- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
47.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i werth rhwymedïol.
(2) Yn y Bennod hon, ystyr “gwerth rhwymedïol” yw’r canlynol a dderbynnir gan y rheolwr cynllun mewn cysylltiad ag aelod (“A”)—
(a)gwerth trosglwyddo rhwymedïol, ynghyd ag unrhyw daliad a dderbyniwyd o dan reoliad 37(3);
(b)gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol, ynghyd ag unrhyw daliad a dderbyniwyd o dan reoliad 42(2).
48.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan dderbyniwyd gwerth rhwymedïol i mewn i gynllun 2015 gan y rheolwr cynllun mewn cysylltiad ag A yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A, a
(b)pan fo’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, yn rhinwedd gweithredu’r Rheoliadau hyn neu DPGCSB 2022, yn fuddion cynllun gwaddol.
(2) O ran y gwerth rhwymedïol—
(a)nis derbynnir, ac fe’i trinnir fel pe na bai erioed wedi ei dderbyn, i mewn i gynllun 2015, a
(b)fe’i trinnir fel pe bai wedi ei dderbyn, ac fel pe bai bob amser wedi ei dderbyn, yng nghynllun gwaddol A.
(3) Mae paragraff (1) yn cael effaith—
(a)at ddibenion penderfynu pa gynllun pensiwn diffoddwyr tân y mae (neu yr oedd ar unrhyw adeg) yn ofynnol iddo dalu buddion i hawliau rhwymedïol trosglwyddedig A neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b)yn ddarostyngedig i reoliad 49, at bob diben arall.
49.—(1) Mae paragraffau (2) a (4) yn gymwys pan drinnir gwerth rhwymedïol fel pe bai wedi ei dderbyn i mewn i gynllun gwaddol A yn rhinwedd rheoliad 48.
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun roi hawliau i fuddion o dan y cynllun gwaddol mewn perthynas â’r gwerth rhwymedïol sy’n cyfateb i—
(a)pan fyddai cynllun gwaddol A wedi caniatáu trosglwyddo i mewn y gwerth rhwymedïol cyfan pe bai’r trosglwyddiad wedi digwydd yn union cyn 1 Ebrill 2022, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gwerth rhwymedïol wedi ei drosglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol;
(b)fel arall—
(i)pan fo gan A wasanaeth cynllun 2015 perthnasol (o fewn ystyr rheoliad 34(2)(b)(i)), yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran honno o’r gwerth rhwymedïol y byddai’r cynllun gwaddol wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol, ynghyd â’r hawliau i fuddion cynllun 2015 pe bai’r gyfran sy’n weddill o’r gwerth rhwymedïol wedi ei throsglwyddo i mewn i gynllun 2015 yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol;
(ii)pan nad oes gan A wasanaeth cynllun 2015 perthnasol, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran honno o’r gwerth rhwymedïol y byddai’r cynllun gwaddol wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol ynddi.
(3) Pan fo paragraff (2)(b)(ii) yn gymwys, mae swm fel digollediad yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i A neu, pan fo A yn ymadawedig, i gynrychiolwyr personol A, sy’n hafal i werth yr hawliau i fuddion cynllun 2015 a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran o’r gwerth rhwymedïol na fyddai cynllun gwaddol A wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i gynllun 2015.
(4) Mae’r hawliau i fuddion a fyddai fel arall wedi eu sicrhau gan y gwerth rhwymedïol wedi eu diddymu.
(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan—
(a)bo’r buddion sy’n daladwy i wasanaeth rhwymedïol A neu mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw yn fuddion cynllun 2015 yn rhinwedd dewisiad adran 6 neu ddewisiad adran 10 (gan gynnwys, yn y naill achos a’r llall, ddewisiad tybiedig), a
(b)byddai’r hawliau i fuddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwerth rhwymedïol A fel arall yn fuddion cynllun gwaddol.
(6) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun pan fo’r gwerth rhwymedïol yn werth trosglwyddiad rhwymedïol, amrywio gwerth yr hawliau hynny fel eu bod yn gyfwerth â hawliau y byddai A wedi eu sicrhau o dan gynllun 2015 pe bai’r gwerth rhwymedïol wedi ei drosglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol.
(7) Yn y rheoliad hwn, mae i “blwyddyn bensiwn berthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant pension year” gan gyfarwyddyd 5(16)(c)(i) o Gyfarwyddydau PGC 2022.
50.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fuddion (“y buddion a dalwyd”) y mae cynllun 2015 wedi eu talu ar unrhyw adeg i berson (“P”) i’r graddau—
(a)y’u cyfrifir drwy gyfeirio at werth rhwymedïol, a
(b)y bônt yn fuddion nad oedd gan P, o ganlyniad i reoliad 48(2)(a), hawlogaeth i’w cael gan y cynllun.
(2) Mae’r buddion a dalwyd i’w trin at bob diben—
(a)fel pe na baent wedi eu talu i P gan gynllun 2015, ond
(b)fel pe baent wedi eu talu i P yn hytrach gan y cynllun gwaddol.
51.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fuddion sydd wedi eu talu mewn perthynas â gwerth rhwymedïol a dderbyniwyd mewn perthynas ag aelod dewis ar unwaith.
(2) Pan fo, ar yr adeg weithredol—
(a)cyfanred y buddion sydd (ar ôl ystyried effaith rheoliad 50, os oes effaith iddo) wedi eu talu o dan y cynllun gwaddol i unrhyw berson (“y buddiolwr”) mewn cysylltiad â hawliau rhwymedïol A a drosglwyddwyd i mewn, yn fwy na
(b)chyfanred y buddion y mae gan y buddiolwr (ar ôl ystyried effaith rheoliad 48, os oes effaith iddo, mewn perthynas â’r hawliau) hawlogaeth iddynt o dan y cynllun mewn cysylltiad â’r hawliau,
rhaid i’r buddiolwr dalu i’r cynllun swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth.
(3) Pan fo, ar yr adeg weithredol—
(a)y swm a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) yn llai na
(b)y swm a grybwyllir ym mharagraff (2)(b),
rhaid i’r rheolwr cynllun dalu swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth i’r buddiolwr.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr adeg weithredol” yw—
(a)os gwneir penderfyniad dewis ar unwaith mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, yr adeg y gwneir y penderfyniad;
(b)fel arall, diwedd y cyfnod dewisiad adran 6 mewn perthynas ag A.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys