Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: penaethiaid ac uwch-arweinwyr mewn addysg bellach

3.  Ni chaiff person ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai bod y person wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yng nghategori pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach.