Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 782 (Cy. 121)

Caffael Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

Gwnaed

3 Gorffennaf 2024

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 9(2), 33(8), 69(4), 87(7), 95(1), (2) a (3), 97(1) a (2), 121(1) a (2), 122(3) a 125 o Ddeddf Caffael 2023(2), a pharagraff 5(1) o Atodlen 1 iddi.

Yn unol ag adran 121(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli barn cyfleustodau preifat, yn ogystal ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 122(10)(b), (c), (e), (h), (l), (m), (o), (q) ac (r) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio Rhan 1 a rheoliad 47(1) a (2), i rym yr un pryd ag y daw adran 11 o Ddeddf Caffael 2023 i rym at unrhyw ddiben(3).

(3Daw Rhan 1 a rheoliad 47(1) a (2) i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.

Cymhwyso

2.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)awdurdod contractio sy’n awdurdod Cymreig datganoledig, gan gynnwys mewn perthynas â chaffaeliad o dan drefniant caffael Cymreig datganoledig, a

(b)awdurdod contractio sydd i’w drin fel awdurdod Cymreig datganoledig o dan adran 111 o Ddeddf Caffael 2023.

(2Yn y rheoliad hwn—

mae i “awdurdod Cymreig datganoledig” yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(4);

mae i “trefniant caffael Cymreig datganoledig” yr ystyr a roddir i “devolved Welsh procurement arrangement” yn adran 114(2) o Ddeddf Caffael 2023.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod contractio” yr ystyr a roddir i “contracting authority” gan adran 2(1) o Ddeddf 2023;

ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf Caffael 2023;

ystyr “GGG” (“CPV”) yw’r Eirfa Gaffael Gyffredin fel y’i mabwysiadwyd gan Reoliad (EC) Rhif 2195/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Tachwedd 2002 ar yr Eirfa Gaffael Gyffredin (5).

RHAN 2Tryloywder

Dehongli Rhan 2

4.  Yn y Rhan hon—

mae i “amcangyfrif o werth” yr ystyr a roddir i “estimated value” gan adran 4 o Ddeddf 2023;

mae i “awdurdod priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan adran 123 o Ddeddf 2023;

mae i “caffaeliad” yr ystyr a roddir i “procurement” gan adran 1(1) o Ddeddf 2023;

mae i “cod adnabod unigryw” (“unique identifier”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9;

ystyr “cofrestr pobl â rheolaeth sylweddol” (“PSC register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol i gwmni ei chadw o dan adran 790M o DC 2006 (dyletswydd i gadw cofrestr)(6);

mae i “contract consesiwn” yr ystyr a roddir i “concession contract” gan adran 8 o Ddeddf 2023;

mae i “contract cyfleustodau” yr ystyr a roddir i “utilities contract” gan adran 6 o Ddeddf 2023;

mae i “contract cyfundrefn arbennig” yr ystyr a roddir i “special regime contract” gan adran 10(6) o Ddeddf 2023;

mae i “contract cyffyrddiad ysgafn” yr ystyr a roddir i “light touch contract” gan adran 9 o Ddeddf 2023;

mae i “contract cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public contract” gan adran 3 o Ddeddf 2023;

mae i “contract trosadwy” yr ystyr a roddir i “convertible contract” gan adran 74(1) o Ddeddf 2023;

mae i “cwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service mutual” gan adran 33(6) o Ddeddf 2023;

mae i “cyflenwr gwaharddedig” yr ystyr a roddir i “excluded supplier” gan adran 57(1) o Ddeddf 2023;

mae i “cyfleustod” yr ystyr a roddir i “utility” gan adran 35(4) o Ddeddf 2023;

mae i “cyfleustod preifat” yr ystyr a roddir i “private utility” gan adran 2(2) o Ddeddf 2023;

mae i “cyfnod tendro” yr ystyr a roddir i “tendering period” gan adran 54(5) o Ddeddf 2023;

ystyr “Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau” (“GPA”) yw’r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau a lofnodwyd ym Marrakesh ar 15 Ebrill 1994 (7), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

ystyr “Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel” (“Comprehensive and Progressive Agreement for Trans-Pacific Partnership”) yw’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel, a lofnodwyd yn Santiago ar 8 Mawrth 2018, gan gynnwys Protocol Derbyn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel, a lofnodwyd yn Auckland a Bandar Seri Begawan ar 16 Gorffennaf 2023 (8), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

mae i “dangosyddion perfformiad allweddol” yr ystyr a roddir i “key performance indicators” gan adran 52(4) o Ddeddf 2023;

mae i “darparwr cyflogaeth â chymorth” yr ystyr a roddir i “supported employment provider” gan adran 32(4) o Ddeddf 2023;

ystyr “DC 2006” (“CA 2006”) yw Deddf Cwmnïau 2006(9);

mae i “dogfen dendro gysylltiedig” yr ystyr a roddir i “associated tender document” gan adran 21(4) o Ddeddf 2023;

mae i “dosbarthiad daearyddol” (“geographical classification”) yr ystyr a roddir gan reoliad 15(2);

mae i “fframwaith” yr ystyr a roddir i “framework” gan adran 45(2) o Ddeddf 2023;

mae i “fframwaith agored” yr ystyr a roddir i “open framework” gan adran 49(1) o Ddeddf 2023;

mae i “gweithdrefn agored” yr ystyr a roddir i “open procedure” gan adran 20(2)(a) o Ddeddf 2023;

mae i “gweithdrefn hyblyg gystadleuol” yr ystyr a roddir i “competitive flexible procedure” gan adran 20(2)(b) o Ddeddf 2023;

mae i “gweithiau” (“works”) yr ystyr a roddir gan reoliad 45;

mae i “gwybodaeth yr awdurdod contractio” (“contracting authority information”) yr ystyr a roddir gan reoliad 14;

mae i “gwybodaeth graidd y cyflenwr” (“core supplier information”) yr ystyr a roddir gan reoliad 6(9);

ystyr “heb fod ar gael” (“unavailable”) yw bod y platfform digidol Cymreig heb fod yn weithredol am ddim llai na 4 awr;

mae i “hysbysiad caffael arfaethedig” yr ystyr a roddir i “planned procurement notice” gan adran 15(2) o Ddeddf 2023;

mae i “hysbysiad dyfarnu contract” yr ystyr a roddir i “contract award notice” gan adran 50(2) o Ddeddf 2023;

mae i “hysbysiad manylion contract” yr ystyr a roddir i “contract details notice” gan adran 53(2) o Ddeddf 2023;

mae i “hysbysiad marchnad ddynamig” yr ystyr a roddir i “dynamic market notice” gan adran 39 o Ddeddf 2023;

mae i “hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol” yr ystyr a roddir i “qualifying utilities dynamic market notice” gan adran 40(6) o Ddeddf 2023;

mae i “hysbysiad piblinell” yr ystyr a roddir i “pipeline notice” gan adran 93(3) o Ddeddf 2023;

mae i “hysbysiad tendro” yr ystyr a roddir i “tender notice” gan adran 21(2) o Ddeddf 2023;

mae i “hysbysiad tryloywder” yr ystyr a roddir i “transparency notice” gan adran 44(2) o Ddeddf 2023;

mae i “hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad” yr ystyr a roddir i “preliminary market engagement notice” gan adran 17(2) o Ddeddf 2023;

mae i “marchnad ddynamig” yr ystyr a roddir i “dynamic market” gan adran 34(8) o Ddeddf 2023;

mae i “meini prawf dyfarnu” yr ystyr a roddir i “award criteria” gan adran 23(1) o Ddeddf 2023;

mae i “menter fach a chanolig ei maint” (“small and medium-sized enterprise”) yr ystyr a roddir gan adran 123(1) o Ddeddf 2023;

mae i “person cysylltiedig” yr ystyr a roddir i “connected person” gan baragraff 45 o Atodlen 6 i Ddeddf 2023;

ystyr “platfform digidol canolog” (“central digital platform”) yw’r system ar-lein a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet(10);

ystyr “platfform digidol Cymreig” (“Welsh digital platform”) yw’r system ar-lein a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio gan awdurdodau contractio y mae rheoliad 2 yn gymwys iddynt;

mae i “proses ddethol gystadleuol” yr ystyr a roddir i “competitive selection process” gan adran 46(10) o Ddeddf 2023;

mae i “pwnc y contract” (“contract subject-matter”) yr ystyr a roddir gan reoliad 15;

mae i “rheolaeth sylweddol” yr ystyr a roddir i “significant control” gan adran 790C(2) o DC 2006(11);

ystyr “Swyddfa’r Cabinet” (“Cabinet Office”) yw adran Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gefnogi prif weinidog a Chabinet y Deyrnas Unedig, gan weithredu ar ran y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet;

mae i “system ar-lein arall” (“alternative online system”) yr ystyr a roddir gan reoliad 5(11).

Cyhoeddi hysbysiadau ar y platfform digidol canolog

5.—(1Rhaid cyhoeddi neu roi hysbysiad, dogfen neu wybodaeth a gyhoeddir neu a roddir o dan ddarpariaeth o Ddeddf 2023 a restrir ym mharagraff (5) drwy gyhoeddi’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth gan yr awdurdod contractio ar y platfform digidol canolog yn gyntaf.

(2Oni bai bod paragraff (3) neu baragraff (6) yn gymwys, mae’r gofyniad ym mharagraff (1) i’r awdurdod contractio gyhoeddi neu roi hysbysiad, dogfen neu wybodaeth ar y platfform digidol canolog yn gyntaf wedi ei fodloni pan fo’r awdurdod contractio wedi cyflwyno’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth i’r platfform digidol Cymreig ac—

(a)bo’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet wedi rhoi gwybod i’r awdurdod contractio fod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno’n llwyddiannus ar gyfer ei gyhoeddi i’r platfform digidol canolog, neu fod y ddogfen neu’r wybodaeth wedi ei chyflwyno’n llwyddiannus ar gyfer ei chyhoeddi iddo, neu

(b)bo modd i gyflenwyr ac aelodau o’r cyhoedd gyrchu’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth ar y platfform digidol canolog.

(3Os yw’r platfform digidol Cymreig heb fod ar gael fel na ellir bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2), caniateir i awdurdod contractio gyhoeddi hysbysiad, dogfen neu wybodaeth—

(a)ar y platfform digidol canolog, neu

(b)ar y platfform digidol canolog drwy ddefnyddio system ar-lein arall.

(4Pan fo paragraff (3) yn gymwys bydd y gofyniad ym mharagraff (1) wedi ei fodloni—

(a)pan fo’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet wedi rhoi gwybod i’r awdurdod contractio fod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno’n llwyddiannus ar gyfer ei gyhoeddi i’r platfform, neu fod y ddogfen neu’r wybodaeth wedi ei chyflwyno’n llwyddiannus ar gyfer ei chyhoeddi iddo, neu

(b)pan fo modd i gyflenwyr ac aelodau o’r cyhoedd gyrchu’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth ar y platfform digidol canolog.

(5Y darpariaethau perthnasol o Ddeddf 2023 yw—

(a)adran 15(1) (hysbysiadau caffael arfaethedig)(12),

(b)adran 17(1)(a) (hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad),

(c)adran 21(1) (hysbysiadau tendro),

(d)adran 24(4) (mireinio meini prawf dyfarnu), mewn cysylltiad ag ailgyhoeddi hysbysiadau tendro yn unig,

(e)adran 31(5) (addasu caffaeliad adran 19), mewn cysylltiad ag ailgyhoeddi hysbysiadau tendro yn unig,

(f)adran 39(2) (hysbysiadau marchnad ddynamig: bwriad i sefydlu marchnad ddynamig)(13),

(g)adran 39(3) (hysbysiadau marchnad ddynamig: sefydlu marchnad ddynamig),

(h)adran 39(4) (hysbysiadau marchnad ddynamig: addasiadau i farchnad ddynamig),

(i)adran 39(5) (hysbysiadau marchnad ddynamig: diwedd marchnad ddynamig),

(j)adran 44(1) (hysbysiadau tryloywder),

(k)adran 50(1) (hysbysiadau dyfarnu contract),

(l)adran 52(3) (dangosyddion perfformiad allweddol),

(m)adran 53(1) (hysbysiadau manylion contract),

(n)adran 53(3) (copïau o gontractau),

(o)adran 55(2) (hysbysiadau terfynu caffaeliad),

(p)adran 69(1) (hysbysiadau cydymffurfedd taliadau),

(q)adran 71(2)(b) (cyflawni contract: asesu perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol),

(r)adran 71(5) (cyflawni contract: torri contract cyhoeddus neu fethu â chyflawni),

(s)adran 75(1) (hysbysiadau newid contract),

(t)adran 75(5) (hysbysiadau newid contract: addasiadau a wneir ar y cyd),

(u)adran 77(1) (cyhoeddi addasiadau),

(v)adran 80(1) (hysbysiadau terfynu contract),

(w)adran 87(1) (hysbysiadau tendro ar gyfer contractau sydd o dan y trothwy),

(x)adran 87(3) (hysbysiadau manylion contract yn dilyn contractau hysbysadwy sydd o dan y trothwy),

(y)adran 93(2) (hysbysiadau piblinell), a

(z)adran 94(3) (esemptiadau cyffredinol rhag dyletswyddau i gyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth: gwybodaeth yn cael ei chadw yn ôl).

(6Os yw’r holl amodau sy’n gymwys ym mharagraff (7) wedi eu bodloni, caiff yr awdurdod contractio gyhoeddi neu roi’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth ar y platfform digidol Cymreig neu, os nad yw ar gael, ar system ar-lein arall ac wrth wneud hynny mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai am y tro yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (1).

(7Yr amodau yw—

(a)yn achos hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (8), nad oes llai na 4 awr wedi mynd heibio ers cyflwyno’r hysbysiad ar gyfer ei gyhoeddi i’r platfform digidol canolog,

(b)yn achos unrhyw hysbysiad arall, unrhyw ddogfen arall neu unrhyw wybodaeth arall, nad oes llai nag 48 awr wedi mynd heibio ers cyflwyno’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth ar gyfer ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi i’r platfform digidol canolog,

(c)nad yw’r awdurdod contractio wedi cael cadarnhad gan y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet fod yr hysbysiad wedi ei gyhoeddi ar y platfform digidol canolog yn llwyddiannus, neu fod y ddogfen neu’r wybodaeth wedi ei chyhoeddi arno’n llwyddiannus, a

(d)nad oes modd i aelodau o’r cyhoedd gyrchu’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth ar y platfform digidol canolog.

(8Yr hysbysiadau yw hysbysiad tryloywder, hysbysiad dyfarnu contract neu hysbysiad manylion contract sy’n ymwneud ag—

(a)dyfarnu contract cyhoeddus yn uniongyrchol o dan baragraffau 13 a 14 o Atodlen 5 i Ddeddf 2023 (sefyllfa frys), neu

(b)dyfarnu contract cyhoeddus yn uniongyrchol o dan adran 42 o Ddeddf 2023 (dyfarniad uniongyrchol er mwyn gwarchod bywyd, etc.).

(9Ond nid yw’r awdurdod contractio i gael ei drin mwyach fel pe bai am y tro yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (1) os yw’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet yn rhoi gwybod i’r awdurdod contractio fod cyflwyno’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth i’r platfform digidol canolog wedi ei wrthod.

(10Rhaid i awdurdod contractio sy’n defnyddio’r platfform digidol Cymreig neu system ar-lein arall yn unol â pharagraff (6) gydweithredu â’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet er mwyn sicrhau bod yr hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth o dan sylw wedi hynny—

(a)yn cael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi ar y platfform digidol canolog, a

(b)yn gallu cael ei gyrchu neu ei chyrchu gan aelodau o’r cyhoedd ar y system honno.

(11Ystyr “system ar-lein arall” yw system ar-lein ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am gaffael—

(a)sy’n system rad ac am ddim ac ar gael yn rhwydd i gyflenwyr ac aelodau o’r cyhoedd,

(b)sy’n system hygyrch i bobl anabl, ac

(c)nad y platfform digidol canolog na’r platfform digidol Cymreig mohoni.

(12Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth yn rhywle heblaw ar y platfform digidol canolog, y platfform digidol Cymreig neu system ar-lein arall, ond ni chaiff yr awdurdod wneud hynny cyn cydymffurfio â gofynion paragraff (1) neu (6).

Rhannu gwybodaeth graidd y cyflenwr drwy’r platfform digidol canolog

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdod contractio pan fo cyflenwr yn rhannu gwybodaeth graidd y cyflenwr â’r awdurdod yn ystod gweithdrefn a restrir ym mharagraff (2) gyda golwg ar ddyfarnu contract cyhoeddus.

(2Y gweithdrefnau yw—

(a)gweithdrefn agored,

(b)gweithdrefn hyblyg gystadleuol,

(c)dyfarniad uniongyrchol o dan adran 41 neu 43 o Ddeddf 2023, neu

(d)proses ddethol gystadleuol ar gyfer fframweithiau o dan adran 46 o Ddeddf 2023.

(3Os rhennir gwybodaeth graidd y cyflenwr—

(a)yn ystod gweithdrefn agored, neu

(b)yn ystod gweithdrefn hyblyg gystadleuol,

rhaid i’r awdurdod contractio gael cadarnhad gan y cyflenwr ynghylch y materion ym mharagraff (5) cyn diwedd y cyfnod tendro.

(4Os rhennir gwybodaeth graidd y cyflenwr—

(a)cyn dyfarniad uniongyrchol o dan adran 41 neu 43 o Ddeddf 2023, neu

(b)yn ystod proses ddethol gystadleuol ar gyfer fframweithiau o dan adran 46 o’r Ddeddf honno,

rhaid i’r awdurdod contractio gael cadarnhad gan y cyflenwr ynghylch y materion ym mharagraff (5) cyn dyfarnu’r contract cyhoeddus.

(5Y materion yw bod y cyflenwr—

(a)wedi cofrestru ar y platfform digidol canolog,

(b)wedi cyflwyno gwybodaeth graidd ddiweddaraf y cyflenwr i’r platfform hwnnw, ac

(c)wedi rhannu’r wybodaeth graidd ddiweddaraf honno am y cyflenwr â’r awdurdod contractio drwy gyfleuster sydd wedi ei ddarparu ar y platfform hwnnw at ddiben rhannu gwybodaeth graidd cyflenwyr.

(6Mae paragraff (7) yn gymwys—

(a)pan fo cyflenwr wedi rhannu gwybodaeth graidd ddiweddaraf y cyflenwr ag awdurdod contractio yn ystod gweithdrefn a restrir ym mharagraff (2), a

(b)pan fo gwybodaeth graidd y cyflenwr yn newid wedi hynny, a bo’r cyflenwr yn rhannu â’r awdurdod contractio, cyn i’r contract cyhoeddus gael ei ddyfarnu, wybodaeth graidd y cyflenwr sydd wedi ei diweddaru neu wedi ei chywiro.

(7Rhaid i’r awdurdod contractio gael cadarnhad pellach gan y cyflenwr ynghylch y materion ym mharagraff (8) cyn dyfarnu’r contract cyhoeddus.

(8Y materion yw bod y cyflenwr—

(a)wedi cyflwyno i’r platfform digidol canolog wybodaeth graidd y cyflenwr sydd wedi ei diweddaru neu ei chywiro, a

(b)wedi rhannu’r wybodaeth graidd y cyflenwr sydd wedi ei diweddaru neu ei chywiro â’r awdurdod contractio drwy gyfleuster a ddarperir ar y platfform hwnnw at ddiben rhannu gwybodaeth graidd cyflenwyr.

(9Yn yRhan hon, ystyr “gwybodaeth graidd y cyflenwr” yw—

(a)gwybodaeth sylfaenol y cyflenwr, a nodir yn rheoliad 10,

(b)gwybodaeth y cyflenwr o ran ei sefyllfa ariannol ac economaidd, a nodir yn rheoliad 11,

(c)gwybodaeth y cyflenwr o ran ei bersonau cysylltiedig, a nodir yn rheoliad 12, a

(d)gwybodaeth y cyflenwr o ran seiliau dros wahardd, a nodir yn rheoliad 13.

(10Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at gyfleuster a ddarperir ar y platfform digidol canolog yn cynnwys cyfeiriad at gyfleuster i lawrlwytho gwybodaeth sydd i’w hanfon ymlaen at awdurdod contractio gan gyflenwr.

(11Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 8.

Gwybodaeth y cyflenwr ar gyfer contractau hysbysadwy sydd o dan y trothwy

7.—(1Cyn i gyflenwr gymryd rhan mewn caffaeliad hysbysadwy sydd o dan y trothwy ac a gyflawnir gan awdurdod contractio, rhaid i’r awdurdod sicrhau bod y cyflenwr wedi cofrestru ar y platfform digidol canolog.

(2Rhaid i’r awdurdod contractio gael cadarnhad cofrestru gan y cyflenwr cyn dyfarnu’r contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy.

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “caffaeliad hysbysadwy sydd o dan y trothwy” (“notifiable below-threshold procurement”) yw dyfarnu contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy, ymrwymo iddo a’i reoli;

mae i “contract hysbysadwy sydd o dan y trothwy” yr ystyr a roddir i “notifiable below-threshold contract” gan adran 87(4) o Ddeddf 2023.

Gwybodaeth graidd y cyflenwr: platfform ddim yn gweithio, sefyllfa frys, cyfleustodau preifat

8.—(1Pan na fo modd i awdurdod contractio, mewn cysylltiad â gwybodaeth graidd y cyflenwr a rennir yn ystod gweithdrefn agored neu weithdrefn hyblyg gystadleuol, gael cadarnhad gan y cyflenwr ynghylch y materion yn rheoliad 6(5) cyn diwedd y cyfnod tendro oherwydd y rheswm ym mharagraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys.

(2Y rheswm yw nad oedd modd i’r cyflenwr gofrestru’n rhesymol ar y platfform digidol canolog, cyflwyno gwybodaeth iddo, neu ddefnyddio cyfleuster ar gyfer rhannu gwybodaeth drwyddo, oherwydd nad oedd y platfform hwnnw yn gweithio’n briodol yn ystod unrhyw gyfnod cyn diwedd y cyfnod tendro.

(3Rhaid i’r awdurdod contractio gael cadarnhad gan y cyflenwr ynghylch y materion yn rheoliad 6(5) cyn gynted ag y bo’n ymarferol a pha un bynnag cyn dyfarnu’r contract.

(4Mae rheoliad 6 yn gymwys yn achos dyfarnu contract cyhoeddus yn uniongyrchol yn unol â pharagraffau 13 a 14 o Atodlen 5 i Ddeddf 2023 (sefyllfa frys), ond gan ddarllen rheoliad 6—

(a)fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff (4) at yr awdurdod contractio yn cael cadarnhad cyn dyfarnu’r contract cyhoeddus yn gyfeiriad at yr awdurdod yn cael cadarnhad cyn gynted ag y bo’n ymarferol a pha un bynnag cyn dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad manylion contract, a

(b)fel pe bai paragraffau (6) i (8) wedi eu hepgor.

(5Nid yw rheoliad 6 yn gymwys i gyfleustod preifat yn achos dyfarnu contract cyhoeddus yn uniongyrchol yn unol â pharagraffau 13 a 14 o Atodlen 5 i Ddeddf 2023 (sefyllfa frys).

Codau adnabod unigryw ac esemptiad rhag eu cyhoeddi ar y platfform digidol Cymreig neu system ar-lein arall

9.—(1Yn y Rhan hon, ystyr “cod adnabod unigryw”—

(a)yn achos caffaeliad, yw’r cod unigryw a ddyrennir gan y platfform digidol canolog pan gyhoeddir yr hysbysiad cyntaf sy’n ymwneud â’r caffaeliad ar y platfform hwnnw, heblaw o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-baragraff (b),

(b)yn achos caffaeliad pan fo newid wedi bod i ddyfarniad uniongyrchol yn unol ag adran 43 o Ddeddf 2023, yw’r cod unigryw a ddyrennir gan y platfform digidol canolog pan gyhoeddir yr hysbysiad tryloywder sy’n ymwneud â’r contract ar y platfform hwnnw,

(c)yn achos contract, y cod unigryw sy’n galluogi’r sawl a fo’n darllen hysbysiad sy’n cyfeirio at y contract i wahaniaethu rhwng y contract hwnnw a chontractau eraill sydd wedi eu dyfarnu o dan yr un broses gaffael,

(d)yn achos marchnad ddynamig, y cod unigryw a ddyrennir gan y platfform digidol canolog pan gyhoeddir y cyntaf o’r hysbysiadau a ganlyn ar y platfform hwnnw mewn perthynas â’r farchnad ddynamig—

(i)unrhyw hysbysiad piblinell,

(ii)unrhyw hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, neu

(iii)yr hysbysiad marchnad ddynamig cyntaf, ac

(e)yn achos—

(i)cyflenwr,

(ii)awdurdod contractio,

(iii)person sy’n cyflawni caffaeliad, neu ran o gaffaeliad, ar ran awdurdod contractio, neu

(iv)person heblaw awdurdod contractio sy’n sefydlu marchnad ddynamig yn unol ag adran 35(3) o Ddeddf 2023,

y cod unigryw a gyflwynir i’r platfform digidol canolog ac a gydnabyddir gan y platfform hwnnw neu, pan na chyflwynir ac na chydnabyddir cod o’r fath, y cod unigryw a ddyrennir gan y platfform hwnnw pan yw’r person yn cofrestru ar y platfform hwnnw.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo awdurdod contractio yn cyhoeddi hysbysiad, dogfen neu wybodaeth a grybwyllir yn rheoliad 5(5) ar y platfform digidol Cymreig neu, os nad yw ar gael, ar system ar-lein arall o dan reoliad 5(6).

(3Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod contractio gyhoeddi unrhyw god adnabod unigryw yn unol â’r Rhan hon hyd nes y cyhoeddir yr hysbysiad hwnnw, y ddogfen honno neu’r wybodaeth honno wedi hynny ar y platfform digidol canolog o dan reoliad 5(10).

Gwybodaeth sylfaenol y cyflenwr

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth sylfaenol y cyflenwr.

(2Pan fo cyflenwr yn unigolyn, yr wybodaeth yw—

(a)enw’r cyflenwr,

(b)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr,

(c)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr,

(d)pan fo gan y cyflenwr wefan, cyfeiriad y wefan,

(e)rhif cofrestru TAW y cyflenwr (o fewn yr ystyr a roddir i “VAT registration number” yn adran 5A(6) o Ddeddf Treth ar Werth 1994(14)), os yw’n gymwys, ac

(f)manylion unrhyw gymhwyster perthnasol neu unrhyw sicrwydd masnach perthnasol a ddelir gan yr unigolyn, gan gynnwys—

(i)yn achos cymhwyster, enw’r person neu’r corff a ddyfarnodd y cymhwyster, enw’r cymhwyster a’r dyddiad y cafodd ei ddyfarnu, neu

(ii)yn achos sicrwydd masnach, enw’r person neu’r corff a ddyfarnodd y cofrestriad, rhif cyfeirnod y sicrwydd a’r dyddiad y rhoddwyd y sicrwydd.

(3Pan na fo’r cyflenwr yn unigolyn, yr wybodaeth yw—

(a)enw’r cyflenwr,

(b)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr,

(c)cyfeiriad cofrestredig y cyflenwr neu gyfeiriad ei brif swyddfa,

(d)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr,

(e)pan fo’r cyflenwr yn marchnata ei nwyddau, ei wasanaethau neu ei weithiau ar-lein, cyfeiriad y wefan berthnasol,

(f)ffurf gyfreithiol y cyflenwr a’r gyfraith y’i llywodraethir odani,

(g)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y dyddiad y cofrestrodd y cyflenwr o dan y Ddeddf honno,

(h)pan na fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006—

(i)unrhyw ddyddiad cyfwerth â’r dyddiad a grybwyllir yn is-baragraff (g), neu

(ii)pan na fo dyddiad cyfwerth, y dyddiad y dechreuodd y cyflenwr fasnachu,

(i)rhif cofrestru TAW y cyflenwr (o fewn yr ystyr a roddir i “VAT registration number” yn adran 5A(6) o Ddeddf Treth ar Werth 1994), os yw’n gymwys,

(j)manylion unrhyw gymhwyster perthnasol neu unrhyw sicrwydd masnach perthnasol a ddelir gan y cyflenwr, gan gynnwys—

(i)yn achos cymhwyster, enw’r person neu’r corff a ddyfarnodd y cymhwyster, enw’r cymhwyster a’r dyddiad y cafodd ei ddyfarnu, neu

(ii)yn achos sicrwydd masnach, enw’r person neu’r corff a ddyfarnodd y cofrestriad, rhif cyfeirnod y sicrwydd a’r dyddiad y rhoddwyd y sicrwydd, a

(k)a yw’r cyflenwr—

(i)yn fenter fach a chanolig ei maint,

(ii)yn gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio ac sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

(iii)yn ddarparwr cyflogaeth â chymorth, neu

(iv)yn gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus.

Gwybodaeth y cyflenwr o ran ei sefyllfa economaidd ac ariannol

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth y cyflenwr o ran ei sefyllfa economaidd ac ariannol.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)yn achos cyflenwr yr oedd yn ofynnol i’w gyfrifon gael eu harchwilio ar gyfer dwy flwyddyn ariannol ddiweddaraf y cyflenwr yn unol â Rhan 16 o DC 2006, copi o’r cyfrifon hynny,

(b)yn achos cyflenwr yr oedd yn ofynnol i’w gyfrifon gael eu harchwilio ar gyfer blwyddyn ariannol ddiweddaraf y cyflenwr yn unol â Rhan 16 o DC 2006, ond nid y flwyddyn ariannol yn union cyn honno, copi o’r cyfrifon hynny,

(c)yn achos cyflenwr yr oedd yn ofynnol i’w gyfrifon gael eu harchwilio ar gyfer dwy flwyddyn ariannol ddiweddaraf y cyflenwr yn unol â gofyniad tramor cyfwerth â Rhan 16 o DC 2006, copi o’r cyfrifon hynny,

(d)yn achos cyflenwr yr oedd yn ofynnol i’w gyfrifon gael eu harchwilio ar gyfer blwyddyn ariannol ddiweddaraf y cyflenwr yn unol â gofyniad tramor cyfwerth â Rhan 16 o DC 2006, ond nid y flwyddyn ariannol yn union cyn honno, copi o’r cyfrifon hynny, neu

(e)yn achos unrhyw gyflenwr arall—

(i)os oedd y cyflenwr mewn busnes am y ddwy o flynyddoedd ariannol mwyaf diweddar y cyflenwr, cyfrifon neu wybodaeth arall am y ddwy flynedd hynny, neu

(ii)os oedd y cyflenwr mewn busnes am flwyddyn ariannol ddiweddaraf y cyflenwr ond nid y flwyddyn ariannol yn union cyn hynny, cyfrifon neu wybodaeth arall ar gyfer blwyddyn ariannol ddiweddaraf y cyflenwr,

sy’n gyfwerth â gwybodaeth a gynhwysir mewn cyfrifon a archwilir yn unol â Rhan 16 o DC 2006, i’r graddau y gellir rhoi’r cyfrifon hynny neu’r wybodaeth arall honno yn rhesymol.

(3Ym mharagraff (2)(a) a (b) mae i “blwyddyn ariannol” yr un ystyr â “financial year” yn adran 390 o DC 2006.

Gwybodaeth y cyflenwr o ran ei bersonau cysylltiedig

12.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth y cyflenwr o ran ei bersonau cysylltiedig.

(2Yr wybodaeth yw’r wybodaeth yn y rheoliad hwn ar gyfer pob person cysylltiedig i’r cyflenwr.

(3Mae paragraff (4) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006,

(b)pan fo’r person cysylltiedig yn berson â rheolaeth sylweddol dros y cyflenwr, ac

(c)pan fo’r person cysylltiedig yn gofrestradwy.

(4Yr wybodaeth yw—

(a)enw, dyddiad geni a chenedligrwydd y person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,

(c)pa un neu ragor o’r amodau penodedig yn Rhan 1 o Atodlen 1A i DC 2006 sy’n gymwys,

(d)y dyddiad pan ddaeth y person cysylltiedig yn gofrestradwy fel person â rheolaeth sylweddol, os yw’n gymwys, ac

(e)enw’r gofrestr pobl â rheolaeth sylweddol y mae’r person cysylltiedig wedi ei gofrestru arni fel person â rheolaeth sylweddol, os yw’n gymwys.

(5Mae paragraff (6) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006,

(b)pan fo’r person cysylltiedig yn endid cyfreithiol perthnasol, ac

(c)pan fo’r person cysylltiedig yn gofrestradwy.

(6Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,

(c)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,

(d)ffurf gyfreithiol y person cysylltiedig a’r gyfraith y’i llywodraethir odani,

(e)pa un neu ragor o’r amodau penodedig yn Rhan 1 o Atodlen 1A i DC 2006 sy’n gymwys,

(f)y dyddiad pan ddaeth y person cysylltiedig yn gofrestradwy fel endid cyfreithiol perthnasol, os yw’n gymwys, ac

(g)enw’r gofrestr pobl â rheolaeth sylweddol y mae’r person cysylltiedig wedi ei gofrestru arni fel endid cyfreithiol perthnasol, os yw’n gymwys.

(7Mae paragraff (8) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)pan fo’r person cysylltiedig—

(i)yn gyfarwyddwr neu’n gyfarwyddwr cysgodol i’r cyflenwr, a

(ii)yn unigolyn.

(8Yr wybodaeth yw—

(a)enw, dyddiad geni a chenedligrwydd y person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig, ac

(c)y wlad neu’r wladwriaeth (neu’r rhan o’r Deyrnas Unedig) y mae’r person cysylltiedig yn preswylio ynddi fel arfer.

(9Mae paragraff (10) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)o ran y person cysylltiedig—

(i)pan fo’n gyfarwyddwr neu’n gyfarwyddwr cysgodol i’r cyflenwr, a

(ii)pan na fo’n unigolyn.

(10Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig;

(b)cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,

(c)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,

(d)ffurf gyfreithiol y person cysylltiedig a’r gyfraith y’i llywodraethir odani, ac

(e)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, rhif cofrestru’r person a roddwyd o dan y Ddeddf honno.

(11Mae paragraff (12) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)pan fo’r person cysylltiedig yn rhiant-ymgymeriad neu’n is-ymgymeriad i’r cyflenwr.

(12Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,

(c)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig, a

(d)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru a roddwyd o dan y Ddeddf honno.

(13Mae paragraff (14) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni rhagflaenol i’r cyflenwr.

(14Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cofrestredig olaf y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa olaf,

(c)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru a roddwyd o dan y Ddeddf honno, a

(d)y dyddiad pan aeth y person cysylltiedig yn ansolfent ac y peidiodd â masnachu.

(15Mae paragraff (16) yn nodi’r wybodaeth—

(a)pan na fo’r cyflenwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, a

(b)pan ellir ystyried yn rhesymol fod y person cysylltiedig mewn sefyllfa gyfwerth, mewn perthynas â’r cyflenwr, â’r person cysylltiedig a ddisgrifir ym mharagraff (3), (5), (7), (9), (11) neu (13).

(16Mae’r wybodaeth yn wybodaeth y gellir ystyried yn rhesymol ei bod yn gyfwerth â’r hyn y cyfeirir ato ym mharagraff (4), (6), (8), (10), (12) neu (14) (yn ôl y digwydd).

(17Mae paragraff (18) yn nodi’r wybodaeth ar gyfer person cysylltiedig nad yw unrhyw un o baragraffau (3), (5), (7), (9), (11), (13) na (15) yn gymwys iddo—

(a)sydd â’r hawl i arfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad sylweddol neu reolaeth sylweddol dros y cyflenwr, neu

(b)y mae gan y cyflenwr yr hawl i arfer, neu ei fod yn arfer mewn gwirionedd, ddylanwad sylweddol neu reolaeth sylweddol drosto.

(18Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person cysylltiedig,

(b)cyfeiriad cofrestredig y person cysylltiedig neu gyfeiriad ei brif swyddfa,

(c)cyfeiriad cyflwyno’r person cysylltiedig,

(d)ffurf gyfreithiol y person cysylltiedig a’r gyfraith y’i llywodraethir odani,

(e)pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru a roddwyd o dan y Ddeddf honno,

(f)pan fo’r person cysylltiedig yn gyfwerth tramor â chwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, y rhif cofrestru sy’n gyfwerth â’r rhai sydd wedi eu dyroddi o dan DC 2006,

(g)pa un neu ragor o’r amodau penodedig yn Rhan 1 o Atodlen 1A i DC 2006 sy’n gymwys, ac

(h)y dyddiad pan ddaeth y person cysylltiedig yn gofrestradwy fel person â rheolaeth sylweddol, os yw’n gymwys.

(19Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “cofrestradwy”—

    (a)

    mewn cysylltiad â pherson â rheolaeth sylweddol, yr ystyr a roddir i “registrable” gan adran 790C(4) o DC 2006;

    (b)

    mewn cysylltiad ag endid cyfreithiol perthnasol, yr ystyr a roddir i “registrable” gan adran 790C(8) o DC 2006;

  • mae i “cyfeiriad cyflwyno” yr ystyr a roddir i “service address” gan adran 1141 o DC 2006;

  • mae i “endid cyfreithiol perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant legal entity” gan adran 790C(6) o DC 2006;mae i’r termau “cyfarwyddwr”, “rhiant-ymgymeriad”, “is-ymgymeriad”, “cwmni rhagflaenol” a “cyfarwyddwr cysgodol” yr un ystyr ag a roddir i “director”, “parent undertaking”, “subsidiary undertaking”, “predecessor company” a “shadow director” yn y drefn honno gan baragraff 45 o Atodlen 6 i Ddeddf 2023.

Gwybodaeth y cyflenwr o ran seiliau dros wahardd

13.—(1Mae paragraffau (2) i (13) yn nodi gwybodaeth y cyflenwr o ran seiliau dros wahardd.

(2A yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig wedi ei euogfarnu o drosedd y cyfeirir ati yn y paragraffau a ganlyn o Atodlen 6 i Ddeddf 2023—

(a)paragraff 2 (dynladdiad corfforaethol neu laddiad corfforaethol);

(b)paragraff 3 (terfysgaeth);

(c)paragraffau 4 i 18 (dwyn, twyll, llwgrwobrwyo etc.);

(d)paragraffau 19 i 26 (troseddau marchnad lafur, caethwasiaeth a masnachu pobl);

(e)paragraffau 27 ac 28 (troseddau cyfundrefnol);

(f)paragraffau 29 i 31 (troseddau treth);

(g)paragraff 32 (trosedd cartel);

(h)paragraff 33 (troseddau ategol);

(i)paragraff 34 (troseddau a gyflawnwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

(3A yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig wedi bod yn destun digwyddiad y cyfeirir ato yn y paragraffau a ganlyn o Atodlen 6 i Ddeddf 2023—

(a)paragraff 36 (cosbau am drafodiadau sy’n gysylltiedig â thwyll TAW ac efadu trethi neu dollau);

(b)paragraff 37 (cosbau sy’n daladwy am wallau mewn dogfennaeth dreth a methiant i hysbysu a mathau penodol o ddrygioni o ran TAW a thollau cartref);

(c)paragraff 38 (addasiadau ar gyfer trefniadau treth camddefnyddiol);

(d)paragraff 39 (canfyddiad gan CThEF, wrth arfer ei bwerau mewn cysylltiad â TAW, o arfer camddefnyddiol);

(e)paragraff 40 (trechu mewn cysylltiad â threfniadau treth hysbysadwy);

(f)paragraff 41 (torri cyfraith cystadleuaeth);

(g)paragraff 42 (materion cyfwerth y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

(4Mewn cysylltiad â pharagraff 43 o Atodlen 6 i Ddeddf 2023 (methiant i gydweithredu ag ymchwiliad)—

(a)a yw awdurdod priodol wedi rhoi hysbysiad i’r cyflenwr neu berson cysylltiedig o dan adran 60(6) o Ddeddf 2023, a

(b)a yw’r cyflenwr neu’r person cysylltiedig wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(5A yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig wedi bod yn destun digwyddiad y cyfeirir ato yn y paragraffau canlynol o Atodlen 7 i Ddeddf 2023—

(a)paragraff 1 (gorchmynion sy’n ymwneud â chamymddwyn yn y farchnad lafur);

(b)paragraff 4 (trosedd sy’n ymwneud â chamymddwyn amgylcheddol);

(c)paragraff 5 (ansolfedd, methdaliad, etc.);

(d)paragraff 6 (atal neu roi’r gorau i gynnal y cyfan neu ran sylweddol o fusnes);

(e)paragraff 9 (torri Deddf Cystadleuaeth 1998, gwaharddiad Pennod 2 neu gyfwerth y tu allan i’r Deyrnas Unedig);

(f)paragraff 11(2) (dyfarniad llys etc. o gamymddwyn proffesiynol);

(g)paragraff 12 (torri contract a pherfformiad gwael).

(6Mewn cysylltiad â pharagraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2023 (camymddwyn o ran y farchnad lafur), a yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig—

(a)wedi bod yn destun ymchwiliad, neu yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd, ynghylch ymddygiad y tu allan i’r Deyrnas Unedig a allai arwain at wneud gorchymyn a grybwyllir ym mharagraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 2023 pe bai’r ymddygiad yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)wedi cymryd rhan mewn ymddygiad o’r fath.

(7Mewn cysylltiad â pharagraff 3 o Atodlen 7 i Ddeddf 2023 (camymddwyn o ran y farchnad lafur), a yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig—

(a)wedi bod yn destun ymchwiliad, neu yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd, ynghylch ymddygiad (pa un ai yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi) sydd (neu a fyddai, pe bai’n digwydd yn y Deyrnas Unedig) yn drosedd y cyfeirir ati—

(i)yn adran 1, 2, 4 neu 30 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015(15),

(ii)yn adran 1, 4 neu 32 o Ddeddf Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Yr Alban) 2015(16), neu

(iii)yn adran 1, 2 neu 4 o Ddeddf Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015(17), neu baragraff 16 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, neu

(b)wedi cymryd rhan mewn ymddygiad o’r fath.

(8Mewn cysylltiad â pharagraff 7 o Atodlen 7 i Ddeddf 2023 (achosion posibl o dorri cyfraith cystadleuaeth)—

(a)a yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig wedi bod yn destun ymchwiliad, neu yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd, ynghylch a yw cytundeb neu arfer ar y cyd y mae’r cyflenwr neu berson cysylltiedig yn barti iddo wedi torri—

(i)y gwaharddiad Pennod 1 (o fewn yr ystyr a roddir i “the Chapter 1 prohibition” gan adran 2 o Ddeddf Cystadleuaeth 1998(18)),

(ii)unrhyw waharddiad sylweddol debyg sy’n gymwys mewn awdurdodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu

(b)a yw cytundeb neu arfer ar y cyd y mae’r cyflenwr neu berson cysylltiedig yn barti iddo wedi torri gwaharddiadau o’r fath,

ac eithrio o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (2) o baragraff 7.

(9Mewn cysylltiad â pharagraff 8 o Atodlen 7 i Ddeddf 2023 (achosion posibl o dorri cyfraith cystadleuaeth), a yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig—

(a)wedi bod yn destun ymchwiliad, neu yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd, ynghylch a yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig wedi torri—

(i)y gwaharddiad Pennod 2 (o fewn yr ystyr a roddir i “the Chapter 2 prohibition” gan adran 18 o Ddeddf Cystadleuaeth 1998), neu

(ii)unrhyw waharddiad sylweddol debyg sy’n gymwys mewn awdurdodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu

(b)wedi torri gwaharddiadau o’r fath.

(10Mewn cysylltiad â pharagraff 10 o Atodlen 7 i Ddeddf 2023 (achosion posibl o dorri cyfraith cystadleuaeth), a yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig—

(a)wedi bod yn destun ymchwiliad, neu yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd, ynghylch ymddygiad sydd—

(i)yn drosedd o dan adran 188 o Ddeddf Menter 2002(19) (trosedd cartel), neu

(ii)yn drosedd sylweddol debyg o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu

(b)wedi cymryd rhan mewn ymddygiad o’r fath,

ac eithrio o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (2) o baragraff 10 o Atodlen 7 i Ddeddf 2023.

(11Mewn cysylltiad â pharagraff 11 o Atodlen 7 i Ddeddf 2023 (camymddwyn proffesiynol), a yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig—

(a)wedi bod yn destun ymchwiliad, neu yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd, ynghylch camymddwyn proffesiynol sy’n codi amheuon ynghylch uniondeb y cyflenwr, neu

(b)wedi cymryd rhan mewn camymddwyn o’r fath.

(12Mewn cysylltiad â pharagraff 13 o Atodlen 7 i Ddeddf 2023 (gweithredu mewn ffordd amhriodol wrth gaffael), a yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig—

(a)wedi bod yn destun ymchwiliad, neu yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd, ynghylch a weithredodd y cyflenwr yn amhriodol mewn perthynas ag unrhyw gaffaeliad ac, wrth wneud hynny, ei fod wedi rhoi mantais annheg iddo ei hun mewn perthynas â dyfarnu contract cyhoeddus, neu

(b)wedi ymddwyn yn amhriodol yn y ffordd honno.

(13Os yw’r cyflenwr neu berson cysylltiedig wedi bod yn destun digwyddiad a grybwyllir ym mharagraffau (2) i (12), yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob person sydd wedi bod yn destun digwyddiad—

(a)disgrifiad byr o’r digwyddiad,

(b)enw’r person sy’n destun y digwyddiad,

(c)enw, cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y person,

(d)yn achos euogfarn neu ddigwyddiad arall pan fo cofnod wedi ei wneud o benderfyniad awdurdod cyhoeddus, sef y sail awdurdodol ar gyfer yr euogfarn neu’r digwyddiad arall—

(i)dolen i’r dudalen we lle y gellir cyrchu’r penderfyniad, neu

(ii)copi o’r penderfyniad,

(e)unrhyw dystiolaeth bod y person sy’n destun y digwyddiad—

(i)wedi cymryd y digwyddiad o ddifrif, er enghraifft drwy dalu unrhyw ddirwy neu iawndal,

(ii)wedi cymryd camau i atal y digwyddiad rhag digwydd eto, er enghraifft drwy newid staff neu reolwyr, neu roi gweithdrefnau neu hyfforddiant ar waith, a

(iii)wedi ymrwymo i gymryd camau ataliol pellach, pan fo hynny’n briodol, ac

(f)os yw’r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad wedi dod i ben, y dyddiad y daethant i ben.

(14Yn y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad”—

(a)mewn perthynas â darpariaeth yn Atodlen 6 i Ddeddf 2023, yw’r ystyr a roddir i “event” ym mharagraff 45 o’r Atodlen honno;

(b)mewn perthynas â darpariaeth yn Atodlen 7 i Ddeddf 2023, yw’r ystyr a roddir i “event” ym mharagraff 16 o’r Atodlen honno.

(15Yn y rheoliad hwn, mae i “camymddwyn proffesiynol” yr ystyr a roddir i “professional misconduct” gan baragraff 11(3) o Atodlen 7 i Ddeddf 2023.

Gwybodaeth yr awdurdod contractio

14.  Yn y Rhan hon, ystyr “gwybodaeth yr awdurdod contractio” yw—

(a)pan fo un awdurdod contractio ar gyfer caffaeliad, enw’r awdurdod contractio,

(b)pan fo dau neu ragor o awdurdodau contractio yn gweithredu ar y cyd ar gyfer caffaeliad—

(i)enw’r awdurdod contractio y mae’r awdurdodau contractio sy’n gweithredu ar y cyd yn ei bennu’n awdurdod arweiniol ar gyfer y caffaeliad, a

(ii)enw pob un o’r awdurdodau contractio eraill,

(c)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost ar gyfer pob awdurdod contractio,

(d)y cod adnabod unigryw ar gyfer pob awdurdod contractio, neu ar gyfer pob awdurdod contractio sy’n gweithredu ar y cyd,

(e)ar gyfer unrhyw berson sy’n cyflawni’r caffaeliad, neu ran o’r caffaeliad, ar ran awdurdod contractio, neu ar ran un neu ragor o’r awdurdodau contractio sy’n gweithredu ar y cyd—

(i)enw’r person,

(ii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y person,

(iii)cod adnabod unigryw y person, a

(iv)crynodeb o rôl y person, ac

(f)mewn cysylltiad â hysbysiad a gyhoeddir gan yr awdurdod contractio, enw, cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y person y dylid cysylltu ag ef os bydd ymholiad ynghylch yr hysbysiad.

Pwnc y contract

15.—(1Yn y Rhan hon, ystyr “pwnc y contract” yw’r wybodaeth a ganlyn, i’r graddau y mae’n hysbys i’r awdurdod contractio pan gyhoeddir yr wybodaeth—

(a)a yw’r contract yn bennaf ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaeth neu weithiau,

(b)disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(c)crynodeb o’r modd y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau hynny yn cael eu cyflenwi,

(d)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau yn cael eu cyflenwi neu amcangyfrif o’r cyfnod y byddant yn cael eu cyflenwi drosto,

(e)amcangyfrif o swm nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(f)y codau GGG perthnasol, ac

(g)y dosbarthiad daearyddol, pan fo’n bosibl disgrifio hyn.

(2Yn y Rhan hon, ystyr “dosbarthiad daearyddol” yw—

(a)yr ardal y mae’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau i gael eu cyflenwi ynddi yn y Deyrnas Unedig, drwy gyfeirio at yr ardaloedd ITL 1, ITL 2 ac ITL 3 perthnasol a restrir ar y wefan â’r pennawd “International Geographies” ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(20) fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, neu

(b)pan fo’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau i gael eu cyflenwi y tu allan i’r Deyrnas Unedig, enw’r wlad a, pan fo’n briodol, y rhanbarth y maent i gael eu cyflenwi ynddo.

Hysbysiadau piblinell

16.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi pa wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad piblinell a gyhoeddir o dan adran 93(2) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)pwnc y contract, ac

(e)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y canlynol yn cael eu cyhoeddi—

(i)yr hysbysiad tendro ar gyfer y contract cyhoeddus, neu

(ii)yr hysbysiad tryloywder ar gyfer y contract cyhoeddus.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth berthnasol arall yn yr hysbysiad.

Hysbysiadau caffael arfaethedig

17.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad caffael arfaethedig a gyhoeddir o dan adran 15(1) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)pwnc y contract,

(e)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd yr hysbysiad tendro ar gyfer y contract cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi,

(f)amcangyfrif o’r dyddiad erbyn pryd y gofynnir i gyflenwyr gyflwyno ceisiadau i gymryd rhan mewn unrhyw broses dendro neu dendrau,

(g)pa un o’r gweithdrefnau canlynol y disgwylir ei defnyddio—

(i)gweithdrefn agored, neu

(ii)gweithdrefn hyblyg gystadleuol,

(h)a fydd y contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o farchnad ddynamig,

(i)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu,

(j)sut y gellir cael gafael ar ddogfennau sy’n ymwneud â’r caffaeliad,

(k)datganiad sy’n esbonio sut a phryd y caniateir mynegi diddordeb yn y contract, ac

(l)cymaint o’r wybodaeth yn ymwneud â hysbysiadau tendro, y cyfeirir ati yn rheoliad 19 (2), 20(2), 21 (2), 22(2) neu 23(2), ag sydd ar gael i’r awdurdod contractio ar adeg cyhoeddi’r hysbysiad caffael arfaethedig.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad mewn hysbysiad caffael arfaethedig.

Hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad

18.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad a gyhoeddir o dan adran 17(1)(a) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)pwnc y contract,

(e)naill ai—

(i)y dyddiad y mae’r awdurdod contractio yn bwriadu dod â’r ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad i ben, neu

(ii)y dyddiad y daeth yr ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad i ben, ac

(f)disgrifiad o’r broses y mae’r awdurdod contractio yn bwriadu ymgysylltu, neu wedi ymgysylltu, â chyflenwyr drwyddi yn ystod yr ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, er enghraifft—

(i)lleoliad, dyddiad ac amser digwyddiadau, a

(ii)unrhyw gyfnodau ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb a gwybodaeth gan gyflenwyr.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

Hysbysiadau tendro: gweithdrefn agored

19.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus drwy weithdrefn agored, a gyhoeddir o dan adran 21(1)(a) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)datganiad bod yr hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus drwy weithdrefn agored yn unol ag adran 20(1) a (2)(a) o Ddeddf 2023,

(e)a yw’r hysbysiad tendro yn ymwneud â chontract cyfundrefn arbennig ac, os felly, a yw’r contract hwnnw—

(i)yn gontract consesiwn,

(ii)yn gontract cyffyrddiad ysgafn, neu

(iii)yn gontract cyfleustodau,

(f)pwnc y contract,

(g)amcangyfrif o werth y contract cyhoeddus,

(h)pan fo’r contract cyhoeddus ar gyfer nwyddau, gwasanaethau neu weithiau y mae’r awdurdod contractio yn disgwyl y bydd eu hangen ar ôl i’r contract ddod i ben—

(i)a yw’r awdurdod contractio yn bwriadu caffael nwyddau, gwasanaethau neu weithiau tebyg wedi hynny drwy ddibynnu ar y cyfiawnhad dros ddyfarnu’n uniongyrchol ym mharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 2023, neu

(ii)amcangyfrif, os yw’n bosibl, o’r dyddiad y bydd unrhyw hysbysiad tendro dilynol yn cael ei gyhoeddi,

(i)a fydd arwerthiant electronig yn cael ei ddefnyddio ac, os felly, fanylion technegol ynghylch y modd y gall cyflenwyr gymryd rhan yn yr arwerthiant electronig,

(j)sut y caniateir cyflwyno tendrau a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid eu cyflwyno,

(k)y meini prawf dyfarnu, neu grynodeb o’r meini prawf dyfarnu, ar gyfer y contract cyhoeddus,

(l)yr ieithoedd y caniateir cyflwyno tendrau neu ymholiadau mewn cysylltiad â’r weithdrefn dendro ynddynt,

(m)a yw’r contract cyhoeddus yn gontract y mae gan y Deyrnas Unedig rwymedigaethau ar ei gyfer o dan y Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau,

(n)o’r dyddiad y daw’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel i rym ar gyfer y Deyrnas Unedig, a yw’r contract cyhoeddus yn gontract y mae gan y Deyrnas Unedig rwymedigaethau ar ei gyfer o dan y Cytundeb hwnnw,

(o)a yw’r contract cyhoeddus wedi ei ddyfarnu drwy gyfeirio at lotiau ac, os felly, ar gyfer pob lot—

(i)enw’r lot,

(ii)y rhif neilltuol a roddwyd i’r lot gan yr awdurdod contractio,

(iii)yr wybodaeth a ganlyn, i’r graddau y mae’n hysbys i’r awdurdod contractio pan gyhoeddir yr hysbysiad tendro—

(aa)disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(bb)crynodeb o’r modd y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau hynny yn cael eu cyflenwi,

(cc)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau yn cael eu cyflenwi neu amcangyfrif o’r cyfnod y byddant yn cael eu cyflenwi drosto,

(dd)amcangyfrif o swm nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(ee)amcangyfrif o werth y lot,

(ff)y codau GGG perthnasol,

(gg)y meini prawf dyfarnu perthnasol mewn perthynas â’r lot,

(hh)unrhyw opsiwn mewn perthynas â’r lot, ac

(ii)y dosbarthiad daearyddol, pan fo’n bosibl ei ddisgrifio,

(p)pan fo’r contract cyhoeddus wedi ei ddyfarnu drwy gyfeirio at lotiau—

(i)a ganiateir i gyflenwr gyflwyno tendr ar gyfer uchafswm o lotiau yn unig ac, os felly, yr uchafswm,

(ii)a ganiateir dyfarnu uchafswm o lotiau yn unig i gyflenwr ac, os felly, yr uchafswm, a

(iii)a fydd yr awdurdod contractio yn dyfarnu lotiau lluosog i’r un cyflenwr yn unol â meini prawf ac, os felly, grynodeb o’r meini prawf,

(q)pan fo’r awdurdod contractio yn ystyried o dan adran 18(2) o Ddeddf 2023 y gellid dyfarnu’r contract cyhoeddus drwy gyfeirio at lotiau ond nad yw hynny’n digwydd, y rhesymau dros hyn, ac eithrio yn achos contract cyfleustodau neu gontract cyffyrddiad ysgafn,

(r)disgrifiad o unrhyw opsiwn a fydd yn cael ei gynnwys yn y contract cyhoeddus—

(i)i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol, neu

(ii)i ymestyn neu adnewyddu cyfnod y contract,

(s)a yw’r awdurdod contractio yn bwriadu gosod y cyfnod tendro lleiaf byrraf drwy gyfeirio at un o’r cofnodion a ganlyn yn y tabl yn adran 54(4) o Ddeddf 2023 ac, os felly, pa gofnod—

(i)yr ail gofnod (contractau cyfleustodau neu gontractau a ddyfernir gan awdurdod contractio nad yw’n awdurdod llywodraeth ganolog, sy’n ddarostyngedig i gyfnod tendro a negodwyd; dim cyfnod lleiaf),

(ii)y trydydd cofnod (contractau cyfleustodau neu gontractau penodol a ddyfernir gan awdurdod contractio nad yw’n awdurdod llywodraeth ganolog, pan ganiateir cyflwyno tendrau gan gyflenwyr a ddetholwyd ymlaen llaw yn unig; 10 niwrnod),

(iii)y pedwerydd cofnod (mae hysbysiad caffael arfaethedig cymhwysol wedi ei gyhoeddi; 10 niwrnod), neu

(iv)y pumed cofnod (sefyllfa frys; 10 niwrnod),

(t)a yw’r awdurdod contractio yn ystyried y gall y contract cyhoeddus neu unrhyw lot sy’n ffurfio rhan o’r contract fod yn arbennig o addas i’w ddyfarnu—

(i)i fenter fach a chanolig ei maint, neu

(ii)i gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

(u)a yw dogfennau tendro cysylltiedig yn cael eu darparu yn unol â’r hysbysiad tendro ar yr un pryd ag y mae’r hysbysiad yn cael ei gyhoeddi ac, os felly—

(i)enw pob dogfen dendro gysylltiedig,

(ii)a yw pob dogfen dendro gysylltiedig ynghlwm wrth yr hysbysiad tendro, a

(iii)os nad yw dogfen dendro gysylltiedig ynghlwm wrth yr hysbysiad tendro, dolen i’r dudalen we lle y mae wedi ei darparu,

(v)a yw dogfen dendro gysylltiedig yn cael ei darparu, neu y gall gael ei darparu, yn unol â’r hysbysiad tendro ar ôl y dyddiad y bydd yr hysbysiad hwnnw yn cael ei gyhoeddi ac, os felly, dolen i’r dudalen we lle y bydd yn cael ei darparu, neu esboniad ynghylch sut y bydd y ddogfen yn cael ei darparu,

(w)disgrifiad o unrhyw fanylebau technegol y disgwylir eu bodloni neu groesgyfeiriad i’r lle y gellir eu cyrchu,

(x)disgrifiad o unrhyw amodau cymryd rhan o dan adran 22 o Ddeddf 2023,

(y)unrhyw delerau talu (yn ogystal â’r rhai a nodir yn adran 68 o Ddeddf 2023),

(z)disgrifiad yn nodi unrhyw risg—

(i)y mae’r awdurdod contractio yn ystyried y gallai beri i’r contract cyhoeddus beidio â chael ei gyflawni’n foddhaol ond, oherwydd ei natur, y mae’n bosibl na fydd yn cael sylw yn y contract cyhoeddus fel y’i dyfernir, a

(ii)a all ei gwneud yn ofynnol addasu’r contract cyhoeddus yn ddiweddarach o dan baragraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf 2023 (addasu contract yn dilyn gwireddiad risg hysbys), ac

(z1)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “arwerthiant electronig” yw proses ailadroddol sy’n cynnwys defnyddio dulliau electronig er mwyn i gyflenwyr gyflwyno naill ai brisiau newydd, neu werthoedd newydd ar gyfer elfennau o’r tendr y mae modd eu meintioli nad ydynt yn ymwneud â phrisiau ac sy’n gysylltiedig â’r meini prawf gwerthuso, neu’r ddau, gan arwain at bennu safleoedd tendrau neu aildrefnu safleoedd tendrau mewn rhestr drefnol.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu fframwaith drwy weithdrefn agored (gweler yn hytrach reoliad 21).

Hysbysiadau tendro: gweithdrefn hyblyg gystadleuol

20.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus drwy weithdrefn hyblyg gystadleuol a gyhoeddir yn unol ag adran 21(1)(b) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 19(2) ac eithrio is-baragraffau (d) a (j),

(b)datganiad bod yr hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus drwy weithdrefn hyblyg gystadleuol yn unol ag adran 20(1) a (2)(b) o Ddeddf 2023,

(c)disgrifiad o’r broses sydd i’w dilyn yn ystod y weithdrefn, gan gynnwys—

(i)a all y weithdrefn gynnwys negodi ar unrhyw adeg, a

(ii)os yw’r awdurdod contractio yn bwriadu dibynnu ar adran 24 o Ddeddf 2023 (mireinio meini prawf), crynodeb o’r modd y bydd yn dibynnu ar yr adran honno,

(d)pan fo nifer y cyflenwyr, neu y gall y bo nifer y cyflenwyr, yn ddim mwy nag uchafswm o gyflenwyr, yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â rowndiau tendro penodol neu brosesau dethol eraill, yr uchafswm o gyflenwyr a’r meini prawf a ddefnyddir i ddethol y nifer cyfyngedig o gyflenwyr,

(e)pan fo nifer y cyflenwyr, neu y gall y bo nifer y cyflenwyr, yn ddim llai nag isafswm bwriadedig o gyflenwyr, yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â rowndiau tendro penodol neu brosesau dethol eraill, yr isafswm bwriadedig o gyflenwyr,

(f)pan fo’r hysbysiad tendro yn cael ei ddefnyddio at ddiben gwahodd cyflenwyr i gyflwyno cais i gymryd rhan, sut y caniateir cyflwyno ceisiadau i gymryd rhan a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid eu cyflwyno,

(g)pan fo’r hysbysiad tendro yn cael ei ddefnyddio at ddiben gwahodd cyflenwyr i gyflwyno eu tendr cyntaf neu eu hunig dendr, sut y caniateir cyflwyno tendrau a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid eu cyflwyno, ac

(h)a yw’r hysbysiad tendro yn cael ei ddefnyddio—

(i)i neilltuo contract i ddarparwyr cyflogaeth â chymorth yn unol ag adran 32 o Ddeddf 2023, neu

(ii)i neilltuo contract i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus yn unol ag adran 33 o Ddeddf 2023.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)i hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu fframwaith drwy weithdrefn hyblyg gystadleuol (gweler yn hytrach reoliad 21), na

(b)i hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o farchnad ddynamig (gweler yn hytrach reoliad 22).

Hysbysiadau tendro: fframweithiau

21.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu fframwaith, a gyhoeddir yn unol ag adran 21(1) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)pan fo’r weithdrefn agored yn cael ei defnyddio, yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 19(2),

(b)pan fo’r weithdrefn hyblyg gystadleuol yn cael ei defnyddio, yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 20(2),

(c)manylion y broses ddethol sydd i’w chymhwyso wrth ddyfarnu contractau,

(d)cyfnod y fframwaith,

(e)yr awdurdodau contractio a chanddynt hawlogaeth i ddyfarnu contractau yn unol â’r fframwaith (pa un ai drwy restru enwau’r awdurdodau hynny neu drwy ddisgrifio categorïau o awdurdodau),

(f)a yw’r fframwaith wedi ei ddyfarnu o dan fframwaith agored,

(g)pan fo’r fframwaith yn cael ei ddyfarnu o dan fframwaith agored, y cod adnabod unigryw ar gyfer caffaeliad y fframwaith olaf a ddyfarnwyd o dan y fframwaith agored (oni bai nad oes fframwaith wedi ei ddyfarnu o dan y fframwaith agored yn flaenorol),

(h)pan fo’r fframwaith yn cael ei ddyfarnu o dan fframwaith agored, amcangyfrif o ddyddiad dod i ben y fframwaith agored,

(i)pa un ai’r bwriad yw dyfarnu’r fframwaith—

(i)i gyflenwr unigol,

(ii)i uchafswm o gyflenwyr, neu

(iii)i nifer diderfyn o gyflenwyr,

(j)pan mai’r bwriad yw dyfarnu’r fframwaith i uchafswm o gyflenwyr, yr uchafswm o gyflenwyr,

(k)a yw’r fframwaith yn darparu ar gyfer codi ffioedd yn unol ag adran 45(7) o Ddeddf 2023 ac, os felly, y ganran sefydlog o werth amcangyfrifedig unrhyw gontract a ddyfernir i’r cyflenwr yn unol â’r fframwaith ac unrhyw wybodaeth angenrheidiol arall er mwyn deall sut y caiff ffioedd eu codi, ac

(l)pan fo’r fframwaith yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o farchnad ddynamig—

(i)y cod adnabod unigryw ar gyfer y farchnad ddynamig y mae’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu yn ei herbyn,

(ii)datganiad bod yr hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus sydd i’w ddyfarnu drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o farchnad ddynamig, a

(iii)pan fo’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu o dan ran briodol o farchnad ddynamig—

(aa)enw’r rhan, a

(bb)y rhif neilltuol a roddwyd i’r rhan gan y person a sefydlodd y farchnad ddynamig.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

Hysbysiadau tendro: marchnadoedd dynamig ac eithrio marchnadoedd dynamig cyfleustodau cymhwysol

22.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o farchnad ddynamig, a gyhoeddir o dan adrannau 21(1)(b) a 34(1) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 20(2),

(b)y cod adnabod unigryw ar gyfer y farchnad ddynamig y mae’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu yn ei herbyn,

(c)datganiad bod yr hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus sydd i’w ddyfarnu drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o farchnad ddynamig, a

(d)pan fo’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu o dan ran briodol o farchnad ddynamig—

(i)enw’r rhan, a

(ii)y rhif neilltuol a roddwyd i’r rhan gan yr awdurdod priodol.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad tendro o’r math a grybwyllir yn rheoliad 23(1).

Hysbysiadau tendro: hysbysiadau marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol

23.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad tendro ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus, drwy gyfeirio at farchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlir o dan hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol, a ddarperir o dan adran 40(2) neu (3) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)y cod adnabod unigryw ar gyfer y farchnad ddynamig y mae’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu yn ei herbyn,

(c)pwnc y contract,

(d)pan fo’r contract cyhoeddus ar gyfer nwyddau, gwasanaethau neu weithiau y mae’r awdurdod contractio yn disgwyl y bydd eu hangen ar ôl i’r contract ddod i ben, amcangyfrif o’r dyddiad, os yw’n bosibl, y bydd unrhyw hysbysiad tendro dilynol yn cael ei ddarparu,

(e)disgrifiad o unrhyw opsiwn a fydd yn cael ei gynnwys yn y contract cyhoeddus—

(i)i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol, neu

(ii)i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract,

(f)a fydd arwerthiant electronig yn cael ei ddefnyddio,

(g)sut y caniateir cyflwyno ceisiadau i gymryd rhan a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid eu cyflwyno,

(h)sut y caniateir cyflwyno tendrau a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid eu cyflwyno,

(i)a yw’r awdurdod contractio yn bwriadu dibynnu ar un o’r cyfnodau tendro lleiaf canlynol a grybwyllir yn y tabl yn adran 54(4) o Ddeddf 2023 ac, os felly, pa gofnod—

(i)y cofnod cyntaf (mae’r contract sy’n cael ei ddyfarnu yn gontract cyffyrddiad ysgafn; dim cyfnod lleiaf),

(ii)yr ail gofnod (contractau cyfleustodau neu gontractau a ddyfernir gan awdurdod contractio nad yw’n awdurdod llywodraeth ganolog, sy’n ddarostyngedig i gyfnod tendro a negodwyd; dim cyfnod lleiaf);

(iii)y trydydd cofnod (contractau cyfleustodau neu gontractau a ddyfernir gan awdurdod contractio nad yw’n awdurdod llywodraeth ganolog, pan ganiateir cyflwyno tendrau gan gyflenwyr a ddetholwyd ymlaen llaw yn unig; 10 niwrnod), neu

(iv)y pumed cofnod (sefyllfa frys; 10 niwrnod),

(j)disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi, a

(k)amcangyfrif o swm nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi.

(3Pan fo awdurdod contractio eisoes wedi cyhoeddi gwybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (2) yn yr hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn unol â rheoliad 26(2)(i)(ii), nid yw’n ofynnol i’r awdurdod contractio ddarparu’r wybodaeth honno yn yr hysbysiad.

(4Ym mharagraff (2), mae i “arwerthiant electronig” yr ystyr a roddir gan reoliad 19(3).

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag darparu gwybodaeth arall yn yr hysbysiad.

Dogfennau tendro cysylltiedig

24.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi pa wybodaeth y caniateir ei chynnwys mewn dogfen dendro gysylltiedig a ddarperir o dan adran 21(3) o Ddeddf 2023 yn unol â hysbysiad tendro.

(2Caiff y ddogfen gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ategu’r hysbysiad tendro gan gynnwys, pan fo’n briodol, wybodaeth sy’n dyblygu’r wybodaeth a grybwyllir—

(a)yn rheoliad 19(2),

(b)yn rheoliad 20(2),

(c)yn rheoliad 21(2),

(d)yn rheoliad 22(2), neu

(e)yn rheoliad 23(2).

Hysbysiadau tendro ar gyfer contractau sydd o dan y trothwy

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad tendro ar gyfer contractau sydd o dan y trothwy, a gyhoeddir o dan adran 87(1) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)pan fo’r contract yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at farchnad ddynamig, y cod adnabod unigryw ar gyfer y farchnad ddynamig honno,

(e)pan fo’r contract i gael ei ddyfarnu o dan ran briodol o farchnad ddynamig, y rhif neilltuol a roddwyd i’r rhan honno gan yr awdurdod contractio,

(f)pwnc y contract,

(g)amcangyfrif o werth y contract,

(h)sut y caniateir cyflwyno tendrau a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid eu cyflwyno,

(i)a yw’r hysbysiad yn cael ei ddefnyddio i wahodd tendrau ar gyfer contract cyfundrefn arbennig ac, os felly, a yw’r contract hwnnw yn gontract cyffyrddiad ysgafn,

(j)a yw’r awdurdod contractio yn ystyried y gall y contract neu unrhyw lot sy’n ffurfio rhan o’r contract fod yn arbennig o addas i’w ddyfarnu—

(i)i fenter fach a chanolig ei maint, neu

(ii)i gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

(k)esboniad o’r meini prawf y bydd dyfarnu’r contract yn cael ei asesu yn eu herbyn, ac

(l)disgrifiad o unrhyw amodau cymryd rhan mewn perthynas â dyfarnu’r contract.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(4Yn y rheoliad hwn, mae i “hysbysiad tendro ar gyfer contractau sydd o dan y trothwy” yr ystyr a roddir i “below-threshold tender notice” gan adran 87(5) o Ddeddf 2023.

Hysbysiadau marchnad ddynamig (gan gynnwys hysbysiadau marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol)

26.—(1Mae paragraff (2) yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad marchnad ddynamig a gyhoeddir o dan adran 39(2) o Ddeddf 2023 (hysbysiadau marchnad ddynamig: bwriad i sefydlu marchnad ddynamig).

(2Yr wybodaeth yw—

(a)enw’r person sy’n sefydlu’r farchnad ddynamig,

(b)pan fo dau berson neu ragor yn sefydlu’r farchnad ddynamig ar y cyd—

(i)enw’r person arweiniol, a

(ii)enw pob un o’r personau eraill,

(c)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost ar gyfer pob person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b),

(d)y cod adnabod unigryw ar gyfer pob person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b),

(e)enw unrhyw berson (“A”) sy’n sefydlu’r farchnad ddynamig ar ran person arall ac—

(i)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost A,

(ii)cod adnabod unigryw A, a

(iii)crynodeb o rôl A mewn perthynas â’r farchnad ddynamig,

(f)enw, cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost unrhyw berson y gellir cysylltu ag ef os bydd ymholiad ynghylch y farchnad ddynamig,

(g)enw’r farchnad ddynamig,

(h)y cod adnabod unigryw ar gyfer y farchnad ddynamig,

(i)yn achos hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol—

(i)datganiad mai dim ond aelodau o’r farchnad, neu o ran o’r farchnad, fydd yn cael eu hysbysu am fwriad yn y dyfodol i ddyfarnu contract drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o’r farchnad, neu o ran o’r farchnad, ac yn cael hysbysiad tendro yn unol ag adran 40(1) a (2) o Ddeddf 2023, a

(ii)cymaint o’r wybodaeth a fyddai’n cael ei chyhoeddi mewn unrhyw hysbysiad tendro a gyhoeddir yn unol â rheoliad 23(2) ag sydd ar gael pan gyhoeddir yr hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol,

(j)sut y gellir cael gafael ar ddogfennau sy’n ymwneud â’r farchnad ddynamig,

(k)sut y caniateir gwneud cais i ymuno â’r farchnad ddynamig,

(l)a yw’r farchnad ddynamig yn bennaf ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau,

(m)disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau y mae’r farchnad ddynamig yn ymwneud â hwy, wedi ei roi yn y fath fanylder fel y gall darllenydd yr hysbysiad marchnad ddynamig benderfynu a yw’n dymuno gwneud cais i ymuno â’r farchnad ddynamig, neu ran briodol o’r farchnad,

(n)y codau GGG perthnasol,

(o)yr amodau ar gyfer aelodaeth o’r farchnad ddynamig, neu ran o’r farchnad, wedi eu gosod yn unol ag adran 36 o Ddeddf 2023,

(p)disgrifiad o’r dulliau a fydd yn cael eu defnyddio i ddilysu a yw cyflenwr yn bodloni’r amodau hynny, gan gynnwys unrhyw amodau gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau,

(q)a ganiateir i’r farchnad ddynamig gael ei defnyddio i ddyfarnu contract cyhoeddus y mae gan y Deyrnas Unedig rwymedigaethau ar ei gyfer o dan y Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau,

(r)o’r dyddiad y daw’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel i rym ar gyfer y Deyrnas Unedig, a yw’r farchnad ddynamig yn farchnad y mae gan y Deyrnas Unedig rwymedigaethau ar ei chyfer o dan y Cytundeb hwnnw,

(s)a ganiateir i’r farchnad ddynamig gael ei defnyddio i ddyfarnu contract cyfundrefn arbennig ac, os felly, a yw’r contract hwnnw—

(i)yn gontract consesiwn,

(ii)yn gontract cyffyrddiad ysgafn, neu

(iii)yn gontract cyfleustodau,

(t)pan fo’r farchnad ddynamig wedi ei rhannu’n rhannau priodol at ddiben gwahardd cyflenwyr nad ydynt yn aelodau o ran briodol—

(i)enw pob rhan,

(ii)disgrifiad o bob rhan gan gynnwys unrhyw godau GGG perthnasol, a

(iii)y rhif neilltuol a roddir i bob rhan gan y person sy’n sefydlu’r farchnad ddynamig,

(u)gwybodaeth sy’n galluogi darllenydd i nodi pa awdurdodau contractio fydd yn gwneud cais, neu y caniateir iddynt wneud cais, i ddefnyddio’r farchnad ddynamig (naill ai drwy gyfeirio at restr o awdurdodau neu restr sy’n disgrifio categorïau o awdurdodau),

(v)y dosbarthiad daearyddol, pan fo’n bosibl ei ddisgrifio,

(w)yn achos marchnad ddynamig, y mae amcangyfrif o’r dyddiad y bydd yn peidio â gweithredu yn hysbys ar ei chyfer—

(i)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y farchnad ddynamig yn cael ei sefydlu, a

(ii)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y farchnad ddynamig yn peidio â gweithredu,

(x)yn achos marchnad ddynamig nad oes amcangyfrif o’r dyddiad y bydd yn peidio â gweithredu yn hysbys ar ei chyfer—

(i)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y farchnad ddynamig yn cael ei sefydlu, a

(ii)datganiad bod y farchnad ddynamig yn farchnad benagored,

(y)yn achos marchnad ddynamig nad yw’n farchnad ddynamig cyfleustodau, a yw’r farchnad ddynamig yn darparu ar gyfer codi ffioedd yn unol ag adran 38(1) o Ddeddf 2023 ac, os felly—

(i)y ganran sefydlog i’w chymhwyso i werth amcangyfrifedig unrhyw gontract cyhoeddus a ddyfernir i gyflenwr drwy gyfeirio at y farchnad ddynamig, a

(ii)unrhyw wybodaeth angenrheidiol arall er mwyn galluogi cyflenwyr i ddeall sut y bydd ffioedd yn cael eu codi, a

(z)yn achos marchnad ddynamig cyfleustodau—

(i)a yw’r farchnad ddynamig cyfleustodau yn darparu ar gyfer codi ffioedd yn unol ag adran 38(3) o Ddeddf 2023, a

(ii)os felly, unrhyw wybodaeth angenrheidiol arall er mwyn galluogi cyflenwyr i ddeall sut y bydd ffioedd yn cael eu codi.

(3Mae paragraff (4) yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad marchnad ddynamig a gyhoeddir o dan adran 39(3) o Ddeddf 2023 (sefydlu marchnad ddynamig).

(4Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) i (h),

(b)y dyddiad y cafodd y farchnad ddynamig ei sefydlu,

(c)ar gyfer pob cyflenwr sy’n aelod o’r farchnad ddynamig—

(i)enw’r cyflenwr,

(ii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr,

(iii)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr, a

(iv)a yw’r cyflenwr—

(aa)yn fenter fach a chanolig ei maint, neu

(bb)yn gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio ac sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol, a

(d)pan fo’r farchnad ddynamig wedi ei rhannu’n rhannau, y rhan y mae pob un o’r cyflenwyr hynny yn aelod ohoni.

(5Mae paragraff (6) yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad marchnad ddynamig a gyhoeddir o dan adran 39(4) o Ddeddf 2023 (addasiadau i farchnad ddynamig).

(6Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) i (h),

(b)y dyddiad y mae’r addasiad yn cael effaith ohono,

(c)os yw cyflenwr yn cael ei dderbyn i’r farchnad, datganiad i’r perwyl hwnnw ac—

(i)ei enw, ei gyfeiriad post cyswllt, ei gyfeiriad e-bost a’i god adnabod unigryw, a

(ii)pan fo’r farchnad ddynamig wedi ei rhannu’n rhannau, y rhan y mae’r cyflenwr yn aelod ohoni,

(d)a yw’r cyflenwr—

(i)yn fenter fach a chanolig ei maint, neu

(ii)yn gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio ac sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

(e)os yw cyflenwr yn cael ei dynnu oddi wrth y farchnad, datganiad i’r perwyl hwnnw ac—

(i)ei enw, ei gyfeiriad post cyswllt, ei gyfeiriad e-bost a’i god adnabod unigryw, a

(ii)pan fo’r farchnad ddynamig wedi ei rhannu’n rhannau, y rhan y mae’r cyflenwr yn aelod ohoni,

(f)crynodeb o unrhyw addasiad arall sy’n cael ei wneud, ac

(g)cadarnhad y cafodd asesiad gwrthdaro ei baratoi a’i ddiwygio yn unol ag adran 83 o Ddeddf 2023.

(7Mae paragraff (8) yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad marchnad ddynamig a gyhoeddir o dan adran 39(5) o Ddeddf 2023 (diwedd marchnad ddynamig).

(8Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) i (h), a

(b)y dyddiad y peidiodd y farchnad â gweithredu.

(9Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad mewn hysbysiad marchnad ddynamig.

Hysbysiadau tryloywder

27.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad tryloywder a gyhoeddir o dan adran 44(1) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)yn achos caffaeliad pan fo newid wedi bod i ddyfarniad uniongyrchol yn unol ag adran 43 o Ddeddf 2023, y cod adnabod unigryw a ddyrannwyd i’r caffaeliad cyn y newid i ddyfarniad uniongyrchol,

(e)y cod adnabod unigryw ar gyfer y contract, os yw hyn yn hysbys pan gyhoeddir yr hysbysiad tryloywder,

(f)pwnc y contract,

(g)a yw’r contract cyhoeddus yn gontract cyfundrefn arbennig ac, os felly, a yw—

(i)yn gontract consesiwn,

(ii)yn gontract cyffyrddiad ysgafn, neu

(iii)yn gontract cyfleustodau,

(h)a yw’r contract yn cael ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr nad yw’n gyflenwr gwaharddedig oherwydd bod cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol yn gymwys yn unol ag adran 41(1)(a) o Ddeddf 2023,

(i)os yw is-baragraff (h) yn gymwys, y cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol yn Atodlen 5 i Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei fod yn gymwys,

(j)a yw’r contract yn cael ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr sy’n gyflenwr gwaharddedig oherwydd bod yr awdurdod contractio yn ystyried mai’r hyn sydd o’r budd mwyaf i’r cyhoedd yw dyfarnu’r contract i’r cyflenwr hwnnw yn unol ag adran 41(2) i (5) o Ddeddf 2023,

(k)os yw is-baragraff (j) yn gymwys—

(i)y drosedd, neu ddigwyddiad arall a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf 2023, y mae’r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig yn rhinwedd y drosedd honno neu’r digwyddiad hwnnw, a

(ii)pa sail yn adran 41(5) o Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei bod yn gymwys,

(l)a yw’r contract yn cael ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr yn unol â rheoliadau sydd wedi eu gwneud o dan adran 42 o Ddeddf 2023 (dyfarniad uniongyrchol er mwyn gwarchod bywyd, etc.),

(m)os yw is-baragraff (l) yn gymwys, enw a rhif cofrestru’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau hynny,

(n)a yw’r contract yn cael ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr nad yw’n gyflenwr gwaharddedig yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2023 (newid i ddyfarniad uniongyrchol),

(o)os yw is-baragraff (n) yn gymwys, y rheswm pam, ym marn yr awdurdod contractio, na fu unrhyw dendrau addas nac unrhyw geisiadau i gymryd rhan drwy gyfeirio at adran 43(2) o Ddeddf 2023, a pham y mae’n ystyried nad yw dyfarniad o dan adran 19 o’r Ddeddf honno yn bosibl o dan yr amgylchiadau,

(p)a yw’r contract yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at lotiau ac, os felly—

(i)enw pob lot, a

(ii)y rhif neilltuol a roddwyd i bob lot gan yr awdurdod contractio,

(q)amcangyfrif o werth y contract,

(r)a yw’r awdurdod contractio yn ystyried y gall y contract neu unrhyw lot sy’n ffurfio rhan o’r contract fod yn arbennig o addas i’w ddyfarnu—

(i)i fenter fach a chanolig ei maint, neu

(ii)i gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

(s)disgrifiad yn nodi unrhyw risg—

(i)y mae’r awdurdod contractio yn ystyried y gallai beri i’r contract beidio â chael ei gyflawni’n foddhaol ond, oherwydd ei natur, y mae’n bosibl na fydd yn cael sylw yn y contract fel y’i dyfernir, a

(ii)a all ei gwneud yn ofynnol addasu’r contract yn ddiweddarach o dan baragraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf 2023 (addasu contract yn dilyn gwireddiad risg hysbys),

(t)a yw cyflenwyr wedi eu dethol ar gyfer dyfarnu’r contract,

(u)os yw cyflenwyr wedi eu dethol ar gyfer dyfarnu’r contract, ar gyfer pob cyflenwr a ddetholwyd—

(i)enw’r cyflenwr,

(ii)naill ai—

(aa)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr, neu

(bb)yn achos contract cyhoeddus sydd wedi ei ddyfarnu yn uniongyrchol yn unol â pharagraffau 13 a 14 o Atodlen 5 i Ddeddf 2023 (sefyllfa frys) pan na fo cod adnabod unigryw wedi ei ddyrannu i’r cyflenwr pan gyhoeddwyd yr hysbysiad tryloywder ond bo’r cyflenwr yn gallu darparu gwybodaeth unigryw yn lle hynny (er enghraifft, rhif cofrestru cwmni a roddwyd o dan DC 2006) y gellir ei chydnabod gan y platfform digidol canolog yn sail ar gyfer cod adnabod unigryw a ddyrennir gan y platfform hwnnw, yr wybodaeth unigryw honno, a

(iii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr,

(v)amcangyfrif o’r dyddiad yr ymrwymir i’r contract, ac

(w)pan fo’r contract yn fframwaith—

(i)cyfnod y fframwaith,

(ii)a yw’r fframwaith yn darparu ar gyfer codi ffioedd ar gyflenwr yn unol â’r fframwaith ac, os felly, fanylion y ganran sefydlog a ddefnyddir i godi’r ffi arno yn unol ag adran 45(7) o Ddeddf 2023, a

(iii)yr awdurdodau contractio a chanddynt hawlogaeth i ddyfarnu contractau yn unol â’r fframwaith (pa un ai drwy restru enwau’r awdurdodau hynny neu drwy ddisgrifio categorïau o awdurdodau).

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

Hysbysiadau dyfarnu contract ac eithrio’r rhai a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat

28.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad dyfarnu contract a gyhoeddir gan awdurdod contractio o dan adran 50(1) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer—

(i)y caffaeliad,

(ii)y contract cyhoeddus,

(iii)pan fo’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu yn unol â fframwaith, caffaeliad y fframwaith y mae’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu yn unol ag ef, a

(iv)pan fo’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o farchnad ddynamig, y farchnad ddynamig,

(d)pwnc y contract,

(e)ar gyfer pob cyflenwr y dyfernir y contract cyhoeddus iddo—

(i)enw’r cyflenwr,

(ii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr,

(iii)naill ai—

(aa)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr, neu

(bb)yn achos contract cyhoeddus sydd wedi ei ddyfarnu yn uniongyrchol yn unol â pharagraffau 13 a 14 o Atodlen 5 i Ddeddf 2023 (sefyllfa frys) pan na fo cod adnabod unigryw wedi ei ddyrannu i’r cyflenwr pan gyhoeddwyd yr hysbysiad dyfarnu contract ond bo’r cyflenwr yn gallu darparu gwybodaeth unigryw yn lle hynny (er enghraifft, rhif cofrestru cwmni a roddwyd o dan DC 2006) y gellir ei chydnabod gan y platfform digidol canolog yn sail ar gyfer cod adnabod unigryw a ddyrennir gan y platfform hwnnw, yr wybodaeth unigryw honno,

(iv)a yw’r cyflenwr yn gymdeithas o gwmnïau neu’n gonsortiwm arall,

(v)a yw’r cyflenwr—

(aa)yn fenter fach a chanolig ei maint,

(bb)yn gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio ac sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

(cc)yn ddarparwr cyflogaeth â chymorth, neu

(dd)yn gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus,

(vi)ar gyfer pob person â chyswllt â’r cyflenwr, enw a chyfeiriad post cyswllt y person (mae i “person â chyswllt” yr ystyr a roddir i “associated person” gan adran 26(4) o Ddeddf 2023), a

(vii)gwybodaeth y cyflenwr o ran ei bersonau cysylltiedig yn unol â rheoliad 12, ond gan ddarllen paragraffau (4)(a) ac (8)(a) o’r rheoliad hwnnw fel pe bai pob cyfeiriad at ddyddiad geni yn gyfeiriad at fis a blwyddyn geni, yn ddarostyngedig i baragraff (4) o’r rheoliad hwn,

(f)y dyddiad y penderfynodd yr awdurdod contractio ddyfarnu’r contract cyhoeddus,

(g)os yw’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at lotiau, ar gyfer pob lot—

(i)enw’r cyflenwr y mae’r lot yn cael ei ddyfarnu iddo,

(ii)enw’r lot,

(iii)y rhif neilltuol a roddwyd i’r lot gan yr awdurdod contractio,

(iv)disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(v)crynodeb o’r modd y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau hynny yn cael eu cyflenwi,

(vi)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau yn cael eu cyflenwi neu amcangyfrif o’r cyfnod y byddant yn cael eu cyflenwi drosto,

(vii)amcangyfrif o swm nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(viii)amcangyfrif o werth y lot,

(ix)y codau GGG perthnasol, a

(x)y dosbarthiad daearyddol, pan fo’n bosibl ei ddisgrifio,

(h)pan fo’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu yn unol â fframwaith, manylion ynghylch pa un o’r gweithdrefnau canlynol a ddefnyddiwyd—

(i)proses ddethol gystadleuol ar gyfer fframweithiau o dan adran 46 o Ddeddf 2023, neu

(ii)dyfarniad heb gystadleuaeth bellach o dan adran 45(4) o Ddeddf 2023,

(i)pan fo’r contract cyhoeddus yn fframwaith sy’n cael ei ddyfarnu o dan fframwaith agored, y cod adnabod unigryw ar gyfer caffaeliad y fframwaith olaf a ddyfarnwyd o dan y fframwaith agored (oni bai nad oes fframwaith wedi ei ddyfarnu o dan y fframwaith agored yn flaenorol),

(j)pan fo’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu o dan ran briodol o farchnad ddynamig, y rhif neilltuol a roddwyd i’r rhan honno gan y person a sefydlodd y farchnad ddynamig,

(k)a yw’r contract cyhoeddus yn gontract cyfundrefn arbennig ac, os felly, a yw—

(i)yn gontract consesiwn,

(ii)yn gontract cyffyrddiad ysgafn, neu

(iii)yn gontract cyfleustodau,

(l)a yw’r awdurdod contractio wedi darparu crynodeb asesu i bob cyflenwr a gyflwynodd dendr a aseswyd, yn unol ag adran 50(3) o Ddeddf 2023 ac, os felly, y dyddiad y cafodd y crynodebau asesu hynny eu darparu,

(m)amcangyfrif o werth y contract cyhoeddus,

(n)mewn cysylltiad â phob contract cyhoeddus—

(i)cyfanswm y tendrau a gyflwynwyd erbyn dyddiad cau’r awdurdod contractio ar gyfer cyflwyno tendrau (gan ddiystyru tendrau a gyflwynwyd ond a dynnwyd yn ôl wedyn),

(ii)cyfanswm y tendrau a aseswyd gan yr awdurdod contractio, a

(iii)cyfanswm y tendrau aflwyddiannus a aseswyd gan yr awdurdod contractio ac a gyflwynwyd gan—

(aa)menter fach a chanolig ei maint, a

(bb)corff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

ac eithrio yn achos dyfarniad uniongyrchol o dan adran 41 neu 43 o Ddeddf 2023,

(o)pan fo’r contract cyhoeddus yn fframwaith neu y bo wedi ei ddyfarnu mewn ffordd arall nad yw’n unol â fframwaith, manylion ynghylch pa un o’r gweithdrefnau canlynol a ddefnyddiwyd—

(i)gweithdrefn agored,

(ii)gweithdrefn hyblyg gystadleuol, neu

(iii)dyfarniad uniongyrchol o dan adran 41 neu 43 o Ddeddf 2023,

(p)a ddefnyddiwyd hysbysiad tendro i neilltuo’r contract i ddarparwyr cyflogaeth â chymorth yn unol ag adran 32 o Ddeddf 2023, a pha un a ddyfarnwyd y contract i gyflenwr o’r fath,

(q)a ddefnyddiwyd hysbysiad tendro i neilltuo’r contract i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus yn unol ag adran 33 o Ddeddf 2023, ac a ddyfarnwyd y contract i gyflenwr o’r fath,

(r)y dyddiad dod i ben ar gyfer unrhyw gyfnod segur o dan adran 51 o Ddeddf 2023 neu, os nad oes unrhyw gyfnod segur yn gymwys, unrhyw ddyddiad cyn pryd y mae’r awdurdod contractio wedi penderfynu yn erbyn ymrwymo i’r contract,

(s)amcangyfrif o’r dyddiad yr ymrwymir i’r contract,

(t)pan fo’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu yn uniongyrchol o dan adran 41 neu 43 o Ddeddf 2023, yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 27(2)(h) i (o),

(u)pan fo’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu yn unol â fframwaith sy’n cael ei drefnu drwy gyfeirio at lotiau, y rhif neilltuol a roddwyd gan yr awdurdod contractio i’r lot y mae’r contract yn cael ei ddyfarnu odani, a

(v)pan fo—

(i)y contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu drwy gyfeirio at lotiau, a

(ii)yr awdurdod contractio yn defnyddio’r hysbysiad dyfarnu contract i roi hysbysiad ei fod yn rhoi’r gorau i gaffael yr holl nwyddau, gwasanaethau a gweithiau a nodir yn un neu ragor o’r lotiau hynny neu mewn unrhyw lotiau o dan gontractau yn y dyfodol o dan y trefniant o dan adran 18(2)(a) o Ddeddf 2023,

gwybodaeth y lot sy’n dod i ben.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth y lot sy’n dod i ben” yw—

(a)yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob lot sy’n dod i ben—

(i)enw’r lot,

(ii)y rhif neilltuol a roddwyd i’r lot gan yr awdurdod contractio,

(iii)y codau GGG perthnasol, a

(iv)disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a oedd i’w cyflenwi o dan y lot, a

(b)y dyddiad y penderfynodd yr awdurdod contractio roi’r gorau i’r caffaeliad o dan y lot.

(4Nid yw’n ofynnol i awdurdod contractio gyhoeddi, yn unol â pharagraff (2)(e)(vii), wybodaeth personau cysylltiedig sy’n wybodaeth sydd wedi ei diogelu mewn perthynas—

(a)â pherson cysylltiedig sy’n unigolyn sy’n bodloni’r disgrifiad yn rheoliad 12(3)(b) ac (c), neu

(b)â pherson cysylltiedig sy’n unigolyn sy’n bodloni’r disgrifiad yn rheoliad 12(15)(b).

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth sydd wedi ei diogelu” yw gwybodaeth—

(a)mewn perthynas ag unigolyn a grybwyllir ym mharagraff (4)(a) neu (b), sydd am y tro wedi ei hepgor o gofrestr pobl â rheolaeth sylweddol yn unol â rheoliad 33(1) o Reoliadau Cofrestrau Pobl â Rheolaeth Sylweddol 2016(21), neu

(b)mewn perthynas ag unigolyn a grybwyllir ym mharagraff (4)(b), yw gwybodaeth y mae’r unigolyn—

(i)yn rhesymol o’r farn a nodir ym mharagraff (6) yn ei chylch, a

(ii)wedi cadarnhau’r farn honno yn ysgrifenedig i’r awdurdod contractio.

(6Y farn yw, os bydd yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi—

(a)y bydd gweithgareddau’r cwmni, neu

(b)y bydd un neu ragor o nodweddion neu briodoleddau personol yr ymgeisydd pan fydd wedi ei gysylltu â’r cwmni hwnnw,

yn rhoi’r ymgeisydd neu berson sy’n byw gyda’r ymgeisydd mewn perygl difrifol o ddioddef trais neu fygythiad.

(7Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(8Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdod contractio sy’n gyfleustod preifat.

Hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat

29.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustod preifat o dan adran 50(1) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 28(2)(a) i (q), ac eithrio is-baragraffau (h) ac (n),

(b)amcangyfrif o’r dyddiad yr ymrwymir i’r contract, ac

(c)disgrifiad o unrhyw opsiwn yn y contract cyhoeddus—

(i)i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol, neu

(ii)i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad (gan gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â chontractau eraill sydd wedi eu dyfarnu o dan yr un caffaeliad) yn yr hysbysiad.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)i ddyfarnu contract cyhoeddus yn uniongyrchol o dan adran 41 neu 43 o Ddeddf 2023 (gweler yn hytrach reoliad 30), neu

(b)i ddyfarnu contract cyhoeddus yn unol â fframwaith (gweler yn hytrach reoliad 31).

Hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat: dyfarniadau uniongyrchol

30.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustod preifat o dan adran 50(1) o Ddeddf 2023 pan gafodd y contract ei ddyfarnu yn uniongyrchol yn unol ag adran 41 neu 43 o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 28(2)(a) i (q), ac eithrio is-baragraffau (c)(iii), (c)(iv), (h) i (j), (l) ac (n),

(b)amcangyfrif o’r dyddiad yr ymrwymir i’r contract,

(c)disgrifiad o unrhyw opsiwn yn y contract cyhoeddus—

(i)i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol, neu

(ii)i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract,

(d)a yw’r contract yn cael ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr nad yw’n gyflenwr gwaharddedig oherwydd bod cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol yn gymwys yn unol ag adran 41(1)(a) o Ddeddf 2023,

(e)os yw is-baragraff (d) yn gymwys, y cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol yn Atodlen 5 i Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei fod yn gymwys,

(f)a yw’r contract yn cael ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr sy’n gyflenwr gwaharddedig oherwydd bod yr awdurdod contractio yn ystyried mai’r hyn sydd o’r budd mwyaf i’r cyhoedd yw dyfarnu’r contract i’r cyflenwr hwnnw yn unol ag adran 41(2) i (5) o Ddeddf 2023,

(g)os yw is-baragraff (f) yn gymwys—

(i)y drosedd, neu ddigwyddiad arall a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf 2023, y mae’r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig yn rhinwedd y drosedd honno neu’r digwyddiad hwnnw, a

(ii)pa sail yn adran 41(5) o Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei bod yn gymwys,

(h)a yw’r contract yn cael ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 42 o Ddeddf 2023 (dyfarniad uniongyrchol er mwyn gwarchod bywyd, etc.),

(i)os yw is-baragraff (h) yn gymwys, enw a rhif cofrestru’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau hynny,

(j)a yw’r contract yn cael ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr nad yw’n gyflenwr gwaharddedig yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2023 (newid i ddyfarniad uniongyrchol), a

(k)os yw is-baragraff (j) yn gymwys, y rheswm pam, ym marn yr awdurdod contractio, na fu unrhyw dendrau addas nac unrhyw geisiadau i gymryd rhan drwy gyfeirio at adran 43(2) o Ddeddf 2023, a pham y mae’n ystyried nad yw dyfarniad o dan adran 19 o’r Ddeddf honno yn bosibl o dan yr amgylchiadau.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

Hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat: fframweithiau

31.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustod preifat o dan adran 50(1) o Ddeddf 2023 pan fo’r contract yn cael ei ddyfarnu yn unol â fframwaith.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 28(2)(a) i (q), ac eithrio is-baragraffau (c)(iv), (i), (j), (n) ac (o),

(b)amcangyfrif o’r dyddiad yr ymrwymir i’r contract,

(c)disgrifiad o unrhyw opsiwn yn y contract cyhoeddus—

(i)i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol, neu

(ii)i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract,

(d)pan fo’r fframwaith wedi ei drefnu drwy gyfeirio at lotiau, y rhif neilltuol a roddwyd gan yr awdurdod contractio i’r lot y mae’r contract yn cael ei ddyfarnu odani,

(e)manylion ynghylch pa un o’r gweithdrefnau canlynol a ddefnyddiwyd i ddyfarnu’r contract cyhoeddus—

(i)proses ddethol gystadleuol ar gyfer fframweithiau o dan adran 46 o Ddeddf 2023, neu

(ii)dyfarniad heb gystadleuaeth bellach o dan adran 45(4) o Ddeddf 2023, ac

(f)os yw is-baragraff (e)(ii) yn gymwys, esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio wedi ystyried ei fod yn gymwys drwy gyfeirio at adran 45(4) o Ddeddf 2023.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

Crynodebau asesu

32.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi pa wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn crynodeb asesu a ddarperir i gyflenwr o dan adran 50(3) o Ddeddf 2023.

(2Yn achos y tendr mwyaf manteisiol, yr wybodaeth yw—

(a)enw’r cyflenwr,

(b)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost ar gyfer y cyflenwr,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr,

(d)mewn cysylltiad â’r meini prawf dyfarnu ar gyfer y contract cyhoeddus—

(i)y meini prawf dyfarnu, gan gynnwys y fethodoleg asesu, wedi eu nodi’n llawn, neu grynodeb o’r meini prawf dyfarnu, gan gynnwys—

(aa)enw pob maen prawf,

(bb)pwysigrwydd cymharol pob maen prawf, a

(cc)sut yr oedd pob maen prawf i gael ei asesu drwy gyfeirio at sgoriau a pha sgoriau oedd i fod ar gael ar gyfer pob maen prawf, a

(ii)os nad yw’r meini prawf dyfarnu, gan gynnwys y fethodoleg asesu, wedi eu nodi’n llawn yn y crynodeb asesu, arwydd o ble y gellir cyrchu’r fersiwn lawn, ac

(e)sut y cafodd y tendr ei asesu yn erbyn y meini prawf dyfarnu drwy gyfeirio at sgoriau, gan gynnwys—

(i)y sgôr a benderfynwyd ar gyfer pob maen prawf dyfarnu ac—

(aa)esboniad ynghylch y sgôr honno drwy gyfeirio at wybodaeth berthnasol yn y tendr, a

(bb)pan fo maen prawf dyfarnu yn cynnwys is-feini prawf asesu, esboniad ynghylch sut y cafodd y tendr ei asesu drwy gyfeirio at bob is-maen prawf, a

(ii)cyfanswm y sgôr ac unrhyw sgoriau is-gyfanswm.

(3Yn achos unrhyw dendr arall a aseswyd, yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) i (d),

(b)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(e), ond dim ond i’r graddau y cafodd y tendr ei asesu yn erbyn y meini prawf dyfarnu,

(c)unrhyw esboniad pellach ynghylch pam nad yw’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu i’r cyflenwr gan gynnwys, pan fo’r tendr wedi ei ddatgymhwyso o dan y fethodoleg asesu o dan adran 23(3) o Ddeddf 2023, y rhesymau dros y datgymhwyso hwnnw, a

(d)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(e) mewn cysylltiad â’r tendr mwyaf manteisiol.

(4Rhaid i’r holl grynodebau asesu mewn cysylltiad â chontract cyhoeddus a ddarperir gan awdurdod contractio i gyflenwyr yn unol ag adran 50(3) o Ddeddf 2023 gael eu darparu ar yr un pryd.

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag darparu gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad mewn crynodeb asesu.

Hysbysiadau manylion contract: gweithdrefn agored neu weithdrefn hyblyg gystadleuol

33.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad manylion contract a gyhoeddir o dan adran 53(1) o Ddeddf 2023 pan ymrwymwyd i’r contract cyhoeddus yn dilyn—

(a)gweithdrefn agored, neu

(b)gweithdrefn hyblyg gystadleuol (gan gynnwys drwy gyfeirio at farchnad ddynamig).

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)y cod adnabod unigryw ar gyfer y contract cyhoeddus,

(e)pan gafodd y contract cyhoeddus ei ddyfarnu drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o farchnad ddynamig, y cod adnabod unigryw ar gyfer y farchnad ddynamig honno,

(f)pwnc y contract,

(g)ar gyfer pob cyflenwr sy’n barti i’r contract cyhoeddus—

(i)enw’r cyflenwr,

(ii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr,

(iii)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr, a

(iv)a yw’r cyflenwr—

(aa)yn fenter fach a chanolig ei maint,

(bb)yn gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio ac sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

(cc)yn ddarparwr cyflogaeth â chymorth, neu

(dd)yn gwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus,

(h)a ddyfarnwyd y contract cyhoeddus yn dilyn—

(i)gweithdrefn agored, neu

(ii)gweithdrefn hyblyg gystadleuol,

(i)a oedd y contract wedi ei neilltuo—

(i)i ddarparwyr cyflogaeth â chymorth yn unol ag adran 32 o Ddeddf 2023, neu

(ii)i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus yn unol ag adran 33 o Ddeddf 2023,

(j)os cafodd y contract cyhoeddus ei ddyfarnu drwy gyfeirio at lot—

(i)enw’r lot,

(ii)y rhif neilltuol a roddwyd i’r lot gan yr awdurdod contractio,

(iii)disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(iv)crynodeb o sut y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau hynny yn cael eu cyflenwi,

(v)amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau yn cael eu cyflenwi neu amcangyfrif o’r cyfnod y byddant yn cael eu cyflenwi drosto,

(vi)amcangyfrif o swm nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi,

(vii)amcangyfrif o werth y lot, a

(viii)y codau GGG perthnasol,

(k)amcangyfrif o werth y contract cyhoeddus,

(l)y dyddiad yr ymrwymwyd i’r contract cyhoeddus,

(m)disgrifiad o unrhyw opsiwn yn y contract cyhoeddus—

(i)i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol, neu

(ii)i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract,

(n)pan gafodd y contract cyhoeddus ei ddyfarnu o dan ran briodol o farchnad ddynamig, y rhif neilltuol a roddwyd i’r rhan honno gan y person a sefydlodd y farchnad ddynamig,

(o)a yw’r contract cyhoeddus yn gontract cyfundrefn arbennig ac, os felly, a yw—

(i)yn gontract consesiwn,

(ii)yn gontract cyffyrddiad ysgafn, neu

(iii)yn gontract cyfleustodau,

(p)a yw’r contract cyhoeddus yn gontract y mae gan y Deyrnas Unedig rwymedigaethau ar ei gyfer o dan y Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau,

(q)o’r dyddiad y daw’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel i rym ar gyfer y Deyrnas Unedig, a yw’r contract cyhoeddus yn gontract y mae gan y Deyrnas Unedig rwymedigaethau ar ei gyfer o dan y Cytundeb hwnnw,

(r)pan gafodd y dangosyddion perfformiad allweddol eu gosod yn unol ag adran 52(1) o Ddeddf 2023—

(i)disgrifiad o bob dangosydd perfformiad allweddol, a

(ii)pa mor aml y bydd yr awdurdod contractio yn asesu perfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol yn unol ag adran 71(2) o Ddeddf 2023, ac

(s)pan na chafodd dangosyddion perfformiad allweddol eu gosod yn rhinwedd adran 52(2) o Ddeddf 2023, esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried na ellid asesu perfformiad y cyflenwr o dan y contract yn briodol drwy gyfeirio at ddangosyddion perfformiad allweddol.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad manylion contract pan fo’r contract cyhoeddus yn fframwaith (gweler yn hytrach reoliad 34).

Hysbysiadau manylion contract: fframweithiau

34.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad manylion contract a gyhoeddir o dan adran 53(1) o Ddeddf 2023 pan fo’r contract cyhoeddus yn fframwaith.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 33(2)(a) i (q), ac eithrio is-baragraff (h),

(b)yr awdurdodau contractio a chanddynt hawlogaeth i ddyfarnu contractau cyhoeddus yn unol â’r fframwaith (pa un ai drwy restru enwau’r awdurdodau hynny neu drwy ddisgrifio categorïau o awdurdodau),

(c)cyfnod y fframwaith,

(d)a yw’r fframwaith wedi ei ddyfarnu o dan fframwaith agored,

(e)pan gafodd y fframwaith ei ddyfarnu o dan fframwaith agored, y cod adnabod unigryw ar gyfer caffaeliad y fframwaith olaf a ddyfarnwyd o dan y fframwaith agored (oni bai nad oes fframwaith wedi ei ddyfarnu o dan y fframwaith agored yn flaenorol),

(f)pan gafodd y fframwaith ei ddyfarnu o dan fframwaith agored, amcangyfrif o ddyddiad dod i ben y fframwaith agored,

(g)a ddyfarnwyd y contract cyhoeddus yn dilyn—

(i)gweithdrefn agored,

(ii)gweithdrefn hyblyg gystadleuol, neu

(iii)yn uniongyrchol yn unol ag adran 41 neu 43 o Ddeddf 2023,

(h)a yw’r fframwaith yn darparu ar gyfer codi ffioedd ar gyflenwr yn unol â’r fframwaith ac, os felly, fanylion y ganran sefydlog a ddefnyddir i godi’r ffi arno yn unol ag adran 45(7) o Ddeddf 2023,

(i)y pris sy’n daladwy, neu’r mecanwaith ar gyfer pennu’r pris sy’n daladwy, o dan gontract cyhoeddus sydd wedi ei ddyfarnu yn unol â’r fframwaith, a

(j)manylion y broses ddethol sydd i’w chymhwyso wrth ddyfarnu contract cyhoeddus yn unol â’r fframwaith.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

Hysbysiadau manylion contract: contractau cyhoeddus a ddyfernir yn unol â fframweithiau

35.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad manylion contract a gyhoeddir o dan adran 53(1) o Ddeddf 2023 pan gafodd y contract cyhoeddus ei ddyfarnu yn unol â fframwaith.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 33(2), ac eithrio is-baragraffau (e), (h), (n), (p) a (q),

(b)y cod adnabod unigryw ar gyfer caffaeliad y fframwaith y mae’r contract cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu yn unol ag ef,

(c)pan fo’r fframwaith wedi ei drefnu drwy gyfeirio at lotiau, y rhif neilltuol a roddwyd gan yr awdurdod contractio i’r lot y mae’r contract yn cael ei ddyfarnu odani,

(d)manylion ynghylch pa un o’r gweithdrefnau a ganlyn a ddefnyddiwyd i ddyfarnu’r contract cyhoeddus—

(i)proses ddethol gystadleuol ar gyfer fframweithiau o dan adran 46 o Ddeddf 2023, neu

(ii)dyfarniad heb gystadleuaeth bellach o dan adran 45(4) o Ddeddf 2023, ac

(e)os yw is-baragraff (d)(ii) yn gymwys, esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio wedi ystyried ei fod yn gymwys drwy gyfeirio at adran 45(4) o Ddeddf 2023.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

Hysbysiadau manylion contract: dyfarniad uniongyrchol

36.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad manylion contract a gyhoeddir o dan adran 53(1) o Ddeddf 2023 pan fo’r contract cyhoeddus wedi ei ddyfarnu yn uniongyrchol yn unol ag adran 41 neu 43 o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 33(2), ac eithrio is-baragraffau (e), (h) ac (n),

(b)a gafodd y contract ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr nad yw’n gyflenwr gwaharddedig oherwydd bod cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol yn gymwys yn unol ag adran 41(1)(a) o Ddeddf 2023,

(c)os yw is-baragraff (b) yn gymwys, y cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol yn Atodlen 5 i Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei fod yn gymwys,

(d)a gafodd y contract ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr sy’n gyflenwr gwaharddedig oherwydd bod yr awdurdod contractio wedi ystyried mai’r hyn sydd o’r budd mwyaf i’r cyhoedd yw dyfarnu’r contract i’r cyflenwr hwnnw yn unol ag adran 41(2) i (5) o Ddeddf 2023,

(e)os yw is-baragraff (d) yn gymwys, pa sail yn adran 41(5) o Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei bod yn gymwys,

(f)a gafodd y contract ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 42 o Ddeddf 2023 (dyfarnu’n uniongyrchol er mwyn gwarchod bywyd, etc.),

(g)os yw is-baragraff (f) yn gymwys, enw a rhif cofrestru’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau hynny,

(h)a gafodd y contract ei ddyfarnu yn uniongyrchol i gyflenwr nad yw’n gyflenwr gwaharddedig yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2023 (newid i ddyfarniad uniongyrchol),

(i)os yw is-baragraff (h) yn gymwys, esboniad, ym marn yr awdurdod contractio, ynghylch pam na fu unrhyw dendrau addas nac unrhyw geisiadau i gymryd rhan drwy gyfeirio at adran 43(2) o Ddeddf 2023 a pham y mae’n ystyried nad yw dyfarniad o dan adran 19 o’r Ddeddf honno yn bosibl o dan yr amgylchiadau,

(j)a gafodd y contract ei ddyfarnu i gyflenwr sy’n gyflenwr gwaharddedig yn rhinwedd adran 41(2) o Ddeddf 2023, a

(k)os yw is-baragraff (j) yn gymwys, y drosedd, neu’r digwyddiad arall a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf 2023, sydd o dan sylw.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad manylion contract pan fo’r contract cyhoeddus yn fframwaith (gweler yn hytrach reoliad 34).

Hysbysiadau manylion contract: contractau sydd o dan y trothwy

37.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad manylion contract a gyhoeddir o dan adran 87(3) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)y cod adnabod unigryw ar gyfer y contract,

(e)ar gyfer pob cyflenwr sy’n barti i’r contract—

(i)enw’r cyflenwr,

(ii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr,

(iii)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr, a

(iv)a yw’r cyflenwr—

(aa)yn fenter fach a chanolig ei maint, neu

(bb)yn gorff anllywodraethol â gwerthoedd yn ei lywio ac sy’n ailfuddsoddi ei wargedion yn bennaf er mwyn hybu amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol,

(f)pwnc y contract,

(g)a gafodd y contract ei ddyfarnu drwy gyfeirio at lotiau ac, os felly—

(i)enw pob lot o dan y contract,

(ii)y rhif neilltuol a roddwyd i bob lot gan yr awdurdod contractio,

(h)a yw’r contract yn gontract cyffyrddiad ysgafn,

(i)a gafodd y contract ei ddyfarnu drwy gyfeirio at aelodaeth cyflenwyr o farchnad ddynamig ac, os felly—

(i)y cod adnabod unigryw ar gyfer y farchnad ddynamig, a

(ii)pan gafodd y contract cyhoeddus ei ddyfarnu o dan ran briodol o farchnad ddynamig (gweler adran 34(1) a (6) o Ddeddf 2023), y rhif neilltuol a roddwyd i’r rhan honno gan yr awdurdod contractio,

(j)amcangyfrif o werth y contract,

(k)y dyddiad yr ymrwymwyd i’r contract, ac

(l)disgrifiad o unrhyw opsiwn yn y contract—

(i)i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol, neu

(ii)i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract,

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

Hysbysiadau terfynu caffaeliad

38.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi pa wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad terfynu caffaeliad a gyhoeddir o dan adran 55(2) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)datganiad i’r perwyl bod yr awdurdod contractio, yn dilyn cyhoeddi hysbysiad tendr neu hysbysiad tryloywder mewn cysylltiad â chontract, wedi penderfynu peidio â dyfarnu’r contract, ac

(e)y dyddiad y penderfynodd yr awdurdod contractio beidio â dyfarnu’r contract cyhoeddus.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad mewn hysbysiad terfynu caffael.

Hysbysiadau cydymffurfedd taliadau

39.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi pa wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad cydymffurfedd taliadau a gyhoeddir o dan adran 69(1) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)dyddiadau diwrnodau cyntaf ac olaf y cyfnod adrodd y mae’r hysbysiad cydymffurfedd taliadau yn ymwneud ag ef,

(c)mewn cysylltiad â symiau a dalwyd gan yr awdurdod contractio o dan gontractau cyhoeddus yn ystod y cyfnod adrodd—

(i)nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i wneud y taliadau hynny, lle diwrnod 1 yw’r diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod anfonebu;

(ii)y ganran o’r taliadau hynny a gafodd eu gwneud, lle diwrnod 1 yw’r diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod anfonebu—

(aa)o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod 1 ac yn gorffen â diwrnod 30;

(bb)o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod 31 ac yn gorffen â diwrnod 60;

(cc)ar neu ar ôl diwrnod 61,

(d)mewn cysylltiad â symiau a ddaeth yn daladwy o dan gontractau cyhoeddus yn ystod y cyfnod adrodd, y ganran o’r taliadau hynny na chawsant eu gwneud o fewn y cyfnod adrodd, ac

(e)datganiad gan y cyfarwyddwr, neu swyddog tebyg o’r awdurdod contractio sy’n gyfrifol am gyllid yr awdurdod contractio, yn nodi bod y person yn cymeradwyo’r hysbysiad cydymffurfedd taliadau, ac yn nodi enw a theitl swydd y person hwnnw.

(3Ym mharagraff (2)—

ystyr “cyfartalog” (“average”) yw’r cymedr rhifyddol;

ystyr “diwrnod anfonebu” (“invoice day”) yw’r dyddiad y mae anfoneb yn dod i law awdurdod contractio.

(4At ddibenion paragraff (2), gwneir taliad—

(a)pan fydd yn dod i law’r cyflenwr, neu

(b)os oes unrhyw oedi cyn i’r taliad ddod i law nad yw’r awdurdod contractio yn gyfrifol amdano, pan fyddai wedi dod i law heb yr oedi hwnnw.

(5Ym mharagraff (3) mae’r cyfeiriad at anfoneb sy’n dod i law awdurdod contractio yn gyfeiriad at yr anfoneb yn cael ei danfon i gyfeiriad, neu drwy system anfonebu electronig, sydd wedi ei bennu neu ei phennu yn y contract at y diben.

(6Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth berthnasol arall yn yr hysbysiad.

(7Yn y rheoliad hwn, mae i “cyfnod adrodd” a “hysbysiad cydymffurfedd taliadau” yr ystyron ag a roddir i “reporting period” a “payments compliance notice” gan adran 69 o Ddeddf 2023.

Hysbysiadau cyflawni contract ac eithrio mewn perthynas â therfynu’n llawn

40.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch gwybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi o dan y naill neu’r llall o’r darpariaethau canlynol—

(a)adran 71(2)(b) o Ddeddf 2023 (asesu perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol);

(b)adran 71(5) o’r Ddeddf honno (torri contract cyhoeddus neu fethu â chyflawni).

(2Rhaid cyhoeddi’r wybodaeth ar ffurf hysbysiad o’r enw “Hysbysiad Cyflawni Contract”.

(3Pan fo’r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi o dan adran 71(2)(b) o Ddeddf 2023, rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (4).

(4Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer—

(i)y caffaeliad, a

(ii)y contract cyhoeddus,

(d)y dangosyddion perfformiad allweddol sydd wedi eu gosod yn unol ag adran 52(1) o Ddeddf 2023,

(e)datganiad bod yr hysbysiad yn cael ei ddefnyddio i nodi asesiad yr awdurdod contractio o berfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol,

(f)ar gyfer pob cyflenwr y mae ei berfformiad wedi ei asesu yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol—

(i)enw’r cyflenwr,

(ii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr, a

(iii)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr,

(g)asesiad yr awdurdod contractio o berfformiad yn erbyn y dangosyddion yn unol â’r sgoriau a nodir ym mharagraff (5), ac

(h)y cyfnod amser y mae asesiad yr awdurdod contractio yn gymwys iddo.

(5Mae’r sgoriau fel a ganlyn—

SgôrDisgrifiad
DaMae’r perfformiad yn bodloni neu’n rhagori ar y dangosyddion perfformiad allweddol
Nesáu at y targedMae’r perfformiad yn nesáu at fodloni’r dangosyddion perfformiad allweddol
Angen gwellaMae’r perfformiad islaw’r dangosyddion perfformiad allweddol
AnnigonolMae’r perfformiad yn sylweddol islaw’r dangosyddion perfformiad allweddol
ArallNi ellir disgrifio’r perfformiad fel un sy’n dda, yn nesáu at y targed, angen ei wella, nac yn annigonol

(6Pan fo’r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi o dan adran 71(5) o Ddeddf 2023, rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (7).

(7Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer—

(i)y caffaeliad, a

(ii)y contract cyhoeddus,

(d)ar gyfer pob cyflenwr sydd wedi cyflawni’r torri neu’r methiant i gyflawni a nodir yn yr hysbysiad—

(i)enw’r cyflenwr,

(ii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr, a

(iii)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr,

(e)yr wybodaeth y cyfeirir ati—

(i)yn adran 71(5)(a) o Ddeddf 2023 (bod adran 71(5) o’r Ddeddf honno yn gymwys), a

(ii)yn adran 71(5)(b) o Ddeddf 2023 (yr amgylchiadau sy’n arwain at gymhwyso adran 71(5) o’r Ddeddf honno),

(f)datganiad bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi oherwydd—

(i)bod y cyflenwr wedi torri’r contract cyhoeddus a bod y torri wedi arwain at un o’r digwyddiadau y cyfeirir atynt yn adran 71(3)(b), neu

(ii)nad yw’r cyflenwr yn cyflawni contract cyhoeddus er boddhad yr awdurdod contractio,

(g)pan fo’r cyflenwr wedi torri’r contract cyhoeddus, pa un neu ragor o’r canlynol a ddigwyddodd o ganlyniad i’r torri—

(i)terfynu’r contract cyhoeddus yn rhannol;

(ii)dyfarndalu iawndal;

(iii)dod i gytundeb setlo rhwng y cyflenwr a’r awdurdod contractio,

(h)pan fo’r cyflenwr wedi torri’r contract cyhoeddus, dyddiad—

(i)unrhyw derfyniad rhannol o’r contract cyhoeddus,

(ii)unrhyw ddyfarndaliad iawndal, neu

(iii)unrhyw setliad,

(i)pan na fo’r cyflenwr yn cyflawni’r contract cyhoeddus er boddhad yr awdurdod contractio, y dyddiad yr ystyriodd yr awdurdod contractio fod y cyflenwr wedi methu â gwella ei berfformiad yn unol ag adran 71(4)(c),

(j)esboniad ynghylch natur y rhwymedigaeth gontractiol sydd wedi ei thorri neu nad yw’n cael ei chyflawni er boddhad yr awdurdod contractio,

(k)esboniad ynghylch natur y torri neu’r methiant i gyflawni, gan gynnwys—

(i)esboniad ynghylch effaith neu ganlyniadau’r torri neu’r methiant i gyflawni,

(ii)am ba hyd y mae’r toriad neu’r methiant i gyflawni wedi digwydd ac a yw’n parhau,

(iii)esboniad ynghylch unrhyw gamau a gymerwyd gan y cyflenwr i liniaru effaith neu ganlyniadau’r toriad neu’r methiant i gyflawni,

(iv)unrhyw gamau y mae’r awdurdod contractio wedi eu cymryd i hysbysu’r cyflenwr am y torri neu’r methiant i gyflawni a’i annog i wella’r sefyllfa, gan gynnwys—

(aa)unrhyw hysbysiadau rhybuddio a roddwyd o dan y contract cyhoeddus, neu

(bb)unrhyw gyfle i wella perfformiad, a

(v)pa gamau, os o gwbl, a gymerwyd gan y cyflenwr i wella’r sefyllfa a pham nad oedd y rhain yn ddigon,

(l)pan fo’r toriad wedi arwain at derfynu’r contract cyhoeddus yn rhannol, disgrifiad o ba ran o’r contract sydd wedi ei therfynu’n rhannol, neu i ba raddau y mae’r contract wedi ei derfynu’n rhannol, ac

(m)pan fo iawndal wedi ei ddyfarndalu neu pan fo arian arall wedi ei dalu yn dilyn toriad neu fethiant i gyflawni—

(i)cadarnhad mai dyna’r sefyllfa,

(ii)swm yr iawndal neu arian arall,

(iii)y sail y cafodd unrhyw iawndal ei ddyfarndalu neu y cafodd unrhyw arian arall ei dalu arni, er enghraifft—

(aa)yn achos iawndal, yn unol â’r contract cyhoeddus,

(bb)yn achos iawndal, yn unol â phenderfyniad llys neu dribiwnlys, neu

(cc)yn achos arian arall, yn unol â setliad wedi ei negodi, a

(iv)pan fo cofnod wedi ei wneud o benderfyniad llys neu dribiwnlys ynghylch ei ganfyddiad bod toriad wedi digwydd—

(aa)dolen i’r dudalen we lle y gellir cyrchu’r penderfyniad, neu

(bb)copi o’r penderfyniad.

(8Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(9Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth y mae’n ofynnol ei chyhoeddi yn unol ag adran 71(5) o Ddeddf 2023 pan fo toriad wedi arwain at derfynu contract cyhoeddus yn llawn (gweler yn hytrach reoliad 42).

Hysbysiadau newid contract

41.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad newid contract a gyhoeddir o dan adran 75(1) neu (5) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer y caffaeliad,

(d)y cod adnabod unigryw ar gyfer y contract,

(e)ar gyfer pob cyflenwr sy’n barti i’r contract cyhoeddus neu’r contract trosadwy—

(i)enw’r cyflenwr,

(ii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr, a

(iii)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr,

(f)a oes gan yr awdurdod contractio ganiatâd i wneud yr addasiad i’r contract cyhoeddus neu’r contract trosadwy oherwydd bod yr addasiad, yn rhinwedd adran 74(1)(a) o Ddeddf 2023, yn addasiad a ddisgrifir—

(i)ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno (sefyllfa frys a gwarchod bywyd, etc.),

(ii)ym mharagraff 4 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno (amgylchiadau nad ydynt yn rhagweladwy),

(iii)ym mharagraffau 5 i 7 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno (gwireddiad risg hysbys),

(iv)ym mharagraff 8 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno (nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol), neu

(v)ym mharagraff 9 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno (trosglwyddo ar adeg ailstrwythuro corfforaethol),

(pan fo’r addasiad wedi ei ganiatáu o dan un o’r darpariaethau hynny),

(g)esboniad ynghylch pam y mae’r addasiad yn dod o fewn un o’r mathau o addasiadau a grybwyllir yn is-baragraff (f),

(h)manylion ynghylch unrhyw newid o ganlyniad i’r addasiad—

(i)i werth amcangyfrifedig y contract cyhoeddus neu’r contract trosadwy yn union cyn yr addasiad, neu

(ii)i gyfnod y contract cyhoeddus neu’r contract trosadwy,

(i)pan fo’r addasiad yn addasiad a ddisgrifir ym mharagraff 9 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno (trosglwyddo ar adeg ailstrwythuro corfforaethol)—

(i)ar gyfer pob cyflenwr newydd sy’n barti i’r contract cyhoeddus neu’r contract trosadwy—

(aa)enw’r cyflenwr,

(bb)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr, ac

(cc)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr, a

(ii)ar gyfer pob cyflenwr na fydd yn barti i’r contract cyhoeddus neu’r contract trosadwy mwyach, yr un wybodaeth â’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i)(aa) i (cc),

(j)amcangyfrif o’r dyddiad—

(i)pan fydd y contract cyhoeddus neu’r contract trosadwy yn cael ei addasu, a

(ii)pan fydd yr addasiad yn cael effaith, a

(k)a yw cyfnod segur gwirfoddol yn gymwys yn unol ag adran 76(1) o Ddeddf 2023 ac, os felly, hyd y cyfnod hwnnw.

(3Ar gyfer darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi contractau fel y’u haddasir neu gyhoeddi addasiadau mewn achosion penodol, gweler adran 77 o Ddeddf 2023.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(5Yn y rheoliad hwn, mae i “hysbysiad newid contract” yr ystyr a roddir i “contract change notice” gan adran 75(3) o Ddeddf 2023.

Hysbysiadau terfynu contract

42.—(1Mae’r rheoliad hwn yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad terfynu contract a gyhoeddir o dan adran 80(1) o Ddeddf 2023.

(2Yr wybodaeth yw—

(a)gwybodaeth yr awdurdod contractio,

(b)enw’r caffaeliad,

(c)y cod adnabod unigryw ar gyfer—

(i)y caffaeliad, a

(ii)y contract cyhoeddus,

(d)ar gyfer pob cyflenwr sy’n barti i’r contract cyhoeddus—

(i)enw’r cyflenwr,

(ii)cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y cyflenwr, a

(iii)y cod adnabod unigryw ar gyfer y cyflenwr,

(e)y rhesymau dros derfynu’r contract cyhoeddus (gan gynnwys unrhyw reswm a grybwyllir yn adran 80(3) o Ddeddf 2023),

(f)y dyddiad y cafodd y contract cyhoeddus ei derfynu,

(g)amcangyfrif o werth y contract cyhoeddus,

(h)pan fo’r contract cyhoeddus wedi ei derfynu o ganlyniad i dorri’r contract gan y cyflenwr—

(i)datganiad bod adran 71(5) o Ddeddf 2023 yn gymwys oherwydd bod y cyflenwr wedi torri’r contract,

(ii)a arweiniodd y torri at—

(aa)dyfarndalu iawndal, neu

(bb)dod i gytundeb setlo rhwng y cyflenwr a’r awdurdod contractio,

(iii)dyddiad—

(aa)unrhyw ddyfarndaliad o unrhyw iawndal, neu

(bb)unrhyw setliad,

(iv)pan na chyflawnodd y cyflenwr y contract cyhoeddus er boddhad yr awdurdod contractio, y dyddiad yr ystyriodd yr awdurdod contractio fod y cyflenwr wedi methu â gwella ei berfformiad yn unol ag adran 71(4)(c),

(v)esboniad ynghylch natur y rhwymedigaeth gontractiol a gafodd ei thorri neu nad oedd yn cael ei chyflawni er boddhad yr awdurdod contractio,

(vi)esboniad ynghylch natur y torri neu’r methiant i gyflawni, gan gynnwys—

(aa)esboniad ynghylch effaith neu ganlyniadau’r toriad neu’r methiant i gyflawni,

(bb)am ba hyd yr oedd y toriad neu’r methiant i gyflawni wedi digwydd,

(cc)esboniad ynghylch unrhyw gamau a gymerwyd gan y cyflenwr i liniaru effaith neu ganlyniadau’r toriad neu’r methiant i gyflawni,

(dd)unrhyw gamau a gymerwyd gan yr awdurdod contractio i hysbysu’r cyflenwr am y toriad neu’r methiant i gyflawni a’i annog i wella’r sefyllfa, gan gynnwys unrhyw hysbysiadau rhybuddio a roddwyd o dan y contract cyhoeddus neu unrhyw gyfle priodol arall i wella perfformiad yn unol ag adran 71(4)(b) o Ddeddf 2023,

(ee)pa gamau, os o gwbl, a gymerwyd gan y cyflenwr i wella’r sefyllfa a pham nad oedd y rhain yn ddigon, a

(vii)pan fo iawndal wedi ei ddyfarndalu neu pan fo arian arall wedi ei dalu yn dilyn y toriad neu’r methiant i gyflawni—

(aa)cadarnhad bod hyn wedi digwydd,

(bb)swm yr iawndal neu’r arian arall a dalwyd,

(cc)y sail y dyfarndalwyd yr iawndal neu y talwyd yr arian arall arni, er enghraifft yn unol â’r contract cyhoeddus, penderfyniad llys neu dribiwnlys neu setliad wedi ei negodi, a

(dd)pan fo cofnod wedi ei wneud o benderfyniad llys neu dribiwnlys ynghylch ei ganfyddiad bod toriad wedi digwydd, dolen i’r dudalen we lle gellir cyrchu’r penderfyniad neu gopi o’r penderfyniad.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod contractio rhag cyhoeddi gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’r un caffaeliad yn yr hysbysiad.

(4Yn y rheoliad hwn, mae i “hysbysiad terfynu contract” yr ystyr a roddir i “contract termination notice” gan adran 80(2) o Ddeddf 2023.

RHAN 3Darpariaethau eraill sy’n ychwanegu at Ddeddf 2023

Pennu gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn a gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy

43.—(1At ddibenion adran 9(1) o Ddeddf 2023 (contractau cyffyrddiad ysgafn) mae’r gwasanaethau a gwmpesir gan y codau GGG a nodir yng ngholofn (1) o’r Tabl yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn ac a ddisgrifir yng ngholofn (2) o’r Tabl hwnnw wedi eu pennu yn wasanaethau cyffyrddiad ysgafn.

(2At ddibenion adran 33(7) o Ddeddf 2023 (neilltuo contractau i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus), mae gwasanaeth a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r Tabl yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn wedi ei bennu yn wasanaeth cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy pan fo’r llythyren “N” yn ymddangos yn y cofnod sy’n cyfateb i’r gwasanaeth hwnnw yng ngholofn (3).

Awdurdodau llywodraeth ganolog

44.—(1Mae’r holl endidau a restrir yng ngholofn (1) neu (2) o’r Tabl yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn wedi eu pennu at ddibenion y diffiniad o “central government authority” ym mharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2023.

(2Pan fo endid a restrir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn cael ei olynu gan endid arall, sydd ei hun yn awdurdod contractio, bernir bod yr endid olynol wedi ei gynnwys yn yr Atodlen.

Ystyr “works” ym mharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2023

45.  At ddibenion y diffiniad o “works” ym mharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2023, ystyr “gweithiau” yw unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau sy’n dod o fewn cod GGG sydd wedi ei restru yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

RHAN 4Diwygiadau canlyniadol

Diwygio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

46.—(1Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023(22) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 25 (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawr), yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “sydd”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at y diwedd rhodder—

sy’n gontract gweithiau sydd â gwerth amcangyfrifedig o £2,000,000 neu fwy.

(3Yn adran 45 (dehongli Rhan 3), yn is-adran (1)—

(a)hepgorer y diffiniadau o—

(i)“y Rheoliadau Contractau Consesiwn”,

(ii)“y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus” ,

(iii)“contract gweithiau cyhoeddus”,

(iv)“y Rheoliadau Contractau Cyfleustodau”, a

(v)“contract consesiwn gweithiau”;

(b)yn y diffiniad o “gweithiau”, yn lle’r geiriau o “yr ystyr a roddir” hyd at y diwedd, rhodder “(“works”) yr ystyr a roddir gan reoliad 45 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 ac Atodlen 3 iddynt(23)”;

(c)yn y diffiniad o “contract gweithiau”, yn lle’r geiriau o “yr ystyr a roddir” hyd at y diwedd, rhodder “yr ystyr a roddir i “works contract” gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Caffael 2023 (p. 54);”.

(4Yn adran 45 (dehongli Rhan 3), yn is-adran (2), yn lle “â rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus” rhodder “ag adran 4 o Ddeddf Caffael 2023”.

Diwygio Deddf 2023

47.—(1Mae Deddf 2023 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 17 (hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad), yn is-adran (3) hepgorer y geiriau a ganlyn “other than to a private utility which is a devolved Welsh authority that is not carrying out procurement under a reserved procurement arrangement or a transferred Northern Ireland procurement arrangement.”

(3Yn adran 87 (contractau rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy: hysbysiadau), yn lle is-adran (4)(a) rhodder—

(a)in the case of a contract to be awarded by—

(i)a central government authority that is not a devolved Welsh authority, not less than £12,000;

(ii)a central government authority that is a devolved Welsh authority, not less than £30,000, or.

Diwygio Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003

48.  Yn Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003(24), yn rheoliad 9(1) (ymgynghori ynghylch contractau), yn lle’r geiriau o “os” hyd at y diwedd rhodder “pan na fo gwerth amcangyfrifedig y contract arfaethedig yn llai na’r trothwy sy’n gymwys i’r awdurdod perthnasol ar gyfer y contract arfaethedig hwnnw yn unol ag adran 3 o Ddeddf Caffael 2023”.

Diwygio Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004

49.  Yn Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004(25), yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “hysbysiad cyhoeddus”, yn lle “hysbysiad a gyhoeddir, yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, ar wasanaeth e-hysbysu’r DU (fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau hynny)” rhodder “unrhyw hysbysiad a gyhoeddir yn unol â Deddf Caffael 2023 sy’n ymwneud â chontract cyhoeddus (o fewn yr ystyr a roddir i “public contract” gan adran 3 o’r Ddeddf honno)”.

Diwygio Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

50.—(1Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011(26) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 18 (caffael cyhoeddus)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “gwneud cytundeb perthnasol ar sail y cynnig mwyaf manteisiol yn economaidd” rhodder “dyfarnu contract cyhoeddus yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “cytundeb perthnasol” rhodder “contract cyhoeddus”;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “meini prawf”, “gweithdrefn dendro gystadleuol”, “awdurdod contractio” a “contract cyhoeddus” yr un ystyr ag a roddir i “award criteria”, “competitive tendering procedure”, “contracting authority” a “public contract” yn y drefn honno yn Neddf Caffael 2023.

Diwygio Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018

51.  Yn Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018(27), hepgorer rheoliad 2.

Diwygio Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

52.  Yn Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021(28), yn rheoliad 6, hepgorer paragraff (27)(ii).

Diwygio Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023

53.  Yn Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023(29), hepgorer rheoliadau 2 i 5.

Diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013

54.  Yn Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013(30), yn Erthygl 68a(1), yn lle “the threshold set out in regulation 5 of the Public Contracts Regulations 2015” rhodder “the relevant threshold amount set out in Schedule 1 to the Procurement Act 2023”.

Rebecca Evans

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, un o Weinidogion Cymru

3 Gorffennaf 2024

YR ATODLENNI

Rheoliad 43

ATODLEN 1Gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn

Cod GGG

(1)

Gwasanaeth

(2)

Neilltuadwy

(3)

Gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cysylltiedig

75231200Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chadw neu adsefydlu troseddwyr
75231240Gwasanaethau prawf
79611000Gwasanaethau chwilio am swydd
79622000Gwasanaethau cyflenwi personél cymorth domestigN
79624000Gwasanaethau cyflenwi personél nyrsioN
79625000Gwasanaethau cyflenwi personél meddygolN
85000000Gwasanaethau iechyd a gwaith cymdeithasolN
85100000Gwasanaethau iechydN
85110000Gwasanaethau ysbyty a gwasanaethau cysylltiedigN
85111000Gwasanaethau ysbytyN
85111100Gwasanaethau ysbyty llawfeddygolN
85111200Gwasanaethau ysbyty meddygolN
85111300Gwasanaethau ysbyty gynaecolegolN
85111310Gwasanaethau ffrwythloni in vitroN
85111320Gwasanaethau ysbyty obstetrigN
85111400Gwasanaethau ysbyty adsefydluN
85111500Gwasanaethau ysbyty seiciatrigN
85111600Gwasanaethau orthotegN
85111700Gwasanaethau therapi ocsigenN
85111800Gwasanaethau patholegN
85111810Gwasanaethau dadansoddi gwaedN
85111820Gwasanaethau dadansoddi bacteriolegolN
85111900Gwasanaethau dialysis ysbytyN
85112000Gwasanaethau cymorth ysbytyN
85112100Gwasanaethau gwelyau ysbytyN
85112200Gwasanaethau gofal i gleifion allanolN
85120000Gwasanaethau ymarfer meddygol a gwasanaethau cysylltiedigN
85121000Gwasanaethau ymarfer meddygolN
85121100Gwasanaethau ymarfer cyffredinolN
85121200Gwasanaethau arbenigol meddygolN
85121210Gwasanaethau gynaecoleg neu obstetregN
85121220Gwasanaethau arbenigol arenneg neu’r system nerfolN
85121230Gwasanaethau cardioleg neu wasanaethau arbenigol yr ysgyfaintN
85121231Gwasanaethau cardiolegN
85121232Gwasanaethau arbenigol yr ysgyfaintN
85121240Gwasanaethau’r glust, y trwyn a’r gwddf neu wasanaethau awdiolegyddN
85121250Gwasanaethau gastroenteroleg a geriatregN
85121251Gwasanaethau gastroenterolegN
85121252Gwasanaethau geriatregN
85121270Gwasanaethau seiciatreg neu seicolegN
85121271Gwasanaethau cartref ar gyfer pobl â phroblemau seicolegolN
85121280Gwasanaethau offthalmoleg, dermatoleg neu orthopaedegN
85121281Gwasanaethau offthalmolegN
85121282Gwasanaethau dermatolegN
85121283Gwasanaethau orthopaedegN
85121290Gwasanaethau paediatreg neu wrolegN
85121291Gwasanaethau paediatregN
85121292Gwasanaethau wrolegN
85121300Gwasanaethau arbenigol llawfeddygolN
85130000Gwasanaethau ymarfer deintyddol a gwasanaethau cysylltiedigN
85131000Gwasanaethau ymarfer deintyddolN
85131100Gwasanaethau orthodontegN
85131110Gwasanaethau llawfeddygaeth orthodontigN
85140000Gwasanaethau iechyd amrywiolN
85141000Gwasanaethau a ddarperir gan bersonél meddygolN
85141100Gwasanaethau a ddarperir gan fydwrageddN
85141200Gwasanaethau a ddarperir gan nyrsysN
85141210Gwasanaethau triniaeth feddygol yn y cartrefN
85141211Gwasanaethau triniaeth feddygol dialysis yn y cartrefN
85141220Gwasanaethau cynghori a ddarperir gan nyrsysN
85142000Gwasanaethau parafeddygolN
85142100Gwasanaethau ffisiotherapiN
85142200Gwasanaethau homeopathiN
85142300Gwasanaethau hylendidN
85142400Danfon cynhyrchion anymataliaeth i’r cartrefN
85143000Gwasanaethau ambiwlansN
85144000Gwasanaethau cyfleusterau iechyd preswylN
85144100Gwasanaethau gofal nyrsio preswylN
85145000Gwasanaethau a ddarperir gan labordai meddygolN
85146000Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau gwaedN
85146100Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau sbermN
85146200Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau organau trawsblannuN
85147000Gwasanaethau iechyd cwmniN
85148000Gwasanaethau dadansoddi meddygolN
85149000Gwasanaethau fferylliaethN
85150000Gwasanaethau delweddu meddygolN
85160000Gwasanaethau optegyddN
85170000Gwasanaethau aciwbigo a chiropractegN
85171000Gwasanaethau aciwbigoN
85172000Gwasanaethau ciropractegN
85200000Gwasanaethau milfeddygaethN
85210000Meithrinfeydd anifeiliaid domestigN
85300000Gwasanaethau gwaith cymdeithasol a gwasanaethau cysylltiedigN
85310000Gwasanaethau gwaith cymdeithasolN
85311000Gwasanaethau gwaith cymdeithasol gyda lletyN
85311100Gwasanaethau lles ar gyfer yr henoedN
85311200Gwasanaethau lles ar gyfer pobl anablN
85311300Gwasanaethau lles ar gyfer plant a phobl ifancN
85312000Gwasanaethau gwaith cymdeithasol heb letyN
85312100Gwasanaethau gofal dyddN
85312110Gwasanaethau gofal dydd i blantN
85312120Gwasanaethau gofal dydd ar gyfer plant a phobl ifanc anablN
85312200Danfon cyflenwadau i’r cartrefN
85312300Gwasanaethau arweiniad a chwnselaN
85312310Gwasanaethau arweiniadN
85312320Gwasanaethau cwnselaN
85312330Gwasanaethau cynllunio teuluN
85312400Gwasanaethau lles na chânt eu darparu drwy sefydliadau preswylN
85312500Gwasanaethau adsefydluN
85312510Gwasanaethau adsefydlu galwedigaetholN
85320000Gwasanaethau cymdeithasolN
85321000Gwasanaethau cymdeithasol gweinyddolN
85322000Rhaglen gweithredu cymunedolN
85323000Gwasanaethau iechyd cymunedolN
98133000Gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau aelodaeth gymdeithasolN
98133100Gwasanaethau cymorth cyfleusterau cymunedol a gwelliant dinesigN
98200000Gwasanaethau ymgynghori ar gyfleoedd cyfartal
98500000Aelwydydd preifat â phersonau cyflogedig
98513000Gwasanaethau llafurlu ar gyfer aelwydydd
98513100Gwasanaethau staff asiantaeth ar gyfer aelwydydd
98513200Gwasanaethau staff clercol ar gyfer aelwydydd
98513300Staff dros dro ar gyfer aelwydydd
98513310Gwasanaethau cymorth cartref
98514000Gwasanaethau domestig
Gwasanaethau cymdeithasol, addysgol, gofal iechyd a diwylliannol gweinyddol
75000000Gwasanaethau gweinyddu, amddiffyn a nawdd cymdeithasol
75121000Gwasanaethau addysgol gweinyddolN
75122000Gwasanaethau gofal iechyd gweinyddolN
75124000Gwasanaethau hamdden, diwylliant a chrefydd gweinyddol
79950000Gwasanaethau trefnu arddangosfeydd, ffeiriau a chynadleddau
79951000Gwasanaethau trefnu seminarau
79952000Gwasanaethau digwyddiadau
79952100Gwasanaethau trefnu digwyddiadau diwylliannol
79953000Gwasanaethau trefnu gwyliau
79954000Gwasanaethau trefnu partïon
79955000Gwasanaethau trefnu sioeau ffasiwn
79956000Gwasanaethau trefnu ffeiriau ac arddangosfeydd
79995000Gwasanaethau rheoli llyfrgelloedd
79995100Gwasanaethau archifo
79995200Gwasanaethau catalogio
80000000Gwasanaethau addysg a hyfforddiant
80100000Gwasanaethau addysg gynradd
80110000Gwasanaethau addysg gyn ysgolN
80200000Gwasanaethau addysg uwchradd
80210000Gwasanaethau addysg uwchradd dechnegol a galwedigaethol
80211000Gwasanaethau addysg uwchradd dechnegol
80212000Gwasanaethau addysg uwchradd alwedigaethol
80300000Gwasanaethau addysg uwchN
80310000Gwasanaethau addysg ieuenctidN
80320000Gwasanaethau addysg feddygolN
80330000Gwasanaethau addysg diogelwchN
80340000Gwasanaethau addysg arbennigN
80400000Gwasanaethau addysg oedolion a gwasanaethau addysg eraill
80410000Gwasanaethau ysgol amrywiol
80411000Gwasanaethau ysgol yrru
80411100Gwasanaethau prawf gyrru
80411200Gwersi gyrru
80412000Gwasanaethau ysgol hedfan
80413000Gwasanaethau ysgol hwylio
80414000Gwasanaethau ysgol blymio
80415000Gwasanaethau hyfforddiant sgïo
80420000Gwasanaethau e-ddysguN
80430000Gwasanaethau addysg oedolion ar lefel prifysgolN
80490000Gweithredu canolfan addysgol
80500000Gwasanaethau hyfforddi
80510000Gwasanaethau hyfforddi arbenigol
80511000Gwasanaethau hyfforddi staffN
80512000Gwasanaethau hyfforddi cŵn
80513000Gwasanaethau ysgol farchogaeth
80520000Cyfleusterau hyfforddiN
80521000Gwasanaethau rhaglenni hyfforddiN
80522000Seminarau hyfforddiN
80530000Gwasanaethau hyfforddiant galwedigaethol
80531000Gwasanaethau hyfforddiant diwydiannol a thechnegol
80531100Gwasanaethau hyfforddiant diwydiannol
80531200Gwasanaethau hyfforddiant technegol
80532000Gwasanaethau hyfforddiant rheoli
80533000Gwasanaethau ymgyfarwyddo a hyfforddi defnyddwyr cyfrifiaduron
80533100Gwasanaethau hyfforddiant cyfrifiadurol
80533200Cyrsiau cyfrifiadur
80540000Gwasanaethau hyfforddiant amgylcheddol
80550000Gwasanaethau hyfforddiant diogelwch
80560000Gwasanaethau hyfforddiant iechyd a chymorth cyntaf
80561000Gwasanaethau hyfforddiant iechyd
80562000Gwasanaethau hyfforddiant cymorth cyntaf
80570000Gwasanaethau hyfforddiant datblygiad personol
80580000Darparu cyrsiau iaith
80590000Gwasanaethau tiwtoraN
80610000Hyfforddi ac efelychu ar gyfer cyfarpar diogelwch
80620000Hyfforddi ac efelychu ar gyfer arfau tanio a bwledi a chetris
92000000Gwasanaethau hamdden, diwylliant a chwaraeon
92100000Gwasanaethau ffilm a fideo
92110000Gwasanaethau cynhyrchu ffilmiau a thapiau fideo a gwasanaethau perthynol
92111000Gwasanaethau cynhyrchu ffilmiau a fideos
92111100Cynhyrchu ffilmiau a thapiau fideo hyfforddi
92111200Cynhyrchu ffilmiau a thapiau fideo hysbysebu, propaganda a gwybodaeth
92111210Cynhyrchu ffilmiau hysbysebu
92111220Cynhyrchu tapiau fideo hysbysebu
92111230Cynhyrchu ffilmiau propaganda
92111240Cynhyrchu tapiau fideo propaganda
92111250Cynhyrchu ffilmiau gwybodaeth
92111260Cynhyrchu tapiau fideo gwybodaeth
92111300Cynhyrchu ffilmiau a thapiau fideo adloniant
92111310Cynhyrchu ffilmiau adloniant
92111320Cynhyrchu tapiau fideo adloniant
92112000Gwasanaethau mewn cysylltiad â chynhyrchu ffilmiau a thapiau fideo
92120000Gwasanaethau dosbarthu ffilmiau neu dapiau fideo
92121000Gwasanaethau dosbarthu tapiau fideo
92122000Gwasanaethau dosbarthu ffilmiau
92130000Gwasanaethau taflunio ffilmiau
92140000Gwasanaethau taflunio tapiau fideo
92200000Gwasanaethau radio a theledu
92210000Gwasanaethau radio
92211000Gwasanaethau cynhyrchu radio
92213000Gwasanaethau systemau radio ar raddfa fach
92214000Gwasanaethau stiwdio neu gyfarpar radio
92215000Gwasanaethau Radio Symudol Cyffredinol (GMRS)
92220000Gwasanaethau teledu
92221000Gwasanaethau cynhyrchu teledu
92222000Gwasanaethau teledu cylch cyfyng
92224000Teledu digidol
92225000Teledu rhyngweithiol
92225100Teledu ffilm ar alw
92226000Teleraglennu
92230000Gwasanaethau cebl radio a theledu
92231000Gwasanaethau dwyochrog rhyngwladol a llinellau ar log preifat rhyngwladol
92232000Teledu cebl
92300000Gwasanaethau adloniant
92310000Gwasanaethau creu a dehongli artistig a llenyddol
92311000Gweithiau celfyddyd
92312000Gwasanaethau artistig
92312100Gwasanaethau adloniant cynhyrchwyr theatr, grwpiau cantorion, bandiau a cherddorfeydd
92312110Gwasanaethau adloniant cynhyrchwyr theatr
92312120Gwasanaethau adloniant grwpiau cantorion
92312130Gwasanaethau adloniant bandiau
92312140Gwasanaethau adloniant cerddorfeydd
92312200Gwasanaethau a ddarperir gan awduron, cyfansoddwyr, cerflunwyr, diddanwyr ac artistiaid unigol eraill
92312210Gwasanaethau a ddarperir gan awduron
92312211Gwasanaethau asiantaeth ysgrifennu
92312212Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â pharatoi llawlyfrau hyfforddi
92312213Gwasanaethau awduron technegol
92312220Gwasanaethau a ddarperir gan gyfansoddwyr
92312230Gwasanaethau a ddarperir gan gerflunwyr
92312240Gwasanaethau a ddarperir gan ddiddanwyr
92312250Gwasanaethau a ddarperir gan artistiaid unigol
92312251Gwasanaethau troellwyr disgiau
92320000Gwasanaethau gweithredu cyfleusterau celf
92330000Gwasanaethau ardaloedd hamdden
92331000Gwasanaethau ffeiriau a pharciau diddanu
92331100Gwasanaethau ffeiriau
92331200Gwasanaethau parciau diddanu
92331210Gwasanaethau animeiddio i blant
92332000Gwasanaethau glan môr
92340000Gwasanaethau dawnsio ac adloniant perfformio
92341000Gwasanaethau syrcas
92342000Gwasanaethau gwersi dawnsio
92342100Gwasanaethau gwersi dawnsio neuadd
92342200Gwasanaethau gwersi dawnsio disgo
92350000Gwasanaethau gamblo a betio
92351000Gwasanaethau gamblo
92351100Gwasanaethau gweithredu loteri
92351200Gwasanaethau gweithredu casinos
92352000Gwasanaethau betio
92352100Gwasanaethau gweithredu cyfansymwyr
92352200Gwasanaethau bwci
92360000Gwasanaethau tân gwyllt
92370000Technegydd sain
92400000Gwasanaethau asiantaeth newyddion
92500000Gwasanaethau llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd a gwasanaethau diwylliannol eraillN
92510000Gwasanaethau llyfrgelloedd ac archifauN
92511000Gwasanaethau llyfrgelloeddN
92512000Gwasanaethau archifauN
92512100Gwasanaethau dinistrio archifauN
92520000Gwasanaethau amgueddfeydd a gwasanaethau diogelu safleoedd ac adeiladau hanesyddolN
92521000Gwasanaethau amgueddfeyddN
92521100Gwasanaethau arddangosfeydd amgueddfaN
92521200Gwasanaethau diogelu arddangosion a sbesimenauN
92521210Gwasanaethau diogelu arddangosionN
92521220Gwasanaethau diogelu sbesimenauN
92522000Gwasanaethau diogelu safleoedd ac adeiladau hanesyddolN
92522100Gwasanaethau diogelu safleoedd hanesyddolN
92522200Gwasanaethau diogelu adeiladau hanesyddolN
92530000Gwasanaethau gerddi botaneg a swoleg a gwasanaethau gwarchodfeydd naturN
92531000Gwasanaethau gerddi botanegN
92532000Gwasanaethau gerddi swolegN
92533000Gwasanaethau gwarchodfeydd naturN
92534000Gwasanaethau gwarchod bywyd gwylltN
92600000Gwasanaethau chwaraeonN
92610000Gwasanaethau gweithredu cyfleusterau chwaraeonN
92620000Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chwaraeonN
92621000Gwasanaethau hyrwyddo digwyddiadau chwaraeonN
92622000Gwasanaethau trefnu digwyddiadau chwaraeonN
92700000Gwasanaethau gwe gaffis

Gwasanaethau nawdd cymdeithasol gorfodol

75300000Gwasanaethau nawdd cymdeithasol gorfodol
Gwasanaethau budd-daliadau
75310000Gwasanaethau budd-daliadau
75311000Budd-daliadau salwch
75312000Budd-daliadau mamolaeth
75313000Budd-daliadau anabledd
75313100Budd-daliadau anabledd dros dro
75314000Budd-daliadau iawndal diweithdra
75320000Cynlluniau pensiwn cyflogeion y Llywodraeth
75330000Lwfansau teulu
75340000Lwfansau plant

Gwasanaethau cymunedol, cymdeithasol a phersonol eraill gan gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan undebau llafur, sefydliadau gwleidyddol, cymdeithasau ieuenctid a gwasanaethau sefydliadau aelodaeth eraill

98000000Gwasanaethau cymunedol, cymdeithasol a phersonol eraill
98120000Gwasanaethau a ddarperir gan undebau llafur
98130000Gwasanaethau sefydliadau aelodaeth amrywiol
98132000Gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau gwleidyddol
98133110Gwasanaethau a ddarperir gan gymdeithasau ieuenctidN
Gwasanaethau crefyddol
98131000Gwasanaethau crefyddol

Gwasanaethau gwesty a bwyty

55100000Gwasanaethau gwesty
55110000Gwasanaethau llety gwesty
55120000Gwasanaethau cyfarfodydd a chynadleddau gwesty
55130000Mathau eraill o wasanaethau gwesty
55200000Meysydd gwersylla a llety arall nad yw’n westy
55210000Gwasanaethau hostel ieuenctid
55220000Gwasanaethau maes gwersylla
55221000Gwasanaethau safle carafannau
55240000Gwasanaethau canolfan wyliau a chartref gwyliau
55241000Gwasanaethau canolfan wyliau
55242000Gwasanaethau cartref gwyliau
55243000Gwasanaethau gwersyll gwyliau i blant
55250000Gwasanaethau gosod llety wedi’i ddodrefnu am gyfnod byr
55260000Gwasanaethau cerbydau cysgu
55270000Gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau gwely a brecwast
55300000Gwasanaethau bwyty a gweini bwyd
55310000Gwasanaethau gweinydd bwyty
55311000Gwasanaethau gweinydd bwyty i gwsmeriaid cyfyngedig
55312000Gwasanaethau gweinydd bwyty i gwsmeriaid anghyfyngedig
55320000Gwasanaethau gweini prydau
55321000Gwasanaethau paratoi prydau
55322000Gwasanaethau coginio prydau
55330000Gwasanaethau caffeteria
55400000Gwasanaethau gweini diodydd
55410000Gwasanaethau rheoli bar
55510000Gwasanaethau ffreutur
55511000Gwasanaethau ffreutur a gwasanaethau caffeteria eraill i gwsmeriaid cyfyngedig
55512000Gwasanaethau rheoli ffreutur
55520000Gwasanaethau arlwyo
55521000Gwasanaethau arlwyo ar gyfer aelwydydd preifat
55521100Gwasanaethau pryd ar glud
55521200Gwasanaethau danfon prydau
55522000Gwasanaethau arlwyo ar gyfer mentrau trafnidiaeth
55523000Gwasanaethau arlwyo ar gyfer mentrau neu sefydliadau eraill
55523100Gwasanaethau prydau ysgol
55524000Gwasanaethau arlwyo ysgolion

Gwasanaethau cyfreithiol, i’r graddau nad ydynt wedi eu cynnwys gan baragraff 14 o Atodlen 2 i Ddeddf 2023

75231100Gwasanaethau gweinyddol sy’n gysylltiedig â llysoedd barn
79100000Gwasanaethau cyfreithiol
79110000Gwasanaethau cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth gyfreithiol
79111000Gwasanaethau cyngor cyfreithiol
79112000Gwasanaethau cynrychiolaeth gyfreithiol
79112100Gwasanaethau cynrychioli rhanddeiliaid
79120000Gwasanaethau ymgynghori ar batentau a hawlfraint
79121000Gwasanaethau ymgynghori ar hawlfraint
79121100Gwasanaethau ymgynghori ar hawlfraint meddalwedd
79130000Gwasanaethau dogfennu ac ardystio cyfreithiol
79131000Gwasanaethau dogfennu
79132000Gwasanaethau ardystio
79132100Gwasanaethau ardystio llofnodion electronig
79140000Gwasanaethau cyngor cyfreithiol a gwybodaeth gyfreithiol
Gwasanaethau gweinyddu eraill a gwasanaethau’r llywodraeth
75100000Gwasanaethau gweinyddu
75110000Gwasanaethau cyhoeddus cyffredinol
75111000Gwasanaethau gweithredol a deddfwriaethol
75111100Gwasanaethau gweithredol
75111200Gwasanaethau deddfwriaethol
75112000Gwasanaethau gweinyddol ar gyfer gweithrediadau busnes
75112100Gwasanaethau prosiectau datblygu gweinyddol
75120000Gwasanaethau gweinyddol asiantaethau
75123000Gwasanaethau tai gweinyddolN
75125000Gwasanaethau gweinyddol sy’n gysylltiedig â materion twristiaeth
75130000Gwasanaethau ategol ar gyfer y llywodraeth
75131000Gwasanaethau’r llywodraeth
Darparu gwasanaethau i’r gymuned
75200000Darparu gwasanaethau i’r gymuned
75210000Gwasanaethau materion tramor a gwasanaethau eraill
75211000Gwasanaethau materion tramor
75211100Gwasanaethau diplomyddol
75211110Gwasanaethau consylaidd
75211200Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chymorth economaidd tramor
75222000Gwasanaethau amddiffyn sifil
75230000Gwasanaethau cyfiawnder
75231000Gwasanaethau barnwrol
Gwasanaethau sy’n gysylltiedig â charchardai, gwasanaethau diogelwch y cyhoedd a gwasanaethau achub i’r graddau nad ydynt wedi eu gwahardd gan baragraff 20 o Atodlen 2 i Ddeddf 2023
75231210Gwasanaethau carcharu
75231220Gwasanaethau hebrwng carcharorion
75231230Gwasanaethau carchar
75240000Gwasanaethau diogelwch y cyhoedd, cyfraith a threfn
75241000Gwasanaethau diogelwch y cyhoedd
75241100Gwasanaethau’r heddlu
75242000Gwasanaethau cyfraith a threfn gyhoeddus
75242100Gwasanaethau trefn gyhoeddus
75242110Gwasanaethau beili
75250000Gwasanaethau’r frigâd dân a gwasanaethau achub
75251000Gwasanaethau’r frigâd dân
75251100Gwasanaethau diffodd tân
75251110Gwasanaethau atal tân
75251120Gwasanaethau diffodd tanau coedwig
75252000Gwasanaethau achub
79430000Gwasanaethau rheoli argyfwng
98113100Gwasanaethau diogelwch niwclear
Gwasanaethau ymchwilio a diogelwch
79700000Gwasanaethau ymchwilio a diogelwch
79710000Gwasanaethau diogelwch
79711000Gwasanaethau monitro larwm
79713000Gwasanaethau giard
79714000Gwasanaethau gwyliadwriaeth
79714100Gwasanaethau systemau olrhain
79714110Gwasanaethau olrhain dihangwyr
79715000Gwasanaethau patrol
79716000Gwasanaethau rhyddhau bathodynnau adnabod
79720000Gwasanaethau ymchwilio
79721000Gwasanaethau asiantaeth dditectif
79722000Gwasanaethau graffoleg
79723000Gwasanaethau dadansoddi gwastraff
Gwasanaethau rhyngwladol
98900000Gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau a chyrff alldiriogaethol
98910000Gwasanaethau sy’n ymwneud yn benodol â sefydliadau a chyrff rhyngwladol
Gwasanaethau post
64000000Gwasanaethau post a thelathrebu
64100000Gwasanaethau post a negesydd
64110000Gwasanaethau post
64111000Gwasanaethau post sy’n gysylltiedig â phapurau newydd a chyfnodolion
64112000Gwasanaethau post sy’n gysylltiedig â llythyrau
64113000Gwasanaethau post sy’n gysylltiedig â pharseli
64114000Gwasanaethau cownter swyddfa bost
64115000Llogi blychau post
64116000Gwasanaethau poste restante
64122000Gwasanaethau post a negesydd swyddfa mewnol
Gwasanaethau amrywiol
50116510Gwasanaethau ailfowldio teiars
71550000Gwasanaethau gof

Rheoliad 44

ATODLEN 2Awdurdodau llywodraeth ganolog

Awdurdodau llywodraeth ganolog

Awdurdod arweiniol (1)Awdurdod perthynol (2)
Gweinidogion CymruPwyllgorau Cynghori Tai Annedd Amaethyddol (Cymru)
Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Y Pwyllgor Asesu Rhenti (Cymru)
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Tribiwnlys Prisio Cymru
Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a Byrddau Iechyd Lleol Cymru
Cyrff GIG Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Gofal Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Amgueddfa Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
Chwaraeon Cymru
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Awdurdod Cyllid Cymru
Comisiynydd y Gymraeg

Rheoliad 45

ATODLEN 3Gweithgareddau gweithiau

Cod GGGGweithgaredd
45000000Gwaith adeiladu
45100000Gwaith paratoi safleoedd
45110000Gwaith dymchwel a dinistrio adeiladau a gwaith symud pridd
45111000Gwaith dymchwel a gwaith paratoi a chlirio safleoedd
45111100Gwaith dymchwel
45111200Gwaith paratoi a chlirio safleoedd
45111210Gwaith ffrwydro a gwaith symud creigiau cysylltiedig
45111211Gwaith ffrwydro
45111212Gwaith symud creigiau
45111213Gwaith clirio safleoedd
45111214Gwaith clirio â ffrwydron
45111220Gwaith tynnu prysgwydd
45111230Gwaith sefydlogi’r tir
45111240Gwaith draenio’r tir
45111250Gwaith ymchwilio tir
45111260Gwaith paratoi safleoedd ar gyfer mwyngloddio
45111290Gwaith sylfaenol ar gyfer gwasanaethau
45111291Gwaith datblygu safleoedd
45111300Gwaith datgymalu
45111320Gwaith datgymalu gosodiadau diogelwch
45112000Gwaith cloddio a symud pridd
45112100Gwaith cloddio ffosydd
45112200Gwaith stripio pridd
45112210Gwaith stripio uwchbridd
45112300Gwaith mewnlenwi ac adfer tir
45112310Gwaith mewnlenwi
45112320Gwaith adfer tir
45112330Gwaith adfer safleoedd
45112340Gwaith dihalogi pridd
45112350Adfer tir gwastraff
45112360Gwaith adsefydlu tir
45112400Gwaith cloddio
45112410Gwaith torri beddau
45112420Gwaith cloddio isloriau
45112440Terasu llechweddau
45112441Gwaith terasu
45112450Gwaith cloddio ar safleoedd archaeolegol
45112500Gwaith symud pridd
45112600Torri a llenwi
45112700Gwaith tirlunio
45112710Gwaith tirlunio ar gyfer mannau gwyrdd
45112711Gwaith tirlunio ar gyfer parciau
45112712Gwaith tirlunio ar gyfer gerddi
45112713Gwaith tirlunio ar gyfer gerddi to
45112714Gwaith tirlunio ar gyfer mynwentydd
45112720Gwaith tirlunio ar gyfer meysydd chwaraeon ac ardaloedd hamdden
45112721Gwaith tirlunio ar gyfer cyrsiau golff
45112722Gwaith tirlunio ar gyfer ardaloedd marchogaeth
45112723Gwaith tirlunio ar gyfer meysydd chwarae
45112730Gwaith tirlunio ar gyfer ffyrdd a thraffyrdd
45112740Gwaith tirlunio ar gyfer meysydd awyr
45113000Gwaith safle
45120000Gwaith drilio a thurio ar gyfer profion
45121000Gwaith drilio ar gyfer profion
45122000Gwaith turio ar gyfer profion
45200000Gwaith ar gyfer gwaith adeiladu cyflawn neu rannol a gwaith peirianneg sifil
45210000Gwaith adeiladu adeiladau
45211000Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau amlannedd a thai unigol
45211100Gwaith adeiladu ar gyfer tai
45211200Gwaith adeiladu tai gwarchod
45211300Gwaith adeiladu tai
45211310Gwaith adeiladu ystafelloedd ymolchi
45211320Gwaith adeiladu portshys
45211340Gwaith adeiladu adeiladau aml-annedd
45211341Gwaith adeiladau fflatiau
45211350Gwaith adeiladu adeiladau amlswyddogaethol
45211360Gwaith adeiladu datblygu trefol
45211370Gwaith adeiladu ar gyfer saunas
45212000Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â hamdden, chwaraeon, diwylliant, tai llety a bwytai
45212100Gwaith adeiladu cyfleusterau hamdden
45212110Gwaith adeiladu canolfannau hamdden
45212120Gwaith adeiladu parciau thema
45212130Gwaith adeiladu parciau diddanu
45212140Gosodiadau hamdden
45212150Gwaith adeiladu sinemâu
45212160Gwaith adeiladu casinos
45212170Gwaith adeiladu adeiladau adloniant
45212171Gwaith adeiladu canolfannau adloniant
45212172Gwaith adeiladu canolfannau gweithgareddau hamdden
45212180Gwaith adeiladu swyddfeydd tocynnau
45212190Gwaith diogelu rhag yr haul
45212200Gwaith adeiladu ar gyfer cyfleusterau chwaraeon
45212210Gwaith adeiladu cyfleusterau chwaraeon un pwrpas
45212211Gwaith adeiladu canolfannau sglefrio
45212212Gwaith adeiladu ar gyfer pyllau nofio
45212213Gwaith gwneud marciau ar gyfer chwaraeon
45212220Gwaith adeiladu cyfleusterau chwaraeon amlbwrpas
45212221Gwaith adeiladu sy’n gysylltiedig â strwythurau ar gyfer meysydd chwaraeon
45212222Gwaith adeiladu campfeydd
45212223Gwaith adeiladu cyfleusterau chwaraeon gaeaf
45212224Gwaith adeiladu stadiymau
45212225Gwaith adeiladu neuaddau chwaraeon
45212230Gwaith gosod ystafelloedd newid
45212290Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewn cysylltiad â chyfleusterau chwaraeon
45212300Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau celfyddydol a diwylliannol
45212310Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig ag arddangosfeydd
45212311Gwaith adeiladu orielau celf
45212312Gwaith adeiladu canolfannau arddangos
45212313Gwaith adeiladu amgueddfeydd
45212314Gwaith adeiladu sy’n ymwneud â henebion neu gofebion
45212320Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â pherfformiadau artistig
45212321Gwaith adeiladu awditoria
45212322Gwaith adeiladu theatrau
45212330Gwaith adeiladu llyfrgelloedd
45212331Gwaith adeiladu llyfrgelloedd amlgyfrwng
45212340Gwaith adeiladu darlithfeydd
45212350Adeiladau o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig
45212351Gwaith adeiladu sy’n ymwneud â henebion cynhanesyddol
45212352Gwaith adeiladu sy’n ymwneud â chofadeiliau diwydiannol
45212353Gwaith adeiladu sy’n ymwneud â phalasau
45212354Gwaith adeiladu sy’n ymwneud â chestyll
45212360Gwaith adeiladu sy’n ymwneud ag adeiladau crefyddol
45212361Gwaith adeiladu sy’n ymwneud ag eglwysi
45212400Adeiladau llety a bwytai
45212410Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau tai llety
45212411Gwaith adeiladu gwestai
45212412Gwaith adeiladu hosteli
45212413Gwaith adeiladu llety arhosiad byr
45212420Gwaith adeiladu ar gyfer bwytai a chyfleusterau tebyg
45212421Gwaith adeiladu bwytai
45212422Gwaith adeiladu ffreuturau
45212423Gwaith adeiladu caffeterias
45212500Addasu cegin neu fwyty
45212600Gwaith adeiladu pafiliynau
45213000Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau masnachol, warysau ac adeiladau diwydiannol, ac adeiladau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth
45213100Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau masnachol
45213110Gwaith adeiladu adeiladau siopau
45213111Gwaith adeiladu canolfannau siopa
45213112Gwaith adeiladu unedau siopau
45213120Gwaith adeiladu swyddfeydd post
45213130Gwaith adeiladu banciau
45213140Gwaith adeiladu marchnadoedd
45213141Gwaith adeiladu marchnadoedd dan do
45213142Gwaith adeiladu marchnadoedd awyr agored
45213150Gwaith adeiladu blociau o swyddfeydd
45213200Gwaith adeiladu ar gyfer warysau ac adeiladau diwydiannol
45213210Storfeydd oer
45213220Gwaith adeiladu ar gyfer warysau
45213221Gwaith adeiladu storfeydd warws
45213230Gwaith adeiladu lladd-dai
45213240Gwaith adeiladu adeiladau amaethyddol
45213241Gwaith adeiladu ysguboriau
45213242Gwaith adeiladu beudai
45213250Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau diwydiannol
45213251Gwaith adeiladu unedau diwydiannol
45213252Gwaith adeiladu gweithdai
45213260Gwaith adeiladu depos storau
45213270Gwaith adeiladu ar gyfer gorsafoedd ailgylchu
45213280Gwaith adeiladu ar gyfer cyfleusterau compostio
45213300Adeiladau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth
45213310Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth ffyrdd
45213311Gwaith adeiladu gorsafoedd bysiau
45213312Gwaith adeiladu adeiladau maes parcio
45213313Gwaith adeiladu adeiladau ardal wasanaethu
45213314Gwaith adeiladu garejys bysiau
45213315Gwaith adeiladu llochesau safle bws
45213316Gwaith gosod llwybrau
45213320Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth reilffordd
45213321Gwaith adeiladu gorsafoedd trenau
45213322Gwaith adeiladu adeiladau terfynfa reilffordd
45213330Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth awyr
45213331Gwaith adeiladu adeiladau maes awyr
45213332Gwaith adeiladu tyrau rheoli maes awyr
45213333Gwaith gosod cownteri mewngofnodi maes awyr
45213340Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth dros ddŵr
45213341Gwaith adeiladu adeiladau terfynfa fferi
45213342Gwaith adeiladu terfynfeydd ro-ro
45213350Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o drafnidiaeth
45213351Gwaith adeiladu awyrendai cynnal a chadw
45213352Gwaith adeiladu depos gwasanaethau
45213353Gwaith gosod pontydd byrddio i deithwyr
45213400Gwaith gosod ystafelloedd staff
45214000Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig ag addysg ac ymchwil
45214100Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau ysgol feithrin
45214200Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau ysgol
45214210Gwaith adeiladu ysgolion cynradd
45214220Gwaith adeiladu ysgolion uwchradd
45214230Gwaith adeiladu ysgolion arbennig
45214300Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau coleg
45214310Gwaith adeiladu colegau galwedigaethol
45214320Gwaith adeiladu colegau technegol
45214400Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau prifysgol
45214410Gwaith adeiladu colegau polytechnig
45214420Gwaith adeiladu darlithfeydd
45214430Gwaith adeiladu labordai iaith
45214500Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau addysg bellach
45214600Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau ymchwil
45214610Gwaith adeiladu adeiladau labordy
45214620Gwaith adeiladu cyfleusterau ymchwil a phrofi
45214630Gosodiadau gwyddonol
45214631Gwaith gosod ystafelloedd glân
45214640Gwaith adeiladu gorsafoedd meteorolegol
45214700Gwaith adeiladu ar gyfer neuaddau preswyl
45214710Gwaith adeiladu cynteddau
45214800Gwaith adeiladu cyfleusterau hyfforddi
45215000Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ar gyfer amlosgfeydd a chyfleusterau cyhoeddus
45215100Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig ag iechyd
45215110Gwaith adeiladu sba
45215120Gwaith adeiladu adeiladau meddygol arbennig
45215130Gwaith adeiladu clinigau
45215140Gwaith adeiladu cyfleusterau ysbyty
45215141Gwaith adeiladu ystafelloedd llawdriniaeth
45215142Gwaith adeiladu unedau gofal dwys
45215143Gwaith adeiladu ystafelloedd sgrinio diagnostig
45215144Gwaith adeiladu ystafelloedd sgrinio
45215145Gwaith adeiladu ystafelloedd fflworosgopeg
45215146Gwaith adeiladu ystafelloedd patholeg
45215147Gwaith adeiladu ystafelloedd fforensig
45215148Gwaith adeiladu ystafelloedd cathetr
45215200Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau gwasanaethau cymdeithasol
45215210Gwaith adeiladu ar gyfer llety preswyl â chymhorthdal
45215212Gwaith adeiladu cartrefi ymddeol
45215213Gwaith adeiladu cartrefi nyrsio
45215214Gwaith adeiladu cartrefi preswyl
45215215Gwaith adeiladu cartrefi plant
45215220Gwaith adeiladu ar gyfer cyfleusterau cymdeithasol heblaw llety preswyl â chymhorthdal
45215221Gwaith adeiladu canolfannau gofal dydd
45215222Gwaith adeiladau canolfannau dinesig
45215300Gwaith adeiladu ar gyfer amlosgfeydd
45215400Gwaith mynwent
45215500Cyfleusterau cyhoeddus
45216000Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â chyfraith a threfn neu wasanaethau brys ac ar gyfer adeiladau milwrol
45216100Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â chyfraith a threfn neu wasanaethau brys
45216110Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â chyfraith a threfn
45216111Gwaith adeiladu gorsafoedd heddlu
45216112Gwaith adeiladu adeiladau llys
45216113Gwaith adeiladu adeiladau carchardai
45216114Adeiladau senedd a chynulliad cyhoeddus
45216120Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau brys
45216121Gwaith adeiladu gorsafoedd tân
45216122Gwaith adeiladu gorsafoedd ambiwlans
45216123Gwaith adeiladu adeiladau achub ar fynydd
45216124Gwaith adeiladu gorsafoedd badau achub
45216125Gwaith adeiladu adeiladau gwasanaethau brys
45216126Gwaith adeiladu adeiladau gwylwyr y glannau
45216127Gwaith adeiladu gorsafoedd gwasanaethau achub
45216128Gwaith adeiladu goleudai
45216129Llochesau amddiffynnol
45217000Gwaith adeiladu adeiladau wedi eu llenwi ag aer
45220000Gwaith peirianneg a gwaith adeiladu
45221000Gwaith adeiladu ar gyfer pontydd a thwnelau, siafftiau a thanlwybrau
45221100Gwaith adeiladu ar gyfer pontydd
45221110Gwaith adeiladu pontydd
45221111Gwaith adeiladu pontydd ffordd
45221112Gwaith adeiladu pontydd rheilffordd
45221113Gwaith adeiladu pontydd troed
45221114Gwaith adeiladu ar gyfer pontydd haearn
45221115Gwaith adeiladu ar gyfer pontydd dur
45221117Gwaith adeiladu pontydd pwyso
45221118Gwaith adeiladu pontydd ar gyfer piblinellau
45221119Gwaith adeiladu i adnewyddu pontydd
45221120Gwaith adeiladu traphontydd
45221121Gwaith adeiladu traphontydd ffordd
45221122Gwaith adeiladu traphontydd rheilffordd
45221200Gwaith adeiladu ar gyfer twnelau, siafftiau a thanlwybrau
45221210Gwaith cloddio o dan orchudd neu o dan orchudd yn rhannol
45221211Tanffordd
45221213Gwaith cloddio rheilffyrdd o dan orchudd neu o dan orchudd yn rhannol
45221214Gwaith cloddio ffyrdd o dan orchudd neu o dan orchudd yn rhannol
45221220Cwlfertau
45221230Siafftiau
45221240Gwaith adeiladu ar gyfer twnelau
45221241Gwaith adeiladu twnelau ffordd
45221242Gwaith adeiladu twnelau rheilffordd
45221243Gwaith adeiladau twnelau i gerddwyr
45221244Gwaith adeiladu twnelau camlas
45221245Gwaith adeiladu twnelau o dan afonydd
45221246Gwaith adeiladu twnelau tanfor
45221247Gwaith twnelu
45221248Gwaith adeiladu leininau twnelau
45221250Gwaith dan ddaear heblaw twnelau, siafftiau a thanlwybrau
45222000Gwaith adeiladu ar gyfer gwaith peirianneg heblaw pontydd, twnelau, siafftiau a thanlwybrau
45222100Gwaith adeiladu gweithfeydd trin gwastraff
45222110Gwaith adeiladu safleoedd gwaredu gwastraff
45222300Gwaith peirianneg ar gyfer gosodiadau diogelwch
45223000Gwaith adeiladu strwythurau
45223100Cydosod strwythurau metel
45223110Gwaith gosod strwythurau metel
45223200Gwaith strwythurol
45223210Gwaith dur strwythurol
45223220Gwaith cragen strwythurol
45223300Gwaith adeiladu meysydd parcio
45223310Gwaith adeiladu meysydd parcio o dan ddaear
45223320Gwaith adeiladu cyfleusterau parcio a theithio
45223400Gwaith adeiladu gorsafoedd radar
45223500Strwythurau concrit cyfnerth
45223600Gwaith adeiladu llety cŵn
45223700Gwaith adeiladu ardaloedd gwasanaethu
45223710Gwaith adeiladu ardaloedd gwasanaethu ar draffyrdd
45223720Gwaith adeiladu gorsafoedd petrol/tanwydd
45223800Cydosod a chodi strwythurau parod
45223810Adeiladau parod
45223820Unedau a chydrannau parod
45223821Unedau parod
45223822Cydrannau parod
45230000Gwaith adeiladu ar gyfer piblinellau, llinellau cyfathrebu a llinellau pŵer, ar gyfer priffyrdd, ffyrdd, meysydd glanio a rheilffyrdd; gwaith ar y gwastad
45231000Gwaith adeiladu ar gyfer piblinellau, llinellau cyfathrebu a llinellau pŵer
45231100Gwaith adeiladu cyffredinol ar gyfer piblinellau
45231110Gwaith adeiladu ar gyfer gosod pibellau
45231111Codi ac ailosod piblinellau
45231112Gwaith gosod systemau pibellau
45231113Gwaith ailosod piblinellau
45231200Gwaith adeiladu ar gyfer piblinellau olew a nwy
45231210Gwaith adeiladu ar gyfer piblinellau olew
45231220Gwaith adeiladu ar gyfer piblinellau nwy
45231221Gwaith adeiladu’r prif gyflenwad nwy
45231222Gwaith adeiladu tanciau nwy
45231223Gwaith ategol ar gyfer dosbarthu nwy
45231300Gwaith adeiladu ar gyfer piblinellau dŵr a charthion
45231400Gwaith adeiladu ar gyfer llinellau pŵer trydan
45231500Gwaith ar biblinellau aer cywasgedig
45231510Gwaith ar biblinellau aer cywasgedig ar gyfer system bost
45231600Gwaith adeiladu ar gyfer llinellau cyfathrebu
45232000Gwaith ategol ar gyfer piblinellau a cheblau
45232100Gwaith ategol ar gyfer piblinellau dŵr
45232120Gwaith dyfrhau
45232121Gwaith adeiladu pibellau dyfrhau
45232130Gwaith adeiladu pibellau dŵr storm
45232140Gwaith adeiladu ar gyfer prif gyflenwad gwresogi ardal
45232141Gwaith gwresogi
45232142Gwaith adeiladu gorsafoedd trosglwyddo gwres
45232150Gwaith sy’n gysylltiedig â phiblinellau dosbarthu dŵr
45232151Gwaith adeiladu ar gyfer adnewyddu’r prif gyflenwad dŵr
45232152Gwaith adeiladu gorsafoedd pwmpio
45232153Gwaith adeiladu ar gyfer tyrau dŵr
45232154Gwaith adeiladu tanciau uchel ar gyfer dŵr yfed
45232200Gwaith ategol ar gyfer llinellau pŵer trydan
45232210Adeiladu llinellau uwchben
45232220Gwaith adeiladu is-orsafoedd
45232221Is-orsafoedd newidydd
45232300Gwaith adeiladu a gwaith ategol ar gyfer llinellau ffôn a chyfathrebu
45232310Gwaith adeiladu ar gyfer llinellau ffôn
45232311Llinellau ffôn argyfwng ymyl ffordd
45232320Llinellau darlledu dros gebl
45232330Codi erialau
45232331Gwaith ategol ar gyfer darlledu
45232332Gwaith ategol ar gyfer telathrebu
45232340Gwaith adeiladu gorsafoedd ffôn symudol
45232400Gwaith adeiladu carthffosydd
45232410Gwaith carthffosiaeth
45232411Gwaith adeiladu pibellau dŵr budr
45232420Gwaith carthion
45232421Gwaith trin carthion
45232422Gwaith trin slwtsh
45232423Gwaith adeiladu gorsafoedd pwmpio carthion
45232424Gwaith adeiladu arllwysfeydd carthion
45232430Gwaith trin dŵr
45232431Gorsaf pwmpio dŵr gwastraff
45232440Gwaith adeiladu ar gyfer pibellau carthion
45232450Gwaith adeiladu systemau draenio
45232451Gwaith draenio a gwaith arwyneb
45232452Gwaith draenio
45232453Gwaith adeiladu draeniau
45232454Gwaith adeiladu basnau dŵr glaw
45232460Gwaith glanweithdra
45232470Gorsaf trosglwyddo gwastraff
45233000Gwaith adeiladu, gwaith sylfeini a gwaith arwyneb ar gyfer priffyrdd, ffyrdd
45233100Gwaith adeiladu ar gyfer priffyrdd, ffyrdd
45233110Gwaith adeiladu traffyrdd
45233120Gwaith adeiladu ffyrdd
45233121Gwaith adeiladau priffyrdd
45233122Gwaith adeiladu cylchffyrdd
45233123Gwaith adeiladu ffyrdd eilaidd
45233124Gwaith adeiladu cefnffyrdd
45233125Gwaith adeiladu cyffyrdd
45233126Gwaith adeiladu cyffyrdd aml-lefel
45233127Gwaith adeiladu cyffyrdd T
45233128Gwaith adeiladu cylchfannau
45233129Gwaith adeiladu croesffyrdd
45233130Gwaith adeiladu ar gyfer priffyrdd
45233131Gwaith adeiladu ar gyfer priffyrdd uchel
45233139Gwaith cynnal a chadw priffyrdd
45233140Gwaith ffordd
45233141Gwaith cynnal a chadw ffyrdd
45233142Gwaith atgyweirio ffyrdd
45233144Gwaith adeiladu trosffyrdd
45233150Gwaith gostegu traffig
45233160Llwybrau ac arwynebau metlin eraill
45233161Gwaith adeiladu llwybrau troed
45233162Gwaith adeiladu llwybrau beicio
45233200Amrywiol waith ar yr arwyneb
45233210Gwaith arwyneb ar gyfer priffyrdd
45233220Gwaith arwyneb ar gyfer ffyrdd
45233221Gwaith paentio arwyneb ffyrdd
45233222Gwaith gosod cerrig palmant ac asffalt
45233223Gwaith ailwynebu lonydd cerbydau
45233224Gwaith adeiladu ffyrdd deuol
45233225Gwaith adeiladu ffyrdd unffrwd
45233226Gwaith adeiladu ffyrdd mynediad
45233227Gwaith adeiladu ffyrdd ymadael a ffyrdd ymuno
45233228Gwaith adeiladu araenau arwyneb
45233229Gwaith cynnal a chadw ymylon ffyrdd
45233250Gwaith arwynebu ac eithrio ffyrdd
45233251Gwaith ailwynebu
45233252Gwaith arwyneb ar gyfer strydoedd
45233253Gwaith arwyneb ar gyfer llwybrau troed
45233260Gwaith adeiladu ffyrdd i gerddwyr
45233261Gwaith adeiladu trosffyrdd i gerddwyr
45233262Gwaith adeiladu parthau cerddwyr
45233270Gwaith paentio arwynebau meysydd parcio
45233280Codi rhwystrau ffordd
45233290Gwaith gosod arwyddion ffordd
45233291Gwaith gosod bolardiau
45233292Gwaith gosod cyfarpar diogelwch
45233293Gwaith gosod dodrefn stryd
45233294Gwaith gosod signalau ffordd
45233300Gwaith sylfeini ar gyfer priffyrdd, ffyrdd, strydoedd a llwybrau troed
45233310Gwaith sylfeini ar gyfer priffyrdd
45233320Gwaith sylfeini ar gyfer ffyrdd
45233330Gwaith sylfeini ar gyfer strydoedd
45233340Gwaith sylfeini ar gyfer llwybrau troed
45234000Gwaith adeiladu ar gyfer rheilffyrdd a systemau trafnidiaeth â cheblau
45234100Gwaith adeiladu rheilffyrdd
45234110Gwaith rheilffyrdd rhyngddinesig
45234111Gwaith adeiladu rheilffyrdd dinesig
45234112Gwaith adeiladu depos rheilffordd
45234113Dymchwel traciau
45234114Gwaith adeiladu argloddiau rheilffordd
45234115Gwaith ar signalau rheilffordd
45234116Gwaith adeiladu traciau
45234120Gwaith rheilffyrdd trefol
45234121Gwaith tramffyrdd
45234122Gwaith rheilffyrdd tanddaearol
45234123Gwaith rheilffyrdd rhannol danddaearol
45234124Trafnidiaeth rheilffyrdd tanddaearol i deithwyr
45234125Gorsaf drenau danddaearol
45234126Gwaith adeiladu rheiliau tramffordd
45234127Gwaith adeiladu depos tramffordd
45234128Gwaith adeiladu platfformau tramffordd
45234129Gwaith adeiladu traciau rheilffordd drefol
45234130Gwaith adeiladu â balast
45234140Gwaith adeiladu croesfannau rheilffordd
45234160Gwaith adeiladu catenâu
45234170Gwaith adeiladu is-orsafoedd locomotif
45234180Gwaith adeiladu ar gyfer gweithdai rheilffordd
45234181Gwaith adeiladu ar gyfer cabanau adrannu traciau rheilffordd
45234200Systemau trafnidiaeth a grogir wrth geblau
45234210Systemau trafnidiaeth a grogir wrth geblau gyda chabanau
45234220Gwaith adeiladu ar gyfer lifftiau sgïo
45234230Gwaith adeiladu ar gyfer lifftiau cadair
45234240Systemau rheilffordd halio
45234250Gwaith adeiladu telefferig
45235000Gwaith adeiladu ar gyfer meysydd glanio, rhedfeydd ac arwynebau manwfro
45235100Gwaith adeiladu ar gyfer meysydd awyr
45235110Gwaith adeiladu ar gyfer meysydd glanio
45235111Gwaith adeiladu palmentydd maes glanio
45235200Gwaith adeiladu rhedfeydd
45235210Ailwynebu rhedfeydd
45235300Gwaith adeiladu ar gyfer arwynebau manwfro cerbydau awyr
45235310Gwaith adeiladu atredfeydd
45235311Gwaith adeiladu palmentydd atredfeydd
45235320Gwaith adeiladu ar gyfer lleiniau cerbydau awyr
45236000Gwaith ar y gwastad
45236100Gwaith ar y gwastad ar gyfer gosodiadau chwaraeon amrywiol
45236110Gwaith ar y gwastad ar gyfer meysydd chwaraeon
45236111Gwaith ar y gwastad ar gyfer cyrsiau golff
45236112Gwaith ar y gwastad ar gyfer cyrtiau tennis
45236113Gwaith ar y gwastad ar gyfer caeau rasys
45236114Gwaith ar y gwastad ar gyfer traciau rhedeg
45236119Gwaith atgyweirio ar feysydd chwaraeon
45236200Gwaith ar y gwastad ar gyfer gosodiadau hamdden
45236210Gwaith ar y gwastad ar gyfer ardaloedd chwarae plant
45236220Gwaith ar y gwastad ar gyfer sŵau
45236230Gwaith ar y gwastad ar gyfer gerddi
45236250Gwaith ar y gwastad ar gyfer parciau
45236290Gwaith atgyweirio ar ardaloedd hamdden
45236300Gwaith ar y gwastad ar gyfer mynwentydd
45237000Gwaith adeiladu llwyfannau
45240000Gwaith adeiladu ar gyfer prosiectau dŵr
45241000Gwaith adeiladu harbyrau
45241100Gwaith adeiladu ceiau
45241200Gwaith adeiladu terfynfeydd alltraeth yn y fan a’r lle
45241300Gwaith adeiladu pierau
45241400Gwaith adeiladu dociau
45241500Gwaith adeiladu glanfeydd
45241600Gwaith gosod cyfarpar goleuo porthladdoedd
45242000Gwaith adeiladu cyfleusterau hamdden glan y dŵr
45242100Gwaith adeiladu cyfleusterau chwaraeon dŵr
45242110Gwaith adeiladu ffyrdd lansio
45242200Gwaith adeiladu marinas
45242210Gwaith adeiladu harbyrau cychod hwylio
45243000Gwaith amddiffyn yr arfordir
45243100Gwaith diogelu clogwyni
45243110Gwaith sefydlogi clogwyni
45243200Gwaith adeiladu morgloddiau
45243300Gwaith adeiladu waliau môr
45243400Gwaith cyfnerthu traethau
45243500Gwaith adeiladu amddiffynfeydd morol
45243510Gwaith argloddiau
45243600Gwaith adeiladu waliau cei
45244000Gwaith adeiladu morol
45244100Gosodiadau morol
45244200Glanfeydd
45245000Gwaith carthu a phwmpio ar gyfer gweithfeydd trin dŵr
45246000Gwaith rheoli afonydd a llifogydd
45246100Adeiladu waliau afonydd
45246200Gwaith diogelu glannau afonydd
45246400Gwaith atal llifogydd
45246410Gwaith cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd
45246500Gwaith adeiladu promenadau
45246510Gwaith adeiladu llwybrau estyllod
45247000Gwaith adeiladu ar gyfer argaeau, camlesi, sianeli dyfrhau a thraphontydd dŵr
45247100Gwaith adeiladu ar gyfer dyfrffyrdd
45247110Gwaith adeiladu camlesi
45247111Gwaith adeiladu sianeli dyfrhau
45247112Gwaith adeiladu camlesi draenio
45247120Dyfrffyrdd ac eithrio camlesi
45247130Gwaith adeiladu traphontydd dŵr
45247200Gwaith adeiladu ar gyfer argaeau a strwythurau sefydlog tebyg
45247210Gwaith adeiladu argaeau
45247211Gwaith adeiladu waliau argae
45247212Gwaith atgyfnerthu argaeau
45247220Gwaith adeiladu coredau
45247230Gwaith adeiladu cloddiau
45247240Gwaith adeiladu baredau sefydlog
45247270Gwaith adeiladu cronfeydd dŵr
45248000Gwaith adeiladu ar gyfer strwythurau hydrofecanyddol
45248100Gwaith adeiladu lociau camlas
45248200Gwaith adeiladu dociau sych
45248300Gwaith adeiladu ar gyfer dociau nofiol
45248400Gwaith adeiladu pontydd glanio
45248500Gwaith adeiladu baredau symudol
45250000Gwaith adeiladu ar gyfer gweithfeydd, mwyngloddio a gweithgynhyrchu ac ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant olew a nwy
45251000Gwaith adeiladu ar gyfer gweithfeydd pŵer a gweithfeydd gwres
45251100Gwaith adeiladu ar gyfer gweithfeydd pŵer
45251110Gwaith adeiladu gorsafoedd ynni niwclear
45251111Gwaith adeiladu ar gyfer adweithyddion niwclear
45251120Gwaith adeiladu gweithfeydd ynni trydan dŵr
45251140Gwaith adeiladu gorsafoedd ynni thermol
45251141Gwaith adeiladu gorsafoedd ynni geothermol
45251142Gwaith adeiladu gorsafoedd ynni sy’n llosgi coed
45251143Gwaith adeiladu gweithfeydd cynhyrchu aer cywasgedig
45251150Gwaith adeiladu ar gyfer tyrau oeri
45251160Gwaith gosod ynni gwynt
45251200Gwaith adeiladu gweithfeydd gwresogi
45251220Gwaith adeiladu gweithfeydd cydgynhyrchu
45251230Gwaith adeiladu gweithfeydd cynhyrchu stêm
45251240Gwaith adeiladu gweithfeydd cynhyrchu trydan o nwy tirlenwi
45251250Gwaith adeiladu gweithfeydd gwresogi ardal
45252000Gwaith adeiladu ar gyfer gweithfeydd trin carthion, gweithfeydd puro a gweithfeydd llosgi sbwriel
45252100Gwaith adeiladu gweithfeydd trin carthion
45252110Gwaith adeiladu gweithfeydd symudol
45252120Gwaith adeiladu gweithfeydd trin dŵr
45252121Gosodiadau gwaddodi
45252122Treulwyr carthion
45252123Gosodiadau sgrinio
45252124Gwaith carthu a phwmpio
45252125Gwaith dympio creigiau
45252126Gwaith adeiladu gweithfeydd trin dŵr yfed
45252127Gwaith adeiladu gweithfeydd trin dŵr gwastraff
45252130Cyfarpar gweithfeydd trin carthion
45252140Gwaith adeiladu gweithfeydd dad-ddyfrio slwtsh
45252150Gwaith adeiladu gweithfeydd trin glo
45252200Cyfarpar gweithfeydd puro
45252210Gwaith adeiladu gweithfeydd puro dŵr
45252300Gwaith adeiladu gweithfeydd llosgi sbwriel
45253000Gwaith adeiladu ar gyfer gweithfeydd prosesu cemegion
45253100Gwaith adeiladu gweithfeydd dadfwyneiddio
45253200Gwaith adeiladu gweithfeydd dadsylffwreiddio
45253300Gwaith adeiladu gweithfeydd distyllu neu goethi
45253310Gwaith adeiladu gweithfeydd distyllu dŵr
45253320Gwaith adeiladu gweithfeydd distyllu alcohol
45253400Gwaith adeiladu ar gyfer gweithfeydd petrocemegol
45253500Gwaith adeiladu ar gyfer gweithfeydd fferyllol
45253600Gwaith adeiladu gweithfeydd dadïoneiddio
45253700Gwaith adeiladu gweithfeydd treulio
45253800Gwaith adeiladu gweithfeydd compostio
45254000Gwaith adeiladu ar gyfer mwyngloddio a gweithgynhyrchu
45254100Gwaith adeiladu ar gyfer mwyngloddio
45254110Gwaith adeiladu pennau pyllau
45254200Gwaith adeiladu ar gyfer gweithfeydd gweithgynhyrchu
45255000Gwaith adeiladu ar gyfer y diwydiant olew a nwy
45255100Gwaith adeiladu ar gyfer llwyfannau cynhyrchu
45255110Gwaith adeiladu ffynhonnau
45255120Gwaith adeiladu cyfleusterau llwyfan
45255121Gwaith adeiladu cyfleusterau ochr uchaf
45255200Gwaith adeiladu purfeydd olew
45255210Gwaith adeiladu terfynellau olew
45255300Gwaith adeiladu terfynellau nwy
45255400Gwaith ffabrigo
45255410Gwaith ffabrigo ar y môr
45255420Gwaith ffabrigo ar y tir
45255430Dymchwel llwyfannau olew
45255500Gwaith drilio a fforio
45255600Gwaith ffynhonnau â thiwbin torchog
45255700Gwaith adeiladu gweithfeydd nwyeiddio glo
45255800Gwaith adeiladu gweithfeydd cynhyrchu nwy
45259000Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw gweithfeydd
45259100Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw gweithfeydd dŵr gwastraff
45259200Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw gweithfeydd puro
45259300Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw gweithfeydd gwresogi
45259900Gwaith uwchraddio gweithfeydd
45260000Gwaith toeau a chrefftau adeiladu arbennig eraill
45261000Gwaith codi fframiau a gorchuddion to a gwaith cysylltiedig
45261100Gwaith fframio toeau
45261200Gwaith gorchuddio a phaentio toeau
45261210Gwaith gorchuddio toeau
45261211Gwaith teilsio toeau
45261212Gwaith gosod llechi ar doeau
45261213Gwaith gorchuddio toeau â metel
45261214Gwaith gorchuddio toeau â bitwmen
45261215Gwaith gosod paneli solar ar doeau
45261220Gwaith paentio toeau a gwaith araenu arall
45261221Gwaith paentio toeau
45261222Gwaith gosod araen sment ar doeau
45261300Gwaith plygiadau plwm a landeri
45261310Gwaith plygiadau plwm
45261320Gwaith landeri
45261400Gwaith gosod dalennau
45261410Gwaith inswleiddio toeau
45261420Gwaith diddosi
45261900Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw toeau
45261910Gwaith atgyweirio toeau
45261920Gwaith cynnal a chadw toeau
45262000Gwaith crefftau adeiladu arbennig heblaw gwaith toeau
45262100Gwaith sgaffaldio
45262110Gwaith datgymalu sgaffaldiau
45262120Gwaith codi sgaffaldiau
45262200Gwaith sylfeini a drilio ffynhonnau dŵr
45262210Gwaith sylfeini
45262211Gosod seilbyst
45262212Gwaith gosod dalennau mewn ffosydd
45262213Techneg wal diaffram
45262220Drilio ffynhonnau dŵr
45262300Gwaith concrit
45262310Gwaith concrit cyfnerth
45262311Gwaith carcasau concrit
45262320Gwaith lefelu
45262321Gwaith lefelu lloriau
45262330Gwaith atgyweirio concrit
45262340Gwaith growtio
45262350Gwaith concrit anghyfnerth
45262360Gwaith smentio
45262370Gwaith gosod araen concrit
45262400Gwaith codi dur strwythurol
45262410Gwaith codi dur strwythurol ar gyfer adeiladau
45262420Gwaith codi dur strwythurol ar gyfer strwythurau
45262421Gwaith angori ar y môr
45262422Gwaith drilio tanfor
45262423Gwaith ffabrigo deciau
45262424Gwaith ffabrigo modiwlau ar y môr
45262425Gwaith ffabrigo siacedi
45262426Gwaith ffabrigo seilbyst
45262500Gwaith seiri meini a gwaith gosod brics
45262510Gwaith cerrig
45262511Cerfio cerrig
45262512Gwaith cerrig nadd
45262520Gwaith gosod brics
45262521Gwaith gosod brics arwyneb
45262522Gwaith seiri meini
45262600Gwaith crefftau adeiladu arbennig amrywiol
45262610Simneiau diwydiannol
45262620Waliau cynnal
45262630Adeiladu ffwrneisi
45262640Gwaith gwella amgylcheddol
45262650Gwaith gosod cladin
45262660Gwaith tynnu asbestos
45262670Gweithio metel
45262680Weldio
45262690Adnewyddu adeiladau sydd wedi mynd â’u pennau iddynt
45262700Gwaith addasu adeiladau
45262710Gwaith cynnal a chadw ffresgos
45262800Gwaith estyn adeiladau
45262900Gwaith balconïau
45300000Gwaith gosod ar gyfer adeiladau
45310000Gwaith gosod trydanol
45311000Gwaith gwifro a ffitio trydanol
45311100Gwaith gwifro trydanol
45311200Gwaith ffitio trydanol
45312000Gwaith gosod systemau larwm ac antenâu
45312100Gwaith gosod systemau larwm tân
45312200Gwaith gosod systemau larwm lladron
45312300Gwaith gosod antenâu
45312310Gwaith diogelu rhag mellt
45312311Gwaith gosod dargludyddion mellt
45312320Gwaith gosod erialau teledu
45312330Gwaith gosod erialau radio
45313000Gwaith gosod lifftiau ac esgaladuron
45313100Gwaith gosod lifftiau
45313200Gwaith gosod esgaladuron
45313210Gwaith gosod llwybrau symudol
45314000Gwaith gosod cyfarpar telathrebu
45314100Gwaith gosod cyfnewidfeydd ffôn
45314120Gwaith gosod switsfyrddau
45314200Gwaith gosod llinellau ffôn
45314300Gwaith gosod seilwaith ceblau
45314310Gwaith gosod ceblau
45314320Gwaith gosod ceblau cyfrifiadurol
45315000Gwaith gosod trydanol ar gyfer cyfarpar gwresogi a chyfarpar adeiladu trydanol eraill
45315100Gwaith gosod peirianneg drydanol
45315200Gwaith tyrbinau
45315300Gosodiadau cyflenwadau trydan
45315400Gwaith gosod foltedd uchel
45315500Gwaith gosod foltedd canolig
45315600Gwaith gosod foltedd isel
45315700Gwaith gosod gorsafoedd switsio
45316000Gwaith gosod systemau goleuo ac arwyddo
45316100Gwaith gosod cyfarpar goleuo awyr agored
45316110Gwaith gosod cyfarpar goleuo ffyrdd
45316200Gwaith gosod cyfarpar arwyddo
45316210Gwaith gosod cyfarpar monitro traffig
45316211Gwaith gosod arwyddion ffordd wedi’u goleuo
45316212Gwaith gosod goleuadau traffig
45316213Gwaith gosod cyfarpar cyfarwyddo traffig
45316220Gwaith gosod cyfarpar arwyddo mewn meysydd awyr
45316230Gwaith gosod cyfarpar arwyddo mewn porthladdoedd
45317000Math arall o waith gosod trydanol
45317100Gwaith gosod trydanol ar gyfer cyfarpar pwmpio
45317200Gwaith gosod trydanol ar gyfer newidyddion
45317300Gwaith gosod trydanol ar gyfer cyfarpar dosbarthu trydanol
45317400Gwaith gosod trydanol ar gyfer cyfarpar hidlo
45320000Gwaith inswleiddio
45321000Gwaith inswleiddio thermol
45323000Gwaith ynysu rhag sŵn
45324000Gwaith plastrfwrdd
45330000Plymwaith a gwaith glanweithiol
45331000Gwaith gosod systemau gwresogi, awyru ac aerdymheru
45331100Gwaith gosod systemau gwres canolog
45331110Gwaith gosod boeleri
45331200Gwaith gosod systemau awyru ac aerdymheru
45331210Gwaith gosod systemau awyru
45331211Gwaith gosod systemau awyru awyr agored
45331220Gwaith gosod systemau aerdymheru
45331221Gwaith gosod systemau aerdymheru rhannol
45331230Gwaith gosod cyfarpar oeri
45331231Gwaith gosod cyfarpar oereiddio
45332000Plymwaith a gwaith gosod draeniau
45332200Plymwaith dŵr
45332300Gwaith gosod draeniau
45332400Gwaith gosod gosodion glanweithiol
45333000Gwaith gosod ffitiadau nwy
45333100Gwaith gosod cyfarpar rheoleiddio nwy
45333200Gwaith gosod mesuryddion nwy
45340000Gwaith gosod ffensys, rheiliau a chyfarpar diogelwch
45341000Codi rheiliau
45342000Codi ffensys
45343000Gwaith gosod mesurau atal tân
45343100Gwaith diogelu rhag tân
45343200Gwaith gosod cyfarpar diffodd tân
45343210Gwaith gosod cyfarpar diffodd tân â CO 2
45343220Gwaith gosod diffoddwyr tân
45343230Gwaith gosod systemau taenellu
45350000Gosodiadau mecanyddol
45351000Gwaith gosod peirianneg fecanyddol
45400000Gwaith cwblhau adeiladau
45410000Gwaith plastro
45420000Gwaith gosod gwaith asiedydd a saer coed
45421000Gwaith asiedydd
45421100Gwaith gosod drysau a ffenestri a chydrannau cysylltiedig
45421110Gwaith gosod fframiau drysau a ffenestri
45421111Gwaith gosod fframiau drysau
45421112Gwaith gosod fframiau ffenestri
45421120Gwaith gosod trothwyon
45421130Gwaith gosod drysau a ffenestri
45421131Gwaith gosod drysau
45421132Gwaith gosod ffenestri
45421140Gwaith gosod gwaith asiedydd metel ac eithrio drysau a ffenestri
45421141Gwaith gosod parwydydd
45421142Gwaith gosod caeadau ffenestri
45421143Gwaith gosod bleinds
45421144Gwaith gosod adlenni
45421145Gwaith gosod bleinds rholer
45421146Gwaith gosod nenfydau crog
45421147Gwaith gosod rhwyllau
45421148Gwaith gosod gatiau
45421150Gwaith gosod gwaith asiedydd nad yw’n ymwneud â metelau
45421151Gwaith gosod ceginau gosod
45421152Gwaith gosod parwydydd
45421153Gwaith gosod dodrefn gosodedig
45421160Gwaith nwyddau haearn
45422000Gwaith gosod gwaith saer coed
45422100Gwaith coed
45430000Gwaith gorchuddio lloriau a waliau
45431000Gwaith teilsio
45431100Gwaith teilsio lloriau
45431200Gwaith teilsio waliau
45432000Gwaith gosod a gorchuddio lloriau, gorchuddio waliau a phapuro waliau
45432100Gwaith gosod a gorchuddio lloriau
45432110Gwaith gosod lloriau
45432111Gwaith gosod gorchuddion lloriau hyblyg
45432112Gwaith gosod cerrig palmant
45432113Gwaith gosod lloriau parquet
45432114Gwaith gosod lloriau pren
45432120Gwaith gosod lloriau ffug
45432121Lloriau cyfrifiadur
45432130Gwaith gorchuddio lloriau
45432200Gwaith gorchuddio a phapuro waliau
45432210Gwaith gorchuddio waliau
45432220Gwaith papuro waliau
45440000Gwaith paentio a gwydro
45441000Gwaith gwydro
45442000Gwaith taenu araenau amddiffynnol
45442100Gwaith paentio
45442110Gwaith paentio adeiladau
45442120Gwaith paentio strwythurau a gosod araen amddiffynnol arnynt
45442121Gwaith paentio strwythurau
45442180Gwaith ailbaentio
45442190Gwaith tynnu paent
45442200Gwaith taenu araenau gwrthgyrydu
45442210Gwaith galfanu
45442300Gwaith diogelu arwynebau
45443000Gwaith ffasâd
45450000Math arall o waith cwblhau adeiladau
45451000Gwaith addurno
45451100Gwaith ffitio addurniadau
45451200Gwaith gosod paneli
45451300Gerddi mewnol
45452000Gwaith glanhau allanol ar gyfer adeiladau
45452100Gwaith chwyth-lanhau ar gyfer tu allan adeiladau
45453000Gwaith atgyweirio ac ailwampio
45453100Gwaith ailwampio
45454000Gwaith ailstrwythuro
45454100Gwaith adfer
45500000Llogi peiriannau a chyfarpar adeiladu a pheirianneg sifil gyda gweithredwr
45510000Llogi craeniau gyda gweithredwr
45520000Llogi cyfarpar symud pridd gyda gweithredwr

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at Ddeddf Caffael 2023 (p. 54) (“Deddf 2023”).

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys y rhai sy’n nodi cymhwysiad y Rheoliadau a diffiniadau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch tryloywder caffaeliadau a gyflawnir gan awdurdodau contractio, sy’n awdurdodau Cymreig datganoledig, neu sydd i’w trin fel awdurdod Cymreig datganoledig o dan Ddeddf 2023. Mae rheoliad 5(1) yn darparu bod rhaid yn gyntaf gyhoeddi hysbysiadau neu ddogfennau penodol neu wybodaeth benodol, neu fod rhaid eu rhoi drwy eu cyhoeddi, ar y platfform digidol canolog sy’n system ar-lein a ddarperir gan Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU (“Swyddfa’r Cabinet”) yn y cyfeiriad gwefan canlynol: https://www.gov.uk/find-tender.

Mae rheoliad 5(2) yn darparu y cydymffurfir â rheoliad 5(1) pan fo’r hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth wedi ei gyflwyno neu wedi ei chyflwyno i’r platfform digidol Cymreig, a phan fo Swyddfa’r Cabinet wedi rhoi gwybod i’r awdurdod contractio y cyflwynwyd yr hysbysiad, y ddogfen neu’r wybodaeth yn llwyddiannus neu ei fod neu ei bod yn hygyrch i gyflenwyr ac i aelodau o’r cyhoedd. Y platfform digidol Cymreig yw’r system ar-lein a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio gan awdurdodau contractio y mae rheoliad 2 yn gymwys iddynt. Gellir dod o hyd i’r platfform hwn ar y wefan a ganlyn: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch y modd y mae gwybodaeth graidd y cyflenwr (megis gwybodaeth personau cysylltiedig cyflenwr) yn cael ei rhannu ag awdurdod contractio gyda golwg ar ddyfarnu contract cyhoeddus neu gontract hysbysadwy sydd o dan y trothwy. Maent yn darparu bod rhaid i’r awdurdod gael cadarnhad bod y cyflenwr wedi rhannu’r wybodaeth honno drwy’r platfform digidol canolog, neu ei fod wedi cofrestru ar y platfform hwnnw cyn dyddiad cau. Mae rheoliadau 10 i 13 yn nodi pa wybodaeth sy’n wybodaeth graidd y cyflenwr.

Mae rheoliadau 14 i 42 yn gwneud darpariaeth ynghylch pa wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiadau neu ddogfennau y mae rhaid eu cyhoeddi, neu wybodaeth y mae rhaid ei chyhoeddi, o dan Ddeddf 2023. Mewn rhai achosion, mae darpariaeth yn pennu gwybodaeth ychwanegol i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan Ddeddf 2023 ei hun yn unol â’r pwerau i wneud rheoliadau a ddarperir gan y Ddeddf honno. Er enghraifft, mae rheoliad 18 yn nodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, yn ogystal â’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn unol ag adran 17(2)(a) o Ddeddf 2023 fel y’i caniateir yn benodol gan adran 17(2)(b) o’r Ddeddf honno.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth sy’n ychwanegu at Ddeddf 2023 heblaw mewn perthynas â mesurau tryloywder.

Mae rheoliad 43 ac Atodlen 1 yn pennu’r categorïau o wasanaethau sy’n cymhwyso fel “gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn” at ddiben adran 9 o Ddeddf 2023. Os yw gwasanaeth yn wasanaeth “cyffyrddiad ysgafn”, caniateir ei gaffael yn unol â rheolau sy’n wahanol i’r rhai sy’n gymwys i’r mathau eraill o gontract, y mae eu caffael wedi ei gwmpasu gan Ddeddf 2023. Mae’r darpariaethau hyn hefyd yn nodi pa un neu ragor o’r gwasanaethau hynny sy’n “gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy” at ddiben adran 33 o Ddeddf 2023, fel y caiff awdurdod contractio ddarparu mai dim ond cwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus cymhwysol, fel y’i diffinnir yn adran 33(5) o Ddeddf 2023, a all wneud cais am gontract ar gyfer y gwasanaethau hynny.

Mae rheoliadau 44 a 45 ac Atodlenni 2 a 3 yn diffinio’r termau “central government authority” (“awdurdod llywodraeth ganolog”) a “works” (“gweithiau”) fel y’u defnyddir yn Neddf 2023. Yn Atodlen 2, mae’r endidau a ddiffinnir fel awdurdodau llywodraeth ganolog wedi eu rhestru o dan y penawdau “awdurdod arweiniol” ac “awdurdod perthynol” er mwyn darparu cysondeb â’r ffordd y mae’r awdurdodau Cymreig wedi eu cwmpasu gan Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau, fel y’u nodir yn yr atodiadau i’r Cytundeb hwnnw.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddf 2023, ac i is-ddeddfwriaeth.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn a gellir cael copi oddi wrth: Y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Gweinidogion Cymru yw’r “awdurdod priodol” fel y diffinnir “appropriate authority” yn adran 123(1) o Ddeddf Caffael 2023, yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a nodir yn adran 111(1) o’r Ddeddf honno.

(3)

Daw adran 11 i rym ar ddiwrnod a bennir gan un o Weinidogion y Goron drwy reoliadau; a chaniateir i ddiwrnodau gwahanol gael eu pennu at ddibenion gwahanol. Gweler adran 127(2) o Ddeddf Caffael 2023.

(4)

2006 p. 32. Mewnosodwyd adran 157A gan Ddeddf Cymru 2017 (p. 4), Rhan 1, adran 4(1) ac wedyn fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), Atodlen 1, paragraff 2(19) a Deddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22), adran 45(3).

(5)

EUR 2195/2002, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1319; mae hwn yn gyfeiriad at y fersiwn a ddargadwyd o Reoliad (EC) 2195/2002. Mae’r fersiwn honno a ddargadwyd ar gael ar-lein yn https://www.legislation.gov.uk/eur/2002/2195/contents.

(6)

Diwygiwyd gan Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (p. 26), Atodlen 3(1), paragraff 1 ac O.S. 2017/693.

(10)

Gellir cyrchu’r platfform digidol canolog yn: https://www.gov.uk/find-tender.

(11)

Mewnosodwyd gan Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (p. 26), Atodlen 3(1), paragraff 1.

(12)

Mae hysbysiadau caffael arfaethedig yn cynnwys hysbysiadau caffael arfaethedig cymhwysol (gweler adran 15(3) o Ddeddf 2023).

(13)

Mae hysbysiadau marchnad ddynamig o dan adran 39(2) yn cynnwys hysbysiadau marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol (gweler adran 40(6) o Ddeddf 2023).

(14)

1994 p. 23. Mewnosodwyd adran 5A gan Ddeddf Trethi (Ar ôl y Cyfnod Pontio) 2020 (p. 26), Atodlen 3(1), paragraff 2.

(24)

O.S. 2003/2909 (Cy. 275). Diwygiwyd rheoliad 9(1) gan O.S. 2006/5, Atodlen 7(1), paragraff 4 ac O.S. 2015/102, Atodlen 6(2), paragraff 13.

(25)

O.S. 2004/684 (Cy. 72). Diwygiwyd rheoliad 2(1) gan O.S. 2006/5, Atodlen 7(1), paragraff 5 ac O.S. 2019/116, rheoliad 2.

(26)

O.S. 2011/1064 (Cy. 155). Diwygiwyd rheoliad 18 gan O.S. 2019/120, rheoliad 2.

(30)

Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill