- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
18 Tachwedd 2003
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “aelodau craidd” (“core members”) yw aelodau fforwm a benodir o dan reoliad 5(1)(a);
“aelodau eraill” (“other members”) yw aelodau fforwm a benodir o dan reoliad 5(1)(b);
ystyr “awdurdod” (“authority”) mewn perthynas â fforwm neu sefydlu fforwm yw'r awdurdod addysg lleol dros yr ardal y mae'r fforwm wedi'i sefydlu neu i'w sefydlu ar ei chyfer;
ystyr “cynrychiolydd sy'n rhiant-lywodraethwr” (“parent governor representative”) yw person a etholir neu benodir fel rhiant-lywodraethwr yn unol â Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999(3);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “fforwm” (“forum”) yw fforwm derbyn a sefydlir yn unol â'r Rheoliadau hyn;
ystyr “grŵ p oedran perthnasol” (“relevant age group”) mewn perthynas â ysgol, yw grŵ p oedran pan yw disgyblion (neu pan fydd disgyblion, yn ôl y digwydd) fel arfer yn cael eu derbyn i'r ysgol;
dehonglir “grŵ p o ysgolion” (“school group”) yn unol â rheoliad 4;
ystyr “ysgrifennydd” (“secretary”) yw ysgrifennydd fforwm a benodir o dan reoliad 8.
3.—(1) Rôl fforwm yw —
(a)ystyried pa mor dda y mae'r trefniadau derbyn presennol ac arfaethedig yn gwasanaethu buddiannau plant a'u rhieni o fewn ardal yr awdurdod;
(b)hybu cytundeb ar faterion derbyn;
(c)ystyried pa mor gynhwysfawr a hygyrch yw'r llenyddiaeth a'r wybodaeth dderbyn i rieni, a gyhoeddir gan bob awdurdod derbyn o fewn ardal y fforwm;
(ch)ystyried effeithiolrwydd unrhyw gyd-drefniadau derbyn arfaethedig;
(d)ystyried pa fodd y gellir gwella'r prosesau derbyn a sut y mae'r derbyniadau gwirioneddol yn cyfateb i'r nifer derbyniadau a gyhoeddir;
(dd)monitro derbyn plant sy'n cyrraedd ardal yr awdurdod y tu allan i'r cylch derbyn arferol gyda'r bwriad o hybu trefniadau dros ddosbarthu'r plant yn deg ymysg yr ysgolion lleol, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 86(1) o'r Ddeddf;
(e)hybu trefniadau derbyn effeithiol ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, plant sy'n derbyn gofal a phlant a waharddwyd o'r ysgol; ac
(f)i'r graddau na chynhwysir hwy yn is-baragraffau (a) i (e), ystyried unrhyw faterion derbyn sy'n codi.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn —
(a)mae plentyn i'w drin fel pe bai wedi cyrraedd y tu allan i gylch derbyn arferol os digwydd y canlynol —
(i)ar yr adeg pan fydd y plentyn yn cyrraedd ardal yr awdurdod nid yw'r plentyn yn dod o fewn grŵ p oedran perthnasol; neu
(ii)mae'r plentyn yn dod o fewn grŵ p oedran perthnasol ond mae unrhyw gais i'w dderbyn i ysgol i gael ei ystyried ar ôl yr adeg y mae'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol o dan sylw wedi penderfynu, yn unol â threfniadau derbyn yr ysgol, pa blant yn y grŵ p oedran hwnnw sydd i'w derbyn i'r ysgol;
(b)mae i'r cyfeiriad at “plant sy'n derbyn gofal” yr ystyr a roddir i “looked after children” yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989(4).
4.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn rhaid rhannu ysgolion yn grwpiau fel a ganlyn —
(a)ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir;
(b)ysgolion gwirfoddol a gynorthwir;
(c)ysgolion sefydledig.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag awdurdod at grŵ p o ysgolion yn gyfeiriad at un o'r grwpiau o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod fel a bennir ym mharagraff (1).
5.—(1) Rhaid i'r fforwm gynnwys —
(a)aelodau craidd a benodwyd gan yr awdurdod yn unol â pharagraff (2); a
(b)os yw'r aelodau craidd yn ei ystyried yn fuddiol, dim mwy na thri aelod eraill a benodwyd gan yr awdurdod yn unol â pharagraff (7), ac nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, mae'n ymddangos i'r aelodau craidd eu bod yn cynrychioli buddiannau unrhyw adran o'r gymuned leol.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn rhaid i “aelodau craidd” fforwm gynnwys —
(a)o leiaf un aelod neu swyddog o'r awdurdod ond dim mwy na phump;
(b)o leiaf un a enwebwyd yn unol â pharagraff (3) ond dim mwy na thri;
(c)o leiaf un a enwebwyd yn unol â pharagraff (4) ond dim mwy na thri;
(ch)o leiaf un o bob grŵ p o ysgolion ond dim mwy na thri, y dylai pob un ohonynt fod naill ai yn bennaeth neu'n llywodraethwr heblaw llywodraethwr sydd wedi'i benodi i gorff llywodraethu gan yr awdurdod ac sydd yn aelod o'r awdurdod;
(d)o leiaf un cynrychiolydd sy'n rhiant-lywodraethwr ond dim mwy na thri; ac
(dd)dim mwy na thri, nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ac y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli buddiannau unrhyw adran o'r gymuned leol.
(3) Rhaid i aelodau sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) gael eu henwebu gan yr awdurdod esgobaethol priodol yr Eglwys yng Nghymru sy'n cynnwys ardal yr awdurdod ac os yw'r ardal yn dod o fewn mwy nag un esgobaeth —
(a)rhaid i'r aelodau gael eu henwebu gan yr awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer un o'r esgobaethau gyda chytundeb yr awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer yr esgobaethau eraill; neu
(b)os nad ydyw'r awdurdodau esgobaethol priodol yn gallu cytuno, rhaid i bob awdurdod esgobaethol priodol enwebu un aelod, ac os oes mwy na thri enwebiad, rhaid i'r awdurdod benodi tri aelod o'r enwebiadau hynny.
(4) Rhaid i aelodau sy'n dod o fewn paragraff (2)(c) gael eu henwebu gan awdurdod esgobaethol priodol esgobaeth yr Eglwys Gatholig sy'n cynnwys ardal yr awdurdod ac, os yw'r ardal yn dod o fewn mwy nag un esgobaeth o'r fath, mae paragraffau (3)(a) a (b) i fod yn gymwys —
(a)gan roi cyfeiriad at awdurdod esgobaethol priodol esgobaeth yr Eglwys Gatholig yn lle'r cyfeiriad at awdurdod esgobaethol priodol yr Eglwys yng Nghymru; a
(b)gan roi cyfeiriad at yr Eglwys Gatholig yn lle'r cyfeiriad at yr Eglwys yng Nghymru.
(5) Rhaid i'r awdurdod benderfynu nifer aelodau y fforwm sy'n dod o fewn is-baragraffau (a), ac (ch) i (dd) o baragraff (2).
(6) Rhaid penodi aelodau yn unol â pharagraff (1)(b) ar argymhelliad aelodau craidd y fforwm yn unig.
(7) Yn ychwanegol, caiff yr aelodau craidd wahodd partïon eraill â buddiant i gyfarfod o'r fforwm os ydynt o'r farn bod hynny'n briodol ar ôl ystyried y materion sy'n codi i'w trafod.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, rhaid i'r personau a benodwyd yn aelodau craidd fforwm ddal swydd a'i gadael yn unol â thelerau eu penodiad phan beidiant â bod yn aelodau craidd o'r fforwm, maent i fod yn gymwys i gael eu hailbenodi.
(2) Ni ddylid penodi neb yn aelod craidd am gyfnod penodedig sy'n hwy na phedair blynedd.
(3) Rhaid i aelod craidd adael ei swydd —
(a)os penodwyd y person o dan reoliad 5(2)(a), a'i fod yn peidio â bod yn aelod neu swyddog o'r awdurdod o dan sylw;
(b)os penodwyd y person o dan reoliad 5(2)(ch), a'i fod yn peidio â bod yn bennaeth neu'n llywodraethwr ysgol mewn grŵ p o ysgolion;
(c)os penodwyd y person o dan reoliad 5(2)(d), a'i fod yn peidio â bod yn gynrychiolydd sy'n rhiant-lywodraethwr;
(ch)yn achos aelod sy'n dod o fewn is-baragraff (b) neu (c) o reoliad 5(2), os yw'r corff a enwebodd yr aelod o'r farn na ddylai'r aelod fod bellach yn aelod o'r fforwm ac yn hysbysu'r ysgrifennydd yn unol â hynny;
(d)yn achos aelod sy'n dod o fewn is-baragraffau (a), (ch), (d) neu (dd) o reoliad 5(2), os yw'r awdurdod, yn dilyn argymhelliad gan yr aelodau craidd, o'r farn na ddylai'r aelod fod bellach yn aelod o'r fforwm.
(4) O ran personau a benodir yn aelod arall —
(a)rhaid iddo ddal swydd a'i gadael yn unol â thelerau ei benodiad fel y penderfynir arnynt gan yr aelodau craidd;
(b)caiff ymddiswyddo fel aelod ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ysgrifennydd.
(5) Rhaid i bob aelod o fforwm adael ei swydd os caiff y fforwm ei ddiddymu yn unol â rheoliad 12(2).
7.—(1) Yng nghyfarfod cyntaf y fforwm a phob cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) rhaid i'r aelodau craidd ethol cadeirydd ac is-gadeirydd.
(2) Mae'r cadeirydd a'r is-gadeirydd i ddal eu swyddi tan y cyfarfod nesaf ar ôl y dyddiad sydd flwyddyn ar ôl y cyfarfod pan etholwyd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd, a phan beidiant â dal swydd maent i fod yn gymwys i gael eu hailethol.
(3) Os daw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn wag yn achlysurol rhaid i'r aelodau craidd yn eu cyfarfod nesaf ethol un o'u haelodau i lenwi'r swydd wag honno a mae'r aelod a etholir i ddal y swydd tan ddyddiad y cyfarfod y byddai'r cadeirydd neu is-gadeirydd wedi peidio â'i dal pe na bai'r swydd wedi dod yn wag.
(4) Rhaid i gadeirydd neu is-gadeirydd beidio â dal swydd os yw'n ymddiswyddo drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r ysgrifennydd.
(5) Caiff swydd cadeirydd ac is-gadeirydd eu dal gan berson a allai fod yn aelod o'r fforwm neu beidio.
8. Rhaid i'r aelodau craidd benodi person, a enwebwyd gan yr awdurdod, nad yw'n aelod o'r fforwm, i weithredu yn ysgrifennydd y fforwm.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn, caiff yr aelodau craidd reoleiddio eu gweithdrefnau eu hunain.
(2) Rhaid i fforwm gyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (7) caiff unrhyw aelod o'r fforwm enwebu aelod dirprwyol i fynychu cyfarfodydd y fforwm yn ei absenoldeb.
(2) Rhaid i enwebiad o dan baragraff (1) gael ei wneud drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ysgrifennydd, ac y mae i bara'n effeithiol hyd nes y caiff ei dynnu'n ôl.
(3) Caiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(a) ond enwebu aelod dirprwyol sydd ei hunan yn aelod neu swyddog o'r awdurdod.
(4) Ni chaiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(b) neu (c) enwebu aelod dirprwyol onid yw'r corff a enwebodd yr aelod hwnnw yn cydsynio â'r enwebiad a gynigir.
(5) Caiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(ch) enwebu aelod dirprwyol sydd yn bennaeth neu'n llywodraethwr (nad yw'n llywodraethwr wedi'i benodi gan yr awdurdod ac sy'n aelod o'r awdurdod) ysgol sydd yn yr un grŵ p o ysgolion â'r ysgol y mae'r aelod o dan sylw yn llywodraethwr neu'n bennaeth arni.
(6) Caiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(d) ond enwebu aelod dirprwyol sydd ei hunan yn gynrychiolydd sy'n rhiant-lywodraethwr.
(7) Ni chaiff aelod a benodir o dan reoliad 5(2)(dd) enwebu aelod dirprwyol onid yw'r awdurdod yn cydsynio â'r enwebiad a gynigir.
11. Rhaid i fforwm ddosbarthu ei gyngor a'i argymhellion i bob awdurdod derbyn a phob ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod, a rhaid iddo drefnu bod cyfryw gyngor ac argymhellion ar gael i unrhyw berson arall sydd â buddiant.
12.—(1) Caiff awdurdod sefydlu cyd-fforwm gydag un neu fwy o awdurdodau addysg lleol eraill.
(2) Os bydd awdurdod, ar ôl iddo sefydlu fforwm, wedyn yn penderfynu sefydlu cyd-fforwm yn unol â pharagraff (1), rhaid diddymu'r fforwm sydd yn bodoli cyn ffurfio'r cyd-fforwm.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyd-fforwm gyda'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen.
13.—(1) Os sefydlir is-bwyllgor, yn unol ag adran 85A(2) o'r Ddeddf, y fforwm sydd i fod yn gyfrifol am benderfynu'r calynol ar gyfer yr is -bwyllgor:
(a)aelodaeth a chyfansoddiad;
(b)y weithdrefn dros alw a chynnal cyfarfodydd;
(c)lledaenu cyngor ac argymhellion.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Tachwedd 2003
Rheoliad 12
1. Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at awdurdod i'w darllen, mewn perthynas â chyd-fforwm neu sefydlu cyd-fforwm, fel cyfeiriadau at yr awdurdodau addysg lleol dros yr ardal y mae'r cyd-fforwm wedi ei sefydlu neu i'w sefydlu ar ei chyfer.
2. Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at fforwm i'w darllen, mewn perthynas â chyd-fforwm, fel cyfeiriadau at gyd-fforwm a sefydlwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn.
3. Rhaid i aelod dirprwyol, a enwebwyd o dan reoliad 10(3), fod yn aelod neu swyddog o'r un awdurdod addysg lleol â'r aelod neu'r swyddog sy'n enwebu.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ar gyfer sefydlu fforymau derbyn.
Mae rheoliad 3 yn disgrifio rôl fforwm. Dyma yw ei rôl: ystyried y trefniadau derbyn presennol o fewn ardal fforwm; hybu cytundeb ar faterion derbyn; ystyried y dogfennau ar dderbyn a gyhoeddir gan bob awdurdod derbyn; monitro derbyn plant wedi'u gwahardd, plant sy'n derbyn gofal, plant ag anghenion addysgol arbennig a phlant sy'n cyrraedd y tu allan i'r cylch derbyn arferol; ac ystyried unrhyw faterion derbyn eraill sy'n codi.
Mae rheoliad 4 yn sefydlu'r grwpiau o ysgolion a gynrhychiolir fel aelodau craidd y fforwm. Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer aelodaeth y fforwm. Ffurfir yr aelodaeth o aelodau craidd ac aelodau eraill, a benodir gan yr awdurdod. Penodir yr aelodau sy'n cynrychioli esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ac esgobaeth yr Eglwys Gatholig yn dilyn enwebiad. Mae rheoliad 5(8) yn galluogi'r aelodau craidd i wahodd partïon eraill â buddiant i ddod i gyfarfod o'r fforwm.
Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cyfnod yr aelodau yn eu swydd. Rhaid peidio â phenodi aelod craidd am gyfnod hwy na phedair blynedd a rhaid iddo adael ei swydd yn ystod y cyfnod hwn os yw'n peidio â bod yn aelod o'r corff y mae'n ei gynrychioli, neu os caiff ei symud o'i swydd yn dilyn argymhelliad yr aelodau craidd. Bydd person a benodwyd yn dilyn enwebiad yn peidio â bod yn aelod os yw'r corff a'i enwebodd o'r farn na ddylai mwyach fod yn aelod. Penderfynir ar gyfnod swydd yr aelodau eraill gan yr aelodau craidd. Bydd swydd pob aelod yn dod i ben os diddymir y fforwm o ganlyniad i sefydlu cyd-fforwm.
Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer ethol cadeirydd ac is-gadeirydd yng nghyfarfod cyntaf y fforwm. Gall y cadeirydd a'r is-gadeirydd fod yn aelodau o'r fforwm neu beidio, a phan beidiant â dal eu swyddi gellir eu hailethol. Cânt ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ysgrifennydd i'r perwyl hwnnw. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer penodi ysgrifennydd i'r fforwm, a enwebir gan yr awdurdod, ond rhaid iddo beidio â bod yn aelod o'r fforwm.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r fforwm gyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y Rheoliadau caiff yr aelodau craidd reoleiddio eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer cyfarfodydd. Mae rheoliad 10 yn galluogi aelod i enwebu aelod arall i fynychu'r cyfarfodydd yn ei absenoldeb.
Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i fforwm roi cyngor i bob awdurdod derbyn ac ysgolion o fewn ei ardal, a threfnu bod y cyngor hwnnw ar gael i unrhyw berson arall y gall fod ganddo fuddiant. Mae rheoliad 12 yn galluogi awdurdodau i ffurfio cyd-fforymau, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod ddiddymu fforwm sy'n bodoli cyn sefydlu cyd-fforwm. Mae'r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i gyd-fforwm gyda'r addasiadau hynny a nodir yn yr Atodlen. Mae rheoliad 13 yn galluogi fforwm i benderfynu cyfansoddiad a gweithdrefn ar gyfer is-bwyllgor a sefydlir gan awdurdod o dan adran 85A(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
1998 p.31. Mewnosodwyd adran 85(A) gan adran 46 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Ar gyfer diffiniad “prescribed” a “regulations” gweler adran 142 o Ddeddf 1998.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.
O.S. 1999/2242 (Cy.2) a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2263 (Cy.164).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: