Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau a’r Prawf Addasrwydd) (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 798 (Cy. 127)

Landlord A Thenant, Cymru

Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau a’r Prawf Addasrwydd) (Cymru) 2024

Gwnaed

16 Gorffennaf 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

18 Gorffennaf 2024

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 19A a 39(8) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau a’r Prawf Addasrwydd) (Cymru) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)o ran Rhan 1, Rhan 2 a Rhan 4, ar 8 Awst 2024, a

(b)o ran Rhan 3, ar 1 Medi 2024.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cynhorthwy ariannol perthnasol” (“relevant financial assisstance”) yw cynhorthwy ariannol o dan—

(a)

adran 8 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth),

(b)

cynllun oʼr fath a grybwyllir yn adran 9(7) o Ddeddf 2023 (ystyr “cynllun trydydd parti” at ddibenion pŵer i ddarparu cymorth),

(c)

cynllun y taliad sylfaenol, fel yʼi diffinnir yn adran 16 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol),

(d)

deddfwriaeth syʼn ymwneud ag ariannu, rheoli a monitroʼr polisi amaethyddol cyffredin, fel yʼi diffinnir yn adran 17 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn ymwneud âʼr polisi amaethyddol cyffredin),

(e)

deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth, fel yʼi diffinnir yn adran 18 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth),

(f)

deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig, fel yʼi diffinnir yn adran 19 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig), neu

(g)

adran 22 o Ddeddf 2023 (pwerau Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol pan fo amodau eithriadol yn y farchnad);

mae i “daliad amaethyddol” yr ystyr a roddir i “agricultural holding” yn adran 1 o Ddeddf 1986;

ystyr “Deddf 1986” (“the 1986 Act”) yw Deddf Daliadau Amaethyddol 1986;

ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023(2);

ystyr “dyletswydd statudol” (“statutory duty”) yw dyletswydd a osodir gan neu o dan—

(a)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,

(b)

Deddf gan Senedd Cymru neu Fesur gan Gynulliad Cymru, neu

(c)

deddfwriaeth uniongyrchol a gymhathwyd;

mae i “landlord” yr ystyr a roddir i “landlord” yn adran 96(1) o Ddeddf 1986;

mae i “penderfyniad gan drydydd parti” yr ystyr a roddir i “third party determination” yn adran 96(1) o Ddeddf 1986;

mae i “tenant” yr ystyr a roddir i “tenant” yn adran 96(1) o Ddeddf 1986;

mae i “Tribiwnlys” yr ystyr a roddir i “Tribunal” yn adran 96(1) o Ddeddf 1986.

Cais am gydsyniad y landlord neu amrywio telerau

3.—(1Caiff tenant daliad amaethyddol atgyfeirio cais cymwys i’w gymrodeddu o dan Ddeddf 1986.

(2Yn y Rhan hon, cais cymwys yw cais syʼn bodloniʼr amodau a ganlyn—

(a)maeʼn gais am—

(i)cydsyniad y landlord i fater y mae cydsyniad oʼr fath yn ofynnol ar ei gyfer o dan delerauʼr denantiaeth, neu

(ii)amrywiad i delerauʼr denantiaeth;

(b)maeʼn cael ei wneud at ddibenion—

(i)galluogi tenant i ofyn am gynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am gynhorthwy oʼr fath, neu

(ii)cydymffurfio â dyletswydd statudol syʼn gymwys iʼr tenant mewn cysylltiad â defnyddioʼr daliad;

(c)ni ddaethpwyd i gytundeb âʼr landlord ar y cais.

(3Pan fo gan y tenant yr hawl i atgyfeirio cais i’w gymrodeddu o dan baragraff (1), caiff y landlord aʼr tenant yn lle hynny gytuno mewn ysgrifen i atgyfeirioʼr cais i’w benderfynu gan drydydd parti o dan Ddeddf 1986.

(4Ni chaniateir atgyfeirio cais cymwys i’w gymrodeddu o dan baragraff (1) oni bai bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)rhaid iʼr tenant fod wedi talu unrhyw rent syʼn ddyledus o dan y denantiaeth y maeʼr cais yn ymwneud â hi yn ddarostyngedig i unrhyw gytundeb ysgrifenedig rhwng y landlord aʼr tenant iʼr gwrthwyneb;

(b)rhaid iʼr tenant fod wedi codiʼr cais gydaʼr landlord mewn ysgrifen;

(c)ni chaiff y denantiaeth fod yn destun hysbysiad ymadael dilys o dan Ran 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 1986 nac Atodlen 5 iddi, na ellir ei herio gan y tenant mwyach o dan ddarpariaethauʼr Ddeddf honno.

(5I wneud atgyfeiriad am gymrodeddu mewn cysylltiad â chais yn unol âʼr rheoliad hwn, rhaid iʼr tenant gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig iʼr landlord, ar ben yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (4)(b), yn gofyn am gydsyniad y landlord i fater y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer o dan delerauʼr denantiaeth neu i amrywiad i delerauʼr denantiaeth.

(6Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (5) gynnwys y canlynol—

(a)manylion y cais syʼn cael ei wneud o dan baragraff (1);

(b)datganiad ynghylch at ba un neu ragor oʼr dibenion a ganlyn y maeʼr cais yn cael ei wneud—

(i)galluogi tenant i ofyn am gynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am gynhorthwy oʼr fath;

(ii)cydymffurfio â dyletswydd statudol syʼn gymwys iʼr tenant mewn cysylltiad â defnyddioʼr daliad;

(c)pan foʼr cais yn gais am amrywiad i delerauʼr denantiaeth—

(i)telerau newydd arfaethedig y denantiaeth, a

(ii)prawf bod yr amrywiad i delerauʼr denantiaeth y gofynnir amdano yn cynrychioliʼr newid lleiaf syʼn rhesymol angenrheidiol i alluogiʼr tenant i ofyn am y cynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am y cynhorthwy hwnnw neu i gyflawniʼr ddyletswydd statudol;

(d)pan foʼr cais yn cael ei wneud er mwyn cael mynediad at gynhorthwy ariannol perthnasol—

(i)disgrifiad oʼr gweithgareddau y cynigir eu cynnal ar y daliad os caniateir y cais ac os yw unrhyw gais am gynhorthwy ariannol perthnasol yn llwyddiannus, a

(ii)tystiolaeth i gefnogi disgwyliad rhesymol y bydd y tenant yn gymwys i ofyn am gynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am gynhorthwy oʼr fath os caniateir y cais;

(e)datganiad bod darpariaethau yn y Rheoliadau hyn y caniateir atgyfeirio ceisiadau odanynt i’w cymrodeddu, neu i’w penderfynu gan drydydd parti, os na fydd cytundeb.

(7Caiff y cymrodeddwr neu drydydd parti a benodir addasu hysbysiad y tenant wedyn o dan baragraff (5) os ywʼn angenrheidiol gwneud hynny, ac os oes cyfiawnhad dros wneud hynny, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol.

(8O fewn y cyfnod o 2 fis ar ôl iʼr tenant roi hysbysiad syʼn bodloniʼr gofynion ym mharagraff (6), caiff y landlord gyflwyno gwrth-hysbysiad sydd—

(a)yn cydsynio iʼr cais,

(b)yn cydsynio iʼr cais yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn y gwrth-hysbysiad, neu

(c)yn gwrthod y cais.

(9Caiff y tenant atgyfeirioʼr cais i’w gymrodeddu neu, yn ôl y digwydd, i’w benderfynu gan drydydd parti yn unol â pharagraff (3), o fewn y cyfnod o 4 mis ar ôl i hysbysiad y tenant gael ei gyflwyno—

(a)os nad ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad;

(b)os ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad syʼn cydsynio iʼr cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt yn dderbyniol iʼr tenant;

(c)os ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad yn gwrthod y cais.

Dyfarniadau neu benderfyniadau gan y cymrodeddwr neu drydydd parti

4.—(1Pan wneir atgyfeiriad at gymrodeddwr neu, yn ôl y digwydd, at drydydd parti i benderfynu cais yn unol â rheoliad 3, caiff y cymrodeddwr neu drydydd parti orchymyn iʼr landlord gydymffurfio âʼr cais (naill ai yn llawn neu iʼr graddau a bennir yn y dyfarniad neuʼr penderfyniad) neu wneud unrhyw ddyfarniad arall neu unrhyw benderfyniad arall y maeʼr cymrodeddwr neu drydydd parti yn ystyried ei fod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant.

(2Fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1), caiff y cymrodeddwr neu drydydd parti gynnwys unrhyw ddyfarniadau neu unrhyw benderfyniadau y maeʼn ystyried eu bod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant mewn cysylltiad ag—

(a)talu costau;

(b)pan wneir cais at ddibenion galluogiʼr tenant i ofyn am gynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am gynhorthwy oʼr fath, amodau syʼn ymwneud â gwneud cais llwyddiannus;

(c)amodau syʼn cyfyngu ar allu tenant i wneud unrhyw atgyfeiriad dilynol am gymrodeddu neu benderfyniad gan drydydd parti o dan y Rhan hon mewn cysylltiad âʼr un cais ac mewn perthynas âʼr un denantiaeth;

(d)amodau syʼn ymwneud â materion eraill gan gynnwys yr adeg y maeʼr dyfarniad neuʼr penderfyniad yn cymryd effaith.

(3Ni chaiff y cymrodeddwr neu drydydd parti wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad syʼn cynnwys amrywiad i rent y daliad fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff y cymrodeddwr neu drydydd parti wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigollediad syʼn daladwy iʼr landlord neuʼr tenant fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).

(5Pan fo dyfarniad neu benderfyniad a wneir o dan baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i landlord roi cydsyniad neuʼn gosod amrywiad ar y denantiaeth, caiff y cymrodeddwr neu drydydd parti wneud dyfarniad neu benderfyniad bod rhaid diystyruʼr cydsyniad neuʼr amrywiad at ddibenion asesu hawliad am ddigollediad a wneir gan y landlord pan foʼr tenant yn ymadael â’r daliad pan ddawʼr denantiaeth i ben o dan adrannau 71 i 73 o Ddeddf 1986 (digollediad am ddirywiad daliad).

(6Mae dyfarniad gan gymrodeddwr neu benderfyniad gan drydydd parti o dan y Rhan hon yn cael effaith fel pe baiʼr telerau aʼr darpariaethau a bennir ac a wneir yn y dyfarniad neu benderfyniad wedi eu cynnwys mewn cytundeb ysgrifenedig yr ymrwymwyd iddo gan y landlord aʼr tenant ac syʼn cael effaith (drwy amrywioʼr cytundeb a oedd mewn grym yn flaenorol mewn cysylltiad âʼr denantiaeth) fel o’r adeg y gwnaed y dyfarniad neuʼr penderfyniad neu, os ywʼr dyfarniad neuʼr penderfyniad yn darparu hynny, o unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir.

RHAN 3Y Prawf Addasrwydd

Y Prawf Addasrwydd

5.—(1Maeʼr Rhan hon yn gymwys pan foʼr Tribiwnlys yn penderfynu addasrwydd person i ddod yn denant daliad yn achos ceisydd penodol o dan adran 39(2), fel rhwng dau geisydd neu ragor o dan adran 39(6), neu o dan adran 53(5) o Ddeddf 1986.

(2Wrth benderfynu cais o ran a yw person yn addas i ddod yn denant daliad o dan ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), rhaid iʼr Tribiwnlys roi sylw iʼr holl faterion perthnasol gan gynnwys—

(a)gallu tebygol y person i ffermioʼr daliad yn fasnachol, gyda thir arall neu hebddo, gan ystyried yr angen am safonau uchel o gynhyrchu effeithlon a gofal am yr amgylchedd mewn perthynas â rheoliʼr daliad hwnnw;

(b)profiad, hyfforddiant a sgiliauʼr person ym meysydd amaethyddiaeth a rheoli busnes;

(c)sefyllfa ariannol y person aʼi gymeriad;

(d)natur, lleoliad ac ansawdd y daliad;

(e)telerau’r denantiaeth,

ac ar ôl rhoi sylw iʼr holl faterion perthnasol, rhaid i’r Tribiwnlys fod wedi ei fodloni, pe bai’r ceisydd wedi gwneud cais mewn cystadleuaeth agored am denantiaeth y daliad hwn, y tybir ei bod ar gael o dan Ddeddf 1986, y gellid disgwyl yn rhesymol i landlord pwyllog a pharod ystyried y ceisydd fel un o’r ymgeiswyr y byddai’n barod i roi’r denantiaeth iddo.

(3Wrth benderfynu cais o dan baragraff (1), rhaid i’r Tribiwnlys ddiystyru—

(a)pob cynnig o ran rhent mewn perthynas â’r daliad;

(b)oedran y person sy’n gwneud cais.

Darpariaethau Trosiannol

6.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw gais i’r Tribiwnlys a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf 1986 ar ôl 1 Medi 2024 am gyfarwyddyd yn rhoi i’r ceisydd hawlogaeth i denantiaeth daliad amaethyddol ar farwolaeth neu ymddeoliad tenant pan fo dyddiad y farwolaeth neu ddyddiad rhoi’r hysbysiad ymddeol, fel y bo’n gymwys, cyn 1 Medi 2024.

(2Mewn perthynas ag unrhyw gais y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, mae darpariaethau Deddf 1986 fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn 1 Medi 2024 yn parhau i fod yn gymwys.

(3Yn y rheoliad hwn mae “cais” yn cynnwys unrhyw achos sy’n deillio o unrhyw gais o’r fath neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir mewn unrhyw achos o’r fath.

RHAN 4Adolygiad

Adolygiad

7.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd iʼw gilydd—

(a)cynnal adolygiad oʼr Rheoliadau hyn,

(b)nodi casgliadauʼr adolygiad mewn adroddiad, ac

(c)cyhoeddi’r adroddiad.

(2Rhaid iʼr adroddiad cyntaf o dan y rheoliad hwn gael ei gyhoeddi cyn 13 Mehefin 2031.

(3Rhaid i adroddiadau dilynol o dan y rheoliad hwn gael eu cyhoeddi ar ysbeidiau heb fod yn hwy na phum mlynedd.

Huw Irranca-Davies

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

16 Gorffennaf 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch datrys anghydfodau mewn perthynas â chydsyniad y landlord ac amrywiadau i delerau contract tenantiaeth daliad amaethyddol o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) (“Deddf 1986”) ac ynghylch ceisiadau i olynu i denantiaeth daliad amaethyddol o dan Ddeddf 1986.

Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol.

Mae Rhan 2 yn darparu i denant atgyfeirio cais i’w gymrodeddu neu, drwy gytundeb ysgrifenedig â’r landlord, am benderfyniad gan drydydd parti pan fo cydsyniad y landlord neu amrywiad i delerau contract tenantiaeth daliad amaethyddol o dan Ddeddf 1986 yn ofynnol naill ai i alluogi tenant i ofyn am gynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am gynhorthwy o’r fath o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (dsc 4) fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 neu er mwyn cyflawni dyletswydd statudol.

Mae rheoliad 3 yn nodi cwmpas y ceisiadau y caniateir eu gwneud o dan y Rhan hon, y gofynion y mae rhaid eu bodloni cyn y gellir gwneud cais a’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad ffurfiol i’r landlord fod cais am gymrodeddu yn cael ei wneud.

Mae rheoliad 4 yn darparu y caiff cymrodeddwr neu drydydd parti, wrth ystyried cais, orchymyn i’r landlord gydymffurfio â’r cais, yn llawn neu’n rhannol, neu wneud unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad y mae’n ystyried ei fod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord a’r tenant gan roi sylw i’r holl faterion perthnasol.

Mae rheoliad 4(2) yn darparu ar gyfer ystyriaethau ychwanegol a gaiff ffurfio rhan o’r dyfarniad neu’r penderfyniad gan gynnwys costau, yr adeg pan fydd y dyfarniad neu’r penderfyniad yn cymryd effaith ac unrhyw amodau y mae’r dyfarniad neu’r penderfyniad yn ddarostyngedig iddynt. Mae rheoliad 4(3) yn darparu na chaiff y cymrodeddwr na thrydydd parti wneud dyfarniad na phenderfyniad sy’n amrywio rhent y daliad. Mae rheoliadau 4(4) a 4(5) yn darparu na chaiff y cymrodeddwr na thrydydd parti wneud dyfarniad na phenderfyniad sy’n darparu ar gyfer digollediad ac eithrio i ddarparu bod rhaid diystyru unrhyw gydsyniad neu amrywiad i’r denantiaeth at ddibenion asesu hawliad am ddigollediad a wneir gan landlord o dan adrannau 71 i 73 o Ddeddf 1986. Mae rheoliad 4(6) yn darparu bod unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad yn cymryd effaith fel pe bai’r telerau a’r darpariaethau ynddo wedi eu cynnwys mewn cytundeb ysgrifenedig yr ymrwymwyd iddo gan y landlord a’r tenant drwy amrywio’r cytundeb a oedd ar waith yn flaenorol mewn cysylltiad â’r denantiaeth o’r adeg y gwnaed y dyfarniad neu’r penderfyniad neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach penodedig.

Mae Rhan 3 yn nodi’r meini prawf y mae rhaid i Dribiwnlys roi sylw iddynt wrth benderfynu cais gan berson ynghylch a yw’n addas i olynu i denantiaeth daliad amaethyddol o dan Ran 4 o Ddeddf 1986 yn dilyn marwolaeth neu ymddeoliad tenant. Mae’n ofynnol i’r Tribiwnlys ystyried yr holl faterion perthnasol ac mae rheoliad 5(2) yn nodi rhestr o rai o’r materion y mae rhaid eu hystyried, gan gynnwys gallu’r person i ffermio’r daliad yn fasnachol, gan ystyried yr angen am safonau uchel o gynhyrchu effeithlon a gofal am yr amgylchedd mewn perthynas â rheoli’r daliad. Mae’n mynd ymlaen i ddarparu, ar ôl ystyried yr holl faterion perthnasol, fod rhaid i’r Tribiwnlys fod wedi ei fodloni pe bai’r ceisydd wedi gwneud cais mewn cystadleuaeth agored am y denantiaeth honno, y gellid disgwyl yn rhesymol i landlord pwyllog a pharod ystyried y ceisydd fel un o’r ymgeiswyr y byddai’n barod i roi’r denantiaeth iddo. Rhaid diystyru pob cynnig o ran rhent mewn cysylltiad â’r daliad ac oedran y ceisydd o dan reoliad 5(3).

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth drosiannol.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer adolygiad o’r Rheoliadau hyn erbyn 13 Mehefin 2031 ac ar ysbeidiau heb fod yn hwy na 5 mlynedd wedi hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1986 p. 5. Mewnosodwyd adran 19A gan baragraff 7 o Atodlen 3 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) ac fe’i diwygiwyd gan adran 24 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (dsc 4), amnewidiwyd adran 39(8) gan baragraff 17 o’r Atodlen honno.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill