Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Cais am gau rhestr o gleifion

38.—(1Pan fo contractwr yn awyddus i gau ei restr o gleifion, rhaid i’r contractwr anfon cais ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw (“y cais”) i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid i’r cais gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)y cyfnod o amser, sy’n gyfnod nad yw’n llai na 12 o wythnosau ac nad yw’n hwy nag 1 flwyddyn, pan fo’r contractwr yn cynnig y dylai ei restr o gleifion gael ei chau,

(b)y nifer cyfredol o gleifion cofrestredig sydd gan y contractwr,

(c)nifer y cleifion cofrestredig (llai na’r nifer cyfredol o gleifion o’r fath, ac wedi ei fynegi naill ai mewn termau absoliwt neu fel canran o nifer y cleifion o’r fath a bennir yn unol â pharagraff (b)) a fyddai, pe câi’r nifer hwnnw ei gyrraedd, yn sbarduno ailagor rhestr cleifion y contractwr,

(d)nifer y cleifion cofrestredig (wedi ei fynegi naill ai mewn termau absoliwt neu fel canran o nifer y cleifion o’r fath a bennir yn unol â pharagraff (b)) a fyddai, pe câi’r nifer hwnnw ei gyrraedd, yn sbarduno ail-gau rhestr cleifion y contractwr,

(e)unrhyw dynnu’n ôl neu leihau darpariaeth unrhyw wasanaethau ategol a oedd wedi eu darparu yn flaenorol o dan y contract, ac

(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r contractwr o’r farn y dylid ei dwyn i sylw’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gydnabod bod y cais wedi dod i law cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y cais i law’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(4Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y cais a chaiff ofyn am unrhyw wybodaeth gan y contractwr sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn ei alluogi i benderfynu ar y cais.

(5Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddechrau trafodaethau gyda’r contractwr ynghylch y canlynol—

(a)y cymorth y gallai’r Bwrdd Iechyd Lleol ei roi i’r contractwr, neu

(b)unrhyw newidiadau y gallai’r Bwrdd Iechyd Lleol neu’r contractwr eu gwneud,

a fyddai’n fodd i’r contractwr gadw ei restr o gleifion yn agored.

(6Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr, drwy gydol cyfnod y trafodaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), wneud ymdrech resymol i gyflawni’r nod o gadw rhestr y contractwr o gleifion yn agored.

(7Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r contractwr, ar unrhyw adeg yn ystod y trafodaethau, wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal lle y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract i fynd i unrhyw gyfarfodydd a drefnir rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr i drafod y cais.

(8Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i’r Bwrdd Iechyd Lleol y gallai cau rhestr y contractwr o gleifion effeithio arnynt, ac os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud hyn, rhaid iddo ddarparu i’r contractwr grynodeb o’r farn a fynegir gan y personau hynny yr ymgynghorir â hwy ynghylch y cais.

(9Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol alluogi’r contractwr i ystyried yr holl wybodaeth a gwneud sylwadau arni cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad mewn cysylltiad â’r cais.

(10Caiff contractwr dynnu’r cais yn ôl unrhyw bryd cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad mewn cysylltiad â’r cais hwnnw.

(11Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y cais i law’r Bwrdd Iechyd Lleol (neu o fewn unrhyw gyfnod hirach y gallai’r partïon gytuno arno), wneud penderfyniad—

(a)i gymeradwyo’r cais a phenderfynu ar y dyddiad y bydd y penderfyniad i gau rhestr y contractwr yn cael effaith, neu

(b)i wrthod y cais.

(12Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr o’i benderfyniad—

(a)i gymeradwyo’r cais yn unol â pharagraff 39, neu

(b)i wrthod y cais yn unol â pharagraff 40.

(13Ni chaiff contractwr gyflwyno mwy nag un cais am gau ei restr o gleifion mewn unrhyw gyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud ei benderfyniad ar y cais oni bai—

(a)bod paragraff 40(3) yn gymwys, neu

(b)bod newid wedi bod yn amgylchiadau’r contractwr sy’n effeithio ar ei allu i ddarparu gwasanaethau o dan y contract.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill