
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Chapter
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Gofyniad i leihau atebolrwyddau yn ôl symiau rhyddhad treth
63.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a)atebolrwydd yn ddyledus gan berson i dalu cyfraniadau pensiwn mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod rhwymedi, neu
(b)atebolrwydd yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i dalu digollediad mewn perthynas â gwasanaeth o’r fath,
o dan adran 15, 16 neu 17 o DPGCSB 2022.
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun leihau’r atebolrwydd yn ôl symiau rhyddhad treth()—
(a)a ganfyddir yn unol â chyfarwyddyd 4(5) i (9) o Gyfarwyddydau PGC 2022, a
(b)cyn i’r atebolrwydd gael ei netio yn unol â rheoliad 62.
(3) Pan fo’r rheolwr cynllun yn gwneud canfyddiad o dan gyfarwyddyd 4(8) o Gyfarwyddydau PGC 2022 yn unol â pharagraff (2)(a) o’r rheoliad hwn, mae’r canlynol yn gymwys mewn perthynas â’r canfyddiad hwnnw—
(a)cyfarwyddyd 4(10) (darparu eglurhad);
(b)cyfarwyddyd 4(11) a (12) (apelau).
Yn ôl i’r brig