Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 567 (Cy. 88)

Caffael Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023

Gwnaed

22 Mai 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymruu

23 Mai 2023

Yn dod i rym

26 Mai 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2) a 2(1)(b), (c) a (d) o Ddeddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023(1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mai 2023.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau Cymreig datganoledig.

(4Yn y rheoliad hwn, mae i “awdurdod Cymreig datganoledig” yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2).

Diwygio Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015

2.—(1Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (diffiniadau), ym mharagraff (1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “invitation to confirm interest”;

(b)yn y diffiniad o “procurement document”, hepgorer “the prior information notice where it is used as a means of calling for competition,”.

(3Yn rheoliad 6 (dulliau o gyfrifo gwerth amcangyfrifedig caffaeliad), ym mharagraffau (15A) ac (20), hepgorer “that is not a devolved Welsh authority”.

(4Yn rheoliad 18 (egwyddorion caffael), ym mharagraff (4), hepgorer “that are not devolved Welsh authorities”.

(5Yn rheoliad 22 (rheolau sy’n gymwys i gyfathrebu)—

(a)ym mharagraff (14)(a), hepgorer “or from the date when the invitation to confirm interest is sent”;

(b)ym mharagraff (15)(b), hepgorer “or the invitation to confirm interest”.

(6Yn rheoliad 26 (dewis o weithdrefnau)—

(a)ym mharagraff (8), yn lle “Subject to paragraph (9), the” rhodder “The”;

(b)hepgorer paragraffau (9) a (10).

(7Yn rheoliad 27 (gweithdrefn agored), ym mharagraff (4), hepgorer “which was not itself used as a means of calling for competition”.

(8Yn rheoliad 28 (gweithdrefn gyfyngedig)—

(a)hepgorer paragraff (2)(b) a’r “, or” o’i flaen;

(b)ym mharagraff (6), hepgorer “which was not itself used as a means of calling for competition”.

(9Yn rheoliad 29 (gweithdrefn gystadleuol â negodi)—

(a)hepgorer paragraff (4)(b) a’r “, or” o’i flaen;

(b)ym mharagraff (6), hepgorer “which was not itself used as a means of calling for competition”;

(c)ym mharagraff (15), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”;

(d)ym mharagraff (19), hepgorer “, in the invitation to confirm interest”;

(e)ym mharagraff (20), hepgorer “, the invitation to confirm interest”.

(10Yn rheoliad 33 (cytundebau fframwaith), ym mharagraff (5), hepgorer “or the invitation to confirm interest”.

(11Yn rheoliad 34 (systemau prynu dynamig)—

(a)hepgorer paragraff (9)(b) a’r “, or” o’i flaen;

(b)ym mharagraff (23), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.

(12Yn rheoliad 35 (arwerthiannau electronig), ym mharagraff (7), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.

(13Yn rheoliad 36 (catalogau electronig), ym mharagraff (5)(a), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.

(14Yn rheoliad 45 (amrywolion), ym mharagraff (2), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.

(15Yn rheoliad 46 (rhannu contractau yn lotiau), ym mhob un o baragraffau (3), (4) a (6), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.

(16Yn rheoliad 48 (hysbysiadau gwybodaeth ymlaen llaw), hepgorer paragraffau (5), (6) ac (8).

(17Yn rheoliad 50 (hysbysiadau dyfarnu contractau), hepgorer paragraff (3).

(18Yn rheoliad 53 (argaeledd dogfennau caffael yn electronig)—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “or the date on which an invitation to confirm interest is sent”;

(b)ym mhob un o baragraffau (2), (3) a (4), hepgorer “or the invitation to confirm interest”.

(19Yn rheoliad 54 (gwahoddiadau i ymgeiswyr)—

(a)hepgorer paragraff (2);

(b)ym mharagraff (3), yn lle “paragraphs (1) and (2)” rhodder “paragraph (1)”;

(c)ym mharagraff (4)(e), hepgorer “in the invitation to confirm interest,”;

(d)hepgorer paragraff (6).

(20Yn rheoliad 56 (egwyddorion cyffredinol dyfarnu contractau etc), ym mharagraff (1)(a), hepgorer “or the invitation to confirm interest”.

(21Yn rheoliad 58 (meini prawf dethol), ym mharagraff (19), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.

(22Yn rheoliad 65 (lleihau nifer yr ymgeiswyr sydd fel arall yn gymwysedig a wahoddir i gymryd rhan), ym mharagraff (2), hepgorer “or in the invitation to confirm interest”.

(23Yn rheoliad 75 (cyhoeddi hysbysiadau), hepgorer paragraff (1)(b) a’r “, or” o’i flaen.

(24Yn rheoliad 76 (egwyddorion dyfarnu contractau), ym mharagraff (3), hepgorer “or prior information notice”.

(25Yn rheoliad 110 (cyhoeddi cyfleoedd dyfarnu contractau ar ‘Contracts Finder’), hepgorer paragraff (7).

(26Yn Atodlen 4A (cytundebau masnach ryngwladol), o flaen y cofnod ar gyfer y Cytundeb Masnach Rydd rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ac Awstralia, hepgorer “For contracting authorities that are not devolved Welsh authorities:”.

Diwygio Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016

3.—(1Mae Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 8 (egwyddor triniaeth gyfartal, peidio â gwahaniaethu a thryloywder), ym mharagraff (5), hepgorer “that are not devolved Welsh authorities”.

(3Yn rheoliad 9 (symiau trothwy a dulliau o gyfrifo gwerth amcangyfrifedig contractau consesiwn), ym mharagraff (9A), hepgorer “that is not a devolved Welsh authority”.

(4Yn Atodlen 4 (cytundebau masnach ryngwladol), o flaen y cofnod ar gyfer y Cytundeb Masnach Rydd rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ac Awstralia, hepgorer “For contracting authorities and utilities that are not devolved Welsh authorities:”.

Diwygio Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016

4.—(1Mae Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (diffiniadau), ym mharagraff (1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “invitation to confirm interest”;

(b)yn y diffiniad o “periodic indicative notice”, hepgorer “, or where relevant, 91(1)(b)”;

(c)yn y diffiniad o “procurement document”, hepgorer “, the periodic indicative notice”.

(3Yn rheoliad 17 (dulliau o gyfrifo gwerth amcangyfrifedig y caffaeliad)—

(a)ym mharagraff (15A), hepgorer “that is not a devolved Welsh authority”;

(b)ym mharagraff (20), hepgorer “that is not a devolved Welsh authority”.

(4Yn rheoliad 36 (egwyddorion caffael), ym mharagraff (4), hepgorer “that are not devolved Welsh authorities”.

(5Yn rheoliad 40 (rheolau sy’n gymwys i gyfathrebu)—

(a)ym mharagraff (14)(a), hepgorer “or from the date on which the invitation to confirm interest is sent”;

(b)ym mharagraff (15)(b), hepgorer “or the invitation to confirm interest”.

(6Yn rheoliad 44 (dewis o weithdrefnau), hepgorer paragraffau (4)(a) a (5).

(7Yn rheoliad 45 (gweithdrefn agored)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “paragraphs (4) to (6)” rhodder “paragraphs (4A) to (6)”;

(b)hepgorer paragraff (4);

(c)ym mharagraff (4A), hepgorer “that are not devolved Welsh authorities”.

(8Yn rheoliad 46 (gweithdrefn gyfyngedig), hepgorer paragraff (2)(b) a’r “; or” o’i flaen.

(9Yn rheoliad 47 (gweithdrefn wedi ei negodi â galwad am gystadleuaeth flaenorol), hepgorer paragraff (2)(b) a’r “; or” o’i flaen.

(10Yn rheoliad 48 (deialog gystadleuol), hepgorer paragraff (2)(b) a’r “; or” o’i flaen.

(11Yn rheoliad 52 (systemau prynu dynamig)—

(a)hepgorer paragraff (9)(b) a’r “; or” o’i flaen;

(b)ym mharagraff (23)—

(i)ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;

(ii)hepgorer is-baragraff (b) a’r “, or” ar ei ôl.

(12Yn rheoliad 53 (arwerthiannau electronig), ym mharagraff (7), hepgorer “, in the invitation to confirm interest”.

(13Yn rheoliad 54 (catalogau electronig), ym mharagraff (5)(a), hepgorer “, in the invitation to confirm interest”.

(14Yn rheoliad 63 (cyfathrebu manylebau technegol), hepgorer paragraff (1)(b) a’r “; or” o’i flaen.

(15Yn rheoliad 65 (rhannu contractau yn lotiau)—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;

(ii)hepgorer is-baragraff (b) a’r “, or” ar ei ôl.

(b)ym mharagraffau (3)(b) a (5)(b), hepgorer “to confirm interest,”.

(16Yn rheoliad 67 (hysbysiadau dangosol cyfnodol), hepgorer paragraffau (5), (6) ac (8).

(17Yn rheoliad 70 (hysbysiadau dyfarnu contractau), hepgorer paragraff (3).

(18Yn rheoliad 73 (argaeledd dogfennau caffael yn electronig)—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “or the date on which an invitation to confirm interest is sent”;

(b)ym mharagraff (4), hepgorer “or the invitation to confirm interest”;

(c)ym mharagraff (5)—

(i)ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;

(ii)hepgorer is-baragraff (b) a’r “, or” ar ei ôl.

(19Yn rheoliad 74 (gwahoddiadau i ymgeiswyr)—

(a)hepgorer paragraff (2);

(b)ym mharagraff (3), yn lle “paragraphs (1) and (2)” rhodder “paragraph (1)”;

(c)hepgorer paragraff (6).

(20Yn rheoliad 91 (cyhoeddi hysbysiadau), ym mharagraff (1)—

(a)ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;

(b)hepgorer is-baragraff (b) a’r “, or” ar ei ôl.

(21Yn rheoliad 92 (egwyddorion dyfarnu contractau), ym mharagraff (3), hepgorer “, periodic indicative notice”.

(22Yn rheoliad 105A (y ddyletswydd sy’n ddyledus i weithredwyr economaidd o bartïon GPA), ym mharagraff (3)—

(a)ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder “or”;

(b)hepgorer is-baragraff (b) a’r “, or” ar ei ôl.

(23Yn Atodlen 3 (cytundebau masnach ryngwladol), o flaen y cofnod ar gyfer y Cytundeb Masnach Rydd rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ac Awstralia, hepgorer “For utilities that are not devolved Welsh authorities:”.

Darpariaethau trosiannol

5.—(1Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n effeithio ar unrhyw gaffaeliad a gychwynnwyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2At ddibenion paragraff (1), mae caffaeliad wedi ei gychwyn cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym os, cyn y dyddiad hwnnw, yn unol â’r Rheoliadau Caffael cymwys, yw—

(a)hysbysiad wedi ei gyflwyno i wasanaeth e-hysbysu’r DU er mwyn—

(i)gwahodd cynigion neu geisiadau i’w dewis i dendro am gontract, cytundeb fframwaith neu system brynu ddynamig arfaethedig, neu i negodi mewn cysylltiad â hwy, neu

(ii)cyhoeddi bwriad i gynnal cystadleuaeth ddylunio;

(b)yr awdurdod contractio neu’r cyfleustod wedi cyhoeddi unrhyw fath o hysbyseb yn ceisio cynigion neu ddatganiadau o ddiddordeb mewn contract, cytundeb fframwaith neu system brynu ddynamig arfaethedig; neu

(c)yr awdurdod contractio neu’r cyfleustod wedi cysylltu ag unrhyw weithredwr economaidd er mwyn—

(i)ceisio datganiadau o ddiddordeb neu gynigion mewn cysylltiad â chontract, cytundeb fframwaith neu system brynu ddynamig arfaethedig, neu

(ii)ymateb i ddatganiad o ddiddordeb neu gynnig digymell a gafwyd gan y gweithredwr economaidd hwnnw mewn perthynas â chontract, cytundeb fframwaith neu system brynu ddynamig arfaethedig.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae caffaeliad yn cwmpasu’r gweithdrefnau cyfan sydd, yn unol â’r Rheoliadau Caffael cymwys, yn deillio o’r cychwyn hwnnw.

(4Nid yw gweithdrefnau a gymerir at ddiben addasu contract neu gytundeb fframwaith i’w hystyried, at ddibenion paragraff (3), fel petaent yn deillio o gychwyn y caffaeliad y deilliodd dyfarnu’r contract neu’r cytundeb fframwaith hwnnw ei hun ohono.

(5Nid yw gweithdrefn a gychwynnir fel y’i disgrifir ym mharagraff (2)(a)(i), (b) neu (c) i’w hystyried, at ddibenion paragraff (3), fel petai yn deillio o gychwyn unrhyw gystadleuaeth ddylunio a oedd wedi ei chynnal yn flaenorol mewn perthynas â phwnc y caffaeliad.

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “Rheoliadau Caffael” yw’r canlynol ac, mewn perthynas ag unrhyw weithdrefn, mae’n golygu pa un bynnag o’r canlynol sy’n gymwys i’r weithdrefn honno—

(i)Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015;

(ii)Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016;

(iii)Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016;

(b)mae i’r termau Cymraeg canlynol yr un ystyr â’r termau Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau Caffael cymwys—

(i)awdurdod contractio (“contracting authority”);

(ii)cystadleuaeth ddylunio (“design contest”);

(iii)system brynu ddynamig (“dynamic purchasing system”);

(iv)gweithredwr economaidd (“economic operator”);

(v)cytundeb fframwaith (“framework agreement”);

(vi)caffaeliad (“procurement”);

(vii)gwasanaeth e-hysbysu’r DU (“UK e-notification service”);

(viii)cyfleustod (“utility”).

Dirymu Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023

6.  Mae Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023(6) wedi eu dirymu.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

22 Mai 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/506 (Cy. 76)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliadau caffael cyhoeddus amrywiol yn y Deyrnas Unedig at ddiben rhoi dau Gytundeb Masnach Rydd y mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo iddynt ar waith, un ag Awstralia (“CMR y DU-Awstralia”) a’r llall â Seland Newydd (“CMR y DU-Seland Newydd”).

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn rhoi CMR y DU-Awstralia a CMR y DU-Seland Newydd ar waith, yn ogystal â gwneud tair set o ddiwygiadau sy’n gymwys yn gyffredinol o dan adran 1(2) o Ddeddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023 (p. 9). Mae angen y diwygiadau hyn sy’n gymwys yn gyffredinol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag ymrwymiadau a wneir yn CMR y DU-Awstralia.

Mae’r set gyntaf o ddiwygiadau sy’n gymwys yn gyffredinol yn cyflwyno’r rheol, pan na ellir amcangyfrif gwerth caffaeliad, fod y caffaeliad i’w drin fel pe bai ei werth wedi ei bennu ar y trothwy perthnasol ar gyfer y math hwnnw o gaffaeliad. Gwneir y diwygiadau hyn i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (O.S. 2015/102) gan reoliad 2(3)(b), i Reoliadau Contractau Consesiwn 2016 (O.S. 2016/273) gan reoliad 3(3), ac i Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 (O.S. 2016/274) gan reoliad 4(3)(b).

Yn achos Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016, gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer y sefyllfa pan na ellir amcangyfrif gwerth un neu ragor o lotiau. Mae rheoliad 2(3)(a) yn gwneud y diwygiad perthnasol i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ac mae rheoliad 4(3)(a) yn gwneud y diwygiad perthnasol i Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016.

Mae’r ail set o ddiwygiadau sy’n gymwys yn gyffredinol yn dileu’r posibilrwydd o ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw a hysbysiad dangosol cyfnodol, yn y drefn honno, fel yr alwad am gystadleuaeth. Gwneir y diwygiadau hyn i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 gan reoliad 2(2) a (5) i (25) ac i Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 gan reoliad 4(2) a (5) i (22).

Mae’r drydedd set o ddiwygiadau sy’n gymwys yn gyffredinol yn gwahardd awdurdodau contractio a chyfleustodau rhag terfynu contractau mewn modd sy’n osgoi rhwymedigaethau yn CMR y DU-Awstralia. Gwneir y diwygiadau hyn i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 gan reoliad 2(4), i Reoliadau Contractau Consesiwn 2016 gan reoliad 3(2), ac i Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 gan reoliad 4(4).

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 2(1)(d) o Ddeddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023.

Mae rheoliad 6 yn dirymu Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2023 p. 9. Gweinidogion Cymru yw’r “appropriate authority” at y dibenion hyn o dan adran 3 o’r Ddeddf.

(2)

2006 p. 32. Mewnosodwyd adran 157A yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 gan adran 4(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 2(19) o Atodlen 1 i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) a chan adran 45(3) o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22).

(3)

O.S. 2015/102, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1319, O.S. 2021/787, O.S. 2022/766 ac O.S. 2023/484. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill