- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd a Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau a Diwygiadau Amrywiol) a Chyflasynnau Bwyd (Dileu Awdurdodiadau) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)yn gymwys o ran Cymru;
(c)yn dod i rym ar 28 Mehefin 2024.
2. Mae Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd(1) wedi ei ddiwygio yn unol ag Atodlen 1.
3.—(1) Yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n gosod manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor(2), mae’r Atodiad wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar y dechrau, ar gyfer “Note: Ethylene oxide may not be used for sterilising purposes in food additives” rhodder—
Ethylene oxide may not be used for sterilising purposes in food additives.
Total residues of ethylene oxide (sum of ethylene oxide and 2-chloroethanol expressed as ethylene oxide*), irrespective of origin, in food additives listed in Annexes 2 and 3 to Regulation (EC) No 1333/2008 or mixtures of those food additives, must not exceed 0.1 mg/kg.
* ethylene oxide + (0.55 × 2-chloroethanol)”.
(3) Yn y cofnodion ar gyfer pob un o’r ychwanegion a ganlyn, hepgorer y rhes sy’n ymwneud ag “Ethylene oxide” —
(a)E 431 Polyocsiethylen (40) stearad;
(b)E 432 Polyocsiethylen sorbitan monolawrad (Polysorbad 20);
(c)E 433 Polyocsiethylen sorbitan monoolead (Polysorbad 80);
(d)E 434 Polyocsiethylen sorbitan monopalmitad (Polysorbad 40);
(e)E 435 Polyocsiethylen sorbitan monostearad (Polysorbad 60);
(f)E 436 Polyocsiethylen sorbitan tristearad (Polysorbad 65);
(g)E 1209 Copolymer impiedig o bolyfinyl alcohol-polyethylen glycol;
(h)E 1521 Polyethylen glycol.
(4) Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r fanyleb ar gyfer E 960b glycosidau stefiol o eplesu (Yarrowia lipolytica).
(5) Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r fanyleb ar gyfer E 960c(ii) rebaudiosid M, AM a D a gynhyrchir drwy drosi glycosidau stefiol puredig iawn o echdyniad dail Stevia ag ensymau.
4.—(1) Yn Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd(3), mae Atodiad 1 (rhestr ddomestig o gyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan A (rhestr ddomestig o sylweddau cyflasu), yn Adran 2, yn Nhabl 1, hepgorer y cofnodion ar gyfer y sylweddau cyflasu a ganlyn—
(a)Rhif FL(4) “07.030” enw cemegol “1-(4-Methoxyphenyl) pent-1-en-3-one”;
(b)Rhif FL “07.046” enw cemegol “Vanillylidene acetone”;
(c)Rhif FL “07.049” enw cemegol “1-(4-Methoxyphenyl)-4-methylpent-1-en-3-one”;
(d)Rhif FL “07.206” enw cemegol “4-(2,3,6-Trimethylphenyl)but-3-en-2-one”;
(e)Rhif FL “07.258” enw cemegol “6-Methyl-3-hepten-2-one”;
(f)Rhif FL “10.034” enw cemegol “5,6-Dihydro-3,6-dimethylbenzofuran-2(4H)-one”;
(g)Rhif FL “10.036” enw cemegol “5,6,7,7a-Tetrahydro-3,6-dimethylbenzofuran-2(4H)-one”;
(h)Rhif FL “10.042” enw cemegol “3,4-Dimethyl-5-pentylidenefuran-2(5H)-one”;
(i)Rhif FL “10.043” enw cemegol “2,7-Dimethylocta-5(trans),7-dieno-1,4-lactone”;
(j)Rhif FL “10.046” enw cemegol “Hex-2-eno-1,4-lactone”;
(k)Rhif FL “10.054” enw cemegol “Non-2-eno-1,4-lactone”;
(l)Rhif FL “10.060” enw cemegol “2-Decen-1,4-lactone”;
(m)Rhif FL “10.170” enw cemegol “5-Pentyl-3H-furan-2-one”;
(n)Rhif FL “13.004” enw cemegol “Allyl 2-furoate”;
(o)Rhif FL “13.034” enw cemegol “3-(2-furyl)acrylaldehyde”;
(p)Rhif FL “13.043” enw cemegol “Furfurylidene-2-butanal”;
(q)Rhif FL “13.044” enw cemegol “4-(2-Furyl)but-3-en-2-one”;
(r)Rhif FL “13.046” enw cemegol “3-(2-Furyl)-2-methylprop-2-enal”;
(s)Rhif FL “13.066” enw cemegol “3-Acetyl-2,5-dimethylfuran”;
(t)Rhif FL “13.103” enw cemegol “2-Butylfuran”;
(u)Rhif FL “13.137” enw cemegol “3-(2-Furyl)-2-phenylprop-2-enal”;
(v)Rhif FL “13.150” enw cemegol “3-(5-Methyl-2-furyl)prop-2-enal”.
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i sylweddau cyflasu y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(2)(a) i (v) ynghyd â bwyd sy’n eu cynnwys a oedd—
(a)yn bresennol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd wedi, neu y gallent fod wedi, eu gosod yn gyfreithlon ar y farchnad ym Mhrydain Fawr cyn diwedd 27 Mehefin 2024, neu
(b)ar dramwy i Brydain Fawr cyn diwedd 27 Mehefin 2024, ac y gallent fod wedi eu mewnforio neu eu symud i mewn i Brydain Fawr yn gyfreithlon a’u gosod ar y farchnad ar y dyddiad hwnnw.
(2) Caiff sylweddau cyflasu a bwyd y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt, hyd at eu dyddiad parhauster lleiaf neu eu dyddiad ‘defnyddio erbyn’, gael eu rhoi ar y farchnad ac, yn ôl y digwydd, eu hychwanegu at fwyd arall.
(3) Caiff bwyd sy’n cynnwys un neu ragor o’r sylweddau cyflasu y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt, hyd at ei ddyddiad parhauster lleiaf neu ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, gael ei roi ar y farchnad ac, yn ôl y digwydd, ei ychwanegu at fwyd arall.
(4) Yn y rheoliad hwn—
mae i “dyddiad ‘defnyddio erbyn’” (“‘use by’ date”) yr un ystyr ag “‘use by’ date” yn Erthygl 24 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr(5);
mae i “dyddiad parhauster lleiaf” (“date of minimum durability”) yr un ystyr â “date of minimum durability” yn Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr(6).
(5) Mae i ymadroddion Cymraeg eraill a ddefnyddir yn y rheoliad hwn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Rheoliad hwnnw.
6. Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2470 sy’n sefydlu rhestr yr Undeb o fwydydd newydd yn unol â Rheoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwydydd newydd(7) wedi ei ddiwygio yn unol ag Atodlenni 4 i 8.
Jayne Bryant
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2024
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys