Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/03/2021
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 29/09/2020.
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 17 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(a gyflwynir gan adrannau 27 a 49)
1Yn yr Atodlen hon—
ystyr “awdurdod dyroddi” (“issuing authority”) yw—
mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 27, awdurdod gorfodi sydd wedi ei awdurdodi yn rhinwedd adran 18, a
mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 49, awdurdod lleol;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw—
mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 27, swyddog awdurdodedig o fewn yr ystyr a roddir gan adran 18(5), a
mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 49, swyddog awdurdodedig o fewn yr ystyr a roddir gan adran 39.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
2Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)datgan y drosedd honedig, a
(b)rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
3Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod dyroddi y rhoddir yr hysbysiad ar ei ran;
(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu;
(c)y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu;
(d)effaith talu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
(e)canlyniadau peidio â thalu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
(f)y person y caniateir i’r taliad gael ei wneud iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i’r taliad gael ei wneud;
(g)y dull y caniateir i’r taliad gael ei wneud ynddo;
(h)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i unrhyw sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
4Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—
(a)hysbysu’r person y’i rhoddir iddo am hawl y person hwnnw i ofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, a
(b)esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
5Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach o ran cynnwys a ffurf hysbysiad cosb benodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
6Y gosb yw’r swm hwnnw a bennir mewn rheoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
7Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb yw’r cyfnod o 29 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb benodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
8(1)Mae swm gostyngol yn daladwy, yn lle’r swm a bennir mewn rheoliadau o dan baragraff 6, os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol.
(2)Y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod o 15 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, oni bai nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith.
(3)Os nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith, y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac sy’n dod i ben pan ddaw’r diwrnod gwaith cyntaf yn dilyn y 15fed diwrnod i ben.
(4)Yn y paragraff hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p.80).
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
9Y swm gostyngol yw’r swm hwnnw a bennir mewn rheoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
10(1)Ni chaniateir i achos am y drosedd y rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â hi gael ei ddwyn cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb.
(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi gofyn yn unol â pharagraffau 15 ac 16 am gael sefyll prawf am y drosedd honedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
11Os telir y gosb yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 10(1), ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
12Os telir y swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol, ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
13Os yw achos wedi ei ddwyn yn unol â chais o dan baragraff 15, ond yna telir y gosb neu’r swm gostyngol fel y’i crybwyllir ym mharagraff 11 neu 12, rhaid peidio â pharhau â’r achos hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
14Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif sy’n dogfennu taliad o gosb neu swm gostyngol yn dystiolaeth o’r ffeithiau y mae’n eu datgan—
(a)os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y person sy’n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod dyroddi yr oedd y swyddog awdurdodedig a roddodd yr hysbysiad cosb yn gweithredu ar ei ran, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ran y person hwnnw, a
(b)os yw’n datgan bod taliad o’r gosb benodedig neu’r swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad wedi ei gael, neu nad oedd wedi ei gael, erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I28Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
15Os yw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo yn gofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I30Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
16Rhaid i unrhyw gais i sefyll prawf gael ei wneud—
(a)drwy hysbysiad a roddir i’r awdurdod dyroddi o dan sylw cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;
(b)yn y modd a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I32Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
17(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod dyroddi yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi cael ei roi.
(2)Caiff yr awdurdod dyroddi roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.
(3)Os yw’n gwneud hynny—
(a)rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a
(b)ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I34Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
18(1)Ni chaiff awdurdod gorfodi sy’n awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 27 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau Pennod 1 o’r Rhan hon a rheoliadau a wneir odani.
(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 49 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau Pennod 2 o’r Rhan hon a rheoliadau a wneir odani.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I36Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
Valid from 01/03/2021
(a gyflwynir gan adran 29)
1Mae Deddf Iechyd 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
2Ym mhennawd Pennod 1 o Ran 1 ar ôl “vehicles” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
3Yn adran 1 (cyflwyniad), yn is-adran (1) ar ôl “vehicles” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
4Yn adran 2 (mangreoedd di-fwg)—
(a)yn is-adran (1) ar ôl “Premises” mewnosoder “in England”;
(b)yn is-adran (2) ar ôl “Premises” mewnosoder “in England”;
(c)yn is-adran (5) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
5Yn adran 3 (mangreoedd di-fwg (esemptiadau)), yn is-adran (1)—
(a)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(b)ar ôl “premises” yn y ddau le mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
6Yn adran 4 (mannau di-fwg ychwanegol)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(ii)ar ôl “place” yn y ddau le mewnosoder “in England”;
(b)yn is-adran (3)—
(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(ii)yn lle “authority’s” rhodder “Secretary of State’s”.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
7Yn adran 5 (cerbydau), yn is-adran (1)—
(a)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(b)ar ôl “vehicles” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
8Yn adran 6 (arwyddion dim ysmygu), yn is-adrannau (2), (3) a (4) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
9Yn adran 8 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn man di-fwg), yn is-adran (3) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
10Yn adran 9 (cosbau penodedig), yn is-adran (1A) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
11Yn adran 10 (gorfodi)—
(a)yn is-adran (1) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(b)yn is-adran (4) yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le rhodder “Secretary of State”.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
12Yn adran 11 (rhwystro etc swyddogion), yn is-adran (5) yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le rhodder “Secretary of State”.
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
13Yn adran 12 (dehongli a’r môr tiriogaethol)—
(a)yn is-adran (2) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;
(b)hepgorer is-adran (3)(b).
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
14Yn adran 82 (dehongli), yn is-adran (1) hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”.
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
15Yn Atodlen 1 (cosbau penodedig), ym mharagraffau 4 a 17 yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
16Yn Atodlen 2 (pwerau mynediad, etc), ym mharagraff 10 yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le rhodder “Secretary of State”.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
17Yn adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (prynu tybaco, cynhyrchion nicotin etc ar ran personau o dan 18 oed), yn is-adran (5), ar ôl paragraff (b), mewnosoder—
“(c)in relation to Wales—
(i)the reference to the Secretary of State in paragraph 4 of Schedule 1 to the Health Act 2006 is to be read as a reference to the Welsh Ministers;
(ii)the power of the Welsh Ministers to make regulations under paragraph 4 of Schedule 1 as so applied is to be exercised by statutory instrument;
(iii)a statutory instrument containing such regulations made by the Welsh Ministers is to be subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.”
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
Valid from 13/09/2024
(a gyflwynir gan adran 59)
1Caiff cais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig ymwneud ag un driniaeth arbennig, neu fwy nag un.
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
2Mae cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi i gael ei wneud—
(a)os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardal un awdurdod lleol yn unig, i’r awdurdod lleol hwnnw;
(b)os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, i un o’r awdurdodau lleol hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
3(1)Rhaid i gais—
(a)pennu â pha driniaeth y mae’n ymwneud;
(b)rhoi pa fanylion bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo ynghylch y sail ar gyfer rhoi’r driniaeth (er enghraifft, pa un a yw’r driniaeth i gael ei rhoi ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall);
(c)datgan pa un a yw’n gais am drwydded dros dro ai peidio.
(2)O ran cais—
(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo;
(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
(3)Yr awdurdod sydd i osod y ffi honno (os oes un) gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad â delio â cheisiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
4(1)Rhaid i gais gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad preswylio arferol y ceisydd;
(b)unrhyw enw masnachu arfaethedig;
(c)rhif ffôn a chyfeiriad e-bost (os oes un) y ceisydd;
(d)yn achos cais i ddyroddi trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn mangre o fewn adran 59(3) (mangre neu gerbyd a feddiennir neu a reolir gan bersonau penodol, neu sydd o dan eu rheolaeth), cyfeiriad pob un o’r mangreoedd y mae rhoi’r driniaeth i gael ei awdurdodi gan y drwydded;
(e)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) sydd â rhif cofrestru, rhif cofrestru’r cerbyd;
(f)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol;
(g)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a gaiff, er enghraifft, gynnwys gwybodaeth am unrhyw drosedd y mae’r ceisydd wedi ei euogfarnu ohoni (pa un a’i cyflawnwyd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ai peidio).
(2)Ar unrhyw adeg ar ôl cael cais ond cyn dyfarnu arno, caiff awdurdod ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu iddo unrhyw wybodaeth bellach y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i ddyfarnu ar y cais.
(3)Caiff yr wybodaeth bellach honno gynnwys unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben gwirio hunaniaeth y ceisydd.
(4)Caiff rheoliadau—
(a)gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm y ffi sydd i ddod gyda chais a wneir iddo;
(b)gwneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch y ffordd y mae cais i gael ei wneud, yr wybodaeth sydd i gael ei darparu, a’r ffordd y mae awdurdod i ddelio â chais).
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
5(1)Rhaid i drwydded triniaeth arbennig—
(a)datgan enw deiliad y drwydded;
(b)bod â ffotograff o ddeiliad y drwydded;
(c)pennu cyfeiriad preswyl neu gyfeiriad busnes ar gyfer deiliad y drwydded;
(d)enwi’r awdurdod y dyroddir y drwydded ganddo;
(e)pennu pob triniaeth y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;
(f)pennu cyfnod y drwydded ac, yn achos trwydded dros dro, ddatgan ei bod yn drwydded dros dro.
(2)Rhaid i drwydded y mae’n ofynnol iddi, gan adran 59(3), nodi mangre neu gerbyd (yn ôl y digwydd)—
(a)pennu cyfeiriad y fangre;
(b)yn achos cerbyd sydd â rhif cofrestru, ddatgan y rhif cofrestru;
(c)yn achos cerbyd nad oes ganddo rif cofrestru, nodi’r cerbyd ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod sy’n dyroddi’r drwydded yn ystyried ei bod yn briodol.
(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys trwyddedau triniaeth arbennig (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch cynnwys gwybodaeth am yr amodau trwyddedu mandadol cymwys).
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
6(1)Os yw trwydded triniaeth arbennig wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, caiff deiliad y drwydded wneud cais am gopi i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.
(2)O ran cais o dan is-baragraff (1)—
(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a
(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
(3)Rhaid i’r awdurdod ganiatáu’r cais os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y drwydded ar goll, wedi ei dwyn neu wedi ei difrodi, a
(b)pan fo’r drwydded ar goll neu wedi ei dwyn, bod yr heddlu wedi ei hysbysu am hyn.
(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl caniatáu cais o dan is-baragraff (1), mae awdurdod i ddyroddi copi o’r drwydded i’r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
7Mae copi o drwydded a ddyroddir gan awdurdod o dan baragraff 6—
(a)i gael ei ardystio gan yr awdurdod fel copi gwir, a
(b)i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon ac unrhyw ofynion a osodir gan y Rhan hon neu o dan y Rhan hon fel y drwydded wreiddiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
8(1)Mae trwydded triniaeth arbennig i gael ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—
(a)diwedd cyfnod y drwydded;
(b)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae dirymu’r drwydded yn cael effaith;
(c)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae’r drwydded yn peidio â chael effaith o dan baragraff 14(3) (terfynu trwydded yn wirfoddol);
(d)yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi gan unigolyn sydd wedi ei ddynodi o dan adran 61 mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, y dyddiad y mae tynnu’r dynodiad yn ôl yn cymryd effaith.
(2)Ond mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 10.
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
9(1)Caiff awdurdod lleol, ar gais gan ddeiliad y drwydded, adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.
(2)Mae cais i adnewyddu trwydded i gael ei wneud i’r awdurdod a roddodd y drwydded.
(3)O ran cais i adnewyddu trwydded—
(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw,
(b)mae i gynnwys pa wybodaeth bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, ac
(c)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
10Os ceir cais i adnewyddu trwydded cyn y byddai’r drwydded oni bai am y paragraff hwn yn cael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben, nid yw’r drwydded i gael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben—
(a)tra bo’r cais i adnewyddu yn yr arfaeth;
(b)tra caniateir i apêl gael ei dwyn o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â’r cais;
(c)tra bo apêl a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r cais o dan baragraff 18 neu 19, o fewn y cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan y paragraff hwnnw, eto i gael ei phenderfynu.
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
11(1)Caiff awdurdod lleol, ar gais i’r perwyl hwn gan ddeiliad trwydded, amrywio trwydded triniaeth arbennig a ddyroddwyd ganddo.
(2)Caiff effaith amrywiad (ymhlith pethau eraill)—
(a)ychwanegu, diwygio neu ddileu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;
(b)yn ddarostyngedig i adran 59(4) (gofyniad bod mangre neu gerbyd wedi ei nodi mewn trwydded, ac wedi ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo), awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn mangre neu mewn cerbyd nas nodwyd cyn hynny yn y drwydded at y diben hwn;
(c)dileu cyfeiriad at fangre neu gerbyd a nodwyd cyn hynny yn y drwydded.
(3)Ni chaniateir i drwydded gael ei hamrywio o dan y paragraff hwn er mwyn—
(a)trosglwyddo’r drwydded o ddeiliad y drwydded i unigolyn arall;
(b)estyn cyfnod y drwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
12(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig—
(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a
(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.
(2)Rhaid i gais gynnwys—
(a)manylion y newidiadau arfaethedig sydd i gael eu gwneud i’r drwydded, a
(b)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
13(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig drwy ychwanegu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded i awdurdodi iddi gael ei rhoi—
(a)rhaid iddo bennu’r driniaeth o dan sylw, a
(b)mae i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n gais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig sy’n awdurdodi i’r driniaeth honno gael ei rhoi (ac mae dyddiad yr amrywio i gael ei drin, ar gyfer cymhwyso’r Rhan hon mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, fel dyddiad dyroddi trwydded sy’n awdurdodi i’r driniaeth gael ei rhoi).
(2)Ond nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys at ddibenion dyfarnu ar gyfnod y drwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
14(1)Pan fo deiliad trwydded yn dymuno i drwydded triniaeth arbennig beidio â chael effaith, caiff deiliad y drwydded roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.
(2)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y dyddiad y mae’r drwydded i beidio â chael effaith ag ef.
(3)Os nad yw’r drwydded wedi dod i ben yn gynharach o dan baragraff 8(1)(a), (b) neu (d), mae’r drwydded yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a ddatgenir o dan is-baragraff (2) i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
15(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn bwriadu—
(a)rhoi hysbysiad i geisydd o dan adran 65(2) neu 66(6) fod cais wedi ei wrthod (gan gynnwys o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)),
(b)rhoi hysbysiad i ddeiliad trwydded o dan adran 68 fod trwydded wedi ei dirymu (gan gynnwys o dan yr adran honno fel y mae’n gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)), neu
(c)rhoi hysbysiad i unigolyn o dan adran 61(1), sy’n dynodi’r unigolyn hwnnw mewn cysylltiad â triniaeth arbennig.
(2)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 16 a 17, cyfeirir at y ceisydd neu ddeiliad y drwydded fel “A”.
(3)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad i A (“hysbysiad rhybuddio”) sy’n nodi’r hyn y mae’r awdurdod yn bwriadu ei wneud a phaham.
(4)Rhaid i hysbysiad rhybuddio ddatgan y caiff A, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, naill ai—
(a)cyflwyno sylwadau ynghylch y cynnig, neu
(b)hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau.
(5)Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio fod yn llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.
(6)Caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio—
(a)os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod nad yw A yn dymuno cyflwyno sylwadau, neu
(b)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio yn dod i ben ac nad yw A wedi cyflwyno sylwadau na hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno gwneud hynny.
(7)Os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau—
(a)rhaid i’r awdurdod ganiatáu cyfnod rhesymol pellach i A i gyflwyno sylwadau, a
(b)caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, os yw A yn methu â chyflwyno sylwadau o fewn y cyfnod pellach hwnnw.
(8)Os yw A yn cyflwyno sylwadau (naill ai o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio neu o fewn y cyfnod pellach a ganiateir o dan is-baragraff (7)(a)), rhaid i’r awdurdod ystyried y sylwadau.
(9)Caniateir i’r sylwadau a gyflwynir gan A o dan y paragraff hwn gael eu cyflwyno ar lafar neu fel arall; ac yn achos sylwadau ar lafar, caiff A neu gynrychiolydd A eu cyflwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
16(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15 mewn cysylltiad â hysbysiad arfaethedig o dan adran 65(2), 66(6) neu 68, yn penderfynu cymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio.
(2)Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan adran 65, 66 neu 68 (yn ôl y digwydd) nodi rhesymau’r awdurdod dros roi’r hysbysiad.
(3)Rhaid i’r hysbysiad hefyd ddatgan—
(a)y caiff A apelio o dan baragraff 18 yn erbyn y penderfyniad,
(b)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo, ac
(c)yn achos dirymiad o dan adran 68, y dyddiad (yn absenoldeb apêl o dan baragraff 18) y mae’r dirymiad i gymryd effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
17Os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15, yn penderfynu peidio â chymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio, rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad o’r penderfyniad i A.
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
18(1)Caiff ceisydd apelio i lys ynadon yn erbyn—
(a)gwrthod cais am drwydded triniaeth arbennig;
(b)gwrthod cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig;
(c)gwrthod cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.
(2)Caiff deiliad trwydded apelio i lys ynadon yn erbyn dirymiad o dan adran 68.
(3)Caiff unigolyn y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan adran 61(1) (dynodi person at ddibenion adran 58) apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad i roi’r hysbysiad.
(4)Mae apêl i gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad—
(a)yn achos apêl o dan is-baragraff (1) neu (2), yr hysbysiad o’r penderfyniad i wrthod y cais neu o’r penderfyniad i ddirymu;
(b)yn achos apêl o dan is-baragraff (3), yr hysbysiad o dan adran 61(1).
(5)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43).
(6)At ddibenion y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud y gŵyn i gael ei drin fel gwneud yr apêl.
(7)Ar apêl, caiff y llys ynadon—
(a)cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yr apelir yn ei erbyn, neu
(b)diddymu neu amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn,
a chaiff wneud unrhyw orchymyn o ran costau y mae’n meddwl ei fod yn addas.
(8)Os yw’r llys ynadon yn diddymu neu’n amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn, caiff anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys.
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 3 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
19(1)Caniateir i apêl gan y naill barti neu’r llall yn erbyn penderfyniad llys ynadon o dan baragraff 18 gael ei dwyn gerbron Llys y Goron.
(2)Ar apêl i Lys y Goron, caiff Llys y Goron—
(a)cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad y llys ynadon;
(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon neu’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 3 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
20(1)Pan fo llys, ar apêl o dan baragraff 18 neu 19, yn amrywio neu’n gwrth-droi penderfyniad awdurdod lleol, caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd, deiliad y drwydded, neu berson o fewn paragraff 18(3) (yn ôl y digwydd) am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i’r penderfyniad.
(2)Nid yw dwyn apêl o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir gan awdurdod lleol neu hysbysiad a roddir gan awdurdod lleol yn atal dros dro effaith y penderfyniad neu’r hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 3 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
21(1)Mae swyddogaethau awdurdod lleol o dan y darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon wedi eu dirprwyo, yn rhinwedd yr is-baragraff hwn, i bwyllgor trwyddedu’r awdurdod a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17)—
(a)adran 65(2) a 66(3) (gan gynnwys fel y’u cymhwysir yn rhinwedd adran 67 a pharagraff 13(1)), mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;
(b)adran 68, mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;
(c)paragraff 15(8);
(d)paragraffau 16 a 17.
(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17) i fod yn gymwys mewn perthynas â swyddogaeth awdurdod a ddirprwyir i bwyllgor trwyddedu yn rhinwedd is-baragraff (1) fel y maent yn gymwys i swyddogaeth a ddirprwyir o dan y Ddeddf honno, ac fel pe bai cyfeiriadau ynddynt at awdurdod trwyddedu yn gyfeiriadau at yr awdurdod o dan sylw—
(a)adran 7(9) (atgyfeirio’n ôl i awdurdod), a
(b)adran 10 (isddirprwyo).
(3)Wrth gymhwyso adran 10(4) o’r Ddeddf honno yn rhinwedd is-baragraff (2), mae’r rhestr o swyddogaethau yn is-baragraff (1)(a) i (d) wedi ei rhoi yn lle’r rhestr o swyddogaethau yn yr adran honno.
(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sy’n gymwys i bwyllgorau trwyddedu a’u his-bwyllgorau at ddiben arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth o ran—
(a)dilysrwydd a chworwm;
(b)mynediad y cyhoedd;
(c)cyhoeddusrwydd;
(d)cofnodion.
(5)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y rheoliadau, caiff pob pwyllgor trwyddedu, at ddibenion arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn ei is-bwyllgorau.
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 3 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
22(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 13(11) (ystyr “local authority” yn Rhan 8), ym mharagraff (a) ar ôl “district” mewnosoder “in England”.
(3)Yn adran 14 (aciwbigo)—
(a)yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a
(b)yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.
(4)Yn adran 15 (tatŵio etc)—
(a)yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a
(b)yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 3 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
23Yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2), ym mhob tabl yn Atodlen 1 (pwerau i wneud is-ddeddfau) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud—
(a)ag adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30);
(b)ag adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 3 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
(a gyflwynir gan adran 118)
1(1)Mae adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (darparu cyfleusterau cyhoeddus) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1)—
(a)yn lle “A county council, a local authority” rhodder “A county council in England, a local authority in England”;
(b)hepgorer “or community”.
(3)Yn y pennawd, ar ôl “conveniences”, mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I78Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 31.5.2018 gan O.S. 2018/605, ergl. 2(b)
2Yn adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darparu cyfleusterau cyhoeddus ar gyfer defnyddwyr ffyrdd), yn lle is-adran (4) rhodder—
“(4)The powers in subsection (1) are without prejudice to—
(a)section 87 of the Public Health Act 1936 (provision of public conveniences in England);
(b)section 116 of the Public Health (Wales) Act 2017 (local authority power to provide public toilets in Wales).”
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I80Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 31.5.2018 gan O.S. 2018/605, ergl. 2(b)
3(1)Yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, mae Atodlen 1 (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ym mhob tabl, hepgorer y cofnod sy’n ymwneud ag adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936.
(3)Ym mhob tabl, yn y lle priodol mewnosoder—
“Adran 117 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 | Rheoleiddio ymddygiad personau mewn toiledau | Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned” |
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I82Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 31.5.2018 gan O.S. 2018/605, ergl. 2(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: