Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 633 (Cy. 97)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023

Gwnaed

12 Mehefin 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

14 Mehefin 2023

Yn dod i rym

6 Gorffennaf 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983(1) ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4).

RHAN 1Enwi a dod i rym

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Gorffennaf 2023.

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

PENNOD 1Cyflwyniad

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

3.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)ar ôl “Ynysoedd Turks a Caicos” mewnosoder “; Ynysoedd y Wyryf;”;

(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys Ascension a Tristan da Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”

4.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—

(a)yn lle paragraff (d) rhodder—

(d)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;;

(b)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

(db)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;.

RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

PENNOD 1Cyflwyniad

5.  Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(6) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

6.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1)—

(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan de Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)ar ôl “Ynysoedd Turks a Caicos” mewnosoder “; Ynysoedd y Wyryf;”;

(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”

7.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—

(a)yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;;

(b)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(ea)caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

(eb)caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;.

RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

PENNOD 1Cyflwyniad

8.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(7) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i ddarpariaethau terfynu cymhwystra yn gynnar

9.  Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (11) mewnosoder—

(11A) Nid yw paragraffau (9), (9A), (9B), (10), (10A), (10B), (10C), (10D), (10E) na (10F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—

(a)bo A; neu

(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr cymhwysol,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig..

10.  Yn rheoliad 81, ar ôl paragraff (10F) mewnosoder—

(10G) Nid yw paragraffau (9), (9A), (9B), (10), (10A), (10B), (10C), (10D), (10E) na (10F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—

(a)bo A; neu

(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig..

11.  Yn rheoliad 110, ar ôl paragraff (12F) mewnosoder—

(12G) Nid yw paragraffau (11), (11A), (11B), (12), (12A), (12B), (12C), (12D), (12E) na (12F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—

(a)bo A; neu

(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig..

RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

12.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(8) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

13.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11(1)—

(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”;

(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

14.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2ZA(4), ym mharagraff (ea)—

(a)yn lle is-baragraff (i) rhodder—

(i)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,;

(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(ia)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo,

(ib)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,.

PENNOD 4Diwygiadau i ddarpariaethau terfynu cymhwystra yn gynnar

15.  Ar ôl rheoliad 23G mewnosoder—

23H.  Nid yw rheoliadau 22, 22A, 23, 23A, 23B, 23C, 23D, 23E, 23F na 23G yn gymwys pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi—

(a)bo P; neu

(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i P fod yn fyfyriwr cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig..

16.  Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 13G mewnosoder—

13H.  Nid yw paragraffau 12, 12A, 13, 13A, 13B, 13C, 13D, 13E, 13F na 13G yn gymwys pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi—

(a)bo P; neu

(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig..

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

17.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(9) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

18.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1)—

(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”;

(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

19.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;;

(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

(ab)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;.

RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

PENNOD 1Cyflwyniad

20.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(10) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

21.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 13(1)—

(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”;

(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

22.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2A(4)(da)—

(a)yn lle is-baragraff (i) rhodder—

(i)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,;

(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(ia)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo,

(ib)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

12 Mehefin 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio amryw Reoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyllid myfyrwyr, ac mewn cysylltiad ag ef.

Gwneir diwygiadau—

(a)i’r enwau yr adwaenir tiriogaethau tramor Prydeinig penodol wrthynt bellach, er mwyn bod yn gyson â Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981, a

(b)sy’n ymwneud â statws mewnfudo dinasyddion penodol o Affganistan o ganlyniad i newidiadau a wnaed i’r rheolau mewnfudo.

Gwneir diwygiadau hefyd i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 er mwyn datgymhwyso terfynu cymhwystra yn gynnar ar gyfer categorïau penodol o fyfyrwyr cymwys o dan amgylchiadau pan fo person wedi dod yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2005/3238 (Cy. 243), Atodlen 1, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.

(2)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2006, erthygl 2(a) (O.S. 2006/1458) gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o’r Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2 ac Atodlen 1 (O.S. 1999/672) gydag effaith o 1 Gorffennaf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y mae’n ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Darparodd adran 44(2)(a) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 hefyd fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” a “rheoliadau”.

(5)

O.S. 2007/2310 (Cy. 181), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2013/1792 (Cy. 179), O.S. 2020/1302 (Cy. 287), O.S. 2021/481 (Cy. 148) ac O.S. 2022/79 (Cy. 28). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 2015/1484 (Cy. 163), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2020/1302 (Cy. 287), O.S. 2021/481 (Cy. 148) ac O.S. 2022/79 (Cy. 28). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 2017/47 (Cy. 21), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2021/9 (Cy. 4), O.S. 2021/481 (Cy. 148), O.S. 2021/1365 (Cy. 360), O.S. 2022/79 (Cy. 28) ac O.S. 2022/764 (Cy. 166). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(9)

O.S. 2018/656 (Cy. 124), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2022/403 (Cy. 100) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(10)

O.S. 2019/895 (Cy. 161), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2022/403 (Cy. 100) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys