Search Legislation

Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 2560 (Cy. 169 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

21 Medi 2000

Yn dod i rym

22 Medi 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 50 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986(1), ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, diddymu ac eithrio

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 22 Medi 2000.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999(3) wedi'u diddymu.

(3Er hynny, bydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson y dyfarnwyd grant iddo o danynt os cafodd unrhyw daliad grant ei dalu gan y Cynulliad Cenedlaethol (neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan drefniadau cyfatebol a oedd yn gymwys yn Lloegr) cyn 22 Medi 2000 a bod y person yn parhau i ddilyn y cwrs y dyfarnwyd y grant mewn perthynas ag ef, neu wedi'i gwblhau.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sydd –

    (a)

    yn athro neu athrawes gymwysedig yn unol â darpariaeth a wnaed gan neu o dan reoliadau a wnaed ar gyfer naill ai Cymru neu Loegr o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4); neu

    (b)

    yn ôl penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol neu benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn athro neu athrawes gymwysedig yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed felly;

  • ystyr “cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon” (“post-graduate teacher training course”) yw cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon sydd –

    (a)

    yn cael ei ddarparu mewn sefydliad achrededig yng Nghymru; a

    (b)

    yn golygu bod person sy'n ei gwblhau yn llwyddiannus yn dod yn athro neu athrawes gymwysedig;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ddarparydd cyrsiau sy'n bodloni unrhyw ddarpariaethau ynghylch cwricwla ac unrhyw feini prawf eraill a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol(5);

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig (o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998)(6).

Cymhellion i bersonau ddilyn hyfforddiant athrawon

3.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y rheoliad hwn yn gymhellion i bersonau cymwys ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon.

(2Mae'r pŵer a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan baragraff (1) uchod yn cynnwys pŵer i dalu grant i berson cymwys os yw'r person hwnnw –

(a)wedi cwblhau cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus mewn sefydliad yn Lloegr;

(b)wedi cael swm llawn unrhyw randaliadau grant a oedd yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod pryd yr oedd yn dilyn y cwrs o dan unrhyw drefniadau a oedd yn berthnasol yn Lloegr y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni eu bod yn cyfateb i'r trefniadau a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn; ac

(c)wedi ymgymryd â swydd addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.

(3Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr “cymwys” yw cymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(7).

Amodau

4.—(1Ni thelir unrhyw daliad o dan reoliad 3 i berson –

(a)sydd eisoes wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon cyn 1 Medi 2000 neu sy'n dilyn cwrs o'r fath a ddechreuodd cyn 1 Medi 2000;

(b)a gyflogir i addysgu mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysgol arall (ac nad yw'n athro neu athrawes gymwysedig); neu

(c)y mae'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o reoliad 1 yn dal yn gymwys mewn perthynas â'r person yn rhinwedd paragraff (3) o'r Rheoliad hwnnw.

(2Ni thelir unrhyw grant o dan reoliad 3 i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y fath ffurf, ac ar y pryd a chan gynnwys unrhyw fanylion y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.

(3Ni chymerir bod dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu pŵ er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3.

Amodau Pellach

5.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion y bydd grant a delir yn unol â rheoliad 3 yn ad-daladwy o danynt.

(2Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir gosod gofyniad o dan baragraff (1) –

(a)os yw'n ofyniad sydd â'r nod o sicrhau bod diben rhoi'r grant yn cael ei gyflawni;

(b)os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu'r grant os yw'r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad grant, yn methu â bodloni unrhyw un o'r meini prawf cymhwyster a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu

(c)os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu grant os yw'r derbynnydd wedi rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu yn sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant neu mewn perthynas ag ef.

Swm y grant a thaliadau grant

6.—(1Rhaid i grantiau o dan reoliad 3 beidio â bod yn fwy nag unrhyw symiau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Gellir penderfynu ar wahanol symiau o dan baragraff (1) ar gyfer gwahanol achosion ac amgylchiadau.

(3Yn achos grant sy'n daladwy i berson yn rhinwedd rheoliad 3(2), rhaid i'r cyfanswm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol beidio â bod yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng swm y grant y mae wedi'i gael oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y trefniadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr a'r swm y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) uchod fel yr uchafswm sy'n daladwy i berson sydd –

(a)yn cwblhau yn llwyddiannus, mewn sefydliad achrededig, gwrs o'r un disgrifiad â'r cwrs yn y sefydliad yn Lloegr;

(b)yn bodloni'r holl amodau perthnasol a geir yn y Rheoliadau hyn; ac

(c)yn bodloni unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3 a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Gall grantiau o dan reoliad 3 gael eu talu mewn un swm neu mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn benodol fod rhandaliadau yn daladwy ar ddyddiadau ar ôl i'r person ymgymryd â swydd addysgu fel athro neu athrawes gymwysedig.

(5Yn achos unrhyw grant sy'n daladwy tra bydd person yn dilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi arian i sefydliad achrededig i'w dalu i'r person hwnnw ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Talu cymhellion i gyrff llywodraethu ysgolion am gyflogi athrawon graddedig

7.—(1Yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y paragraff hwn yn gymhellion i annog cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i gyflogi personau sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig drwy gwblhau'r cyfnod angenrheidiol o wasanaeth fel athro neu athrawes raddedig yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999, ac i sicrhau hyfforddiant ar eu cyfer.

(2Bydd grantiau o dan baragraff (1) yn daladwy mewn un swm neu mewn unrhyw randaliadau, ac ar unrhyw adegau, a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.

(3Mae rheoliad 5 yn gymwys mewn perthynas â grantiau o dan baragraff (1) fel y mae'n gymwys mewn perthynas â grantiau o dan reoliad 3.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

Rhodri Morgan

Prif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Medi 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Yr oedd Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999 yn darparu ar gyfer talu grantiau yn gymhellion i annog mwy o bobl i ddilyn cyrsiau ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon yn y coleg i addysgu mathemateg neu wyddoniaeth ar lefel uwchradd. Mae Rheoliadau 1999 yn cael eu diddymu gan y Rheoliadau hyn, ac eithrio yn achos y rhai sydd eisoes wedi cael taliad grant o dan Reoliadau 1999 cyn 22 Medi 2000.

O dan y Rheoliadau newydd hyn, gall grantiau cymhelliant gael eu talu mewn perthynas â chyrsiau o'r fath ar gyfer addysgu pob pwnc. Os caiff person unrhyw randaliadau grant mewn perthynas â chwrs mewn sefydliad yn Lloegr y mae grantiau cymhelliant yn daladwy ar ei gyfer o dan drefniadau cyfochrog, mae'r Rheoliadau yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dalu unrhyw randaliadau eraill y byddai gan y person hwnnw hawl i'w cael yn rhinwedd y Rheoliadau hyn pe bai wedi cwblhau cwrs yng Nghymru y telid grant mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hyn.

Mae yn y Rheoliadau ddarpariaeth gwbl newydd sy'n fodd i grantiau gael eu talu i annog ysgolion i gyflogi athrawon graddedig a'u hyfforddi.

Mae yna esboniad manylach ar y Rheoliadau isod.

Mae Rheoliadau 1999 yn cael eu diddymu, ond bydd unrhyw berson sydd wedi cael taliad o dan y Rheoliadau hynny yn dal yn cael ei gynnwys o dan y Rheoliadau hynny (rheoliad 1).

Mae rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau o dermau sy'n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau.

Gall grantiau gael eu talu yn gymhellion mewn perthynas â phersonau sy'n gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymgymryd â hyfforddiant ôl-raddedig i athrawon mewn coleg i addysgu unrhyw bwnc (rheoliad 3).

Yn rheoliad 4 nodir nifer o achosion lle na all grant gael ei dalu o dan reoliad 3.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu grant o dan reoliad 3 ar yr amod ei bod yn ofynnol ei ad-dalu o dan amgylchiadau penodedig.

Mae rheoliad 6 yn darparu mai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n penderfynu ar swm y grant, a all gael ei dalu mewn un swm neu mewn rhandaliadau (y gall rhai ohonynt gael eu gohirio tan ar ôl i'r person ymgymhwyso yn athro neu'n athrawes ac ymgymryd â swydd addysgu).

Gall taliadau cymhelliant gael eu talu i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i'w hannog i gyflogi athrawon graddedig a'u hyfforddi o dan y cynllun a elwir y “Rhaglen Athrawon Graddedig” (rheoliad 7).

(1)

1986 p.61. Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107(a) o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

1988 p.40. Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)) a Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166) yw'r Rheoliadau cyfredol.

(5)

Gellir cael rhestr o'r sefydliadau dynodedig cyfredol oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Linden Court, The Orchards, Ty Glas Avenue, Llanisien, Caerdydd, CF4 5DZ.

(7)

1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000 (O.S. 2000/1121) yw'r Rheoliadau cyfredol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources