- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
31 Awst 1999
Yn dod i rym
1 Medi 1999
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.
2.—(1) Bydd i Ran I o Atodlen 1 effaith o ran y diddymiadau a grybwyllir yno.
(2) Bydd i Ran II o Atodlen 1 effaith o ran y materion trosiannol a grybwyllir yno.
3.—(1) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —
(a)mae cyfeiriad at ysgol yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni felly;
(b)mae cyfeiriad at sefydliad addysg bellach yn gyfeiriad at sefydliad, nad yw'n ysgol, sy'n darparu addysg bellach (p'un a yw'n darparu addysg uwch hefyd neu beidio) ac sydd —
(i)naill ai'n cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol, neu
(ii)yn y sector addysg bellach;
(c)mae cyfeiriad heb oleddfu at sefydliad yn gyfeiriad at sefydliad addysg bellach neu sefydliad yn y sector addysg uwch; a
(d)mae cyfeiriad at weithiwr gyda phlant neu bobl ifanc yn gyfeiriad at berson, heblaw athro, y mae ei waith yn dod ag ef i gysylltiad rheolaidd â phersonau nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed eto.
(2) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “sefydliad achrededig” yw sefydliad a achredir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan baragraff 2 o Atodlen 3;
ystyr “Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru(3);
ystyr “awdurdodiad” yw awdurdodiad i addysgu a roir i berson gan y Cynulliad yn unol â Rhan III neu II o Atodlen 2;
ystyr “BTEC” yw'r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg;
ystyr “coleg dinasol” yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;
mae i “cwmni” yr un ystyr ag sdd i “company” yn Neddf Cwmnïau 1985(4)
ystyr “athro graddedig” yw person y rhoddwyd awdurdodiad iddo yn unol â Rhan II o Atodlen 2;
ystyr “â nam ar y clyw” yw byddar neu rannol fyddar;
ystyr “addysg uwch” yw addysg a ddarperir drwy unrhyw un o'r cyrsiau canlynol —
cwrs i roi hyfforddiant pellach i athrawon neu weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymunedol;
cwrs ôl-raddedig (gan gynnwys cwrs gradd uwch);
cwrs gradd gyntaf;
cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch;
cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch BTEC neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC a ddarperir gan Sefydliad Edexcel, neu'r Ddiploma mewn Astudiaethau Rheoli;
cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg;
cwrs i baratoi ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ar lefel 4 neu 5;
cwrs sy'n darparu addysg (boed er mwyn paratoi ar gyfer arholiad neu beidio) ar safon uwch na safon y cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi ar gyfer arholiadau safon uwch safon y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC a ddarperir gan y Sefydliad Edexcel;
ystyr “a nam ar y golwg” yw dall neu rannol ddall.
ystyr “athro cofrestredig” yw person y rhoddwyd awdurdodiad iddo yn unol â Rhan III o Atodlen 2;
mae i “athro cymwysedig” yr ystyr a roddir iddo gan Reoliad 10 a dylid dehongli “athro anghymwysedig” yn unol â hynny;
mae i “cyflogaeth berthnasol” yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 5; ac
ystyr “y corff sy'n argymhell” yw'r corff sy'n trefnu'r hyfforddiant a roddwyd neu sydd i'w roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad.
(3) Yn y Rheoliadau hyn —
(a)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1959 yn gyfeiriad at Reoliadau Ysgolion 1959(5) (fel y bônt mewn grym o bryd i'w gilydd) gan gynnwys y rheoliadau hynny a gymhwysir i athrawon mewn ysgolion arbennig gan reoliad 16 Reoliadau Disgyblion dan Anfantais ac Ysgolion Arbennig 1959 (6), a dehonglir unrhyw gyfeiriad at gymeradwyaeth at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau 1959 fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at gymeradwyaeth, a oedd yn cael effaith, yn rhinwedd Rheoliad 21 o'r Rheoliadau hynny, fel petai wedi'i roi o dan y ddarpariaeth honno
(b)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1982 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982(7);
(c)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1989 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1989(8); a
(d)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1993 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993.(9)
(4) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, gall cymeradwyaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn fod yn gymwys yn gyffredinol (yn ddarostyngedig i'r eithriadau, os oes rhai, a bennir ynddynt) neu mewn achos penodol yn unig. Ystyr “wedi'i gymeradwyo” ynglŷn â chwrs yw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad.
(5) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu at Atodlen i hyn yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir yma neu at Atodlen i hyn. Mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff yn gyfeiriad at baragraff o'r rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno. Mae unrhyw gyfeiriad mewn paragraff at is-baragraff yn gyfeiriad at is-baragraff ohono.
4.—(1) Mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysg bellach cyflogir staff o athrawon sy'n addas ac y mae eu nifer yn ddigon i ddibenion sicrhau bod addysg briodol i oedrannau, galluoedd, doniau ac anghenion y disgyblion neu'r myfyrwyr yn cael ei darparu gan roi sylw i unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio gwasanaethau'r athrawon a gyflogir y tu allan i'r ysgol neu'r sefydliad addysg bellach dan sylw.
(2) Heb ragfarnu'r egwyddor gyffredinol paragraff (1) *mdash;
(a)bydd y staff o athrawon a gyflogir mewn ysgol yn cynnwys prifathro neu brifathrawes;
(b)bydd gan y staff o athrawon a gyflogir mewn sefydliad addysg bellach y cymwysterau priodol i roi hyfforddiant digonol yn y pynciau y darperir cyrsiau ynddynt.
(3) Mae'r gofyniad ym mharagraff (1) yn ychwanegol at y gofynion ynglŷn â'r cymwysterau ar gyfer cyflogaeth mewn ysgolion a gynhwysir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at gyflogaeth berthnasol yn gyfeiriad at gyflogaeth —
(a)gan awdurdod addysg lleol, fel athrawon (boed mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu beidio) neu fel gweithwyr gyda phlant neu bobl ifanc;
(b)gan unrhyw gorff arall, fel athrawon mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach; neu
(c)gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach fel gweithwyr gyda phlant neu bobl ifanc.
(2) At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogaeth yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at gyflogaeth neu gyflogaeth berthnasol yn unol â hynny.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff person ei benodi i gyflogaeth berthnasol os nad oes ganddo'r iechyd na'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer y gyflogaeth honno, gan roi sylw i unrhyw ddyletswydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995(10).
(2) Os caiff person ei benodi'n athro am y tro cyntaf a bod y Cynulliad yn fodlon fod ganddo'r iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol i addysgu, caiff ei gyflogwyr dderbyn casgliadau'r Cynulliad ar y mater os ymddengys yn rhesymol iddynt wneud hynny.
(3) Os caiff person a fu gynt mewn cyflogaeth berthnasol ei benodi i gyflogaeth berthnasol, caiff ei gyflogwyr ddibynnu ar gofnod meddygol y person tra oedd yn y gyflogaeth honno er mwyn penderfynu a oes gan y person yr iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer cyflogaeth o'r fath.
(4) Ni fernir bod gan berson sy'n cael pensiwn ymddeol yn rhinwedd Rheoliad E4(4) o Reoliadau Pensiynau Athrawon 1997(11) (ymddeol ar sail afiechyd) yr iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol i gael ei benodi i gyflogaeth berthnasol neu i gael ei gyflogi i roi ei wasanaethau fel athro mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach heblaw o dan gontract cyflogaeth, ond ceir penodi neu gyflogi person y daeth ei hawl i bensiwn o'r fath yn weithredol cyn 1 Ebrill 1997 i wasanaethu'n rhan amser.
(5) Nid oes dim ym mharagraff (4) yn atal penodi na chyflogi person nad yw wedi'i analluogi bellach ac y mae ei bensiwn ymddeol o'r herwydd wedi peidio â bod yn daladwy.
7.—(1) Ni fydd person mewn swydd gyflogedig berthnasol yn parhau yn y swydd honno os nad oes ganddo'r iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer y swydd honno, gan roi sylw i unrhyw ddyletswydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, os ymddengys i'w gyflogwyr nad oes gan berson yr iechyd na'r gynneddf feddyliol neu gorfforol bellach ar gyfer ei swydd gyflogedig —
(a)byddant yn rhoi'r cyfle iddo gyflwyno tystiolaeth feddygol ac achos iddynt;
(b)byddant yn pwyso a mesur y dystiolaeth a'r achos ac unrhyw dystiolaeth feddygol arall sydd ar gael iddynt, gan gynnwys tystiolaeth sydd wedi'i rhoi'n gyfrinachol ar y sail na fyddai er lles y person dan sylw i'w gweld;
(c)cânt fynnu iddo ymddangos gerbron meddyg a chanddo'r cymwysterau priodol ac a benodwyd ganddynt i gael ei archwilio neu gânt drefnu bod hyn yn digwydd os yw'n gofyn amdano. Os nad yw'n ymddangos i gael ei archwilio heb reswm da neu os yw'n gwrthod rhyddhau'r wybodaeth feddygol y mae'r meddyg yn gofyn amdani, er y byddai tystiolaeth feddygol bellach yn ddymunol, cânt ddod i gasgliad ar y mater ar sail y dystiolaeth a'r wybodaeth sydd ar gael iddynt gan gynnwys y casgliad nad oes ganddo'r iechyd na'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer ei gyflogaeth.
(3) Ar unrhyw adeg cyn yr archwiliad meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) caiff y cyflogwyr, neu'r person ei hun, gyflwyno i'r meddyg penodedig ddatganiad sy'n cynnwys tystiolaeth neu ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r archwiliad: a gall meddyg a chanddo gymhwyster priodol a benodir at y diben hwnnw gan y person sy'n cael ei archwilio fod yn bresennol yn yr archwiliad.
8. Yn ddarostyngedig i reoliad 9 bydd y rhan hon yn gymwys i gyflogi personau fel athrawon mewn ysgolion, onid ydynt yn cael eu cyflogi'n unig i ddarparu —
(a)addysg ran-amser i bersonau dros oedran ysgol gorfodol yn unig; neu
(b)addysg amser-llawn i bersonau sydd wedi cyrraedd 19 oed yn unig; neu
(c)yr addysg ran-amser a'r addysg amser-llawn honno.
9. At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogi yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogi a dehonglir cyfeiriadau at gyflogi neu at fod yn gyflogedig yn unol â hynny.
10. Ac eithrio yn yr achosion ac o dan yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 2, ac yn ddarostyngedig i reoliadau 11, 12, 13 a 14 ni chaiff neb ei gyflogi fel athro mewn ysgol onid yw'n athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.
11. Yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14, ni fydd neb yn athro cymwys i gael ei gyflogi mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref), onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.
12. Yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14, ni fydd neb yn athro cymwysedig at ddibenion cyflogaeth mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae nam ar eu golwg (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref); onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 14, ni fydd neb yn athro cymwysedig at ddibenion cyflogaeth mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw a'u golwg (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref); onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.
(2) Bydd person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir o dan reoliad 11 neu 12 yn athro cymwysedig at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) er nad yw'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion y paragraff hwnnw os yw ei gyflogwyr wedi'u bodloni nad oes unrhyw athro â chymhwyster o'r fath ar gael i addysgu'r dosbarth o dan sylw.
14. Gellir cyflogi person mewn ysgol arbennig fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt —
(a)nam ar eu clyw;
(b)nam ar eu golwg; neu
(c)nam ar eu clyw a'u golwg,
er nad yw'n athro cymwysedig yn unol â rheoliad 11, 12, neu 13(1), fel y bo'r achos, at ddibenion cyflogaeth o'r fath os yw ei gyflogwyr wedi'u bodloni ei fod yn bwriadu ennill cymhwyster a gymeradwyir gan y Cynulliad o dan reoliad 11, 12 neu 13(1), fel y bo'r achos, ar yr amod, er hynny, nad yw'r cyfnod agregedig y mae wedi'i gyflogi ar ei gyfer, mewn un neu ragor o ysgolion, fel athro'r dosbarth o ddisgyblion a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), fel y bo'r achos, yn fwy na thair blynedd.
Dafydd Elis Thomas
Presiding Officer, National Assembly for Wales
31 Awst 1999
Rheoliad 2
Diddymir y darpariaethau canlynol:
Rheoliad 2(1); rheoliad 2(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1; rheoliad 3(3)(a) i (c); rheoliad 4; rheoliad 6; rheoliad 8; rheoliad 9; rheoliad 12 i 17; Paragraffau 2 i 7 o Atodlen 1; Atodlen 2; Atodlen 3; ynglŷn â Chymru ym mhob achos.
Diddymir y Rheoliadau cyfan ynglŷn â Chymru.
Diddymir y darpariaethau canlynol:
Yn rheoliad 2 y rheoliad 3(1)(c) a amnewidiwyd a'r rheoliad 3(2) a amnewidiwyd, heblaw'r diffiniad o “relevant employment”; rheoliadau 3 i 7; ynglŷn â Chymru ym mhob achos.
Diddymir rheoliad 4 ynglŷn â Chymru.
1. Ymdrinnir ag unrhyw berson a oedd yn union cyn 1 Medi 1999 yn meddu ar y canlynol —
(a)cymhwyster a gymeradwyir at ddibenion rheoliad 14 o Reoliadau 1993; neu
(b)cymhwyster a gymeradwyir at ddibenion rheoliad 15 o Reoliadau 1989; neu
(c)cymhwyster a grybwyllir yn rheoliad 15(1) o Reoliadau 1982; neu
(d)cymhwyster cymaradwy a gymeradwyir at ddibenion y rheoliad hwnnw; neu
(e)cymhwyster a grybwyllir yn rheoliad 20(3) o Reoliadau 1959; neu
(f)cymhwyster cyfatebol a gymeradwyir at ddibenion y rheoliad hwnnw,
fel person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion 11.
2. Ymdrinnir ag unrhyw berson a oedd yn union cyn 1 Medi yn meddu ar y canlynol —
(a)cymhwyster a gymeradwyir at ddibenion rheoliad 15 o Reoliadau 1993; neu
(b)cymhwyster a gymeradwyir at ddibenion rheoliad 16 o Reoliadau 1989; neu
(c)cymhwyster a grybwyllir yn rheoliad 16(1) o Reoliadau 1982; neu
(d)cymhwyster a gymeradwyir at ddiben y rheoliad hwnnw fel cymhwyster y gellir ei gymharu ag un a grybwyllir felly; neu
(e)cymhwyster ar gyfer addysgu disgyblion dall a oedd, yn union cyn 8 Ebrill 1982, yn bodloni gofynion yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliad 15(2) o Reoliadau Disgyblion o Dan Anfantais ac Ysgolion Arbennig 1959(12),
fel person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion rheoliad 12.
3. Caiff person sydd wedi bodloni gofynion rheoliad 18 o Reoliadau 1982 ar gyfer cyflogaeth mewn ysgol arbennig fel athro dosbarth o ddisgyblion a oedd yn fyddar neu'n rhannol fyddar ac yn ddall gael ei gyflogi mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw a'u golwg, er nad yw'n athro cymwysedig at ddibenion rheoliad 13(1).
4. Bydd i gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 2(2)(a) o Atodlen 3 i Reoliadau 1989 am gyfnod sy'n fwy na dwy flynedd ac y gall person gael ei gyflogi fel myfyriwr-athro ynddo effaith fel petai wedi'i rhoi at ddibenion 2(2)(a) o Atodlen 2.
5. Bydd i unrhyw achrediad at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 3 i Reoliadau 1993 sydd mewn grym yn union cyn 1 Medi 1999 effaith fel petai wedi'i roi at ddibenion paragraff 2 o Atodlen 3.
6.—(1) Yn achos person, a oedd ar 1 Medi 1992 wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989, ac Atodlen 6 iddynt, bydd rheoliad 14 ac Atodlen 6 yn parhau i gael effaith tan y cydymffurfir â'u holl ddarpariaethau.
(2) Ni chaiff athro —
(a)y dyfarnwyd ei fod yn anaddas i gael ei gyflogi ymhellach fel athro cymwysedig yn unol â pharagraff 2(c) o Atodlen 2 i Reoliadau 1959; neu
(b)a gafodd rybudd ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,
ei gyflogi fel athro mewn ysgol heb ganiatâd y Cynulliad.
7. Bydd Rheoliadau 1993 yn parhau i fod yn gymwys fel petai Rheoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) (Rhif 2) 1997(13) a'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud at ddibenion —
(a)caniatáu cyflogi fel athro mewn ysgol athro anghymwysedig a oedd yn athro trwyddedig neu'n athro a hyfforddwyd dros y môr fel y'u diffiniwyd ynddynt ar 30 Tachwedd 1997, a bydd y dyletswyddau a osodwyd ar y personau mewn cysylltiad â hynny yn parhau i fod yn gymwys; a
(b)penderfynu a oedd person, a oedd ar 30 Tachwedd 1997 neu unrhyw bryd cyn hynny yn athro trwyddedig, athro a hyfforddwyd dros y môr neu'n athro cofrestredig fel y'u diffiniwyd ynddynt, yn athro cymwysedig.
8. Lle cyflawnwyd swyddogaeth a roddwyd gan y Rheoliadau hyn i'r Cynulliad cyn 1 Gorffennaf 1999 gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â Rheoliadau 1982, bydd Rheoliadau 1989 neu Reoliadau 1993, bydd unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gyflawni'r swyddogaeth honno gan y Cynulliad yn cynnwys, ynglŷn ag unrhyw amser cyn 1 Gorffennaf 1999, yn cynnwys cyfeiriad at ei gyflawni gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Rheoliad 10
1.—(1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig y caniatawyd ei gyflogi fel athro cynorthwyol mewn ysgol feithrin neu fel athro dosbarth meithrin gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael ei gyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989.
(2) Caiff athro o'r fath barhau i gael ei gyflogi fel y'i cyflogwyd yn union cyn 1 Medi 1989.
2.—(1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig dros 18 oed sydd naill ai-
(a)ar ôl cael ei dderbyn ar gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad achrededig yng Nghymru neu Loegr, yn disgwyl cael lle ar y cwrs hwnnw; neu
(b)ar ôl cael ei dderbyn ar y cyfryw gwrs, wedi methu ei gwblhau'n foddhaol erbyn y dyddiad ar ddiwedd y cyfnod sy'n ofynnol fel arfer ar ei gyfer, ond yn ystod y flwyddyn sy'n dilyn y dyddiad hwnnw, yn parhau â'r cwrs gyda golwg ar ei gwblhau o fewn y flwyddyn honno.
(2) Gellir cyflogi athro o'r fath fel athro mewn ysgol (heblaw mewn uned cyfeirio disgyblion) fel na fydd, er hynny —
(a)y cyfnod agregedig y cafodd ei gyflogi amdano yn rhinwedd y paragraff hwn, paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Reoliadau 1993 neu baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Reoliadau 1989, gan un neu fwy o awdurdodau neu gyrff, yn hwy na dwy flynedd neu'r cyfnod hwy, os o gwbl, a gymeradwyir yn ei achos gan y Cynulliad; a
(b)yn ofynnol iddo gymryd cyfrifoldeb am ddosbarth nac addysgu pwnc nas dysgir hefyd gan athro cymwysedig yn yr ysgol.
3.—(1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig a benodwyd neu y bwriedir ei benodi, i roi hyfforddiant mewn unrhyw grefft neu fedr neu mewn unrhyw bwnc neu grwp o bynciau (gan gynnwys unrhyw ffurf ar hyfforddiant galwedigaethol) y mae eu haddysgu yn gofyn am gymwysterau neu brofiad arbennig os, ar adeg ei benodiad —
(a)mae'r awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig neu uned gyfeirio disgyblion), mae'r corff llywodraethu wrth weithredu gyda chytundeb yr awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sydd â chyllideb ddirprwyedig) neu'r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod addysg lleol) wedi'i fodloni ynglŷn â'i gymwysterau neu fel bo'r achos, ei brofiad; a
(b)nad oes unrhyw athro cymwysedig addas, athro graddedig neu athro cofrestredig ar gael i'w benodi neu i roi'r hyfforddiant.
(2) Gellir cyflogi'r cyfryw athro mewn ysgol i roi'r hyfforddiant fel uchod, yn ddarostyngedig i baragraff (3), am y cyfnod nad oes athro cymwysedig, athro graddedig neu athro cofrestredig addas ar gael i'w benodi neu i roi hyfforddiant.
(3) Yn achos athro o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982, bydd i baragraff (2) effaith fel petai'r geiriau “yn ddarostyngedig i baragraff (3)” tan y diwedd wedi'u hepgor —
(a)os oedd ei benodiad am gyfnod penodedig, os ac ar yr amod nad yw'r cyfnod hwnnw wedi dirwyn i ben; neu
(b)os oedd ei benodiad am gyfnod amhenodedig, oni fynegwyd yn wahanol i hynny mai dros dro yn unig ydoedd.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, gellir cyflogi athro anghymwysedig mewn ysgol (heblaw mewn uned gyfeirio disgyblion)-
(a)os mae wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac a gydnabyddir fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno; a
(b)os caiff ei gyflogi mewn unrhyw swydd unigol mewn ysgol (naill ai drwy absenoldeb deiliad y swydd honno neu fel arall) am gyfnodau nad ydynt yn hwy na chyfanswm o bedwar mis.
(2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd yn dechrau ar y diwrnod y caiff ei gyflogi gyntaf fel athro mewn ysgol ddirwyn i ben.
5.—(1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys i berson nad yw'n athro cymwysedig ond a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gellir cyflogi'r fath berson fel athro mewn ysgol, ac eithrio uned cyfeirio disgyblion.
6.—(1) Yn dilyn argymhelliad y corff, gall y Cynulliad rhoi awdurdodiad addysgu i'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw.
(2) Bydd argymhelliad i awdurdodi yn cynnwys y manylion a benderfynnir gan y Cynulliad a bydd hefyd yn cynnwys y manylion a nodir yn is-baragraffau (3) i (6).
(3) Bydd yn cynnwys datganiad gan y corff argymell fod y person a enwir yn yr argymhelliad —
(a)yn ei farn ef yn berson addas i fod yn athro mewn ysgol;
(b)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddir gan sefydliad addysgol yng Nghymru neu Loegr, neu gymhwyster o safon sy'n cyfateb i hynny a roddir gan sefydliad addysgol yn rhywle arall;
(c)wedi cyrraedd y safon sy'n ofynnol mewn Saesneg a mathemateg i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;
(d)os ganwyd y person ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 1979 ac yn ystod cyfnod ei awdurdodiad y bwriedir iddo addysgu disgyblion o dan 11 oed, wedi cyrraedd mewn pwnc gwyddonol unigol neu mewn pwnc gwyddonol cyfun y safon sy'n ofynnol i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd; a
(e)(i)y bydd wedi cyrraedd 24 oed erbyn y dyddiad y bwriedir iddo ddechrau gweithio fel athro graddedig, neu
(ii)y bydd wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac a gydnabyddir fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno.
(4) Bydd yn cynnwys manylion am yr hyfforddiant y bwriedir ei roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad ac am hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant.
(5) Bydd yn cynnwys manylion am yr ysgol neu'r ysgolion lle bwriedir neu lle gellir cyflogi'r person a enwir yn y cais (ac y mae'n bosibl na fydd, yn unol â pharagraff 5(2), yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion).
(6) Bydd yn cynnwys enw'r sefydliad neu'r corff a fydd yn gyflogwr i'r person.
7. Bydd hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant yn briodol i angen y person am brofiad a hyfforddiant o addysgu ymarferol, ac yn achos argymhelliad cyntaf lle bydd y person yn cael ei gyflogi'n llawn amser, ni fydd yn llai na thri mis nac yn fwy nag un flwyddyn.
8. Os yw'r corff argymell wedi cyflwyno argymhelliad i'r Cynulliad, gellir cyflogi'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw dros dro fel athro graddedig yn yr ysgol neu'r ysgolion a bennir yn yr argymhelliad tan 14 diwrnod ar ôl i'r Cynulliad roi gwybod i'r corff argymell am ei benderfyniad i roi'r awdurdodiad neu beidio.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd awdurdodiad yn parhau mewn grym am gyfnod yr hyfforddiant a gynigir yn yr argymhelliad.
(2) Bydd awdurdodiad yn dod i ben yn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol —
(a)os bydd athro graddedig yn peidio â chael ei gyflogi yn yr ysgol a bennwyd yn yr argymhelliad am awdurdodiad neu, os oedd yr argymhelliad yn pennu mwy nag un ysgol, os yw'n peidio â chael ei gyflogi yn unrhyw un o'r ysgolion a bennir felly oni bai bod y naill beth neu'r llall yn digwydd oherwydd newid statws yr ysgol neu'r ysgolion (fel y bo'r achos) i fath gwahanol o ysgol neu ysgolion;
(b)os yw'r athro graddedig yn peidio â chael ei gyflogi gan y sefydliad neu'r corff a enwir yn yr argymhelliad ac eithrio —
(i)pan fydd hynny'n digwydd oherwydd newid statws yr ysgol lle mae'n cael ei gyflogi i fath gwahanol o ysgol, neu
(ii)pan fydd y cyflogwr a enwir yn yr argymhelliad yn awdurdod addysg lleol ac yn union ar ôl peidio â chael ei gyflogi gan yr awdurdod hwnnw mae'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg arall.
10. Bydd y corff argymell yn peri i'r athro graddedig gael yn ystod cyfnod yr awdurdodiad yr hyfforddiant, y rhoddwyd y manylion amdano yn unol â pharagraff 6(4).
11. Pan fydd awdurdodiad yn dirwyn i ben yn rhinwedd paragraff 9(2) bydd y corff argymell yn adrodd ffeithiau'r achos i'r Cynulliad.
12.—(1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys i berson nad yw'n athro cymwysedig ond sydd wedi cael awdurdodiad i addysgu yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gellir cyflogi'r fath berson fel athro mewn ysgol, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion.
13.—(1) Yn unol ag argymhelliad y corff argymell gall y Cynulliad roi awdurdodiad addysgu i'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw.
(2) Bydd argymhelliad i awdurdodi yn cynnwys y manylion hynny y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt a bydd hefyd yn cynnwys y manylion a nodir yn is-baragraffau (3) i (6).
(3) Bydd yn cynnwys datganiad gan y corff argymell fod y person a enwir yn yr argymhelliad —
(a)yn ei farn ef yn berson addas i fod yn athro mewn ysgol;
(b)(i)wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol ar gyfer athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac sy'n cael ei gydnabod fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno, neu
(ii)y bydd wedi cyrraedd 24 oed erbyn y dyddiad pan gynigir iddo gychwyn ei waith fel athro cofrestredig a'i fod wedi cwblhau'n llwyddiannus —
(aa)dim llai na dwy flynedd o addysg uwch yng Nghymru neu Loegr, neu
(bb)addysg gymaradwy naill ai'n llawn-amser neu'n rhan-amser boed yng Nghymru neu Loegr neu yn rhywle arall;
(c)wedi cyrraedd y safon ofynnol mewn Saesneg a mathemateg i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;
(d)os ganwyd y person cyn neu ar ôl 1 Rhagfyr 1979 ac yn ystod y cyfnod ei awdurdodiad, y bwriedir iddo addysgu disgyblion o dan 11 oed, wedi llwyddo i gyrraedd mewn pwnc gwyddonol unigol neu mewn pwnc gwyddonol cyfun y safon a ofynnir i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd; ac
(e)wedi'i dderbyn ar raglen astudio sy'n arwain at ddyfarniad o radd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol.
(4) Bydd yn cynnwys manylion o'r hyfforddiant y bwriedir ei roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad a hyd cyfnod yr hyfforddiant arfaethedig.
(5) Bydd yn cynnwys manylion am yr ysgol neu'r ysgolion lle bwriedir neu lle gellir cyflogi'r person a enwir yn y cais (ac na fydd, yn unol â pharagraff 12(2), yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion).
(6) Bydd yn cynnwys enw'r sefydliad neu'r corff a fydd yn gyflogwr i'r person.
14. Bydd hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant yn briodol i angen y person am brofiad a hyfforddiant o addysgu ymarferol a hyfforddiant, ac yn achos argymhelliad cyntaf lle bydd y person yn cael ei gyflogi'n amser llawn, ni fydd yn llai na un flwyddyn nac yn fwy na ddwy flynedd.
15. Lle mae'r corff argymell wedi cyflwyno argymhelliad i'r Cynulliad, gellir cyflogi'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw dros dro fel athro cofrestredig yn yr ysgol neu'r ysgolion a bennir yn yr argymhelliad tan 14 diwrnod ar ôl i'r Cynulliad roi gwybod i'r corff argymell ei benderfyniad i roi'r awdurdodiad neu beidio.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd awdurdodiad yn parhau mewn grym am gyfnod yr hyfforddiant a gynigir yn yr argymhelliad.
(2) Bydd awdurdodiad yn dod i ben yn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol —
(a)os bydd athro cofrestredig yn peidio â chael ei gyflogi yn yr ysgol a bennwyd yn yr argymhelliad am awdurdodiad neu, lle'r oedd yr argymhelliad yn pennu mwy nag un ysgol, os yw'n peidio â chael ei gyflogi yn unrhyw un o'r ysgolion a bennir felly oni bai bod y naill beth neu'r llall yn digwydd oherwydd newid statws yr ysgol neu'r ysgolion (fel y bo'r achos) i fath gwahanol o ysgol neu ysgolion; neu
(b)os yw'r athro graddedig yn peidio a chael ei gyflogi gan y sefydliad neu'r corff a enwir yn yr argymhelliad gan eithrio —
(i)pan fydd hynny'n digwydd oherwydd newid statws yr ysgol lle'i cyflogir i fath gwahanol o ysgol, neu
(ii)pan fydd y cyflogwr a enwir yn yr argymhelliad yn awdurdod addysg lleol ac yn union ar ôl peidio â chael ei gyflogi gan yr awdurdod hwnnw mae'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg arall.
17. Bydd y corff argymell yn peri i'r athro cofrestredig gael yn ystod cyfnod yr awdurdodiad yr hyfforddiant, y rhoddwyd y manylion amdano yn unol â pharagraff 13(4).
18. Lle mae'r awdurdodiad yn dirwyn i ben yn rhinwedd paragraff 16(2) bydd y corff argymell yn adrodd ffeithiau'r achos i'r Cynulliad.
Rheoliadau 3(2) a 10
1.—(1) Bydd person yn athro cymwysedig i ddiben rheoliad 10 (ond yn ddarostyngedig i reoliadau 11 i 13) —
(a)os oedd yn gymwysedig i gael ei gyflogi fel athro yn union cyn 1 Medi 1999 yn rhinwedd Atodlen 3 i Reoliadau 1993(14) ; neu
(b)os yw wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y Cynulliad ei fod yn athro cymwysedig, gan fod y Cynulliad wedi'i fodloni ar 1 Medi 1999 neu wedyn ei fod yn berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 9 ac, os yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff 7 neu 8, fod y datganiad a gyflwynwyd gan y corff argymell neu Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey (fel y bo'r achos) yn gywir; neu
(c)os yw'n athro cymwysedig o dan reoliadau sydd o bryd i'w gilydd mewn grym o dan adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg ynglŷn â Lloegr,
ac yn achos person sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (b) bydd y person, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), yn gymwysedig o'r dyddiad y bydd y Cynulliad yn ei ddarparu yn yr hysbysiad.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), gall y Cynulliad ddarparu i berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 9 fod yn athro cymwysedig o ddyddiad nad yw'n fwy na blwyddyn cyn yr hysbysiad i'r graddau bod hynny'n briodol gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos.
(3) Yn achos person a grybwyllir ym mharagraff 7 neu 9, ni fydd y Cynulliad yn darparu i'r person fod yn athro cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad pan fydd yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff 7 neu 9 (fel y bo'r achos), wedi'i gwblhau.
(4) Yn achos person a grybwyllir ym mharagraff 8, ni fydd y Cynulliad yn darparu i'r person fod yn athro cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad pan gwblhaodd y cyfnod o wasanaeth fel athro a drwyddedwyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel a bennir yn natganiad Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey.
2.—(1) Mae'r person —
(a)yn dal gradd neu gymhwysiad cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwysiad arall cyfatebol a roddwyd gan sefydliad estron; a
(b)wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad achrededig yng Nghymru.
(2) At ddibenion y paragraff hwn —
(a)ystyr “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” yw sefydliad a gafodd ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig, heblaw un sy'n sefydliad, neu sy'n gysylltiedig â sefydliad, neu sy'n ffurfio rhan o sefydliad y mae prif leoliad ei weithgareddau y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac sy'n cynnwys y Cyngor Cymwysterau Academaidd Cenedlaethol;
(b)ystyr “sefydliad estron” yw unrhyw sefydliad heblaw sefydliad yn y Deyrnas Unedig; ac
(c)ystyr “sefydliad achrededig” yw sefydliad a achredir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fel darparydd cyrsiau sy'n bodloni'r cyfryw ddarpariaethau ynglŷn â chwricwla a meini prawf eraill y gellir eu pennu o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad.
3. Mae'r person wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
4. Mae'r person wedi'i gofrestru fel athro addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
5. Rhoddwyd cadarnhad i'r person ei fod wedi'i gydnabod fel athro mewn ysgolion yng Ngogledd Iwerddon gan yr Adran Addysg, Swyddfa Gogledd Iwerddon, a'r cadarnhad hwnnw heb gael ei ddileu wedyn.
6. Mae'r person yn berson sydd o ran proffesiwn athro ysgol, yn dod o dan Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 89/48 EEC y Cyngor(15) ar system gyffredinol i gydnabod diplomâu addysg-uwch a ddyfernir i'r sawl sy'n cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynnol sy'n parhau am dair blynedd o leiaf, fel y'i hestynnir gan Gytundeb Ardal Economaidd Ewrop a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(16) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(17).
7.—(1) Pan roddir awdurdodiad i'r person, mae'r corff argymell wedi cyflwyno i'r Cynulliad —
(a)argymhelliad y dylid dyfarnu statws athro cymwysedig i'r person; a
(b)y datganiad a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (2)
(2) Mae'r datganiad yn ddatganiad bod y person —
(a)naill ai wedi —
(i)cwblhau gwasanaeth yn llwyddiannus fel athro graddedig neu athro cofrestredig (fel y bo'r achos) am gyfnod yr awdurdodiad ac wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant a gynigiwyd yn yr argymhelliad ar gyfer awdurdodiad, neu
(ii)wedi cwblhau ddim llai na thri mis o wasanaeth fel athro graddedig neu dim llai na blwyddyn o wasanaeth fel athro cofrestredig (fel y bo'r achos) ac wedi gwneud y fath gynnydd yn ystod ei gyfnod o wasanaeth fel athro graddedig neu athro cofrestredig (fel y bo'r achos) nad oedd angen iddo ym marn y corff argymell, yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw, gwblhau'r gwasanaeth hwnnw am gyfnod yr awdurdodiad cyn cael ei asesu fel y cyfeirir ato ym mharagraff (b);
(b) wedi'i asesu gan berson cymwys fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig; ac
(c) yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu gymhwyster o safon gyfatebol i hynny a roddwyd gan sefydliad addysgol yn rhywle arall.
(3) Yn y paragraff hwn —
(a)ystyr “person cymwys”, mewn achos lle mae'r corff argymell yn sefydliad achrededig, y sefydliad hwnnw, a'i ystyr mewn unrhyw achos arall yw'r person y mae'r Cynulliad wedi'i gymeradwyo at ddibenion cyflawni'r asesiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b);
(b)ystyr “safonau penodedig” yw'r safonau, sy'n gymwys adeg yr asesiad, ac a bennir gan y Cynulliad fel y safonau sy'n ofynnol gan berson sy'n ceisio dod yn athro cymwysedig.
(c)mae i “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” yr un ystyr ag ym mharagraff 2(2)(a).
8. Mae Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno i'r Cynulliad argymhelliad y dylid dyfarnu statws athro cymwysedig i'r person ac-
(a)datganiad ei fod wedi cwblhau dwy flynedd o wasanaeth amser-llawn neu gyfnod cyfatebol o wasanaeth rhan-amser fel athro wedi'i drwyddedu gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded;
(b)datganiad —
(i)ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus ddim llai na un flwyddyn o wasanaeth fel athro wedi'i drwyddedu gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded, a
(ii)ei fod cyn dyddiad cychwyn y drwydded wedi cyrraedd 24 oed, a
(iii)ei fod cyn dyddiad cychwyn y drwydded nad oedd wedi'i gyflogi am lai na dwy flynedd fel athro neu ddarlithydd mewn ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinesig), neu sefydliad neu brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu fel hyfforddwr neu Swyddog Addysg yn y Lluoedd Arfog y Goron neu fel hyfforddwr o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1993 neu baragraff 3 o Atodlen 2 ac nad oedd wedi'i ddiswyddo am resymau heblaw colli gwaith; neu
(c)datganiad —
(i)ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus ddim llai nag un tymor ysgol o wasanaeth fel athro trwyddedig a'r hyfforddiant a gynigwyd yn yr argymhelliad am drwydded, a
(ii)cyn dyddiad cychwyn y drwydded ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus naill ai —
(aa)cwrs hyfforddiant cychwynnol yn para o leiaf dair blynedd ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol y tu allan i Gymru a Lloegr, neu
(bb)cwrs gradd gyntaf a chwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn ysgolion o'r fath (p'un ai yn yr un sefydliad neu beidio), a
(iii)na chafodd ei gyflogi am lai na blwyddyn fel athro neu ddarlithydd mewn ysgol, ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinesig), sefydliad neu brifysgol neu sefydliad addysgol arall yng Nghymru neu Loegr neu yn rhywle arall ac na chafodd ei ddiswyddo am resymau heblaw fod ei swydd wedi mynd yn ddiangen.
9.—(1) Mae'r person —
(a)ym marn y Cynulliad yn berson addas i fod yn athro mewn ysgol;
(b)wedi cwblhau rhaglen hyfforddi yn foddhaol;
(c)wedi'i asesu gan berson cymwys fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig;
(d)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu gymhwyster o safon sy'n cyfateb iddi ac a roddwyd gan sefydliad addysgol yn rhywle arall;
(e)wedi cyrraedd y safon ofynnol mewn Saesneg a mathemateg i gyrraedd gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;
(f)wedi llwyddo mewn pwnc gwyddonol unigol neu mewn pwnc gwyddonol cyfun y safon ofynnol i gyrraedd gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd, os ganwyd y person ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 1979 ac yn ystod cyfnod ei hyfforddiant wedi addysgu disgyblion iau nag 11 oed; a
(g)wedi cyrraedd odran 24 oed.
(2) Yn y paragraff hwn —
(a)ystyr “person cymwys”, pan fydd trefnydd y rhaglen hyfforddi yn sefydliad achrededig, y sefydliad hwnnw, ac mewn unrhyw achos arall y person y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo at y diben o gyflawni'r asesiad fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c);
(b)ystyr “safonau penodedig” yw'r safonau, sy'n gymwys adeg yr asesiad, ac a bennir gan y Cynulliad fel y safonau sy'n ofynnol gan berson sy'n ceisio dod yn athro cymwysedig;
(c)ystyr “rhaglen hyfforddi” yw rhaglen hyfforddi nad yw'n llai na thri mis mewn ysgol, heblaw uned cyfeirio disgyblion, neu mewn ysgol annibynnol yn dilyn cais a wnaed gan y corff sy'n trefnu'r hyfforddiant i'r Cynulliad ac a fydd yn cynnwys y manylion y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt, ac ar yr amod bod y Cynulliad wedi cymeradwyo'r rhaglen fel rhaglen sy'n arwain at statws athro cymwysedig cyn i'r person gychwyn arni;
(d)mae i “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” yr un ystyr ag sydd ym mharagraff 2(2)(a).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
At ei gilydd mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu'r darpariaethau presennol yn Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993. Maent hefyd yn cyflwyno darpariaethau newydd sy'n tynhau'r moddion archwilio a gwirio sy'n ymwneud â chyflogaeth a chymwysterau athrawon
Mae'r Rheoliadau yn cynnwys amrywiaeth o fesurau sy'n ymwneud â chyflogaeth a chymwysterau athrawon mewn ysgolion yn ogystal â newidiadau sy'n deillio o'r fframwaith newydd i ysgolion a amlinellir yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Byddant yn:
darparu ar gyfer staffio ysgolion a gynhelir a rhai sefydliadau addysg bellach;
ei gwneud yn ofynnol bod cyflogwyr athrawon a rhai aelodau eraill o staff mewn ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach yn fodlon ar iechyd a chyneddfau corfforol a meddyliol eu staff;
adlewyrchu darpariaethau Deddf Gwahaniaethau ar Sail Anabledd 1995;
darparu bod athrawon a gyflogir mewn ysgolion a gynhelir yn athrawon cymwysedig, gyda rhai eithriadau, ac yn gwneud darpariaeth arbennig i athrawon disgyblion a nam ar eu clyw, a nam ar eu golwg ac a nam ar eu clyw a'u golwg;
darparu bod person sy'n athro cymwysedig at ddibenion Rheoliadau sy'n ymwneud â chymywso athrawon yn Lloegr yn cael ei drin yn gyfartal fel athro cymwysedig yng Nghymru.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn disodli darpariaethau sy'n ymwneud â gwahardd a gynhwysir yn Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993.
1988 p.40; diwygiwyd adran 218 gan baragraff 49 o Atodlen 8 ac Atodlen 9 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), adran 290 o Ddeddf Addysg 1993 (p.35), adrannau 290 a 291 o Ddeddf Addysg 1993 (p.35), adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 (p.30), paragraff 76 o Atodlen 37 ac Atodlen 38 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), Adran 49 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44), ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30). Mae adran 218 wedi'i diwygio'n rhagolygol gan adrannau 11, 13 ac 18 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, a pharagraff 17 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/1672).
Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Trosglwyddwyd holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 o 1 Gorffennaf 1999 ymlaen. Yn unol â hynny, dylid dehongli, mewn perthynas â Chymru, gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adrannau perthnasol o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 a'r Atodlenni iddi fel cyfeiriad, neu fel petai'n cynnwys cyfeiriad, at y Cynulliad. Gweler adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
O.S. 1959/364; O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1975/1054 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.
O.S. 1959/365; O.S. 1968/1281 a 1971/342 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.
O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.
.S. 1997/3001 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S.1959/365; O.S. 1968/1281 a 1971/342 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.
O.S. 1993/543; amnewidiwyd Atodlen 3 newydd gan O.S.1997/2679.
OJ Rhif L19, 24.1.89, t16.
Gorch 2073.
Gorch 2183.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: