Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024

Y gofynion er mwyn gweithio fel ymarferydd dysgu oedolion

4.—(1Ni chaiff person weithio fel ymarferydd dysgu oedolion ar gyfer nac ar ran unrhyw ddarparwr dysgu oedolion cymunedol oni bai—

(a)bod yr amodau ym mharagraffau (2) a (3) wedi eu bodloni, neu

(b)bod paragraff (4) yn gymwys.

(2Yr amod cyntaf yw bod rhaid i’r person fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori ymarferydd dysgu oedolion.

(3Yr ail amod yw bod rhaid—

(a)bod gan y person o leiaf un o’r cymwysterau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, neu

(b)i’r person ddiwallu’r gofyniad arall a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen.

(4Caiff person sy’n cydymffurfio â’r amod cyntaf ond nad yw’n cydymffurfio â’r ail amod, os yw’n gweithio tuag at gymhwyster a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, weithio fel ymarferydd dysgu oedolion am gyfnod nad yw’n hwy na—

(a)3 blynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n llawnamser, neu

(b)5 mlynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n rhan-amser.

(5Wrth gyfrifo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff 4(a) a (b), mae unrhyw gyfnod o absenoldeb o’r gwaith i gael ei ddiystyru os yw’n codi—

(a)wrth i berson arfer—

(i)ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996(1) neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;

(ii)ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996(2);

(iii)ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 1996(3);

(iv)ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996(4);

(v)ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 1996(5); neu

(vi)ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 1996(6); neu

(b)oherwydd beichiogrwydd.

(1)

Amnewidiwyd adrannau 71 a 73 gan Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p. 29). Diwygiwyd adran 71 gan baragraff 31, ac adran 73 gan baragraff 32, o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a diwygiwyd y ddwy adran gan adran 17 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 71 ymhellach gan adran 118(1), (2)(a) a (b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 73 ymhellach gan adran 118(1), (3)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.

(2)

Amnewidiwyd adran 76 gan Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p. 29).

(3)

Mewnosodwyd adrannau 80A a 80B gan adran 1 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 80A ymhellach gan adran 118(1) a (6) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, a pharagraffau 29 a 32 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 80B ymhellach gan adrannau 118(1) a (7), 121(2)(a) a (b), 122(4) a 128(2)(b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 a pharagraffau 29 a 33 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno a chan reoliad 147(a), (b) ac (c) o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016/413.

(4)

Mewnosodwyd adrannau 75A a 75B gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 75A gan baragraff 33 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a chan adrannau 118(1), 4(a), (b) ac (c) a 121(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, gan reoliad 145 o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016/413 a chan baragraff 11(10) o Orchymyn Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (Rhwymedïol) 2018/1413. Diwygiwyd adran 75B ymhellach gan baragraff 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18), gan adran 118(1), (5)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 a chan baragraff 11(11) o Orchymyn Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (Rhwymedïol) 2018/1413.

(5)

Mewnosodwyd adrannau 75E a 75G yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18) gan adran 117(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 75G gan reoliad 146(a) a (b) o O.S. 2016/413 (Cy. 131).

(6)

Mewnosodwyd adran 80EA gan baragraff 2 o Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018 (p. 24).