Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd a Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau a Diwygiadau Amrywiol) a Chyflasynnau Bwyd (Dileu Awdurdodiadau) (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ynghylch awdurdodiadau cynhyrchion bwyd rheoleiddiedig.

Gwneir Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn (rheoliadau 2 a 3 ac Atodlenni 1 i 3) drwy arfer pwerau yn Rheoliad (EC) Rhif 1331/2008 sy’n sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd (EUR 2008/1331). Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn diweddaru, o ran Cymru, y rhestr ddomestig o ychwanegion bwyd sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio mewn bwydydd yn Atodiad 2 i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 ar ychwanegion bwyd (EUR 2008/1333). Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 2 a 3 yn diwygio, o ran Cymru, Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n gosod manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 (EUR 2012/231).

Mae’r diwygiadau a wneir yn Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer—

  • awdurdodi, o ran Cymru, osod ar y farchnad a defnyddio’r ychwanegyn bwyd E 960b glycosidau stefiol o eplesu (Yarrowia lipolytica);

  • awdurdodi, o ran Cymru, ddull cynhyrchu newydd ar gyfer ychwanegyn awdurdodedig sy’n bodoli eisoes: E 960c glycosidau stefiol a gynhyrchir yn ensymatig. Mae’r fanyleb ar gyfer y dull cynhyrchu sy’n bodoli eisoes yn yr Atodiad i EUR 2012/231 wedi ei hailrifo’n E 960c(i). Mae’r fanyleb ar gyfer y dull cynhyrchu newydd wedi ei mewnosod fel “E 960c(ii) rebaudioside M, AM and D produced via enzymatic conversion of highly purified steviol glycosides from Stevia leaf extracts”;

  • awdurdodi, o ran Cymru, ddefnydd newydd (iâ bwytadwy) ar gyfer yr ychwanegyn bwyd E 476 polyglyserol polyrisinolead, a diwygio defnydd awdurdodedig sy’n bodoli eisoes (sawsiau);

  • cyflwyno uchafswm terfyn gweddillion o 0.1 mg/kg ar gyfer gweddillion ethylen ocsid sy’n gymwys i bob ychwanegyn bwyd awdurdodedig;

  • mân gywiriadau amrywiol i Atodiad 2 i EUR 2008/1333.

Gwneir Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn hefyd drwy arfer pwerau yn EUR 2008/1331. Mae rheoliad 4 yn dileu, o ran Cymru, 22 o sylweddau cyflasu o’r rhestr ddomestig o sylweddau cyflasu awdurdodedig yn Atodiad 1 i Reoliad (EC) Rhif 1334/2008 ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd (EUR 2008/1334). Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth drosiannol i ganiatáu i gynhyrchion sy’n bodoli eisoes sy’n cynnwys y sylweddau hyn barhau i gael eu marchnata a’u defnyddio tan eu dyddiad parhauster lleiaf (dyddiad ‘ar ei orau cyn’) neu ddyddiad ‘defnyddio erbyn’.

Gwneir Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn (rheoliad 6 ac Atodlenni 4 i 8) drwy arfer pwerau yn Rheoliad (EU) 2015/2283 ar fwydydd newydd (EUR 2015/2283). Mae Rhan 4 yn diweddaru, o ran Cymru, y rhestr o fwydydd newydd awdurdodedig yn yr Atodiad i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2470 sy’n sefydlu rhestr yr Undeb o fwydydd newydd (EUR 2017/2470)—

  • Mae Atodlen 4 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad brotein wedi ei hydroleiddio’n rhannol o haidd a ddisbyddwyd (‌Hordeum vulgare‌) a reis a ddisbyddwyd (Oryza sativa‌) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau bwyd penodedig.

  • Mae Atodlen 5 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad asidau brasterog wedi eu setyleiddio fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer oedolion yn unig.

  • Mae Atodlen 6 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad 3-ffwcosyl-lactos (3-FL) (o straen o Escherichia coli K-12 DH1) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau bwyd penodedig.

  • Mae Atodlen 7 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad gymysgedd lacto-N-ffwcopentaos I (LNFP-I) a 2’-ffwcosyl-lactos (2’-FL) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau bwyd penodedig.

  • Mae Atodlen 8 yn cywiro gwallau mewn cofnodion presennol—

    • Yn Nhabl 1 yn unig, disodlir y cofnod presennol ar gyfer “bovine milk basic whey protein isolate” er mwyn mynd i’r afael â gwallau fformadu yn y cofnod presennol.

    • Yn Nhabl 2 yn unig, diwygir y fanyleb ar gyfer Sylo-oligosacaridau er mwyn ychwanegu’r paramedr ar gyfer “Dry material (%)”, a oedd ar goll o’r cofnod presennol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill