
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Mwy nag un buddiolwr: gofynion ychwanegol
6.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan baragraffau 4(3)(a) a 5(b), y penderfynwr cymwys i’w gytuno naill ai gan fwy nag un goroeswr sy’n oedolyn cymwys, neu, yn ôl y digwydd, fwy nag un rhiant neu warcheidwad goroeswyr sy’n blant cymwys (“y penderfynwyr a all fod yn gymwys”).
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun—
(a)ceisio cael gwybod pwy yw’r holl benderfynwyr a all fod yn gymwys hynny a’u hysbysu bod angen iddynt gytuno pwy yw’r penderfynwr cymwys mewn cysylltiad â’r ymadawedig yn unol â’r paragraff hwn, a
(b)darparu hysbysiad mewn cysylltiad â’r ymadawedig i bob penderfynwr a all fod yn gymwys, sy’n nodi—
(i)yr wybodaeth y byddai’n ofynnol ei darparu o dan reoliad 4, pe bai’r hysbysiad yn ddatganiad gwasanaeth rhwymedïol, a
(ii)eglurhad o’r broses a nodir yn is-baragraff (3).
(3) Rhaid i’r penderfynwyr a all fod yn gymwys—
(a)cytuno’n unfrydol ar y penderfynwr cymwys (“y penderfynwr cymwys y cytunwyd arno”), a
(b)rhoi gwybod gyda’i gilydd i’r rheolwr cynllun pwy yw’r penderfynwr cymwys y cytunwyd arno, yn ysgrifenedig, o fewn 6 mis i gael yr hysbysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b).
(4) Os nad yw’r rheolwr cynllun yn cael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (3)(b) uchod, y penderfynwr cymwys fydd y rheolwr cynllun yn union ar ôl i’r dyddiad ar gyfer hysbysiad yn yr is-baragraff hwnnw ddod i ben.
Yn ôl i’r brig