Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1154 (Cy. 199)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023

Gwnaed

am 12.24 p.m. ar 27 Hydref 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 4.00 p.m. ar 27 Hydref 20233

Yn dod i rym

am 8.00 p.m. ar 27 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 17(2) o Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023(1).

Enwi, cymhwyso a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 8.00 p.m. ar 27 Hydref 2023.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989

2.—(1Mae rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a)—

(a)yn lle “section 43(4) to (6) or section 45(4) to (6) of” rhodder “paragraphs 1 to 7, and 10 of Schedule 4ZA or paragraphs 1 to 3 of Schedule 4ZB to”;

(b)yn lle “58(3)(a)” rhodder “58(3)”.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990

3.  Yn rheoliad 3(2)(a) (cydberchnogion a chydfeddianwyr) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990(3), yn lle “58(3)(a)” rhodder “58(3)”.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017

4.—(1Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 4—

(a)yn lle “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym” rhodder “rheoliadau o dan baragraff 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym”;

(b)yn lle “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o” rhodder “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.

(3Ym mharagraff 5—

(a)yn lle “adran 45A o” rhodder “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i”;

(b)yn lle “adran 45(4) o” rhodder “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.

(4Ym mharagraff 6—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “adran 43(4A)(b) neu (5) o” rhodder “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “adran 44(2) a (2A) o” rhodder “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i”;

(c)yn is-baragraff (c), yn lle “58(3)(a)” rhodder “58(3)”;

(d)yn lle “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid” rhodder “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid”.

Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017

5.—(1Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” yn is-baragraff (c), yn lle “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o” rhodder “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i”.

(3Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “adran 43(4B)(b)(i) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i”.

(4Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “adran 43(4B)(b)(ii) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i”.

(5Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “adran 44(9) o” rhodder “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i”.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022

6.—(1Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7(2)(b) (swm tybiannol a godir), ar ôl “effaith” mewnosoder “, ond pan fo paragraff 3 o Atodlen 4ZA neu baragraff 3 o Atodlen 5A (rhyddhad gwelliannau) i’r Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad â hereditament (yn ôl y digwydd), A yw’r gwerth ardrethol hwnnw llai G.”

(3Ar ôl rheoliad 7(2), mewnosoder—

(3) Ym mharagraff (2)(b) uchod, G yw’r swm a ragnodir, neu’r swm a gyfrifir yn unol â’r ddarpariaeth a ragnodir, gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 10(7) o Atodlen 4ZA neu baragraff 6(6) o Atodlen 5A i’r Ddeddf (yn ôl y digwydd).

(4Yn rheoliad 10(a) (eithriadau), yn lle “adran 45A o’r” rhodder “baragraff 2 o Atodlen 4ZB i’r”.

(5Yn rheoliad 11 (rheolau ar gyfer canfod y swm a godir), yn lle “adran 58(3)(a)” rhodder “adran 58(3)”.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023

7.—(1Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 12(1) (cynigion a wneir ar y sail yn rheoliad 4(1)(b)), ar ôl “mharagraff 2(7)(d)” rhodder “, (da)”.

(3Yn rheoliad 14 (cynigion anghyflawn)—

(a)ym mharagraff (3), ar ôl “mharagraff 2(7)(d)” mewnosoder “, (da)”;

(b)ym mharagraff (4), ar ôl “mharagraff 2(7)(d)” mewnosoder “, (da)”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

Am 12.24 p.m. ar 27 Hydref 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (“Deddf 2023”) yn cyflwyno nifer o newidiadau i’r system ardrethu annomestig yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ran Cymru sy’n ganlyniadol ar adrannau 1, 2, 3 a 14 o Ddeddf 2023 a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

Mae adrannau 1 i 3 o Ddeddf 2023 yn diddymu darpariaethau penodol yn Rhan 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), ac yn ailddeddfu’r darpariaethau hynny yn Atodlenni newydd 4ZA, 4ZB a 5A i’r Ddeddf honno.

Mae Rheoliadau 2 i 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989, Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990, Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017, a Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 o ganlyniad i’r darpariaethau a ailddeddfwyd yn adran 58 o Ddeddf 1988 ac Atodlenni 4ZA a 4ZB iddi.

Mae paragraff 3 o Atodlen 4ZA i Ddeddf 1988 yn cyflwyno rhyddhad newydd (rhyddhad gwelliannau) ar gyfer eiddo cymwys ar y rhestr leol, ac mae paragraff 3 o Atodlen 5A i Ddeddf 1988 yn cyflwyno rhyddhad newydd (rhyddhad gwelliannau) ar gyfer eiddo cymwys ar y rhestr ganolog.

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 (“Rheoliadau 2022”) i ystyried effaith rhyddhad gwelliannau ar werth ardrethol eiddo wrth gyfrifo’r swm tybiannol a godir at ddibenion rheoliad 6 o Reoliadau 2022. Mae hefyd yn diwygio Rheoliadau 2022 o ganlyniad i’r darpariaethau a ailddeddfir yn adran 58 o Ddeddf 1988 ac Atodlen 4ZB iddi.

Mae adran 14 o Ddeddf 2023, sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â materion nad ydynt i’w hystyried wrth bennu gwerthoedd ardrethol rhwng ailbrisiadau yn Lloegr, yn diwygio paragraff 2(7) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988.

Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 o ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i Atodlen 6 i Ddeddf 1988.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.

(2)

O.S. 1989/1058; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/141, O.S.1993/616 ac O.S 2010/187.

(3)

O.S. 1990/145, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

O.S. 2017/113 (Cy. 39), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill