Gofyniad i ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol
4.—(1) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol mewn cysylltiad ag aelod rhwymedi (“A”) yn unol ag—
(a)adran 29 o DPGCSB 2022,
(b)unrhyw gyfarwyddydau gan y Trysorlys a wneir o dan adran 29(6) o’r Ddeddf honno, ac
(c)y rheoliad hwn.
(2) Rhaid darparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol o ran A—
(a)ar y dyddiad perthnasol() neu cyn hynny,
(b)pan fo A, mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol, am y tro—
(i)yn aelod actif(), o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn sy’n dod i ben â phen-blwydd y dyddiad perthnasol,
(ii)yn aelod gohiriedig(), mewn ymateb i gais gan y person a grybwyllir ym mharagraff (3)(), neu
(iii)yn aelod-bensiynwr, unwaith yn unig, ac
(c)pan fo A yn aelod dewis gohiriedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad—
(i)o dan reoliad 15(2) fod A yn bwriadu hawlio buddion mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu
(ii)bod A wedi marw.
(3) Rhaid darparu’r datganiad o wasanaeth rhwymedïol—
(a)i A, neu
(b)pan fo A wedi marw—
(i)i’r person sydd am y tro yn benderfynwr cymwys mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A o dan yr Atodlen, a
(ii)o fewn 18 mis i’r rheolwr cynllun gael hysbysiad fod A wedi marw.
(4) Rhaid i’r datganiad o wasanaeth rhwymedïol gynnwys—
(a)pan fo A yn aelod dewis ar unwaith, wybodaeth ynghylch—
(i)natur ddi-alw’n-ôl penderfyniad dewis ar unwaith, a
(ii)y buddion a fydd yn daladwy os na wneir penderfyniad dewis ar unwaith cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 6;
(b)pan fo A yn aelod dewis gohiriedig, wybodaeth ynghylch—
(i)natur ddi-alw’n-ôl (neu fel arall) penderfyniad dewis gohiriedig, a
(ii)y buddion a fydd yn daladwy os na wneir penderfyniad dewis gohiriedig cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 10;
(c)pan fo A yn ymadawedig, pwy yw’r person neu’r personau, neu ddisgrifiad o bwy yw’r person neu’r personau, a gaiff wneud penderfyniad dewis ar unwaith neu benderfyniad dewis gohiriedig mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
(5) Am ddarpariaeth bellach ynghylch—
(a)yr hyn y mae rhaid i ddatganiad o wasanaeth rhwymedïol ei gynnwys, gweler—
(i)adran 29(5) o DPGCSB 2022;
(ii)cyfarwyddyd 20(1) o Gyfarwyddydau PGC 2022;
(b)pryd y mae rhaid cyfuno datganiad o wasanaeth rhwymedïol â datganiad o wybodaeth am fuddion a ddarperir o dan adran 14 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, gweler cyfarwyddyd 20(2) o Gyfarwyddydau PGC 2022.