- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym—
(a)ac eithrio rheoliadau 2 a 5, ar 1 Ebrill 2002; a
(b)rheoliadau 2 a 5 ar 9 Ebrill 2002.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(1);
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986(2).
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle “£71” rhowch “£72.20”.
3. Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio)—
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£43.90” rhowch “£44.60”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “£11.30” rhowch “£11.50”.
4.—(1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb — cyflenwi ac amnewid) yn ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.
(1) | (2) |
---|---|
Yr hen swm | Y swm newydd |
£30.00 | £30.50 |
£45.60 | £46.40 |
£62.10 | £63.20 |
£140.30 | £142.70 |
£51.80 | £52.70 |
£65.90 | £67.00 |
£79.60 | £81.00 |
£154.30 (yn y ddau fan lle y'i gwelir) | £157.00 |
£43.90 | £44.60 |
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth)—
(a)ym mharagraff 1(1)(a) (prism — lens golwg sengl), yn lle “£6.30” rhowch “£9.90”;
(b)ym mharagraff 1(1)(b) (prism — lens arall), yn lle “£7.20” rhowch “£11.90”;
(c)ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle “£3.20” rhowch “£3.30”;
(ch)ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle “£3.70” rhowch “£3.80”;
(d)ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle “£49.90”, “£43.90” a “£23.80”, rhowch “£50.20”, “£44.60” a “£24.20” yn eu trefn;
(dd)ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle “£49.40” rhowch “£50.20”;
(e)ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys golwg sengl), yn lle “£10.50” rhowch “£10.70”;
(f)ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys eraill), yn lle “£26.50” rhowch “£27.00”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
5. Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg — cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2) (g) (cael credyd treth pobl anabl), yn lle “£71” rhowch “£72.20”.
6. Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn union â rheoliadau 12 a 17 o Reoliadau 1997 ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2002
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: