- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
4 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym
1 Medi 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
o'r farn ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn er mwyn atal y sylweddau neu'r eitemau a bennir ynddynt rhag llygru'r amgylchedd a niwedio iechyd anifeiliaid, ac felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 140 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aderyn gwyllt” (“wild bird”) yw unrhyw aderyn o fath sy'n preswylio'n gyffredin yng Nghymru yn gyffedinol, neu syn ymweld â Chymru, mewn cyflwr gwyllt;
ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001(4);
ystyr “gwn cetris” (“shot gun”) yw gwn â baril llyfn ond nid yw'n cynnwys unrhyw wn cetris â siambr ar gyfer cetris ymyl-danio naw milimetr neu lai;
ystyr “peledi plwm” (“lead shot”) yw unrhyw beledi sydd wedi'u gwneud—
o blwm, neu
o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn hwnnw;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 4(1) isod;
mae “safle” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, cerbyd neu gwch, ond nid yw'n cynnwys safle sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl;
ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw ardal sydd wedi ei hysbysu o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(5).
3. Ni chaiff neb ddefnyddio peledi plwm er mwyn saethu gyda gwn cetris—
(a)ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;
(b)ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu
(c)unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau.
4.—(1) Gall person sy'n ymddangos yn addas i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol i arfer, yn unol â thelerau'r awdurdod, unrhyw un o'r pwerau a bennir ym mharagraff (2) isod at ddiben penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(2) Dyma'r pwerau y gall person awdurdodedig gael ei awdurdodi i'w harfer o dan baragraff (1) uchod—
(a)mynd i mewn ar unrhyw adeg resymol i unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig le i gredu ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn iddo;
(b)wrth fynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd is-baragraff (a) uchod bod gydag ef—
(i)unrhyw berson awdurdodedig arall;
(ii)os bydd sail resymol dros ddisgwyl unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n atal y person awdurdodedig rhag cyflawni ei ddyletswydd, gwnstabl; ac
(iii)unrhyw gyfarpar (heblaw cyfarpar trwm) neu ddefnyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben mae'r pŵer mynediad ar ei gyfer;
(c)wneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad sy'n angenrhediol o dan yr amgylchiadau;
(ch)cymryd unrhyw aderyn gwyllt sy'n farw neu wedi'i anafu neu beri bod samplau yn cael eu cymryd o unrhyw eitemau neu sylweddau sy'n cael eu darganfod mewn neu ar unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i fynd i mewn iddo ac i beri bod unrhyw aderyn neu sampl felly yn cael ei ddadansoddi neu'i brofi;
(d)yn achos unrhyw aderyn neu sampl a grybwyllir yn is-baragraff (ch) uchod, cymryd meddiant ohono a'i gadw gyhyd ag y mae ei angen at y cyfan neu unrhyw rai o'r dibenion canlynol, sef—
(i)ei archwilio, neu beri iddo gael ei archwilio, ac i wneud unrhyw beth iddo y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i'w wneud o dan yr is-baragraff hwnnw neu beri i hynny gael ei wneud;
(ii)sicrhau na fydd neb yn ymyrryd ag ef cyn bod yr archwiliad ohono wedi'i gwblhau;
(iii)sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos llys ar gyfer tramgwydd.
(3) Pan fydd person awdurdodedig yn bwriadu mynd i mewn i unrhyw safle a—
(a)bod mynediad wedi cael ei wrthod a bod y person awdurdodedig yn disgwyl ar seiliau rhesymol y gall fod yn angenrheidiol defnyddio grym i lwyddo i fynd mewn; neu
(b)bod y person awdurdodedig yn disgwyl, ar seiliau rhesymol, y bydd mynediad yn debyg o gael ei wrthod ac y gall fod yn angenrheidiol i ddefnyddio grym i lwyddo i fynd i mewn,
rhaid mynd i mewn i'r safle hwnnw yn rhinwedd y rheoliadau hyn o dan awdurdod gwarant yn rhinwedd paragraff (4) isod yn unig.
(4) Os dangosir i ynad heddwch drwy dystiolaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod yna seiliau rhesymol dros arfer, mewn perthynas ag unrhyw safle, bŵer o dan y rheoliad hwn (gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn unol â gwarant o dan y paragraff hwn), a
(b)bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (5) isod wedi ei gyflawni,
gall yr ynad awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol trwy warant i ddynodi person a awdurdodir i arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle, yn unol â'r warant a thrwy rym os bydd angen.
(5) Yr amodau a grybwyllir yn is-baragraff 4(b) uchod yw—
(a)bod arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle wedi'i wrthod;
(b)y disgwylir yn rhesymol y bydd yn cael ei wrthod;
(c)bod y safle heb ei feddiannu;
(ch)bod y meddiannydd yn absennol dros dro o'r safle a bod yr achos yn un brys; neu
(d)y byddai cais am fynediad i'r safle yn trechu diben y mynediad arfaethedig.
(6) Bydd pob gwarant a roddwyd o dan baragraff (4) uchod yn parhau mewn grym nes bod y dibenion y rhoddwyd y gwarant ar eu cyfer wedi eu cyflawni.
(7) Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, ddangos tystiolaeth am yr awdurdod neu'r dynodiad (os gofynnir iddo wneud hynny).
(8) Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, sydd, trwy arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn, yn mynd i mewn i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu neu y mae ei feddiannydd yn absennol dros dro, adael y safle wedi ei sicrhau yn erbyn tresmaswyr yr un mor effeithiol â chyn i'r person hwnnw fynd i mewn iddo.
(9) Ni fydd person awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, yn atebol mewn unrhyw achos sifil na throseddol am unrhyw beth a wnaed trwy honni arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn os bydd y llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi ei chyflawni'n ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.
5.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 3 uchod neu sy'n peri neu'n caniatáu i unrhyw berson arall dorri'r rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro person sy'n gweithredu trwy arfer unrhyw bŵ er o dan reoliad 4 uchod yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
6. Diddymir Rheoliadau 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2002
Rheoliad 3(b)
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig | Dyddiad Dynodi o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 | Lleoliad (Cyfeirnod Grid OS) (gweler y nodyn isod) |
---|---|---|
Nodyn: Mae cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans yn rhoi pwynt o fewn y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. | ||
Angle Bay | 04/03/1993 | SM883025 |
Beddmanarch-Cymyran | 25/09/1998 | SH275790 |
Broadwater | 13/01/1993 | SH582027 |
Burry Inlet and Loughor Estuary | 25/09/1989 | SS135985 |
Carew and Cresswell Rivers | 04/03/1993 | SN025055 |
Cosheston Pill | 04/03/1993 | SM990036 |
Daugleddau | 04/03/1993 | SN003116 |
Dee Estuary | 23/09/1998 | SJ220800 |
Dyfi | 14/03/1995 | SN635950 |
Flatholm | 10/03/1993 | ST220649 |
Gronant Dunes / Talacre Warren | 29/01/1998 | SJ100847 |
Inner Marsh Farm | 11/02/1995 | SJ307735 |
Laugharne and Pendine Burrows | 18/02/1990 | SN290070 |
Llyn Alaw | 29/03/1985 | SH390865 |
Llyn Syfaddan / Llangorse Lake | 09/02/1983 | SO133265 |
Llyn Traffwll | 18/02/1986 | SH325770 |
Llynnoedd y Fali / Valley Lakes | 22/05/1986 | SH310770 |
Morfa Harlech | 25/05/2001 | SH570660 |
Ynys Llanddwyn / Newborough Warren | 09/03/1995 | SH400640 |
Pembrey Coast | 10/11/1983 | SN316054 |
Pembroke River and Pwll Crochan Flats | 04/03/1993 | SM940025 |
Severn Estuary | 02/02/1989 | ST226758 |
Shotton Lagoon and Reedbeds | 19/10/1999 | SJ298709 |
Sully Island | 16/12/1986 | ST167670 |
Teifi Estuary | 08/12/1997 | SN158502 SN785675 |
Traeth Lafan | 24/09/1984 | SH630750 |
Whiteford Burrows and Landimore Marsh | 04/04/1984 | SS450955 |
Regulation 3(c)
Enw Cyffredin | Enw Gwyddonol |
---|---|
Nodyn: Mae'r enw neu'r enwau cyffredin yn cael eu cynnwys fel canllaw yn unig; os bydd unrhyw anghydfod neu achos, rhaid peidio â chymryd yr enw neu'r enwau cyffredin i ystyriaeth. | |
Cwtiar | Fulica Atra |
Hwyaid a Gwyddau (holl rywogaethau pob un ohonynt) | Anatidae |
Iâr Ddŵ r | Gallinula chloropus |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwahardd defnyddio peledi plwm ar gyfer saethu â gwn cetris—
(a)ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;
(b)ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu
(c)unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau sef hwyaid a gwyddau (pob rhywogaeth o bob un ohonynt), cwtiar ac iâr ddwr (rheoliad 3).
Ystyr “peledi plwm” yw unrhyw beledi o blwm neu o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn (rheoliad 2).
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer pwerau mynediad ac archwilio, pŵer i gymryd samplau, a phŵer i gymryd unrhyw adar meirw neu rai sydd wedi'u hanafu, er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau.
Mae Rheoliad 5 yn darparu bod torri rheoliad 3, neu rwystro person sy'n arfer unrhyw bŵ er o dan reoliad 4, yn dramgwydd troseddol y gellir ei gosbi drwy ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Cofrestrir hysbysiadau o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel pridiannau tir lleol (adran 28(9) o'r Ddeddf honno).
Gellir cael manylion o'r ardaloedd sy'n cael eu cynnwys yn y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2LQ.
Diddymir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4003 (Cy.331)) (rheoliad 6).
Trosglwyddwyd y pwerau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 / 672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: