- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Harbyrau, Dociau, Pierau A Fferïau, Cymru
Gwnaed
8 Awst 2023
Yn dod i rym
14 Awst 2023
Yn unol ag adran 14(1) o Ddeddf Harbyrau 1964(1) (“y Ddeddf”), mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud mewn perthynas â harbwr sy’n cael ei wella, ei gynnal neu ei reoli gan awdurdod harbwr wrth arfer a chyflawni pwerau a dyletswyddau statudol, i gyflawni amcanion a bennir yn Atodlen 2 i’r Ddeddf(2).
Mae Stena Line Ports Limited wedi gwneud cais yn unol ag adran 14(2)(a) o’r Ddeddf am orchymyn diwygio harbwr o dan adran 14. Mae swyddogaethau’r Gweinidog priodol at ddiben yr adran honno wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru(3).
Mae hysbysiad wedi ei gyhoeddi yn unol â gofynion paragraff 10 o Atodlen 3 i’r Ddeddf ac mae darpariaethau paragraffau 15 a 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf wedi eu bodloni. Gwnaethpwyd gwrthwynebiadau i’r cais ac ni chawsant eu tynnu’n ôl.
Mae Gweinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu bodloni fel y crybwyllir yn adran 14(2)(b) o’r Ddeddf a thrwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14(1) a (3) o’r Ddeddf, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Harbwr Caergybi 2023 a daw i rym ar 14 Awst 2023.
(2) Enw darpariaethau Harbwr Caergybi yn Neddf 1959 a’r Gorchymyn hwn gyda’i gilydd yw Deddf a Gorchymyn Harbwr Caergybi 1959 i 2023.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Cwmni” (“the Company”) yw Stena Line Ports Limited sef cwmni a ymgorfforwyd yn Lloegr gyda’r rhif cofrestredig 01593558;
ystyr “cyfarwyddyd arbennig” (“special direction”) yw cyfarwyddyd a roddir gan yr harbwrfeistr o dan erthygl 18 (cyfarwyddydau arbennig i lestrau);
ystyr “cyfarwyddyd cyffredinol” (“general direction”) yw cyfarwyddyd a roddir gan y Cwmni o dan erthygl 16 (cyfarwyddydau cyffredinol i lestrau);
ystyr “darpariaethau Harbwr Caergybi yn Neddf 1959” (“the Holyhead Harbour provisions of the 1959 Act”) yw cymaint o Ddeddf 1959 ag sy’n berthnasol i Harbwr Caergybi;
ystyr “Deddf 1847” (“the 1847 Act”) yw Deddf Cymalau Harbyrau, Dociau, a Phierau 1847(4);
ystyr “Deddf 1959” (“the 1959 Act”) yw Deddf Comisiwn Trafnidiaeth Prydain 1959(5);
ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw’r gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn, neu yn ôl y digwydd, unrhyw ran ohono ac mae’n cynnwys unrhyw waith a adeiledir yn unol ag erthygl 3 (pŵer i adeiladu gweithfeydd) neu erthygl 5 (gweithfeydd atodol);
ystyr “yr harbwr” (“the harbour”) yw harbwr y Cwmni yng Nghaergybi y diffinnir ei derfynau gan adran 28 o Ddeddf 1959 ac a ddisgrifir yn y Drydedd Atodlen i’r Ddeddf honno gan gynnwys unrhyw weithfeydd y bernir eu bod yn ffurfio rhan o’r harbwr gan unrhyw ddeddfiad dilynol;
ystyr “harbwrfeistr” (“harbour master”) yw’r person a benodir fel y cyfryw gan y Cwmni ac mae’n cynnwys dirprwyon a chynorthwywyr y person hwnnw ac unrhyw berson arall sydd am y tro wedi ei awdurdodi gan y Cwmni i weithredu, naill ai’n gyffredinol neu at ddiben penodol, yn swyddogaeth harbwrfeistr;
ystyr “lefel y penllanw” (“level of high water”) yw lefel penllanw cymedrig y gorllanw;
ystyr “llestr” (“vessel”) yw llong, cwch, neu fad o unrhyw ddisgrifiad ac mae’n cynnwys unrhyw beth arall a adeiladwyd neu a addaswyd i arnofio ar ddŵr neu i’w suddo mewn dŵr (boed yn barhaol ynteu dros dro);
ystyr “meistr” (“master”) mewn perthynas â llestr yw unrhyw berson sydd am y tro wedi cael neu wedi cymryd meistrolaeth, gofal neu reolaeth dros y llestr;
ystyr “y planiau, y trychiadau a’r gweddluniau a adneuwyd” (“the deposited plans, sections and elevations”) yw’r planiau, y trychiadau a’r gweddluniau a rwymwyd gyda’i gilydd ac a baratowyd yn ddyblyg, a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac a farciwyd â “Planiau, Trychiadau a Gweddluniau Gorchymyn Diwygio Harbwr Caergybi 2023” y mae un copi ohonynt wedi ei adneuo yn swyddfeydd Gweinidogion Cymru a’r llall yn swyddfeydd y Cwmni yn Tŷ Stena, Station Approach, Caergybi, Ynys Môn LL65 1DQ ac mae cyfeiriad at ddalen â rhif yn gyfeiriad at y ddalen â’r rhif hwnnw a rwymwyd yn y planiau, y trychiadau a’r gweddluniau a adneuwyd;
ystyr “y terfynau adeiladu” (“the construction limits”) yw’r terfynau adeiladu a ddangosir ar y planiau a adneuwyd;
ystyr “terfynau’r gwyriad” (“limits of deviation”) yw terfynau’r gwyriad a ddangosir ar y planiau a adneuwyd;
ystyr “Trinity House” (“Trinity House”) yw Corporation of Trinity House of Deptford Strond.
(2) Mae pob arwynebedd, cyfeiriad, pellter, hyd, lled, uchder a chyfeirnod grid fel y’u nodir mewn unrhyw ddisgrifiad o weithfeydd, pwerau neu diroedd ac eithrio erthygl 4 (pŵer i wyro) i’w dehongli fel pe bai’r geiriau “neu oddeutu hynny” wedi eu mewnosod ar ôl pob arwynebedd, cyfeiriad, pellter, hyd, lled, uchder a chyfeirnod grid o’r fath ac mae unrhyw gyfeiriad mewn disgrifiad o weithfeydd at bwynt yn gyfeiriad at y pwynt hwnnw ar y planiau a adneuwyd.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at waith a nodir gan rif y gwaith hwnnw yn gyfeiriad at y gwaith sydd â’r rhif hwnnw ac a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, caiff y Cwmni yn y llinellau a’r safleoedd ac ar y tiroedd a amlinellir ar y planiau a adneuwyd ac o fewn terfynau’r gwyriad a ddangosir arnynt ac yn ôl y lefelau a ddangosir ar y trychiadau a adneuwyd, adeiladu a chynnal yn Ynys Môn y gweithfeydd a ganlyn, gyda’r holl weithfeydd a chyfleusterau angenrheidiol sy’n gysylltiedig â hwy—
(a)Gwaith Rhif 1 – Mur yn cynnwys wyneb cei 370 metr o hyd yn ffurfio angorfa i lestrau ac yn ymgorffori mur tonnau bargodol i’r gogledd o wyneb y cei, yn ymestyn i’r harbwr ac yn amgáu arwynebedd o’r harbwr sy’n 65,750 o fetrau sgwâr, gan ddechrau wrth bwynt SOP-A1 yn 225555, 382865 gan ymestyn o’r pwynt hwnnw mewn llinell syth hyd at bwynt SOP-A2 yn 225578, 382886 gan ymestyn o’r pwynt hwnnw mewn llinell syth hyd at bwynt SOP-A3 yn 225672, 383247 gan ymestyn o’r pwynt hwnnw mewn llinell syth hyd at bwynt SOP-A6 yn 225569, 383258 a chan derfynu yno, y dangosir ei leoliad ar ddalen 2 ac y dangosir ei drychiad ar ddalen 4;
(b)Gwaith Rhif 1A – Mur tonnau yn dechrau wrth bwynt SOP-A3 yn 225672, 383247 gan ymestyn o’r pwynt hwnnw mewn llinell syth hyd at bwynt SOP-A4 yn 225745, 383280 gan ymestyn o’r pwynt hwnnw mewn llinell syth hyd at bwynt SOP-A5 yn 225732, 383307 gan derfynu yno, y dangosir ei leoliad ar ddalen 2 ac y dangosir ei drychiad ar ddalen 4;
(c)Gwaith Rhif 2 – Darn o wal gynnal â meini amddiffynnol yn gyfagos i Weithfeydd Rhifau 1 ac 1A, ac i’r gogledd ohonynt, y dangosir ei safle ar ddalen 2 ac y dangosir ei thrychiad ar ddalen 4;
(d)Gwaith Rhif 3 – Mur yn cynnwys wyneb cei 280 metr o hyd yn ffurfio angorfa i lestrau, yn ymestyn i’r harbwr ac yn amgáu arwynebedd o’r harbwr sy’n 24,250 o fetrau sgwâr, gan ddechrau wrth bwynt SOP-B1 yn 224982, 382762 gan ymestyn o’r pwynt hwnnw mewn llinell syth hyd at bwynt SOP-B2 yn 225239, 382887 gan derfynu yno, y dangosir ei leoliad ar ddalen 3 ac y dangosir ei drychiad ar ddalen 5;
(e)Gwaith Rhif 4 – Adeilad warws unllawr y dangosir ei leoliad ar ddalen 2 ac y dangosir ei blan a’i weddlun ar ddalen 6;
(f)Gwaith Rhif 5 – Adeilad warws unllawr y dangosir ei leoliad ar ddalen 2 ac y dangosir ei blan a’i weddlun ar ddalen 7.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, caiff y Cwmni, at ddibenion y gweithfeydd a awdurdodir gan baragraff (1), ddymchwel a symud ymaith unrhyw adeileddau neu gyfarpar sy’n gorwedd o fewn terfynau’r gwyriad neu’r terfynau adeiladu ac amgáu ac adennill cymaint o wely’r harbwr a’r blaendraeth ag sy’n gorwedd o fewn terfynau’r gwyriad a chaiff ddal a defnyddio’r rhain yn rhan o ymgymeriad y Cwmni; a bernir bod cymaint o wely’r harbwr a’r blaendraeth ag a adenillir yn dir gweithredol o fewn ystyr “operational land” yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(6) ac at ddibenion y Ddeddf honno.
(3) Heb effeithio ar y pŵer cyffredinol a roddir o dan baragraff (2), caiff y Cwmni, mewn cysylltiad ag adeiladu’r gweithfeydd, ddymchwel a symud ymaith gymaint o’r adeileddau mordwyo presennol o fewn y terfynau adeiladu ag yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol neu’n hwylus.
(4) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, caiff y Cwmni, o fewn terfynau’r gwyriad, ailadeiladu, ymestyn, helaethu, amnewid neu ailosod y gweithfeydd a awdurdodir gan baragraff (1) a chaiff gynnal y rhain fel y maent wedi eu hailadeiladu, eu hymestyn, eu helaethu, eu hamnewid neu eu hailosod.
4. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, wrth gyflawni’r gweithfeydd a awdurdodir gan erthygl 3 (pŵer i adeiladu gweithfeydd) caiff y Cwmni wyro’n ochrol oddi wrth linellau neu safleoedd y gweithfeydd hynny fel y’u dangosir ar y planiau a adneuwyd i unrhyw raddau nad ydynt yn fwy na therfynau’r gwyriad a chaiff wyro’n fertigol oddi wrth lefelau’r gweithfeydd fel y’u dangosir ar y trychiadau a’r gweddluniau a adneuwyd i unrhyw raddau nad ydynt yn fwy na 1 metr tuag i fyny ac i unrhyw raddau tuag i lawr ag y ceir eu bod yn angenrheidiol neu’n gyfleus.
5.—(1) Caiff y Cwmni o bryd i’w gilydd o fewn terfynau’r gwyriad ddarparu a gweithredu unrhyw gyfleusterau harbwr, ynghyd â gweithfeydd sy’n atodol i’r cyfleusterau hynny, yn ôl yr hyn sy’n angenrheidiol neu’n gyfleus ar gyfer adeiladu’r gweithfeydd neu weithredu’r ymgymeriad, ac at y diben hwn caiff y Cwmni adeiladu a chynnal ffyrdd, adeiladau, siediau, swyddfeydd, gweithdai, depos, waliau, sylfeini, ffensys, gatiau, tanciau, pympiau, cwndidau, pibellau, draeniau, gwifrau, prif bibellau, ceblau, is-orsafoedd trydan, signalau, cludwyr, craeniau, lifftiau, teclynnau codi, colofnau goleuadau, pontydd pwyso, grisiau, ysgolion, llwyfannau, platfformau, ffenderydd, dolffinod, pyst angori, pontynau, brigdrawstiau, offer, arwyddion, peiriannau a chyfarpar ac unrhyw weithfeydd a chyfleusterau eraill (gan gynnwys gwastatáu arwynebau) ag a all fod yn angenrheidiol neu’n hwylus.
(2) Heb effeithio ar y pŵer cyffredinol a roddir o dan baragraff (1), caiff y Cwmni o fewn terfynau’r gwyriad a’r terfynau adeiladu gyflawni a chynnal unrhyw weithfeydd eraill a all fod yn angenrheidiol neu’n gyfleus er mwyn adeiladu, cynnal neu ddefnyddio’r gweithfeydd, neu mewn cysylltiad â hynny neu o ganlyniad i hynny, gan gynnwys—
(a)gweithfeydd i gau’r cwlfert presennol o dan y ffordd wasanaethu,
(b)gweithfeydd i gymryd llestrau neu i hybu hwylustod llestrau neu i lwytho a dadlwytho nwyddau ac i deithwyr ymuno ac ymadael â hwy, ac
(c)gweithfeydd i newid safle cyfarpar, gan gynnwys prif bibellau, carthffosydd, draeniau, pibellau, cwndidau, ceblau, is-orsafoedd trydan, llinellau trydan a chyfarpar telathrebu.
6.—(1) Heb effeithio ar unrhyw bwerau eraill a all fod yn arferadwy gan y Cwmni o fewn yr harbwr, caiff y Cwmni, at ddibenion adeiladu a chynnal y gweithfeydd a rhoi mynediad i’r gweithfeydd i lestrau, o bryd i’w gilydd ddyfnhau, carthu, sgwrio, ffrwydro creigiau, glanhau, newid a gwella gwely, glannau a sianeli’r môr sy’n gorwedd o fewn terfynau’r harbwr a chaiff ddefnyddio, sicrhau neu waredu’r deunyddiau (ac eithrio llongddrylliad o fewn ystyr “wreck” yn adran 255 (dehongli) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(7)), a fydd o bryd i’w gilydd yn cael eu carthu gan y Cwmni.
(2) Ni chaniateir gosod neu ddyddodi deunyddiau o’r fath mewn unrhyw fan islaw lefel y penllanw ac eithrio mewn unrhyw safle ac o dan unrhyw amodau a chyfyngiadau a gymeradwyir neu a ragnodir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
7. Mae unrhyw berson sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu o dan awdurdod y Cwmni wrth osod llinellau’r gweithfeydd neu wrth adeiladu’r gweithfeydd, neu
(b)heb esgus rhesymol yn ymyrryd ag unrhyw bolyn, ystanc, pwynt safle neu feincnod a osodir at ddibenion y gwaith gosod hwnnw, yn symud neu’n tynnu’r rhain,
yn cyflawni trosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol ac yn agored hefyd i ad-dalu i’r Cwmni fel dyled unrhyw dreuliau y mae’r Cwmni yn mynd iddynt wrth gywiro unrhyw ddifrod sy’n deillio o’r rhwystro hwnnw, y symud hwnnw neu’r tynnu hwnnw.
8. Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg os ydynt o’r farn ei bod yn hwylus orchymyn arolwg ac archwiliad o waith llanwol neu safle y bwriedir adeiladu’r gwaith arno ac mae unrhyw dreuliau y maent yn mynd iddynt mewn arolwg ac archwiliad o’r fath yn adenilladwy oddi wrth y Cwmni.
9.—(1) Os caiff gwaith llanwol neu unrhyw ran ohono ei ddifrodi neu ei ddinistrio, neu os bydd yn dirywio, rhaid i’r Cwmni hysbysu Trinity House cyn gynted ag y bo’n ymarferol a rhaid iddo osod unrhyw fwiau, dangos unrhyw oleuadau a chymryd unrhyw gamau eraill i atal perygl i fordwyaeth ag y bydd Trinity House yn eu cyfarwyddo o bryd i’w gilydd.
(2) Os bydd y Cwmni yn methu â chydymffurfio mewn unrhyw fodd â darpariaethau’r erthygl hon, bydd y Cwmni yn cyflawni trosedd ac yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na’r uchafswm statudol ac ar euogfarn ar dditiad i ddirwy.
10.—(1) Pan fo gwaith llanwol wedi ei adael, neu pan ganiatawyd iddo ddirywio, caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod y Cwmni, ar ei draul ei hunan, naill ai’n atgyweirio ac yn adfer y gwaith neu unrhyw ran ohono, neu’n symud ymaith y gwaith ac yn adfer y safle i’w gyflwr blaenorol, i unrhyw raddau ac o fewn unrhyw derfynau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn briodol.
(2) Pan fo gwaith a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn, ac a gyfansoddir yn rhannol o waith llanwol ac yn rhannol o weithfeydd ar dir sydd uwchlaw lefel y penllanw, neu dros dir o’r fath, wedi ei adael, neu pan ganiatawyd iddo ddirywio, a bod y rhan honno o’r gwaith sydd ar dir neu dros dir uwchlaw lefel y penllanw yn y fath gyflwr nes ei fod yn ymyrryd, neu’n peri pryder rhesymol y gallai ymyrryd, â hawl mordwyo neu hawliau cyhoeddus eraill ar y blaendraeth, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y rhan honno o’r gwaith, neu unrhyw gyfran ohoni, mewn unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl hon.
(3) Os bydd y Cwmni, ar ddiwedd cyfnod o 30 niwrnod o’r dyddiad y cyflwynir hysbysiad i’r Cwmni o dan yr erthygl hon, heb gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gyflawni’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad, ac mae unrhyw wariant y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddo drwy wneud hynny yn adenilladwy oddi wrth y Cwmni.
11.—(1) Drwy gydol cyfnod y gwaith dymchwel, adeiladu, adnewyddu, ailadeiladu neu addasu gwaith llanwol, rhaid i’r Cwmni, bob nos rhwng machlud haul a chodiad haul ym mhen allanol eithaf y gwaith, ddangos unrhyw oleuadau, os oes rhai, a chymryd unrhyw gamau eraill i atal perygl i fordwyaeth, a gyfarwyddir o bryd i’w gilydd gan Trinity House.
(2) Os bydd y Cwmni yn methu â chydymffurfio mewn unrhyw fodd â chyfarwyddyd a roddir o dan yr erthygl hon, bydd yn cyflawni trosedd ac yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na’r uchafswm statudol, ac ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.
12.—(1) Ar ôl cwblhau gwaith llanwol rhaid i’r Cwmni, bob nos rhwng machlud haul a chodiad haul ym mhen allanol eithaf y gwaith, ddangos unrhyw oleuadau, os oes rhai, a chymryd unrhyw gamau eraill i atal perygl i fordwyaeth, a gyfarwyddir o bryd i’w gilydd gan Trinity House.
(2) Os bydd y Cwmni yn methu â chydymffurfio mewn unrhyw fodd â chyfarwyddyd a roddir o dan yr erthygl hon, bydd yn cyflawni trosedd ac yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na’r uchafswm statudol, ac ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os nad yw’r gweithfeydd wedi eu cwblhau i raddau helaeth o fewn deng mlynedd ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym, neu unrhyw amser estynedig a ganiateir gan Weinidogion Cymru ar gais y Cwmni, yna pan fo’r cyfnod hwnnw neu unrhyw amser estynedig (yn ôl y digwydd) yn dod i ben, mae’r pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn i’r Cwmni i wneud a chynnal y gweithfeydd yn dod i ben ac eithrio o ran cymaint o’r gweithfeydd hynny ag a fydd wedi ei ddechrau i raddau helaeth y pryd hwnnw.
(2) Nid oes dim byd ym mharagraff (1) yn gymwys i unrhyw weithfeydd a gyflawnir o dan baragraff (4) o erthygl 3 (pŵer i adeiladu gweithfeydd) neu erthygl 5 (gweithfeydd atodol).
14. Bernir bod y gweithfeydd at bob diben yn rhan o’r harbwr ac mae pob un o’r deddfiadau sy’n ymwneud â’r harbwr, a’r is-ddeddfau, y cyfarwyddydau, y rheolau a’r rheoliadau o eiddo’r Cwmni sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â’r harbwr (i’r graddau y maent yn gymwys ac nad ydynt yn anghyson â’r Gorchymyn hwn neu wedi eu hamrywio ganddo) yn gymwys i’r gweithfeydd a chaiff y Cwmni eu gorfodi yn unol â hynny.
15. I’r graddau y maent y tu allan i ardal Cyngor Ynys Môn, mae’r gweithfeydd wedi’u hatodi i’r ardal honno a’u hymgorffori ynddi.
16.—(1) Caiff y Cwmni, ar ôl ymgynghori â’r Siambr Llongau a’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (ac eithrio mewn achosion brys) ym mhob achos lle’r arferir y pwerau, roi cyfarwyddydau er mwyn hybu neu sicrhau amodau sy’n ffafriol i rwyddineb, hwylustod neu ddiogelwch mordwyaeth yn yr harbwr a’r dynesfeydd ato a, heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr hyn a nodir uchod, at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—
(a)dynodi mannau, llwybrau neu sianeli yn yr harbwr a’r dynesfeydd at yr harbwr y mae’r llestrau i’w defnyddio, neu beidio â’u defnyddio, i symud neu i angori;
(b)sicrhau mai ar adegau penodol neu yn ystod cyfnodau penodol yn unig y bydd llestrau’n symud;
(c)ei gwneud yn ofynnol i feistr llestr roi gwybodaeth i’r harbwrfeistr sy’n ymwneud â’r llestr ac y mae’n rhesymol i’r harbwrfeistr ofyn amdani i adnabod y llestr, ei gargo a’r amser tebygol y bydd yn cyrraedd yr harbwr ac yn ymadael â’r harbwr.
(2) Caiff cyfarwyddydau a roddir o dan baragraff (1) fod yn gymwys—
(a)i bob llestr neu i ddosbarth o lestrau a ddynodir yn y cyfarwyddyd,
(b)i’r cyfan o’r harbwr a’r dynesfeydd a’r sianeli sy’n arwain at yr harbwr, neu i ran a ddynodir yn y cyfarwyddyd, ac
(c)bob amser neu ar amserau a ddynodir yn y cyfarwyddyd,
a rhaid i bob cyfarwyddyd a roddir o dan yr erthygl hon bennu i ba raddau y mae’n gymwys o ran y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a), (b) ac (c).
(3) Caiff y Cwmni, ar ôl ymgynghori â’r Siambr Llongau a’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol, ddirymu neu ddiwygio cyfarwyddydau a roddir o dan yr erthygl hon.
17.—(1) Rhaid i hysbysiad bod cyfarwyddyd cyffredinol wedi ei roi a bod unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol wedi ei ddiwygio neu wedi ei ddirymu, ac eithrio mewn argyfwng, gael ei gyhoeddi gan y Cwmni cyn gynted ag y bo’n ymarferol unwaith yn Lloyd’s List neu ryw bapur newydd arall sy’n arbenigo mewn newyddion am longau; ac, os yw’r hysbysiad yn ymwneud â rhoi neu ddiwygio cyfarwyddyd, rhaid i’r hysbysiad nodi man lle y gellir archwilio a phrynu copïau o’r cyfarwyddyd neu’r cyfarwyddyd diwygiedig (yn ôl y digwydd), a phris y cyfarwyddyd neu’r cyfarwyddyd diwygiedig (yn ôl y digwydd).
(2) Mewn argyfwng, caniateir i hysbysiad bod cyfarwyddyd cyffredinol wedi ei roi neu fod unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol wedi ei ddiwygio neu wedi ei ddirymu gael ei roi mewn unrhyw fodd y mae’r Cwmni yn ystyried ei fod yn briodol.
18.—(1) Caiff yr harbwrfeistr roi cyfarwyddyd o dan yr erthygl hon—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw lestr unrhyw le yn yr harbwr neu’r dynesfeydd at yr harbwr gydymffurfio â gofyniad a wneir mewn cyfarwyddyd cyffredinol neu odano,
(b)yn rheoleiddio’r amser a’r modd y mae unrhyw lestr i fynd i’r harbwr neu allan ohono, neu aros ynddo,
(c)i sicrhau mai ar adegau penodol neu yn ystod cyfnodau penodol yn unig y bydd llestr yn symud,
(d)yn gwahardd angori llestr mewn unrhyw ran benodol neu rannau penodol o’r harbwr,
(e)yn rheoleiddio gwaith i symud, angori neu ddadangori llestr, neu i wneud y gwaith hwnnw’n ofynnol,
(f)yn rheoleiddio’r modd y mae llestr yn derbyn neu’n gollwng (o’r llong i’r lan ynteu o’r lan i’r llong) deithwyr, cargo, tanwydd, dŵr, storfeydd llong neu falast yn yr harbwr, ac
(g)yn symud unrhyw lestr annefnyddiadwy ymaith o’r harbwr.
(2) Caniateir i gyfarwyddyd arbennig gael ei roi mewn unrhyw fodd y mae’r harbwrfeistr yn ystyried ei fod yn briodol.
(3) Caiff yr harbwrfeistr ddirymu cyfarwyddyd arbennig neu ei ddiwygio.
19. Nid yw rhoi cyfarwyddyd cyffredinol neu gyfarwyddyd arbennig yn lleihau cyfrifoldeb meistr y llestr y rhoddir y cyfarwyddyd iddo mewn perthynas â’r llestr hwnnw, y personau sydd ar ei fwrdd, ei gargo neu unrhyw berson neu eiddo arall, nac yn effeithio mewn unrhyw fodd arall ar y cyfrifoldeb hwnnw.
20. Bydd meistr llestr sy’n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â chyfarwyddyd cyffredinol neu gyfarwyddyd arbennig yn cyflawni trosedd ac yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
21.—(1) Heb ragfarnu unrhyw rwymedi arall sydd ar gael i’r Cwmni, os na chydymffurfir â chyfarwyddyd arbennig o fewn amser rhesymol, caiff yr harbwrfeistr, lle bo’n ymarferol, osod personau ar fwrdd y llestr i gyflawni’r cyfarwyddyd neu beri fel arall i’r llestr gael ei drin yn unol â’r cyfarwyddyd.
(2) Os nad oes neb ar fwrdd y llestr i gydymffurfio â chyfarwyddyd arbennig, caiff yr harbwrfeistr fynd rhagddo fel pe bai’r cyfarwyddyd wedi ei roi heb i neb gydymffurfio ag ef; ond rhaid i’r harbwrfeistr beidio â gwneud hynny oni bai ei bod yn amhosibl dod o hyd i feistr y llestr, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol.
(3) Mae treuliau yr eir iddynt wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon yn adenilladwy gan y Cwmni oddi wrth berchennog y llestr fel pe baent yn arwystl i’r Cwmni mewn cysylltiad â’r llestr.
22.—(1) Mewn achos ynglŷn â throsedd o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn a grybwyllir ym mharagraff (2) mae’n amddiffyniad i’r Cwmni brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni trosedd o’r fath.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)erthygl 9 (darpariaeth rhag perygl i fordwyaeth),
(b)erthygl 11 (goleuadau ar weithfeydd llanwol wrth adeiladu), ac
(c)erthygl 12 (goleuadau parhaol ar weithfeydd llanwol).
(3) Os yw’r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys yr honiad bod y drosedd wedi ei chyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, nid oes gan y Cwmni, heb ganiatâd y llys, yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw oni bai ei fod, o fewn cyfnod o 7 niwrnod clir cyn y gwrandawiad, wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth yn adnabod neu’n cynorthwyo i adnabod y person arall hwnnw a oedd ym meddiant y Cwmni y pryd hwnnw.
23. Nid oes dim byd yn y Gorchymyn hwn sy’n rhagfarnu nac yn rhanddirymu unrhyw un neu ragor o hawliau, dyletswyddau neu freintiau Trinity House.
24.—(1) Nid oes dim byd yn y Gorchymyn hwn yn lleihau effaith unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint, awdurdod neu esemptiad o eiddo’r Goron, ac yn benodol a heb ragfarnu’r cyffredinolrwydd hwnnw, nid oes dim byd yn y Gorchymyn hwn yn awdurdodi’r Cwmni i gymryd unrhyw dir neu unrhyw hawliau o ba ddisgrifiad bynnag, eu defnyddio, mynd i mewn arnynt, neu ymyrryd mewn unrhyw fodd â hwy, (gan gynnwys unrhyw gyfran o lannau neu wely’r môr neu lannau neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd)—
(a)sy’n eiddo i’w Fawrhydi drwy hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystad y Goron heb gydsyniad ysgrifenedig Comisiynwyr Ystad y Goron,
(b)sy’n eiddo i’w Fawrhydi drwy hawl y Goron ac nad yw’n ffurfio rhan o Ystad y Goron heb gydsyniad ysgrifenedig yr adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir hwnnw, neu
(c)sy’n eiddo i adran o’r llywodraeth, neu a ddelir o dan ymddiriedolaeth i’w Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, heb gydsyniad ysgrifenedig yr adran honno o’r llywodraeth.
(2) Caniateir i gydsyniad o dan baragraff (1) gael ei roi yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i delerau ac amodau; a bernir ei fod wedi ei roi mewn ysgrifen pan anfonir ef yn electronig.
25. Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 1959 i’w darllen fel pe bai—
(a)yn adran 4 (ymgorffori Deddfau cyffredinol), paragraff (c), “52” wedi ei fewnosod ar ôl “50”, a
(b)yn adran 30 (cymhwyso Deddf 1847), is-adran (2)(e) wedi ei hepgor.
26.—(1) Cyn cychwyn ar y gweithfeydd a awdurdodir gan erthygl 3(1), rhaid i gynllun rheoli treftadaeth gael ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ganddo. Rhaid i’r cynllun rheoli treftadaeth gynnwys manylion ynghylch y canlynol—
(a)mesurau i’w cymryd er mwyn cofnodi lleoliad presennol Pier Admiralty (LB14757) a Goleudy Pier Admiralty (LB14758),
(b)dyluniadau ar gyfer newid dulliau amgáu parhaol presennol er mwyn adeiladu’r gweithfeydd yn unol ag erthygl 3(1) at ddiben gwella golygfeydd o Ardal Cadwraeth Traeth Caergybi i asedau treftadaeth yn yr harbwr, ac
(c)mesurau i reoli storio cynwysyddion yn yr harbwr dros dro yn ystod cyfnod adeiladu’r gweithfeydd a awdurdodir gan erthygl 3(1) at ddiben lliniaru unrhyw effeithiau dros dro i olygfeydd presennol o asedau treftadaeth ar Ynys Halen.
(2) Rhaid i’r Cwmni weithredu manylion y cynllun rheoli treftadaeth yn unol â’r manylion a gymeradwyir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff (1).
(3) Heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl cwblhau’r gweithfeydd a awdurdodir gan erthygl 3(1), rhaid i gynllun gwybodaeth treftadaeth gael ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ganddo. Rhaid i’r cynllun gwybodaeth treftadaeth gynnwys manylion ynghylch y canlynol—
(a)mesurau i’w cymryd er mwyn darparu byrddau dehongli treftadaeth sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar gyfer Pier Admiralty (LB14757) a Goleudy Pier Admiralty (LB14758),
(b)mesurau i’w cymryd er mwyn gwella hygyrchedd y cyhoedd i asedau treftadaeth sydd yn yr harbwr, ac
(c)gweithredu amserlen ar gyfer y mesurau a nodir ym mharagraffau 3(a) a (b).
(4) Rhaid i’r Cwmni weithredu manylion y cynllun gwybodaeth treftadaeth yn unol â’r manylion a gymeradwyir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff (3).
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Awst 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi Stena Line Ports Limited (“y Cwmni”) i adeiladu a chynnal gweithfeydd yn harbwr Caergybi yn Sir Ynys Môn.
Y prif weithfeydd yw adennill tir er mwyn darparu angorfeydd newydd i lestrau a mannau perthynol ar ochr y tir at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r porthladd.
Mae’r Gorchymyn hefyd yn rhoi pwerau i’r Cwmni i roi cyfarwyddydau cyffredinol ac arbennig i lestrau yn harbwr Caergybi.
Nid oes asesiad llawn wedi ei lunio ynglŷn â’r offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar fusnes nac ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.
1964 p. 40; diwygiwyd adran 14 gan adran 18 o Ddeddf Trafnidiaeth 1981 (p. 56) a pharagraffau 2 i 4(1) a 14 o Atodlen 6 iddi, ac adran 40 ac Atodlen 12 (Rhan II) iddi, gan adran 63(1) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi, gan reoliad 2 o O.S. 2006/1177 a’r Atodlen (Rhan 1) iddo, gan adran 36 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a pharagraffau 8 a 9 o Atodlen 2 iddi, gan erthygl 2 o O.S. 2009/1941 a pharagraff 12 o Atodlen 1 iddo; a chan adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48). Diwygiwyd adran 54 (gorchmynion a rheoliadau) gan adrannau 18 a 40 o Ddeddf Trafnidiaeth 1981 (p. 56) ac Atodlenni 6 a 12 (Rhan II) iddi a chan adran 315 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), a pharagraffau 1 a 3(2) o Atodlen 21 iddi. Ar gyfer y diffiniad o “appropriate Minister” gweler adran 14(7).
Diwygiwyd Atodlen 2 yn berthnasol gan baragraff 9 o Atodlen 3 i Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42); adrannau 36(4) a 50(1) o Ddeddf Dociau a Harbyrau 1966 (p. 28); adrannau 141(6), 189(4) i (10), 190, a 193(1) o Ddeddf Dŵr 1989 (p. 15), paragraff 31(1) o Atodlen 25 iddi, a pharagraffau 3(1) a (2), 17, 40(4), 57(6) a 58 o Atodlen 26 iddi; a rheoliad 2 o O.S. 2006/1177 a’r Atodlen (Rhan 1) iddo.
Adran 29(1) a (2)(b)(ii) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4), yn ddarostyngedig i baragraff 1(1) o Atodlen 1 i O.S. 2018/278
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: