- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG CYMRU, CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU
Wedi'i wneud
7 Rhagfyr 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1):
1. –
(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Dysgu a Medrau 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben oni nodir yn wahanol.
2. Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Rhagfyr 2000
Erthygl 2
Adran 42.
Adran 43.
Adran 44.
Adran 46.
Adran 48.
Adran 73.
Adran 87.
Adran 93.
Adran 95.
Adran 139.
Adran 141.
Adran 145.
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 a bennir isod.
Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 11 a bennir isod.
Atodlen 5.
Yn Atodlen 9 –
paragraff 21(b)
paragraff 34,
paragraff 36,
paragraff 44(3) a (4),
paragraff 45,
paragraff 64,
paragraff 70,
paragraff 81,
paragraff 86,
paragraff 92.
Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru –
adrannau 18(4) i (6), 60A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac Atodlen 5A iddi,
paragraff 113 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996,
yn adran 19, yn is-adran (1) y gair “or” yn union cyn paragraff (b), yn is-adran (2)(f) y geiriau “employed as a teacher at a school” ac yn is-adran (10) y gair “and” yn union cyn paragraff (c); a'r geiriau “attendance on” yn adran 22(2)(h) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998,
adrannau 125 a 126 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 27 iddi,
y geiriau o “; and in determining” hyd at ddiwedd adran 104(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 i rym ar 1 Ionawr 2001. Rhestrir y darpariaethau hynny, ac esbonnir eu heffeithiau, isod.
Mae adrannau 42, 43 a 44 yn gosod dyletswyddau ar Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi sylw priodol i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal wrth arfer ei swyddogaethau. Mae adrannau 43 a 44 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor wneud cynllun ar gyfer pob un o'i flynyddoedd ariannol a llunio strategaeth mewn perthynas â'i swyddogaethau.
Mae adrannau 46 a 48 yn rhoi pwerau atodol i'r Cyngor sy'n angenrheidiol i ganiatáu iddo gyflawni ei swyddogaethau a sefydlu pwyllgorau.
Mae adran 73 yn ailenwi Prif Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru ac Arolygwyr Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru. Mae adran 87 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Arolygydd baratoi cynllun blynyddol a'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ei gymeradwyo.
Mae adrannau 93 a 95 yn rhoi pŵ er i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud cynlluniau ar gyfer trosglwyddo i'r Cyngor eiddo, hawliau a rhwymedigaethau (gan gynnwys hawliau cyflogaeth) sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod y Cyngor yn ymgymryd â'i swyddogaethau.
Mae adran 139 yn caniatáu i gyfnodau ymsefydlu athrawon ac athrawesau gael eu bwrw mewn sefydliadau addysg bellach o dan rai amgylchiadau.
Mae adran 141 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, o dan amgylchiadau penodol, gyfarwyddo cwmnïau y mae wedi contractio gyda hwy mewn perthynas â darparu hyfforddiant i beidio â chymryd camau penodol. Mae'n rhoi pŵ er hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n rhagnodi'r mathau o gamau y gellir eu cynnwys mewn cyfarwyddiadau o'r fath.
Mae adran 145 yn ymdrin â rhwymedigaeth sifil llywodraethwyr sefydliadau addysg bellach penodol .
Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu tro yn cynnwys diwygiadau a diddymiadau canlyniadol.
(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd neu deuir â darpariaethau canlynol Deddf Dysgu a Medrau 2000 i rym mewn perthynas â Chymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adrannau 104 i 109 | 3 Awst 2000 | 2000/2114 (C.56). |
Adran 94, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 87 o Atodlen 9. Yn Atodlen 9, paragraff 87. | 1 Medi 2000 | 2000/2114 (C.56). |
Adrannau 30, 47, 49, 51, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a (Cy.163) (Cy.70) restrir isod. Atodlen 4, ac yn Atodlen 9, paragraffau 3, 4 a 93. | 19 Medi 2000 | 2000/2540 |
Adrannau 134 i 136, 146 a 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 14 o Atodlen 9.Yn Atodlen 9, paragraff 14. | 1 Hydref 2000 | 2000/2559 (C.73) |
Provision | Date of Commencement | S.I. No. |
Sections 104 to 109 | 3 August 2000 | 2000/2114 (C.56) |
Sections 94, and 149 insofar as it relates to paragraph 87 of Schedule 9. In Schedule 9, paragraph 87. | 1 September 2000 | 2000/2114 (C.56) |
Sections 30, 47, 49, 51 and 149 insofar as it relates to the paragraphs of Schedule 9 listed below. (W.163)(C70) Schedule 4, and in Schedule 9 paragraphs 3, 4 and 93. | 19 September 2000 | 2000/2540 |
Sections 134 to 136, 146 and 149 in so far as it relates to paragraph 14 of Schedule 9. In Schedule 9, paragraph 14. | 1 October 2000 | 2000/2559 (C.73) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: