Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

17.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”

18.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1)—

(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”;

(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—

(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;

(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;

(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

19.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;;

(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

(ab)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;.

(1)

O.S. 2018/656 (Cy. 124), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2022/403 (Cy. 100) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.