- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
59.—(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun gyfrifo llog ar swm perthnasol a ddisgrifir yng nghyfarwyddyd 15 o Gyfarwyddydau PGC 2022 yn unol â darpariaethau cyfarwyddydau 14 a 15 sy’n gymwys i’r disgrifiad hwnnw o swm perthnasol.
(2) Mewn perthynas â swm perthnasol nas disgrifir yng nghyfarwyddyd 15 o Gyfarwyddydau PGC 2022, rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu a delir llog ac, os felly, pa gyfradd llog sy’n gymwys a sut y’i cyfrifir.
(3) Mae’r darpariaethau a ganlyn o Gyfarwyddydau PGC 2022 yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (2) fel pe bai’n benderfyniad o dan gyfarwyddyd 16(1) o’r Cyfarwyddydau hynny—
(a)cyfarwyddyd 16(2) (darparu eglurhad);
(b)cyfarwyddyd 16(3) a (4) (apelau).
60.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r rheolwr cynllun, yn unol â chais o dan reoliad 61, yn penderfynu bod aelod dewis ar unwaith (“A”) wedi mynd i golled y gellir digolledu amdani(1) sy’n golled treth Rhan 4(2) (“colled berthnasol”).
(2) Ni chaniateir talu swm o dan adran 23 o DPGCSB 2022 i A fel digollediad mewn cysylltiad â’r golled berthnasol.
(3) Yn hytrach, mae swm y budd sy’n daladwy o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân i’w gynyddu i adlewyrchu swm y golled berthnasol yn y modd a benderfynir gan y rheolwr cynllun yn unol â chyfarwyddyd 10(2) i (4) o Gyfarwyddydau PGC 2022.
61.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)talu swm perthnasol fel digollediad o dan adran 23(1) o DPGCSB 2022;
(b)cynyddu buddion fel digollediad anuniongyrchol o dan reoliad 60.
(2) Nid yw’r swm perthnasol yn daladwy, neu (yn ôl y digwydd) nid yw’r buddion i’w cynyddu, ac eithrio—
(a)pan wneir cais yn unol â chyfarwyddyd 18(1) a (2) o Gyfarwyddydau PGC 2022;
(b)pan fo, yn dod gyda’r cais, unrhyw wybodaeth y mae’r rheolwr cynllun drwy hysbysiad ysgrifenedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y cais (“P”) ei darparu mewn perthynas â’r digollediad arfaethedig sydd—
(i)yn wybodaeth sydd ym meddiant P, neu
(ii)yn wybodaeth y gellir disgwyl yn rhesymol i P gael gafael arni, ac
(c)pan fo’r rheolwr cynllun yn gwneud canfyddiad yn unol â chyfarwyddyd 18(3) o’r Cyfarwyddydau hynny.
(3) Mae’r canlynol yn gymwys mewn perthynas â chanfyddiad o dan gyfarwyddyd 18(3) o Gyfarwyddydau PGC 2022—
(a)cyfarwyddyd 18(4) (darparu eglurhad);
(b)cyfarwyddyd 18(5) a (6) (apelau).
62.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a)symiau perthnasol sy’n ddyledus gan berson neu i berson (“P”) i’w talu ar yr un pryd neu ar adegau tebyg, a
(b)y rheolwr cynllun—
(i)wedi canfod y llog (os oes llog) sydd i’w dalu ar y symiau perthnasol yn unol â rheoliad 59, a
(ii)wedi lleihau’r symiau perthnasol yn ôl symiau rhyddhad treth yn unol â rheoliad 63.
(2) Caiff y rheolwr cynllun benderfynu, yn unol â chyfarwyddyd 19(2) i (5) o Gyfarwyddydau PGC 2022, fod rhaid cyfuno’r symiau perthnasol (ac unrhyw log arnynt) a bod rhaid i P dalu’r gwahaniaeth i’r cynllun neu (yn ôl y digwydd) fod rhaid i’r cynllun dalu’r gwahaniaeth i P.
(3) Mae’r darpariaethau a ganlyn o Gyfarwyddydau PGC 2022 yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniad o dan baragraff (2) fel pe bai’n benderfyniad o dan gyfarwyddyd 19(1) o’r Cyfarwyddydau hynny—
(a)cyfarwyddyd 19(6) (darparu eglurhad);
(b)cyfarwyddyd 19(7) ac (8) (apelau).
Gweler adran 23 o DPGCSB 2022 a chyfarwyddyd 11 o Gyfarwyddydau PGC 2022 am ystyr “compensatable loss”.
Gweler adran 23(9) o DPGCSB 2022 am ystyr “Part 4 tax loss”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys