferydd cymwysedig wedi ei gynnwys yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol a bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried bod unrhyw un neu ragor o’r amodau a nodir isod wedi ei fodloni mewn perthynas â’r ymarferydd cymwysedig—

(i)y byddai parhau i gynnwys yr ymarferydd cymwysedig hwnnw yn ei restr atodol yn niweidio effeithlonrwydd y gwasanaethau y mae’r rheini sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr honno yn cynorthwyo i’w darparu (“achos effeithlonrwydd”);

(ii)bod yr ymarferydd cymwysedig (pa un ai gyda rhywun arall neu ar ei ben ei hun), drwy weithred neu anweithred, wedi achosi, neu wedi peri risg o achosi, niwed i unrhyw gynllun iechyd drwy sicrhau, neu geisio sicrhau, ar ei gyfer ef ei hun neu ar gyfer rhywun arall, unrhyw fudd ariannol neu unrhyw fudd arall ac yn gwybod nad oedd hawlogaeth ganddo ef, na chan y person arall, i’r budd hwnnw (“achos o dwyll”);

(iii)bod yr ymarferydd cymwysedig yn anaddas i’w gynnwys yn y rhan honno o’r rhestr honno (“achos anaddasrwydd”);

(e)yn unol â pharagraffau (4) a (5), pan fo’n penderfynu nad yw ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei gynnwys yn rhestr gyfunol y Bwrdd Iechyd Lleol am y deuddeng mis blaenorol wedi darparu (na chynorthwyo i ddarparu, fel y bo’n gymwys) wasanaethau offthalmig sylfaenol ar gyfer personau yn ei ardal o fewn y cyfnod hwnnw.

(4Wrth gyfrifo’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(e), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddiystyru—

(a)unrhyw gyfnod pan oedd yr ymarferydd cymwysedig wedi ei atal dros dro o restr y Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)unrhyw gyfnod pan oedd yr ymarferydd cymwysedig yn cyflawni gwasanaeth amser cyflawn yn y lluoedd arfog mewn argyfwng cenedlaethol (fel gwirfoddolwr neu fel arall), gwasanaeth amser cyflawn gorfodol yn y lluoedd arfog (gan gynnwys gwasanaeth o ganlyniad i unrhyw atebolrwydd i wasanaethu fel aelod wrth gefn), neu unrhyw wasanaeth cyfatebol, os oedd yn atebol am wasanaeth amser cyflawn gorfodol yn y lluoedd arfog;

(c)unrhyw gyfnod y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu’n rhesymol arno.

(5Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sy’n ystyried dileu ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig neu o’i restr atodol (fel y bo’n briodol) o dan baragraff (3), cyn gwneud y penderfyniad hwnnw, ddilyn y weithdrefn ym mharagraff 12 o Atodlen 3.

(6Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried dileu ymarferydd o dan adran 107 o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr) neu o dan baragraff (3)(d) o’r rheoliad hwn, rhaid iddo ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraffau 14 i 17 o Atodlen 3 sy’n gymwys i’r sail dros ddileu sy’n cael ei hystyried.

(7Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ymarferydd cymwysedig am ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn neu o dan adran 107 o’r Ddeddf o fewn 7 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y mae’n gwneud y penderfyniad hwnnw.

(8Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (7) gynnwys—

(a)penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt);

(c)manylion ynghylch sut i arfer hawl i apelio o dan reoliad 28;

(d)pan fo paragraff (10) yn gymwys, hysbysiad o’r wybodaeth yn y paragraff hwnnw;

(e)wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (3)(d) o’r rheoliad hwn neu o dan adran 107 o’r Ddeddf, yr amod (neu’r amodau) yn rheoliad 17(3)(d) neu yn adran 107 y mae’n dibynnu arno neu arnynt.

(9Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol sy’n penderfynu dileu ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig neu o’i restr atodol (yn ôl y digwydd) o dan baragraff (3) ddileu’r ymarferydd cymwysedig hwnnw tan y diweddaraf o’r canlynol—

(a)diwedd cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud y penderfyniad hwnnw, neu

(b)y dyddiad y mae unrhyw apêl yn cael ei phenderfynu gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

(10Mae paragraff 13 o Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r weithdrefn ar gyfer dileu ymarferwyr o restr offthalmig o dan adran 107 o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr).

(11Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn niweidio hawl ymarferydd cymwysedig i’w enw gael ei gynnwys eto mewn rhestr offthalmig neu mewn rhestr atodol.

(12Yn y rheoliad hwn—

mae i “achos iechyd” yr ystyr a roddir i “health case” yn adran 13G(6) o Ddeddf Optegwyr 1989(21) (darpariaethau sy’n atodol i adran 13F);

ystyr “cynllun iechyd” yw’r gwasanaethau a gwmpesir gan y diffiniad o “health scheme” yn adran 107 o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr) a’r rheini a ragnodir gan reoliad 18.

Cynlluniau iechyd rhagnodedig

18.  Mae’r canlynol wedi eu rhagnodi’n gynlluniau iechyd at ddibenion adran 107(7) o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr)—

(a)gwasanaethau iechyd, gan gynnwys triniaeth feddygol, a ddarperir gan Luoedd Ei Fawrhydi;

(b)gwasanaethau a ddarperir gan Awdurdodau Iechyd Porthladd a gyfansoddir o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(22);

(c)gwasanaethau iechyd a ddarperir i garcharor sydd yng ngofal swyddog meddygol neu unrhyw swyddog arall o’r fath mewn carchar sydd wedi ei benodi at ddibenion Deddf Carchardai 1952(23);

(d)gwasanaethau iechyd a gyllidir yn gyhoeddus ac a ddarperir gan, neu ar ran, unrhyw sefydliad mewn unrhyw le yn y byd.

Dileu ymarferydd yn ddigwyddiadol o restr atodol

19.—(1Mewn achos effeithlonrwydd neu achos o dwyll sy’n ymwneud ag ymarferydd cymwysedig yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, yn lle penderfynu dileu ymarferydd cymwysedig o’r rhestr honno, benderfynu dileu’r ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol a bydd rheoliad 17(7) ac (8) yn gymwys i’r penderfyniad hwnnw.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried dileu ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol o dan baragraff (1), rhaid iddo, cyn gwneud y penderfyniad hwnnw, ddilyn y weithdrefn ym mharagraff 12(1) i (3) o Atodlen 3.

(3Os yw’n penderfynu felly, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol osod unrhyw amodau y caiff benderfynu arnynt o ran cynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn ei restr atodol gyda’r bwriad o—

(a)dileu unrhyw niwed i effeithlonrwydd y gwasanaethau o dan sylw (mewn achos effeithlonrwydd), neu

(b)rhwystro gweithredoedd neu anweithredoedd pellach (mewn achos o dwyll).

(4Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu dileu ymarferydd yn ddigwyddiadol o dan baragraff (1), ni chaiff y penderfyniad hwnnw gymryd effaith tan y diweddaraf o’r canlynol—

(a)diwedd cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y gwnaeth y Bwrdd Iechyd Lleol ei benderfyniad, neu

(b)y dyddiad y mae unrhyw apêl yn cael ei phenderfynu gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

(5Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu bod yr ymarferydd cymwysedig wedi methu â chydymffurfio ag amod, caiff benderfynu—

(a)amrywio’r amodau a osodwyd,

(b)gosod amodau newydd, neu

(c)dileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr atodol.

(6Yn y rheoliad hwn, mae i “achos effeithlonrwydd” ac “achos o dwyll” yr ystyr a roddir yn rheoliad 17.

(7Caiff Bwrdd Iechyd Lleol adolygu ei benderfyniad i ddileu’r ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol o dan y rheoliad hwn, ac os gofynnir yn ysgrifenedig gan yr ymarferydd cymwysedig iddo adolygu penderfyniad o’r fath, rhaid iddo wneud hynny.

(8Ni chaiff ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad o dan baragraff (7) tan ar ôl cyfnod o dri mis gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol.

(9Ar ôl i adolygiad ddigwydd, ni chaiff yr ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad pellach cyn diwedd cyfnod o chwe mis gan ddechrau â dyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad blaenorol.

(10Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn adolygu ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn, caiff—

(a)amrywio’r amodau a osodir ar yr ymarferydd cymwysedig,

(b)gosod amodau gwahanol ar yr ymarferydd cymwysedig, neu

(c)dileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr atodol.

Tynnu’n ôl o restr offthalmig

20.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 21, rhaid i ymarferydd cymwysedig roi hysbysiad i Fwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno tynnu’n ôl o restr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.

(2Rhaid i ymarferydd cymwysedig roi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn bwriadu tynnu’n ôl o restr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol os yw’r ymarferydd cymwysedig hwnnw yn cael ei gynnwys yn rhestr atodol unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol.

(3Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael hysbysiad gan ymarferydd cymwysedig—

(a)yn unol â pharagraff (1), rhaid iddo ddileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig ar y cynharaf o’r canlynol—

(i)y dyddiad sydd dri mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad, neu

(ii)y dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno y bydd y tynnu’n ôl yn cymryd effaith ohono;

(b)yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo ddileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig cyn gynted ag y bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cadarnhau bod yr ymarferydd cymwysedig wedi ei gynnwys mewn rhestr atodol.

(4Caiff ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (1) ar unrhyw adeg cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu ei enw o’i restr offthalmig.

(5Ni chaiff ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (2) unwaith bod yr ymarferydd cymwysedig wedi ei gynnwys mewn rhestr atodol.

Cyfyngiadau ar dynnu’n ôl o restr offthalmig

21.—(1Oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cydsyniad i ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl o restr offthalmig, ni chaiff ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl o restr offthalmig pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ymchwilio i’r ymarferydd cymwysedig—

(a)at ddiben penderfynu pa un ai i arfer ei bwerau o dan adran 107 (anghymhwyso ymarferwyr), 108 (dileu yn ddigwyddiadol) neu 110 (atal dros dro) o’r Ddeddf ai peidio,

(b)am fethu â chydymffurfio ag amod a osodwyd ar yr ymarferydd o dan reoliad 14 er mwyn cyfiawnhau dileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig, neu

(c)sydd wedi ei atal dros dro o dan adran 110(1)(a) o’r Ddeddf,

hyd nes bod y mater wedi ei benderfynu’n derfynol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cydsyniad i’r ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl o restr offthalmig, ni chaiff ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl o restr offthalmig pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu—

(a)dileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig o dan adran 107 neu 108 o’r Ddeddf,

(b)dileu’r ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol o dan adran 108 o’r Ddeddf, neu

(c)dileu’r ymarferydd cymwysedig am dorri amod a osodwyd ar gynnwys yr ymarferydd o dan y Rheoliadau hyn,

ond nad yw wedi rhoi effaith i’r penderfyniad hwnnw eto.

(3Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi atal dros dro ymarferydd cymwysedig o dan adran 110(1)(b), ni chaiff yr ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl o restr offthalmig hyd nes bod penderfyniad y llys neu’r corff perthnasol yn hysbys a bod y mater wedi ei ystyried ac wedi ei benderfynu’n derfynol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(4Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol gytuno i ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl o’i restr offthalmig oni bai ei fod wedi ei fodloni bod trefniadau boddhaol wedi eu gwneud ar gyfer cwblhau unrhyw wasanaethau offthalmig sylfaenol y mae’r ymarferydd cymwysedig wedi ymgymryd â’u darparu.

Tynnu’n ôl o restr atodol

22.—(1Rhaid i ymarferydd cymwysedig, cyhyd ag y bo’n ymarferol, roi i’r Bwrdd Iechyd Lleol o leiaf dri mis o rybudd cyn y diwrnod y mae’r ymarferydd cymwysedig yn bwriadu tynnu’n ôl o’i restr atodol.

(2Rhaid i ymarferydd cymwysedig roi hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn bwriadu tynnu’n ôl o restr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol os yw’r ymarferydd cymwysedig hwnnw yn cael ei gynnwys—

(a)yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw,

(b)yn rhestr offthalmig unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall, neu

(c)yn rhestr atodol unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall.

(3Pan fydd Bwrdd Iechyd Lleol yn cael hysbysiad gan ymarferydd cymwysedig—

(a)yn unol â pharagraff (1), rhaid iddo ddileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr atodol ar y cynharaf o’r canlynol—

(i)y dyddiad sydd dri mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad, neu

(ii)y dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno y bydd y tynnu’n ôl yn cymryd effaith ohono;

(b)yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo ddileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr atodol cyn gynted ag y bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cadarnhau bod yr ymarferydd cymwysedig wedi cael ei gynnwys mewn rhestr arall y cyfeirir ati ym mharagraff (2).

(4Caiff ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (1) ar unrhyw adeg cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu ei enw o’i restr atodol.

(5Ni chaiff ymarferydd cymwysedig dynnu’n ôl hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (2) unwaith bod yr ymarferydd cymwysedig wedi ei gynnwys yn y rhestr arall honno.

Atal dros dro o restr atodol

23.—(1Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn diogelu aelodau o’r cyhoedd neu ei bod fel arall er budd y cyhoedd, caiff atal dros dro ymarferydd cymwysedig o’i restr atodol—

(a)tra bo’r Bwrdd yn penderfynu pa un ai i ddileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr atodol o dan reoliad 17 ai peidio neu ddileu’r ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol o’i restr atodol o dan reoliad 19;

(b)tra bo’r Bwrdd yn aros am benderfyniad gan gorff trwyddedu neu reoleiddio neu gan lys mewn unrhyw le yn y byd sy’n effeithio ar yr ymarferydd cymwysedig;

(c)pan fo wedi penderfynu dileu’r ymarferydd, ond cyn i’r penderfyniad hwnnw gymryd effaith;

(d)wrth aros am apêl o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(a), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol bennu cyfnod, nad yw’n hwy na chwe mis, yn gyfnod yr ataliad dros dro.

(3Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(b), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol bennu bod yr ymarferydd cymwysedig yn parhau i fod wedi ei atal dros dro, ar ôl i’r penderfyniad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw gael ei wneud, am gyfnod ychwanegol nad yw’n hwy na chwe mis.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol estyn cyfnod yr ataliad dros dro o dan baragraff (2) neu osod cyfnod pellach o ataliad dros dro o dan baragraff (3), ar yr amod nad yw’r cyfnod cyfanredol yn hwy na chwe mis.

(5Caniateir i’r cyfnod atal dros dro o dan baragraff (2) neu (3) gael ei estyn y tu hwnt i chwe mis—

(a)os yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, yn dilyn cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol, yn gorchymyn gwneud hynny, neu

(b)os gwnaed cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (a) cyn i’r cyfnod atal dros dro ddod i ben, ond nad yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi gwneud gorchymyn erbyn iddo ddod i ben, ac yn yr achos hwnnw mae’r cyfnod yn parhau hyd nes i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wneud gorchymyn.

(6Os yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn felly, rhaid iddo bennu—

(a)y dyddiad y mae’r cyfnod atal dros dro i ddod i ben,

(b)digwyddiad nad yw i barhau y tu hwnt iddo, neu

(c)y naill a’r llall o’r uchod, ac yn yr achos hwnnw bydd yr ataliad dros dro yn dod i ben ar y cynharaf o’r dyddiad neu’r digwyddiad a bennir, yn ôl y digwydd.

(7Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf, yn dilyn cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol, wneud gorchymyn pellach, y mae rhaid iddo hefyd gydymffurfio â pharagraff (6), ar unrhyw adeg tra bo’r cyfnod atal dros dro, yn unol â’r gorchymyn cynharach, yn parhau o hyd.

(8Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn atal dros dro ymarferydd cymwysedig mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(c) neu (d), mae’r ataliad dros dro yn cael effaith o’r dyddiad y rhoddwyd gwybod i’r ymarferydd cymwysedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol am yr ataliad dros dro a bydd yn parhau hyd nes—

(a)mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(c), i’r penderfyniad gymryd effaith, neu

(b)mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(d), fod y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi penderfynu’r apêl.

(9Tra bo ymarferydd cymwysedig wedi ei atal dros dro o dan y Rheoliadau hyn, rhaid trin yr ymarferydd cymwysedig hwnnw fel pe na bai wedi ei gynnwys yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, er bod ei enw yn ymddangos ynddi.

(10Caiff Bwrdd Iechyd Lleol adolygu ei benderfyniad i atal dros dro yr ymarferydd cymwysedig o dan baragraff (1)(a) neu (b) o’r rheoliad hwn, ac os gofynnir yn ysgrifenedig gan yr ymarferydd cymwysedig iddo adolygu penderfyniad o’r fath, rhaid iddo wneud hynny.

(11Ni chaiff ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad o dan baragraff (10) tan ar ôl cyfnod o dri mis gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol.

(12Ar ôl i adolygiad ddigwydd, ni chaiff yr ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad pellach cyn diwedd cyfnod o chwe mis gan ddechrau â dyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad blaenorol.

(13Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu adolygu ei benderfyniad i atal dros dro ymarferydd o dan baragraff (1)(c) neu (d) o’r rheoliad hwn, caiff benderfynu gosod amodau neu ddileu’r ymarferydd o’i restr atodol.

Y weithdrefn wrth atal dros dro o restr gyfunol

24.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried atal dros dro ymarferydd cymwysedig o dan reoliad 23 o’r Rheoliadau hyn, neu adran 110 (atal dros dro) neu 111(24) (atal dros dro wrth aros am apêl) o’r Ddeddf, neu amrywio cyfnod yr ataliad dros dro o dan reoliad 23 o’r Rheoliadau hyn, neu o dan adran 110 o’r Ddeddf, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi i’r ymarferydd cymwysedig—

(a)hysbysiad am unrhyw honiad yn erbyn yr ymarferydd cymwysedig;

(b)hysbysiad am y camau gweithredu y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn eu hystyried ac ar ba sail;

(c)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (b) (“y cyfnod penodedig”);

(d)y cyfle i gyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod penodedig os yw’r ymarferydd cymwysedig yn gofyn am wrandawiad o’r fath.

(2Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol atal dros dro yr ymarferydd cymwysedig gydag effaith ar unwaith—

(a)os nad yw’n cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod penodedig ac nad yw’n gofyn am wrandawiad llafar, neu

(b)os nad yw’n bresennol mewn unrhyw wrandawiad llafar a drefnir.

(3Os yw’r ymarferydd cymwysedig yn gofyn am wrandawiad llafar, rhaid i’r gwrandawiad ddigwydd o fewn y cyfnod penodedig a chyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddod i’w benderfyniad.

(4Os yw’r ymarferydd cymwysedig yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu os yw gwrandawiad llafar yn digwydd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir cyn dod i’w benderfyniad.

(5Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol atal dros dro yr ymarferydd cymwysedig gydag effaith ar unwaith yn dilyn unrhyw wrandawiad.

(6Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ymarferydd cymwysedig am ei benderfyniad a’r rhesymau drosto (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt) o fewn 7 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir ei benderfyniad.

(7Pan fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu’r ymarferydd cymwysedig o dan baragraff (6), rhaid iddo hefyd roi gwybod i’r ymarferydd cymwysedig am unrhyw hawl i gael adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan y Ddeddf (yn achos atal dros dro o’r rhestr offthalmig) neu o dan reoliad 23 o’r Rheoliadau hyn (yn achos atal dros dro o’r rhestr atodol).

Aildderbyn

25.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan—

(a)bo ymarferydd cymwysedig wedi ei ddileu o restr gyfunol gan Fwrdd Iechyd Lleol ar y sail bod yr ymarferydd cymwysedig wedi ei euogfarnu o drosedd, a

(b)bo’r euogfarn honno wedi cael ei gwrthdroi yn dilyn apêl.

(2Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol gytuno i gynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol heb i’r ymarferydd cymwysedig hwnnw wneud cais o dan reoliad 12 os yw’r Bwrdd—

(a)wedi ei fodloni nad oes unrhyw faterion eraill y mae angen eu hystyried, a

(b)wedi cael ymgymeriad i gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn gan yr ymarferydd cymwysedig.

(3Pan fo’r euogfarn a grybwyllir ym mharagraff (1) yn cael ei hadfer yn dilyn apêl bellach—

(a)bydd penderfyniad blaenorol y Bwrdd Iechyd Lleol i ddileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr gyfunol yn cael effaith unwaith eto, a

(b)rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr gyfunol.

Hysbysiadau i Fyrddau Iechyd Lleol

26.—(1Rhaid i ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei gynnwys yn rhestr gyfunol Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o fewn 14 o ddiwrnodau am unrhyw ddigwyddiad sy’n ei gwneud yn ofynnol newid yr wybodaeth y mae’n ofynnol i’r rhestr honno ei chynnwys mewn perthynas ag ef.

(2Rhaid i ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei gynnwys yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o fewn 14 o ddiwrnodau am unrhyw newid i’w gyfeiriad preifat.

(3Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael hysbysiad gan ymarferydd cymwysedig yn unol â pharagraff (1) neu (2), rhaid iddo ddiwygio ei restr gyfunol cyn gynted ag y bo modd.

Hysbysiadau gan Fyrddau Iechyd Lleol

27.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r personau neu’r cyrff a bennir ym mharagraff (2) ac yn ychwanegol, hysbysu’r rheini a gynhwysir ym mharagraff (3), os gofynnir iddo wneud hynny gan y personau hynny neu’r cyrff hynny yn ysgrifenedig, am y materion a nodir ym mharagraff (4), pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw yn penderfynu—

(a)gwrthod cynnwys ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol o dan reoliad 15;

(b)gosod amodau ar gynnwys yr ymarferydd cymwysedig mewn rhestr gyfunol o dan reoliad 14;

(c)dileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig o dan adran 107 o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr) neu o’i restr offthalmig neu atodol o dan reoliad 17;

(d)dileu’r ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol o’i restr offthalmig o dan adran 108 o’r Ddeddf neu o’i restr atodol o dan reoliad 19;

(e)atal dros dro yr ymarferydd cymwysedig o’i restr offthalmig o dan adran 110 neu 111 o’r Ddeddf neu o’i restr atodol o dan reoliad 23.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, o fewn 7 niwrnod gan ddechrau â dyddiad y penderfyniad hwnnw, hysbysu—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol sydd, hyd eithaf gwybodaeth y Bwrdd Iechyd Lleol—

(i)wedi cynnwys yr ymarferydd cymwysedig mewn rhestr gofal sylfaenol neu restr gyfatebol;

(ii)yn ystyried cais gan yr ymarferydd cymwysedig i’w gynnwys mewn rhestr gofal sylfaenol neu restr gyfatebol;

(iii)ag unrhyw fan yn ei ardal lle y mae’r ymarferydd cymwysedig yn darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol neu’n cynorthwyo i ddarparu’r gwasanaethau hynny;

(c)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(d)Gweinidogion yr Alban;

(e)Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;

(f)y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Optegol Cyffredinol neu unrhyw gorff rheoleiddio priodol arall;

(g)NHS Resolution;

(h)unrhyw sefydliad arall sydd, hyd eithaf gwybodaeth y Bwrdd Iechyd Lleol, yn cyflogi’r ymarferydd cymwysedig neu’n defnyddio unrhyw un neu ragor o’i wasanaethau mewn swyddogaeth broffesiynol;

(i)pan fo’n achos o dwyll o fewn ystyr adran 107(3) o’r Ddeddf, Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG.

(3Y personau neu’r cyrff sydd i’w hysbysu yn ychwanegol, yn unol â pharagraff (1), yw—

(a)personau neu gyrff a all gadarnhau—

(i)eu bod, neu y buont, yn cyflogi’r ymarferydd cymwysedig, eu bod yn defnyddio neu wedi defnyddio unrhyw un neu ragor o wasanaethau’r ymarferydd cymwysedig mewn swyddogaeth broffesiynol, neu

(ii)eu bod yn ystyried cyflogi’r ymarferydd cymwysedig neu ddefnyddio unrhyw un neu ragor o wasanaethau’r ymarferydd cymwysedig mewn swyddogaeth broffesiynol;

(b)partneriaeth y mae unrhyw un neu ragor o’i haelodau yn darparu neu’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol, ac sy’n gallu cadarnhau bod yr ymarferydd cymwysedig, neu y bu’r ymarferydd cymwysedig, yn aelod o’r bartneriaeth, neu fod y bartneriaeth yn ystyried gwahodd yr ymarferydd cymwysedig i fod yn aelod o’r fath.

(4Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)enw, cyfeiriad a, phan fo’n gymwys, ddyddiad geni’r ymarferydd cymwysedig ac, yn achos optegydd corfforedig, enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni ei gyfarwyddwyr, ac yn achos cyfarwyddwr sy’n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff sydd am y tro yn cael ei grybwyll yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(25) (yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol), y ffaith honno a rhif cofrestru’r unigolyn gyda’r corff hwnnw,

(b)rhif cofrestru proffesiynol yr ymarferydd cymwysedig,

(c)dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol a chopi o’r penderfyniad, a

(d)enw person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ymholiadau pellach.

(5Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon at yr ymarferydd cymwysedig o dan sylw gopi o unrhyw wybodaeth am yr ymarferydd hwnnw y mae wedi ei darparu i’r personau neu’r cyrff a restrir ym mharagraff (2) neu (3), ac unrhyw ohebiaeth gyda’r person hwnnw neu’r corff hwnnw sy’n ymwneud â’r wybodaeth honno.

(6Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu unrhyw un neu ragor o’r personau neu’r cyrff a bennir ym mharagraff (2) neu (3) am y materion a nodir ym mharagraff (4), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, yn ychwanegol, os gofynnir iddo wneud hynny gan y person hwnnw neu’r corff hwnnw, hysbysu’r person hwnnw neu’r corff hwnnw am unrhyw dystiolaeth a ystyriwyd, gan gynnwys unrhyw sylwadau gan yr ymarferydd.

(7Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei hysbysu gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf fod y Tribiwnlys wedi gosod anghymhwysiad cenedlaethol ar ymarferydd cymwysedig yr oedd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei ddileu o’i restr gyfunol, neu a oedd yn gwneud cais, neu a oedd wedi gwneud cais, i gael ei gynnwys yn y rhestr honno, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r personau neu’r cyrff a restrir ym mharagraff (2)(b), (g), (h) ac (i) a pharagraff (3).

(8Pan fo penderfyniad yn cael ei newid o ganlyniad i adolygiad neu apêl, neu pan fo ataliad dros dro yn darfod, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r personau neu’r cyrff a hysbyswyd am y penderfyniad gwreiddiol, ynghylch y penderfyniad diweddarach neu ynghylch y ffaith bod yr ataliad dros dro wedi darfod.

PENNOD 5Adolygiadau ac apelau

Apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

28.—(1Caiff ymarferydd cymwysedig apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)i wrthod cynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol o dan reoliad 13, ac eithrio mewn achos y mae unrhyw un neu ragor o’r seiliau ym mharagraff 8 o Atodlen 3 yn gymwys iddo;

(b)a nodir yn rheoliad 14(7) (cynnwys ymarferydd yn amodol);

(c)i ddileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr gyfunol o dan reoliad 17;

(d)i ddileu’r ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol o’i restr atodol o dan reoliad 19;

(e)ar unrhyw adolygiad o benderfyniad cynharach o’r fath gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan y Rheoliadau hyn.

(2Nid yw’r cyfeiriad ym mharagraff (1)(c) at benderfyniad i ddileu ymarferydd cymwysedig o dan reoliad 17 yn cynnwys dileu ymarferydd cymwysedig yn unol â rheoliad 17(1)(c).

(3Mae unrhyw apêl o dan y rheoliad hwn i fod ar ffurf ailbenderfynu.

(4Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf wneud unrhyw benderfyniad y gallai’r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei wneud.

(5Pan fo’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn penderfynu yn dilyn apêl fod cynnwys yr ymarferydd yn y rhestr gyfunol yn gorfod bod yn ddarostyngedig i amodau, pa un a yw’r amodau hynny yn union yr un fath â’r amodau a osodir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ai peidio, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ofyn i’r ymarferydd cymwysedig ei hysbysu o fewn 28 o ddiwrnodau i’r penderfyniad (neu unrhyw gyfnod hwy y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno arno) a yw’r ymarferydd cymwysedig yn dymuno cael ei gynnwys yn y rhestr gyfunol yn ddarostyngedig i’r amodau hynny.

(6Os yw’r ymarferydd cymwysedig yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol bod yr ymarferydd cymwysedig yn dymuno cael ei gynnwys yn y rhestr gyfunol yn ddarostyngedig i’r amodau, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gynnwys yr ymarferydd felly.

(7Pan fo’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, yn dilyn apêl, yn penderfynu dileu ymarferydd yn ddigwyddiadol o dan y Rheoliadau hyn—

(a)caiff y naill neu’r llall o’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r ymarferydd cymwysedig wneud cais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf i amrywio’r amodau sydd wedi eu gosod ar yr ymarferydd cymwysedig, i osod amodau gwahanol, neu i ddirymu’r dileu digwyddiadol;

(b)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr gyfunol os yw’n penderfynu bod yr ymarferydd wedi methu â chydymffurfio ag amod.

(8Rhaid arfer unrhyw hawl i apelio o dan y rheoliad hwn o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad am y penderfyniad perthnasol i’r ymarferydd cymwysedig.

Y weithdrefn wrth adolygu penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol

29.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn adolygu ei benderfyniad o dan reoliad 14, 19 neu 23, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi i’r ymarferydd cymwysedig—

(a)hysbysiad ei fod yn bwriadu adolygu ei benderfyniad;

(b)hysbysiad am unrhyw honiad yn erbyn yr ymarferydd cymwysedig;

(c)hysbysiad am y camau gweithredu y mae’n ystyried eu cymryd ac ar ba sail;

(d)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (b) (“y cyfnod penodedig”);

(e)y cyfle i gyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod penodedig os yw’r ymarferydd yn gofyn am wrandawiad o’r fath.

(2Os yw’r ymarferydd cymwysedig yn gofyn am wrandawiad llafar, rhaid i’r gwrandawiad ddigwydd o fewn y cyfnod penodedig a chyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddod i’w benderfyniad.

(3Os yw’r ymarferydd cymwysedig yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu os yw gwrandawiad llafar yn digwydd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir cyn dod i’w benderfyniad.

(4Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ymarferydd cymwysedig am ei benderfyniad a’r rhesymau drosto (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt) o fewn 7 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir ei benderfyniad.

(5Pan fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu’r ymarferydd cymwysedig o dan baragraff (4), rhaid iddo hefyd, pan fo’n gymwys, roi gwybod i’r ymarferydd cymwysedig—

(a)am unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 28;

(b)bod gan yr ymarferydd cymwysedig 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad am y penderfyniad, i arfer yr hawl honno;

(c)sut i arfer yr hawl honno i apelio.

Cyfnodau adolygu ar gyfer anghymhwysiad cenedlaethol

30.—(1Os bydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf, wrth wneud penderfyniad i osod anghymhwysiad cenedlaethol, yn datgan ei fod o’r farn bod ymddygiad troseddol neu broffesiynol yr optometrydd neu’r ymarferydd meddygol offthalmig o’r fath fel nad oes rhagolwg realistig i adolygiad pellach fod yn llwyddiannus os cynhelir un o fewn y cyfnod a bennir yn adran 115(8)(a) o’r Ddeddf, rhaid darllen y cyfeiriad at “two years” yn y ddarpariaeth honno fel cyfeiriad at 5 mlynedd.

(2Os oedd yr optometrydd neu’r ymarferydd meddygol offthalmig, yn dilyn yr adolygiad diwethaf gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf o anghymhwysiad cenedlaethol, yn aflwyddiannus, a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn datgan ei fod o’r farn nad oes rhagolwg realistig i adolygiad pellach fod yn llwyddiannus os cynhelir un o fewn cyfnod o 3 blynedd gan ddechrau â dyddiad ei benderfyniad ar yr adolygiad hwnnw, rhaid darllen y cyfeiriad at “one year” yn adran 115(8)(b) o’r Ddeddf fel cyfeiriad at 3 blynedd.

(3Os bydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn datgan ei fod o’r farn, oherwydd bod euogfarn droseddol a ystyriwyd gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf wrth ddod i’w benderfyniad wedi ei diddymu neu fod y gosb wedi ei lleihau yn dilyn apêl, fod angen cynnal adolygiad ar unwaith, rhaid darllen y cyfeiriadau at “two years” a “one year” yn adran 115(8) o’r Ddeddf fel cyfeiriadau at y cyfnod sydd eisoes wedi dod i ben.

(4Os yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o’r farn, oherwydd bod penderfyniad corff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall wedi ei ddiddymu neu fod y gosb wedi ei lleihau yn dilyn apêl, fod angen cynnal adolygiad ar unwaith, rhaid darllen y cyfeiriadau at “two years” a “one year” yn adran 115(8) o’r Ddeddf fel cyfeiriadau at y cyfnod sydd eisoes wedi dod i ben.

RHAN 5Trefniadau ag ymarferwyr cymwysedig a thaliadau

Y Datganiad

31.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at “y Datganiad” yn gyfeiriadau at benderfyniad gan Weinidogion Cymru, o dan adran 76 o’r Ddeddf, ynghylch y tâl sydd i’w dalu i’r rheini sy’n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Datganiad.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff y Datganiad ddarparu ei fod yn cael effaith mewn perthynas â thâl mewn cysylltiad â chyfnod sy’n dechrau ar neu ar ôl dyddiad a bennir yn y Datganiad, a all fod yn ddyddiad y Datganiad neu’n ddyddiad cynharach neu hwyrach.

(4Ni chaiff y Datganiad ond darparu ar gyfer talu taliadau mewn cysylltiad â chyfnod sy’n dechrau â dyddiad cynharach na dyddiad y Datganiad os nad yw gwneud hynny yn niweidiol i’r personau y mae’n ymwneud â’u tâl.

(5Pan na fo’r Datganiad yn pennu dyddiad, mae’n cael effaith mewn perthynas â thâl mewn cysylltiad â chyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y Datganiad.

Trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol

32.  Rhaid i drefniadau Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ymgorffori—

(a)y telerau gwasanaeth,

(b)y Datganiad (y mae’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau yn unol ag ef i gontractwyr am ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol), ac

(c)unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o’r Ddeddf (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol) sy’n ymwneud â thâl am ddarparu gwasanaethau archwilio llygaid neu am gydymffurfio â darpariaethau eraill yn y telerau gwasanaeth (y mae’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau yn unol â hwy i gontractwyr) (gyda’i gilydd, y “cyfarwyddydau ffioedd”).

Taliadau am wasanaethau rhannol

33.—(1Rhaid i gontractwr nad yw’n gallu cwblhau’r gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu’r gwasanaethau archwilio llygaid y mae wedi ymgymryd â’u darparu ar gyfer claf roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig yn unol â hynny.

(2Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod achos rhesymol dros yr analluogrwydd i gwblhau’r gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu’r gwasanaethau archwilio llygaid, rhaid iddo wneud taliad yn unol â’r Datganiad neu’r cyfarwyddydau ffioedd perthnasol (fel y bo’n briodol) i’r contractwr am unrhyw ran o’r gwasanaethau hynny y mae’r contractwr wedi ei darparu.

Taliadau i ymarferwyr cymwysedig sydd wedi eu hatal dros dro

34.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau i ymarferwyr cymwysedig, neu mewn cysylltiad ag ymarferwyr cymwysedig, sydd wedi eu hatal dros dro o’i restr gyfunol o dan y Ddeddf neu o dan reoliad 23 yn unol â phenderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â thaliadau o’r fath.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gwneud y penderfyniad yn unol â pharagraff (3) ar ôl ymgynghori â chorff yr ymddengys iddynt ei fod yn gynrychioliadol o bersonau y byddai’r penderfyniad yn ymwneud â’u tâl, ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol, a

(b)cyhoeddi’r penderfyniad hwnnw gyda’r Datganiad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), rhaid i benderfyniad Gweinidogion Cymru fod yn un sy’n sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, fod yr ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei atal dros dro yn cael taliadau ar gyfradd sy’n cyfateb i’r tâl ar gyfer yr ymarferydd cymwysedig hwnnw am wasanaethau offthalmig sylfaenol yn ystod y 12 mis sy’n dod i ben ag ataliad dros dro yr ymarferydd cymwysedig.

(4Caiff penderfyniad Gweinidogion Cymru gynnwys darpariaeth na chaiff taliadau yn unol â’r penderfyniad fod yn fwy na swm penodedig mewn unrhyw gyfnod penodedig.

(5Rhaid i’r penderfyniad ddarparu ar gyfer didyniad er mwyn ystyried unrhyw daliadau y mae’r ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei atal dros dro yn eu cael am ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ac eithrio fel prif ymarferydd.

(6Caniateir i benderfyniadau gael eu hamrywio neu eu dirymu gan benderfyniadau dilynol.

(7Mae rheoliad 35(2) i (5) yn gymwys i daliadau a wneir o dan y rheoliad hwn fel y mae’n gymwys i daliadau a wneir o dan y rheoliad hwnnw.

Gordaliadau

35.—(1Pan—

(a)bo Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud taliad i glaf o dan reoliad 7(6) mewn cysylltiad â phrawf golwg, a

(b)bo’r swm a dalwyd yn fwy na’r ffi sy’n daladwy i’r contractwr am wasanaethau offthalmig cyffredinol a nodir yn y Datganiad,

rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddidynnu’r swm dros ben o’r tâl sydd fel arall yn daladwy i’r contractwr.

(2Mae paragraffau (3) i (5) yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried ei fod wedi gwneud gordaliad am wasanaethau offthalmig sylfaenol i gontractwr (pa un ai drwy gamgymeriad neu fel arall).

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac eithrio i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall yn dilyn cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol, roi gwybod i’r contractwr am y ffaith honno.

(4Os yw’r contractwr yn cydnabod y gordaliad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol adennill y swm a ordalwyd drwy ei ddidynnu o dâl y contractwr neu rywfodd arall.

(5Os nad yw’r contractwr yn cydnabod y gordaliad—

(a)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol atgyfeirio’r mater o dan reoliad 5(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(26) ar gyfer ymchwiliad, a

(b)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, yn penderfynu bod gordaliad wedi ei wneud, bydd y swm a ordalwyd yn adenilladwy drwy ei ddidynnu o dâl y contractwr neu rywfodd arall.

(6Nid yw adennill gordaliad o dan y rheoliad hwn yn rhagfarnu’r ymchwiliad i doriad honedig o’r telerau gwasanaeth.

RHAN 6Amrywiol

Datgelu gwybodaeth

36.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ddatgelu gwybodaeth sydd wedi ei rhoi iddo neu sydd wedi dod i’w law yn unol â’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, sydd hyd eithaf gwybodaeth y Bwrdd Iechyd Lleol—

(i)ag ymarferydd cymwysedig, neu gorff corfforedig y mae’r ymarferydd cymwysedig yn gyfarwyddwr iddo, y mae’r wybodaeth honno yn ymwneud ag ef yn unrhyw un neu ragor o’i restrau gofal sylfaenol neu restrau cyfatebol,

(ii)yn ystyried cais gan ymarferydd cymwysedig o’r fath, neu gan gorff corfforedig y gwyddys bod yr ymarferydd cymwysedig yn gyfarwyddwr iddo, i gael ei gynnwys yn unrhyw un neu ragor o’i restrau gofal sylfaenol neu restrau cyfatebol, neu

(iii)ag unrhyw fan yn ei ardal lle y mae’r ymarferydd cymwysedig yn darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol neu’n cynorthwyo i ddarparu’r gwasanaethau hynny;

(c)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(d)Gweinidogion yr Alban;

(e)Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;

(f)y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Optegol Cyffredinol neu unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio arall;

(g)NHS Resolution;

(h)unrhyw sefydliad neu unrhyw gyflogwr sydd, hyd eithaf gwybodaeth y Bwrdd Iechyd Lleol, yn cyflogi’r ymarferydd cymwysedig y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef, neu’n defnyddio unrhyw un neu ragor o’i wasanaethau, mewn swyddogaeth broffesiynol;

(i)unrhyw bartneriaeth y mae unrhyw un neu ragor o’i haelodau yn darparu neu’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ac y mae’r ymarferydd cymwysedig, hyd eithaf gwybodaeth y Bwrdd Iechyd Lleol, yn aelod ohoni, neu unrhyw bartneriaeth sy’n ystyried gwahodd yr ymarferydd cymwysedig i fod yn aelod ohoni;

(j)pan fo honiad o dwyll yn cael ei ystyried, Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG.

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddatgelu i Weinidogion Cymru wybodaeth sydd wedi ei rhoi iddo neu sydd wedi dod i’w law yn unol â’r Rheoliadau hyn, fel y caiff Gweinidogion Cymru ofyn amdani.

Cyhoeddi gwybodaeth

37.—(1Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi copïau o’r canlynol ar gael i edrych arnynt yn ei swyddfeydd, ac mewn unrhyw leoedd eraill yn ei ardal yr ymddengys i’r Bwrdd Iechyd Lleol eu bod yn gyfleus er mwyn rhoi gwybod i unrhyw berson a chanddo fuddiant—

(a)y Rheoliadau hyn, a

(b)y Datganiad.

(2Nid yw’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi ar gael gopïau o’r ddwy ddogfen y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ym mhob lle y mae’n rhoi ar gael gopïau o’r naill ddogfen neu’r llall.

Cyflwyno dogfennau i gontractwyr

38.—(1Caniateir i unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol ei rhoi neu sydd wedi ei hawdurdodi i’w rhoi i gontractwr o dan y Rheoliadau hyn gael ei rhoi drwy—

(a)danfon y ddogfen ato, neu

(b)anfon y ddogfen wedi ei chyfeirio ato—

(i)yn unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd y Bwrdd Iechyd Lleol amdano gan y contractwr ar gyfer ei gynnwys yn y rhestr offthalmig fel lle y mae’r person wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau offthalmig ynddo, neu

(ii)yn achos practis symudol, yn y cyfeiriad yr hysbyswyd y Bwrdd Iechyd Lleol amdano fel y cyfeiriad y caniateir anfon gohebiaeth iddo.

(2Ym mharagraff (1), mae i “practis symudol” yr ystyr a roddir yn Atodlen 3.

RHAN 7Darpariaethau canlyniadol, darpariaethau dirymu, darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed

Diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol

39.  Mae’r darpariaethau a restrir yn Atodlen 5 wedi eu diwygio o ran Cymru fel y nodir yn yr Atodlen honno.

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth

40.  Mae’r darpariaethau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu diwygio o ran Cymru fel y nodir yn yr Atodlen honno.

Darpariaethau dirymu

41.  Yn ddarostyngedig i’r arbedion yn rheoliad 42, mae’r rheoliadau a restrir yn Atodlen 7 wedi eu dirymu o ran Cymru fel y nodir yn yr Atodlen honno.

Darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol

42.—(1Pan—

(a)bo gwasanaethau offthalmig cyffredinol wedi eu darparu o dan drefniadau a wnaed yn unol â Rheoliadau 1986, ond

(b)na fo taliadau am y gwasanaethau hynny wedi eu gwneud ar yr adeg y daw’r Rheoliadau hyn i rym,

rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau am y gwasanaethau hynny yn unol â Rheoliadau 1986, sydd wedi eu harbed at y diben hwnnw.

(2Bernir bod rhestr offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol yn cynnwys, ar gyfer y cyfnod trosiannol perthnasol, unrhyw berson yr oedd ei enw wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw a gedwir o dan reoliad 6 o Reoliadau 1986 (rhestr offthalmig) yn union cyn y dyddiad cychwyn (“y rhestr offthalmig flaenorol”), ynghyd â’r holl wybodaeth ynghylch y person hwnnw sydd wedi ei chynnwys yn y rhestr offthalmig flaenorol.

(3Bernir bod rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol yn cynnwys, ar gyfer y cyfnod trosiannol perthnasol, unrhyw berson yr oedd ei enw wedi ei gynnwys yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw a gedwir o dan reoliad 3 o Reoliadau 2006 (rhestr atodol) yn union cyn y dyddiad cychwyn (“y rhestr atodol flaenorol”), ynghyd â’r holl wybodaeth ynghylch y person hwnnw sydd wedi ei chynnwys yn y rhestr atodol flaenorol.

(4Caiff person y bernir ei fod wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig neu yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2) neu (3), yn y drefn honno, ar unrhyw adeg yn y cyfnod trosiannol perthnasol—

(a)darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu gynorthwyo i ddarparu’r gwasanaethau hynny (yn ôl y digwydd);

(b)darparu gwasanaethau archwilio llygaid neu gynorthwyo i ddarparu’r gwasanaethau hynny (yn ôl y digwydd) os yw wedi ei achredu i wneud hynny.

(5Mae paragraff (7) yn gymwys os yw person y bernir ei fod wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol, cyn diwedd y cyfnod cydymffurfio, yn darparu’r canlynol i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw—

(a)tystiolaeth ei fod wedi ei gymhwyso i ddarparu’r gwasanaethau archwilio llygaid, ac eithrio yn achos optegydd corfforedig;

(b)ymgymeriad i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)ymgymeriad i gydymffurfio â’r telerau gwasanaeth a nodir yn Atodlen 4.

(6Mae paragraff (7) yn gymwys os yw person y bernir ei fod wedi ei gynnwys yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol, cyn diwedd y cyfnod cydymffurfio, yn darparu’r canlynol i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw—

(a)tystiolaeth ei fod wedi ei gymhwyso i ddarparu’r gwasanaethau archwilio llygaid;

(b)ymgymeriad i beidio â chynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol y mae’r ymarferydd cymwysedig wedi ei ddileu o’i restr gyfunol, ac eithrio pan fo wedi ei ddileu ar gais yr ymarferydd cymwysedig neu yn unol â rheoliad 17(3)(e), heb gydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw neu’r corff cyfatebol hwnnw.

(7Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r person yn cael ei drin at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai wedi gwneud cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol i gael ei gynnwys yn rhestr offthalmig neu yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol (fel y bo’n briodol) ac wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o dan reoliad 13;

(b)rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r person ei fod wedi ei gynnwys yn y rhestr berthnasol.

(8Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod cydymffurfio”, mewn perthynas â pherson, yw—

(a)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad cychwyn, neu

(b)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol y bernir bod y person wedi ei gynnwys yn ei restr yn ystyried nad yw’n rhesymol ymarferol i’r person gydymffurfio â pharagraff (5) neu (6) (fel y bo’n briodol) cyn diwedd y cyfnod hwnnw, unrhyw gyfnod hwy a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(9Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod trosiannol perthnasol”, mewn perthynas â pherson, yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad cychwyn, a

(b)sy’n dod i ben â’r cynharaf o’r canlynol—

(i)yr adeg y daw’r cyfnod cydymffurfio mewn perthynas â’r person hwnnw i ben, a

(ii)y dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu’r person ei fod wedi ei gynnwys yn y rhestr berthnasol.

(10O ran y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad cychwyn ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2024, mae person sydd wedi ei gofrestru fel person sy’n ymgymryd â hyfforddiant i fod yn optometrydd yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 8A o Ddeddf Optegwyr 1989 (cofrestr myfyrwyr) i’w drin, at ddibenion rheoliad 8(3) a pharagraff 18 o Atodlen 4, fel pe bai’r person yn fyfyriwr optometreg sydd wedi ei gynnwys yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol.

(11Mae paragraff (12) yn gymwys o ran Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)pan fo’r Bwrdd wedi cael cais i gynnwys ymarferydd yn ei restr offthalmig flaenorol neu ei restr atodol flaenorol, ond

(b)pan na fo’r Bwrdd wedi penderfynu’r cais hwnnw cyn y dyddiad cychwyn.

(12Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gofyn am y dystiolaeth berthnasol a’r ymgymeriadau perthnasol a nodir ym mharagraff (5) neu (6) (fel y bo’n briodol), a

(b)ar ôl cael y dystiolaeth berthnasol a’r ymgymeriadau perthnasol, benderfynu’r cais yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(13Rhaid cynnal unrhyw apêl neu unrhyw adolygiad a ddechreuwyd o dan Reoliadau 1986 neu Reoliadau 2006 ond nad yw wedi dod i ben ar y dyddiad cychwyn yn unol â Rheoliadau 1986 neu Reoliadau 2006 (fel y bo’n briodol), sydd wedi eu harbed at y dibenion hynny.

(14Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (13), mae unrhyw gam gweithredu a gymerir gan neu ar ran Bwrdd Iechyd Lleol cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas â’i restr offthalmig flaenorol neu ei restr atodol flaenorol (neu mewn perthynas â’r personau neu’r cofnodion yn y rhestrau hynny), yn cael effaith ar y dyddiad cychwyn, ac ar ôl hynny, fel pe bai cam gweithredu o’r fath wedi ei gymryd gan y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw mewn perthynas â’r rhan berthnasol o’r rhestr gyfunol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw ar y dyddiad cychwyn neu mewn perthynas â’r personau neu’r cofnodion ynddi.

(15Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (13), mae unrhyw gam gweithredu a gymerir gan neu ar ran unrhyw berson arall cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas â rhestr offthalmig flaenorol neu restr atodol flaenorol Bwrdd Iechyd Lleol (neu mewn perthynas â’r personau neu’r cofnodion yn y rhestrau hynny), yn cael effaith ar y dyddiad cychwyn, ac ar ôl hynny, fel pe bai cam gweithredu o’r fath wedi ei gymryd mewn perthynas â’r rhan berthnasol o’r rhestr gyfunol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw ar y dyddiad cychwyn neu mewn perthynas â’r personau neu’r cofnodion ynddi.

(16At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(27) (a ddirymir gan reoliad 41 ac Atodlen 7);

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006(28) (a ddirymir gan reoliad 41 ac Atodlen 7).

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Medi 2023

Yn ôl i’r brig

Options/Help