- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot (Estyn Terfynau) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Chwefror 2024.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “yr ardal ychwanegol” (“the added area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn Atodlen 1 ac a ddangosir at ddiben adnabod yn unig ar y cynllun a nodir yn Atodlen 2;
ystyr “awdurdod yr harbwr” (“the harbour authority”) yw Associated British Ports yn rhinwedd bod yn awdurdod harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot;
ystyr “Deddf 1847” (“the 1847 Act”) yw Deddf Cymalau Harbyrau, Dociau, a Phierau 1847(1);
ystyr “Deddf 1899” (“the 1899 Act”) yw Deddf Rheilffordd a Dociau Port Talbot 1899(2);
ystyr “Deddf 1964” (“the 1964 Act”) yw Deddf Dociau Trafnidiaeth Prydain 1964(3);
ystyr “Deddf 1971” (“the 1971 Act”) yw Deddf Dociau Trafnidiaeth Prydain 1971(4);
ystyr “Harbwr Port Talbot” (“Port Talbot Harbour”) yw’r dociau a’r harbwr sy’n cynnwys ymgymeriad Associated British Ports ym Mhort Talbot;
ystyr “is-ddeddfau presennol yr harbwr” (“the existing harbour byelaws”) yw is-ddeddfau Harbwr Port Talbot dyddiedig 1 Mawrth 1923, fel y’u hategir gan yr is-ddeddfau dyddiedig 29 Ebrill 1927.
3.—(1) Mae terfynau Harbwr Port Talbot fel y’u diffinnir yn adran 23 (Terfynau presennol yr harbwr) o Ddeddf 1899 ac fel y’u hestynnir gan adran 19 (Estyn awdurdodaeth y docfeistr a’r harbwrfeistr, a therfynau’r harbwr) o Ddeddf 1971 yn cael eu hestyn ymhellach i gynnwys yr ardal ychwanegol.
(2) Yn ddarostyngedig i erthygl 4, bydd yr holl ddeddfiadau sy’n rhoi hawliau a phwerau i awdurdod yr harbwr neu ei harbwrfeistr, neu sy’n gosod dyletswyddau, rhwymedigaethau neu atebolrwyddau ar awdurdod yr harbwr neu ei harbwrfeistr, a gafodd effaith yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym o fewn yr harbwr, i gael effaith yn yr ardal ychwanegol.
4.—(1) Mae Deddf 1847 yn cael effaith yn yr ardal ychwanegol fel y’i hymgorfforir â Deddf 1964 mewn perthynas â gweithfeydd Port Talbot a awdurdodir gan y Ddeddf honno.
(2) Ni fydd is-ddeddfau presennol yr harbwr yn gymwys i’r ardal ychwanegol.
(3) Ni ellir codi tollau llongau, nwyddau na theithwyr o fewn ystyr Deddf Harbyrau 1964 ar unrhyw long nac ar nwyddau a gludir ar y llong honno dim ond am fod y llong yn pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol ar fordaith i le, ac o le, y tu allan i Harbwr Port Talbot.
(4) Ni chaniateir codi taliadau llywio o dan adran 10 (taliadau llywio) o Ddeddf Llywio 1987(5) ar unrhyw lestr sy’n pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol sy’n teithio i ardal awdurdod harbwr cymwys arall neu oddi yno, ac sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd llywio gorfodol a wneir gan yr awdurdod hwnnw.
(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “awdurdod harbwr cymwys” yw awdurdod harbwr cymwys at ddibenion Deddf Llywio 1987, ac ystyr “cyfarwyddyd llywio gorfodol” yw cyfarwyddyd a wneir o dan adran 7 (cyfarwyddydau llywio) o’r Ddeddf honno.
5.—(1) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn—
(a)yn lleihau effaith unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint, awdurdod neu esemptiad o eiddo’r Goron;
(b)yn awdurdodi Associated British Ports nac unrhyw un o drwyddedeion Associated British Ports i gymryd unrhyw dir neu unrhyw fuddiannau mewn tir neu unrhyw hawliau o ba ddisgrifiad bynnag, eu defnyddio, mynd arnynt, neu ymyrryd mewn unrhyw fodd â hwy (gan gynnwys unrhyw ran o lannau neu wely’r môr neu lannau neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd) sy’n eiddo i—
(i)Ei Fawrhydi drwy hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystad y Goron heb gydsyniad ysgrifenedig Comisiynwyr Ystad y Goron, neu
(ii)adran o’r llywodraeth, neu a ddelir o dan ymddiriedolaeth i’w Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, heb gydsyniad ysgrifenedig yr adran honno o’r llywodraeth.
(2) Caniateir i gydsyniad o dan baragraff (1)(b) gael ei roi yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i’r amodau hynny neu’r telerau hynny yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol neu’n briodol.
Lee Waters
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Chwefror 2024
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys