- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Diwygio Cyfraith Yr Ue A Ddargedwir, Cymru
Gwnaed
6 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym
1 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 19(1) ac 20(1)(b) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023(1).
Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod cenedlaethol perthnasol at ddibenion adran 19(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023(2).
Yn unol â pharagraff 8(1) o Atodlen 5 i Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2024.
2. Yn adran 14A(5) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(3), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.
3. Mae adran 17 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn is-adran (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;
(b)yn is-adran (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.
4. Yn adran 65(4)(a) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(5), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
5. Yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003(6), yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
6. Mae rheoliad 2 o Reoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(7) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;
(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.
7.—(1) Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(4), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(e), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
8. Mae rheoliad 2A o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(9) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff (3)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;
(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.
9.—(1) Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(3)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1A, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
10.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, yng ngholofn “Y pwnc” o’r tabl–
(a)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 4(2), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 4(3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
11. Mae rheoliad 4 o Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011(12) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b)ym mharagraff (1), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.
12. Mae rheoliad 2 o Reoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011(13) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;
(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.
13.—(1) Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle ““darpariaeth cig dofednod yr UE a ddargedwir” (“retained EU poultrymeat provision”)” rhodder ““darpariaeth cig dofednod a gymathwyd” (“assimilated poultrymeat provision”)”.
(3) Yn rheoliad 9—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b)ym mharagraff (2)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(4) Yn rheoliad 14(1)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(5) Ym mhennawd Atodlen 1, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
14.—(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 15—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith uniongyrchol a gymathwyd”.
(b)ym mharagraff (4)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith uniongyrchol a gymathwyd”;
(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”;
(iii)yn is-baragraff (d), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11A(1), yn lle “fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “fân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.
15.—(1) Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012(16) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 11(3)(a), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn erthygl 11A—
(a)ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
16.—(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle ““Rheoliadau’r UE a ddargedwir” (“the retained EU Regulations”)” rhodder “y Rheoliadau bwyd penodedig” (“the specified food Regulations”)”.
(3) Yn rheoliad 16, yn lle “a Rheoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “a’r Rheoliadau bwyd penodedig”.
(4) Yn rheoliad 19(2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “Reoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “y Rheoliadau bwyd penodedig”.
17. Ym mharagraff 3(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg Eu Lladd (Cymru) 2014(18), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
18.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “y Rheoliad UE a ddargedwir o dan sylw” rhodder “Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno”.
(3) Yn rheoliad 15A(4)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
19.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5—
(a)ym mharagraff (8)(b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b)ym mharagraff (13)(b)(ii), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn rheoliad 6(4), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(4) Yn rheoliad 17(4)(e), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(5) Yn rheoliad 25(3)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(6) Yn rheoliad 31(3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(7) Ym mharagraff 2(c)(vi) o Atodlen 3, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
(8) Ym mharagraff 8 o Atodlen 4, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
20.—(1) Mae Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y diffiniad o “dosbarthu”, yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b)yn lle ““darpariaeth eidion yr UE a ddargedwir” (“retained EU beef provision”)” rhodder ““darpariaeth cig eidion a gymathwyd” (“assimilated beef provision”)”;
(c)yn lle ““darpariaeth moch yr UE a ddargedwir” (“retained EU pig provision”)” rhodder ““darpariaeth moch a gymathwyd” (“assimilated pork provision”)”.
(3) Yn rheoliad 15, yn lle “â darpariaethau moch yr UE a ddargedwir” rhodder “â’r darpariaethau moch a gymathwyd”.
(4) Yn rheoliad 26—
(a)yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b)ym mharagraff (a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(c)ym mharagraff (b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(5) Yn rheoliad 27—
(a)yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(c)ym mharagraff (2), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(d)ym mharagraff (3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(6) Yn rheoliad 36—
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b)ym mharagraff (1)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(7) Yn Atodlen 1—
(a)yn y pennawd, yn lle “Darpariaethau’r UE a Ddargedwir” rhodder “Darpariaethau a Gymathwyd”;
(b)yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(8) Yn Atodlen 2—
(a)yn y pennawd, yn lle “Darpariaethau’r UE a Ddargedwir” rhodder “Darpariaethau a Gymathwyd”;
(b)yn Rhan 1, yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(c)yn Rhan 2, yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
21. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019(22), yn y diffiniad o “sylwedd diawdurdod”, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
22. Yn rheoliad 2(1) o Reolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020(23), yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
23. Ym mharagraff 11(3)(a) o Atodlen 4 i Reoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020(24), yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
24.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020(25) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 21(3), yn y diffiniad o “rhanddirymiad iechyd planhigion”, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
(3) Yn rheoliad 38(1)(f), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(4) Yn rheoliad 43(2)(b), yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(5) Ym mhennawd Atodlen 3, yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.
25. Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022(26), yn lle “Rheoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
6 Rhagfyr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adrannau 19(1) ac 20(1)(b) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (p. 28) (“Deddf 2023”). Adran 19(1) yw’r pŵer i wneud darpariaeth briodol o ganlyniad i ddarpariaethau o Ddeddf 2023 ac sydd yn rhinwedd adran 20(1) yn cynnwys y gallu i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru, o ganlyniad i ailenwi cyfraith yr UE a ddargedwir (a thermau cysylltiedig) yn gyfraith a gymathwyd (a thermau cysylltiedig) bob amser ar ôl diwedd 2023, fel y’i nodir yn adran 5 o Ddeddf 2023.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol ac mae Rhan 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth berthnasol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Diffinnir y term “relevant national authority” yn adran 21(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.
2008 mccc 2. Mewnosodwyd adran 14A gan adran 1 o Fesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (mccc 6) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2019/236 (Cy. 55).
2010 mccc 8. Mewnosodwyd adran 17(3) i (8) gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). (Diwygiwyd O.S. 2019/414 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1339 (Cy. 296); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn).
2016 dccc 6. Diwygiwyd adran 65(4)(a) gan O.S. 2019/833 (Cy. 153).
O.S. 2003/1719 (Cy. 186), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/179 (Cy. 45). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2004/1490 (Cy. 155), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). (Diwygiwyd O.S. 2019/414 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1339 (Cy. 296); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn).
O.S. 2004/1656 (Cy. 170), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/245 (Cy. 60). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/1806 (Cy. 138), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). (Diwygiwyd O.S. 2019/414 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1339 (Cy. 296); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn).
O.S. 2009/995 (Cy. 81) a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/244 (Cy. 59). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/3254 (Cy. 283), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/179 (Cy. 45). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2011/991 (Cy. 145), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.)
O.S. 2011/1014 (Cy. 152), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/414 (Cy. 96). (Diwygiwyd O.S. 2019/414 cyn iddo ddod i rym gan O.S. 2020/1339 (Cy. 296); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn).
O.S. 2011/1719 (Cy. 195), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2020/44 (Cy. 5), 2020/1348 (Cy. 271), 2020/1612 (Cy. 337), 2020/1639 (Cy. 344).
O.S. 2012/1903 (Cy. 230), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1215 (Cy. 274). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2013/2591 (Cy. 255). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2022/1362 (Cy. 273), O.S. 2023/343 (Cy. 50).
O.S. 2014/951 (Cy. 92), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/684 (Cy. 131). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2016/386 (Cy. 120), a ddiwygiwyd gan O.S. 2022/1362 (Cy. 273). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2017/567 (Cy. 136), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/245 (Cy. 60). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2018/1215 (Cy. 248), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/732 (Cy. 137). Mae offeryn diwygio arall ond nid ywʼn berthnasol.
O.S. 2019/569 (Cy. 125), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/737 (Cy. 140).
O.S. 2020/44 (Cy. 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1639 (Cy. 344).
O.S. 2020/89 (Cy. 13), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/955 (Cy. 219).
O.S. 2020/206 (Cy. 48). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2020/1134 (Cy. 259) ac O.S. 2020/1628 (Cy. 342).
O.S. 2022/1118 (Cy. 233), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys