RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
PENNOD 1Cyflwyniad
20. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”
21. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 13(1)—
(a)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”;
(b)yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i)hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii)yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii)yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”.
PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”
22. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2A(4)(da)—
(a)yn lle is-baragraff (i) rhodder—
“(i)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,”;
(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—
“(ia)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo,
(ib)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,”.
O.S. 2019/895 (Cy. 161), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2022/403 (Cy. 100) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.