- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Gwnaed
11 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
13 Ionawr 2023
Yn dod i rym
13 Chwefror 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2)(a) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 126A(6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys o ran gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 13 Chwefror 2023.
2.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“Adnodd Cyfyngedig (rhif y cwmni 14227941)”
“Cymwysterau Cymru” (3)
“Cyngor y Gweithlu Addysg” (4)
“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” (5).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”). Mae’n mewnosod 4 corff ychwanegol yn y rhestr o gyrff dynodedig a gynhwysir yn yr Atodlen i Orchymyn 2018.
Effaith y diwygiad hwn yw y caniateir i’r adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff a fewnosodir yn yr Atodlen gan y Gorchymyn hwn gael eu cynnwys mewn cynnig Cyllidebol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
2006 p. 32; mewnosodwyd adran 126A gan adran 44(1) a (2) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25). Diwygiwyd is-adrannau (9) a (10) o adran 126A gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) a pharagraffau 2(6)(a) a (b) o Atodlen 1 iddi, yn y drefn honno.
O.S. 2018/1173 (Cy. 237), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1483 (Cy. 267), O.S. 2021/1345 (Cy. 347) ac O.S. 2022/58 (Cy. 22).
Sefydlwyd gan adran 2(1) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5).
Sefydlwyd gan adran 8(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) fel Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac fe’i hailenwyd yn Gyngor y Gweithlu Addysg gan adran 2(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5).
Sefydlwyd gan adran 5(1) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1992 (p. 38) fel Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Ysgolion yng Nghymru ac fe’i hailenwyd yn Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru gan adran 73(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys