- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BYWYD GWYLLT, CYMRU
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
PRIFFYRDD, CYMRU
Wedi'i wneud
24 Ionawr 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. 30 Ionawr 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw adran 99 o'r Ddeddf i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Ionawr 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) i rym ar 30 Ionawr 2001.
Mae adran 103(3) o'r Ddeddf yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵ er i bennu'r dyddiad pan ddaw darpariaeth nad yw'n cael ei dwyn i rym yn awtomatig gan y Ddeddf i rym. Mae adran 99 o'r Ddeddf yn ddarpariaeth y mae adran 103(3) yn gymwys iddi ac sy'n darparu—
(a)mewn perthynas â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (S.I. 1999/672), fod y cyfeiriadau at Ddeddf Priffyrdd 1980 ac at Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw i'w darllen fel petaent yn cyfeirio at y Deddfau hynny fel y'u diwygiwyd gan y Ddeddf; a
(b)bod Atodlen 11 i'r Ddeddf i'w hychwanegu at Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Bydd hyn yn galluogi swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a gynhwysir yn Atodlen 11 i'r Ddeddf i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: