Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1380 (Cy. 246)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023

Gwnaed

13 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) (“y Ddeddf”).

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2023.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

2.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd), ym mharagraff (4B), yn lle “31 Rhagfyr 2023” rhodder “30 Mehefin 2025”.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019

3.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 (ffioedd)—.

(a)ym mharagraff (5A), yn lle’r geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (5C)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5E)”;

(b)hepgorer paragraffau (5C) a (5D);

(c)ar ôl paragraff (5B), mewnosoder—

(5E) Nid yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—

(a)gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad, neu

(b)i’w ddanfon i—

(i)gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon, neu

(ii)unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddibenion unrhyw fusnes.

(5F) Mae paragraff (5E) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

13 Rhagfyr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497) (Cy. 114) a Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1179) (Cy. 238) (gyda’i gilydd “y Rheoliadau”). Mae’r diwygiadau’n addasu’r dyddiad perthnasol ar gyfer talu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 drwy estyn hyd esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy mewn cysylltiad â thystysgrifau a gwasanaethau cyn allforio ar lwythi ffytoiechydol mewn amgylchiadau penodol. Mae’r esemptiad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.

Mae Rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 drwy ddarparu esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy mewn cysylltiad â cheisiadau i’r Comisiwn Coedwigaeth am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio (neu ailallforio) mewn amgylchiadau penodol. Mae’r esemptiad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2018 p. 16, ‌gweler paragraff 8 o Atodlen 4 ar gyfer ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 4 i’r Ddeddf gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”) a pharagraff 47(5) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf 2020 a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.

(2)

Mae paragraff 1(8) o Atodlen 7 yn gymwys i reoliadau o dan Atodlen 4 yn rhinwedd paragraff 12(3) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018. Mae’r cyfeiriadau yn y Ddeddf at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

O.S. 2018/1179 (Cy. 238) (a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/44 (Cy. 5), O.S. 2020/1628 (Cy. 342), O.S. 2021/713 (Cy. 181) ac O.S. 2022/804 (Cy. 180); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol).

(4)

O.S. 2019/497 (Cy. 114) (a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/44 (Cy. 5), O.S. 2020/206 (Cy. 48), O.S. 2021/710 (Cy. 180); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill