- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
am 12.24 p.m. ar 27 Hydref 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 4.00 p.m. ar 27 Hydref 20233
Yn dod i rym
am 8.00 p.m. ar 27 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 17(2) o Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 8.00 p.m. ar 27 Hydref 2023.
2.—(1) Mae rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a)—
(a)yn lle “section 43(4) to (6) or section 45(4) to (6) of” rhodder “paragraphs 1 to 7, and 10 of Schedule 4ZA or paragraphs 1 to 3 of Schedule 4ZB to”;
(b)yn lle “58(3)(a)” rhodder “58(3)”.
3. Yn rheoliad 3(2)(a) (cydberchnogion a chydfeddianwyr) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990(3), yn lle “58(3)(a)” rhodder “58(3)”.
4.—(1) Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4—
(a)yn lle “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym” rhodder “rheoliadau o dan baragraff 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym”;
(b)yn lle “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o” rhodder “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.
(3) Ym mharagraff 5—
(a)yn lle “adran 45A o” rhodder “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i”;
(b)yn lle “adran 45(4) o” rhodder “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.
(4) Ym mharagraff 6—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “adran 43(4A)(b) neu (5) o” rhodder “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “adran 44(2) a (2A) o” rhodder “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i”;
(c)yn is-baragraff (c), yn lle “58(3)(a)” rhodder “58(3)”;
(d)yn lle “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid” rhodder “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid”.
5.—(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” yn is-baragraff (c), yn lle “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o” rhodder “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i”.
(3) Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “adran 43(4B)(b)(i) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i”.
(4) Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “adran 43(4B)(b)(ii) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i”.
(5) Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “adran 44(9) o” rhodder “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i”.
6.—(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(2)(b) (swm tybiannol a godir), ar ôl “effaith” mewnosoder “, ond pan fo paragraff 3 o Atodlen 4ZA neu baragraff 3 o Atodlen 5A (rhyddhad gwelliannau) i’r Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad â hereditament (yn ôl y digwydd), A yw’r gwerth ardrethol hwnnw llai G.”
(3) Ar ôl rheoliad 7(2), mewnosoder—
“(3) Ym mharagraff (2)(b) uchod, G yw’r swm a ragnodir, neu’r swm a gyfrifir yn unol â’r ddarpariaeth a ragnodir, gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 10(7) o Atodlen 4ZA neu baragraff 6(6) o Atodlen 5A i’r Ddeddf (yn ôl y digwydd).”
(4) Yn rheoliad 10(a) (eithriadau), yn lle “adran 45A o’r” rhodder “baragraff 2 o Atodlen 4ZB i’r”.
(5) Yn rheoliad 11 (rheolau ar gyfer canfod y swm a godir), yn lle “adran 58(3)(a)” rhodder “adran 58(3)”.
7.—(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(1) (cynigion a wneir ar y sail yn rheoliad 4(1)(b)), ar ôl “mharagraff 2(7)(d)” rhodder “, (da)”.
(3) Yn rheoliad 14 (cynigion anghyflawn)—
(a)ym mharagraff (3), ar ôl “mharagraff 2(7)(d)” mewnosoder “, (da)”;
(b)ym mharagraff (4), ar ôl “mharagraff 2(7)(d)” mewnosoder “, (da)”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.24 p.m. ar 27 Hydref 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (“Deddf 2023”) yn cyflwyno nifer o newidiadau i’r system ardrethu annomestig yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ran Cymru sy’n ganlyniadol ar adrannau 1, 2, 3 a 14 o Ddeddf 2023 a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
Mae adrannau 1 i 3 o Ddeddf 2023 yn diddymu darpariaethau penodol yn Rhan 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), ac yn ailddeddfu’r darpariaethau hynny yn Atodlenni newydd 4ZA, 4ZB a 5A i’r Ddeddf honno.
Mae Rheoliadau 2 i 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989, Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990, Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017, a Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 o ganlyniad i’r darpariaethau a ailddeddfwyd yn adran 58 o Ddeddf 1988 ac Atodlenni 4ZA a 4ZB iddi.
Mae paragraff 3 o Atodlen 4ZA i Ddeddf 1988 yn cyflwyno rhyddhad newydd (rhyddhad gwelliannau) ar gyfer eiddo cymwys ar y rhestr leol, ac mae paragraff 3 o Atodlen 5A i Ddeddf 1988 yn cyflwyno rhyddhad newydd (rhyddhad gwelliannau) ar gyfer eiddo cymwys ar y rhestr ganolog.
Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 (“Rheoliadau 2022”) i ystyried effaith rhyddhad gwelliannau ar werth ardrethol eiddo wrth gyfrifo’r swm tybiannol a godir at ddibenion rheoliad 6 o Reoliadau 2022. Mae hefyd yn diwygio Rheoliadau 2022 o ganlyniad i’r darpariaethau a ailddeddfir yn adran 58 o Ddeddf 1988 ac Atodlen 4ZB iddi.
Mae adran 14 o Ddeddf 2023, sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â materion nad ydynt i’w hystyried wrth bennu gwerthoedd ardrethol rhwng ailbrisiadau yn Lloegr, yn diwygio paragraff 2(7) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988.
Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 o ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i Atodlen 6 i Ddeddf 1988.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.
O.S. 1989/1058; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/141, O.S.1993/616 ac O.S 2010/187.
O.S. 1990/145, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2017/113 (Cy. 39), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2017/1229 (Cy. 293), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/1192 (Cy. 243).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys