- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
59.—(1) Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w ddarparu, i’w anfon neu i’w gyflwyno gael ei gyflwyno—
(a)drwy ei ddanfon—
(i)i’r person (“X”) y mae i’w ddarparu, i’w anfon, i’w roi neu i’w gyflwyno iddo, neu
(ii)i unrhyw berson arall a awdurdodwyd gan X i weithredu fel asiant X at y diben hwnnw;
(b)drwy ei anfon at X neu at asiant X drwy gyfathrebiad electronig;
(c)drwy ei adael yn un neu ragor o’r mannau a ganlyn, neu ei anfon yno drwy’r post—
(i)man busnes arferol X neu ei fan busnes olaf sy’n hysbys, neu
(ii)yn achos cwmni, ei swyddfa gofrestredig, neu
(iii)man busnes arferol, neu’r olaf sy’n hysbys, neu swyddfa gofrestredig unrhyw berson arall a awdurdodwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a)(ii);
(d)drwy ei ddanfon i ryw berson yn y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi, neu, os nad oes neb y gellir ei ddanfon iddo felly yn y fangre, drwy ei osod ynghlwm wrth ryw ran amlwg o’r fangre;
(e)heb ragfarnu darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, pan fo hereditament y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn fan busnes i’r person y mae’r hysbysiad i’w ddarparu, i’w anfon, i’w roi neu i’w gyflwyno iddo, drwy adael yr hysbysiad yn y man busnes hwnnw, neu ei anfon yno drwy’r post, wedi ei gyfeirio at y person hwnnw.
(2) Yr un adeg ag y mae copi o hysbysiad o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn cael ei ddarparu, ei anfon, ei roi neu ei gyflwyno i asiant person, rhaid darparu’r hysbysiad hefyd i X—
(a)rheoliad 8(1);
(b)rheoliad 10(1);
(c)rheoliad 13;
(d)rheoliad 14(2);
(e)rheoliad 16;
(f)rheoliad 20(b);
(g)rheoliad 23(2).
(3) Caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w gyflwyno gan SP i berson a wnaeth gais o dan reoliad 6(2) neu gynnig drwy ddefnyddio porth electronig yr SP (fel y’i diffinnir yn rheoliad 3) gael ei gyflwyno drwy hysbysu’r person drwy gyfathrebiad electronig fod hysbysiad a gyfeiriwyd at y person wedi ei godi ar y porth electronig hwnnw.
(4) Caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w gyflwyno gan TPC i berson a wnaeth apêl drwy ddefnyddio porth electronig TPC gael ei gyflwyno drwy hysbysu’r person drwy gyfathrebiad electronig fod hysbysiad a gyfeiriwyd at y person wedi ei godi ar y porth electronig hwnnw.
(5) Caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w ddarparu, i’w anfon, i’w roi neu i’w gyflwyno i berchennog neu feddiannydd unrhyw fangre gael ei gyfeirio drwy gyfrwng y disgrifiad “perchennog” neu “meddiannydd” y fangre, heb enw neu ddisgrifiad pellach.
(6) Ac eithrio pan fo’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei ddarparu, ei anfon, ei roi neu ei gyflwyno drwy ddefnyddio porth electronig yr SP neu mewn modd arall y cytunir arno gyda’r SP, caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w ddarparu, i’w anfon, i’w roi neu i’w gyflwyno i SP gael ei ddarparu, ei anfon, ei roi neu ei gyflwyno—
(a)drwy gyfeirio’r hysbysiad at SP yr ardal o dan sylw, heb ddisgrifiad pellach, a
(b)drwy ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r SP drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at borth electronig yr SP yn cynnwys cyfeiriad at y cyfleuster ar-lein a ddarperir gan yr SP i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â chynigion ar gyfer newid rhestr ganolog a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad yn cynnwys cyfeiriad at gynnig ac unrhyw ddogfen arall y mae’n ofynnol ei chyflwyno neu yr awdurdodir ei chyflwyno;
(c)mae unrhyw gyfeiriad at ofyniad neu awdurdodiad yn gyfeiriad at ofyniad neu awdurdodiad o dan y Rheoliadau hyn;
(d)rhaid barnu bod unrhyw hysbysiad a anfonir yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff (1)(b) wedi ei anfon pan ddaw i law ar ffurf ddarllenadwy.
60.—(1) Cyn newid eitem mewn rhestr leol neu yn y rhestr ganolog, rhaid i’r SP neu pan fo’n briodol, y SPC sicrhau bod cofnod (nad oes angen iddo fod ar ffurf dogfen) yn cael ei wneud o’r eitem.
(2) Rhaid i gofnod a wneir o dan baragraff (1) gael ei gadw hyd nes y daw chwe blynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff y rhestr nesaf ei llunio i ben.
61.—(1) Mae gwybodaeth o’r disgrifiad a nodir ym mharagraff (2) yn wybodaeth ragnodedig at ddibenion paragraff 6(1A) o Atodlen 9 i’r Ddeddf.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw eiddo a grybwyllir ym mharagraff (3), yr wybodaeth yw—
(a)cyfeiriad yr eiddo;
(b)natur y digwyddiad y mae’r awdurdod perthnasol o’r farn ei bod yn ofynnol newid y rhestr leol o’i herwydd;
(c)y diwrnod y mae’r newid, ym marn yr awdurdod perthnasol, yn gymwys;
(d)os dangosir yr eiddo mewn rhestr leol, unrhyw rif cyfeirnod a briodolir iddo yn y rhestr honno.
(3) Yn achos awdurdod perthnasol, yr eiddo y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw unrhyw eiddo annomestig yn ardal yr awdurdod hwnnw—
(a)sydd, ym marn yr awdurdod, yn eiddo sy’n agored i ardreth neu a allai ddod yn agored i ardreth, a
(b)sy’n eiddo—
(i)nad oes cofnod ar ei gyfer yn y rhestr leol, neu
(ii)y mae’n ofynnol i unrhyw gofnod ar ei gyfer yn y rhestr honno gael ei newid ym marn yr awdurdod.
(4) Rhaid i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn gael ei chyflenwi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddi ddod i sylw’r awdurdod perthnasol.
62.—(1) Yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hereditamentau Cyfathrebu) (Prisio, Newid Rhestri ac Apelau a Diwrnod Perthnasol) (Cymru) 2008(1)—
(a)yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “Rheoliadau NRhA”, yn lle “Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005” rhodder “Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023”;
(b)hepgorer rheoliad 5.
(2) Yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Talu Llog) 1990(2) ar ôl rheoliad 6(1) mewnosoder—
“(1A) This regulation applies in Wales where a valuation officer—
(a)within 28 days of the making by the valuation tribunal of a decision in consequence of which an order requiring the alteration of a list is made, makes an application under regulation 54(1) of the Non-Domestic Rating (Alteration of Lists and Appeals) (Wales) Regulations 2023, or
(b)appeals under regulation 51(1) of those Regulations against any such decision or order.”
(3) O ran Cymru, yn rheoliad 3(7)(b)(i) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Y Diwrnod Perthnasol ar gyfer Newid Rhestri) 1992(3), yn lle “day on which the proposal was served on the valuation officer” rhodder “date on which the VO received a confirmation under regulation 7 of the Non-Domestic Rating (Alteration of Lists and Appeals) (Wales) Regulations 2023 (as stated in an acknowledgement served by the VO under regulation 8(1) of those Regulations)”.
63.—(1) Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005(4);
(b)Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2006(5).
(2) Er bod paragraff (1) yn dod i rym, rhaid i’r canlynol ddilyn y weithdrefn a nodir yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005 fel yr oeddent yn gymwys yn union cyn 1 Ebrill 2023—
(a)unrhyw newid i restr ganolog neu leol a lunnir cyn 1 Ebrill 2023;
(b)unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adran 58 o’r Ddeddf (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) ynghylch y swm a godir mewn perthynas â hereditament am gyfnod perthnasol, fel y’i diffinnir yn yr adran honno, a ddaeth i ben cyn 1 Ebrill 2005.
(3) Mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad apêl yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005, sy’n ymwneud â diwrnod cwblhau o 1 Ebrill 2023 neu’n ddiweddarach, ond a gyflwynir i’r clerc cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, trinnir yr hysbysiad apêl fel pe bai wedi ei gyflwyno, ac mae unrhyw gam yn y weithdrefn a gymerir mewn cysylltiad â’r apêl i’w drin fel pe bai wedi ei gymryd, o dan y Rheoliadau hyn.
O.S. 1992/556, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/758 (Cy. 83), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1035, O.S. 2010/713 ac O.S. 2017/914.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys