Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/10/2023.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Tachwedd 2003
Yn dod i rym
28 Tachwedd 2003
Wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3), sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rheoliadau cymhwyswyd yn rhannol (ynghyd ag addasiadau) (G.I.) (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Retail Movement Scheme: Public Health, Marketing and Organic Product Standards and Miscellaneous Provisions) Regulations 2023 (O.S. 2023/959), rhlau. 1(2), 4(b), Atod. 2 (ynghyd â rhlau. 7, 8)
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003, a dônt i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru'n unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw'r ystyr sydd iddo yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw gynnyrch coco neu siocled a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1, fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn i'r Atodlen honno ac unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 3 ac Atodlen 2 sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw; ac ystyr “cynnyrch siocled dynodedig” a “chynnyrch coco dynodedig” yw unrhyw gynnyrch o'r fath sydd yn gynnyrch siocled neu'n gynnyrch coco yn y drefn honno;
F1...
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”)yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —
at ddibenion ailwerthu,
at ddibenion sefydliad arlwyo, neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig rhywbeth ar werth neu ei ddatgelu ar gyfer ei werthu neu ei gael yn eich meddiant i'w werthu a dehonglir “gwerthiant ” (“sale”) yn unol â hynny;
F1...
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu a phrosesu neu drin o unrhyw fath;
[F2ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;]
F3...
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle, wrth gynnal busnes, y caiff bwyd ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; a
nid yw “sylweddau bwytadwy eraill” (“other edible substances”) yn cynnwys brasterau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu lenwad unrhyw gynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 neu o eitem 10(a) o Atodlen 1;
(2) Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif ei ddehongli fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (26.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 7(2)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 29(b)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (13.12.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 29(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ceir ychwanegu brasterau llysiau, heblaw saim coco, a bennir yn Atodlen 2 at y cynhyrchion siocled hynny a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o Atodlen 1.
(2) Ni chaiff ychwanegyn yn unol â pharagraff (1) fod yn fwy na 5 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, ar ôl tynnu cyfanswm pwysau unrhyw sylweddau bwytadwy eraill a ddefnyddir yn unol â Nodyn 1 o Atodlen 1, heb leihau isafswm cynnwys y saim coco neu gyfanswm y solidau coco powdr.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
4. Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
5. Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label, pa un a yw ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, os yw'r label yn ddisgrifiad neilltuedig neu'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig, neu os yw'r label yn dwyn neu'n cynnwys disgrifiad neilltuedig neu rywbeth sy'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg i ddisgrifiad neilltuedig onid yw —
(a)y bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;
[F4(b)y disgrifiad hwnnw, neu’r peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw’n cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r sylwedd y mae’n cyfeirio ato ond yn un o gynhwysion y bwyd hwnnw;
(c)y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r bwyd hwnnw’n gynnyrch dynodedig ac nad yw’n cynnwys cynnyrch dynodedig; neu
(ch)bod y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio i ddynodi’r bwyd yn unol â’r arferion sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig ac na all y bwyd gael ei ddrysu â chynnyrch a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1.]
Diwygiadau Testunol
F4Rhl. 5(b)-(ch) wedi ei amnewid ar gyfer (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 30
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
6.—(1) Heb ragfarnu [F5Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011] yn gyffredinol, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig onid yw'r manylion canlynol wedi'u marcio arno neu ar label ynghlwm wrtho —
(a)yn ddarostyngedig i baragraffau (2)(a) a (3) isod, ddisgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch hwnnw;
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 7, yn achos cynnyrch siocled dynodedig sydd, yn unol â rheoliad 3, yn cynnwys brasterau llysiau heblaw saim coco, ddatganiad amlwg a hawdd ei ddarllen sy'n dweud “contains vegetable fats in addition to cocoa butter”;
(c)lle y defnyddir y geiriau “milk chocolate” yn ddisgrifiad neilltuedig neu yn addasiad o'r disgrifiad neilltuedig o gynnyrch siocled dynodedig, dangoser ar y cynnyrch beth yw cynnwys solidau llaeth powdr ar ffurf “milk solids:…% minimum”, ar yr amod —
(i)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 4(a) o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr a ddangosir yn llai na 14 y cant; a
(ii)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 5 o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr yn llai nag 20 y cant;
(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn achos cynnyrch dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(c), 2(d), 2(e), 3, 4, 5, 8 neu 9 o Atodlen 1, dangoser beth yw cyfanswm cynnwys solidau coco powdr ar ffurf “cocoa solids…% minimum”;
(d)yn achos cynnyrch coco a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(b) neu 2(e), dangoser beth yw'r cynnwys saim coco.
(2) Pan werthir cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 7 a 10 o Atodlen 1 mewn pecyn amrywiaeth —
(a)ceir rhoi, yn lle'r disgrifiad neilltuedig, “assorted chocolates” neu “assorted filled chocolates” neu enw tebyg; a
(b)caiff y rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol gan [F6Erthygl 9(1)(b) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011] eu nodi ar fwyd neu ar label bwyd fod yn un rhestr o gynhwysion ar gyfer yr holl gynhyrchion yn y pecyn amrywiaeth.
(3) At y disgrifiadau neilltuedig “chocolate”, “milk chocolate” a “couverture chocolate” ceir ychwanegu gwybodaeth neu ddisgrifiadau sy'n ymwneud â meini prawf ansawdd ar yr amod bod y cynnyrch yn cynnwys —
(a)yn achos y disgrifiad neilltuedig “chocolate”, dim llai na chyfanswm o 43 y cant o solidau coco powdr, gan gynnwys dim llai na 26 y cant o saim coco;
(b)yn achos y disgrifiad neilltuedig “milk chocolate”, dim llai na chyfanswm o 30 y cant o solidau coco powdr a dim llai na 18 y cant o solidau llaeth powdr a gafwyd drwy ddadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl laeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu laeth sgim, neu hufen, neu a gafwyd o hufen, menyn neu fraster llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, yn cynnwys dim llai na 4.5 y cant o fraster llaeth;
(c)yn achos y disgrifiad neilltuedig “couverture chocolate”, dim llai nag 16 y cant o solidau coco powdr di-fraster.
(4) Caiff cyfanswm cynnwys solidau coco y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(ch) uchod ei nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar label y cynnyrch ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau sylweddau bwytadwy eraill y darparwyd ar eu cyfer yn Nodyn 1 o Atodlen 1 ond heb dynnu i ffwrdd bwysau unrhyw gynhwysyn a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 yn un o gynhwysion y cynnyrch hwnnw neu bwysau unrhyw fraster llysiau a ychwanegir yn unol â rheoliad 3.
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn rhl. 6(1) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 31(a)
F6Geiriau yn rhl. 6(2)(b) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 31(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
7.—F7(1) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Bydd yr wybodaeth y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(b) o reoliad 6 ei nodi ar gynnyrch siocled dynodedig neu ar ei label —
(a)yn yr un maes gwelediad â'r rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol eu nodi ar y cynnyrch neu ei label gan [F8Erthygl 9(1)(b) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011];
(b)yn gyfan gwbl ar wahân i'r rhestr honno;
(c)mewn llythrennau trwm nad ydynt yn llai o faint na'r llythrennau a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhestr; ac
(ch)wedi'i lleoli yn agos at y disgrifiad neilltuedig, a allai ymddangos hefyd mewn man arall ar yr hyn a farciwyd neu ar y label.
Diwygiadau Testunol
F7Rhl. 7(1) wedi ei dirymu (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 6 Rhn. 1
F8Geiriau yn rhl. 7(2)(a) wedi eu hamnewid (26.7.2018) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 7(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
8.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 5 neu 6 yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn yn ei ardal ac yn eu gweithredu.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
F99. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F9Rhl. 9 wedi ei dirymu (1.1.2006) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3254), rhl. 1, Atod. 6 Rhn. 2
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
10. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(c)adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth redeg busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r math a grybwyllir yn yr is-adran fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(ff)adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a
(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
11.—F10(1) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Caiff y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976(4) eu hepgor (i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru)
(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982(5), yn Atodlen 1;
(b)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(6), yn Atodlen 1 Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3 Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;
(c)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(7)), yn Atodlen 1, Rhan I;
(ch)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymiadau) 1992(8), yn Atodlen 1 Rhan I;
(d)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(9)), yn Atodlen 9;
F11(dd). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(e)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(10), yn rheoliad 14(1);
(f)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001(11), yn rheoliad 9(2).
(3) Yn Atodlen 9 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) caiff y cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982(12)) ei hepgor.
(4) I'r graddau y mae'r Rheoliadau y maent yn ymddangos ynddynt yn gymwys i Gymru, yn lle'r cyfeiriadau canlynol i Gyfarwyddeb 73/241/EEC(13) caiff cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2000/36/EC(14)) eu rhoi —
(a)yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(15), yn Atodlen 2;
(b)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(16), yn Atodlen 3 ac Atodlen 7.
(5) Dirymir drwy hyn Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 a Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru).
Diwygiadau Testunol
F10Rhl. 11(1) wedi ei dirymu (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 6 Rhn. 1
F11Rhl. 11(2)(dd) wedi ei dirymu (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 6 Rhn. 1
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
F1212. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F12Rhl. 12 wedi ei hepgor (26.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 7(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
Rheoliadau 2, 3 a 6
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
Nodiadau 1. — (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 3 a pharagraph (2) o'r Nodyn hwn, ceir ychwanegu sylweddau bwytadwy eraill at y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o''r Atodlen hon: Ar yr amod nad yw'r paragraff hwn yn awdurdodi ychwanegu — (a) saim anifeiliaid a pharatodau a geir ohonynt nad ydynt yn deillio o laeth yn unig; neu (b) blodiau, starts mewn gronynnau neu starts powdr ac eithrio'n unol â'r diffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 8 a 9 o'r Atodlen hon; neu (c) sylweddau bwytadwy eraill a bod y cyfrannau ohonynt a ychwanegir yn fwy na 40 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig. (2) Dim ond y cyflasynnau hynny nad ydynt yn dynwared blas siocled neu saim llaeth y ceir eu hychwanegu at y cynhyrchion dynodedog a bennir yng nholofn 2 o eitemau 2, 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon. 2. — (1) Caiff isafswm cynnwys y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon eu cyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon. (2) Yn achos y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon, caiff isafswm y cynhwysion ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon, yn ogystal â phwysau'r llenwad. (3) Caiff cynnwys siocled y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon ei gyfrifo mewn perthynas â chyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig, yn cynnwys y llenwad. 3. Yn yr Atodlen hon, mae “sugars” yn cynnwys siwgrau yr ymdrinnir â hwy yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC(18) a siwgrau eraill. | |
1. Cocoa butter | Y saim a geir o ffa coco neu rannau o ffa coco y mae iddo'r nodweddion canlynol:—
|
2.—(a) Cocoa powder neu Cocoa | Y cynnyrch a geir o droi ffa coco sydd wedi'u glanhau, y plisgyn wedi'i dynnu, a'r ffa wedi'u rhostio, yn bowdr ac na yw llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo yn unol â phwysau'r deunydd sych, ac nad yw mwy na 9 y cant ohono'n ddwr. |
(b)Fat-reduced cocoa neu Fat-reduced cocoa powder | Coco powdr y mae llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo'n unol â phwysau'r deunydd sych. |
(c)Powdered chocolate neu Chocolate in powder | Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 32 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
(ch)Drinking chocolate neu Sweetened cocoa neu Sweetened cocoa powder | Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
(d)Fat-reduced drinking chocolate neu Fat-reduced sweetened cocoa neu Fat-reduced sweetened cocoa powder | Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a bennir yn eitem 2(b) a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr o'r fath. |
3.—(a) Chocolate | (a)Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco a siwgrau ac, yn ddarostyngedig i eitem 3(b), nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco, a dim llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych. |
(b)Os ychwanegir at “Chocolate” (i)“vermicelli” neu “flakes” | (b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni ac nad oes llai na chyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 12 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych. |
(ii)“couverture” | (ii)Cynnyrch nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 31 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 2.5 y cant ohono'n solidau coco difraster sych. |
(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja” | (iii)Y cynnyrch siocled cnau a geir (1) o siocled y mae o leiaf cyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych ac isafswm o 8 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n solidau coco difraster sych, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod y gyfran o'r rheini'n gyfran o'r fath fel bod 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys dim llai nag 20 gram a dim mwy na 40 gram o gnau cyll; gellir fod wedi ychwanegu ato —
|
4.—(a) Milk chocolate | (a)Y cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth ac, yn ddarostyngedig i eitem 4(b) —
|
(b)Os ychwanegir at “Milk chocolate” — (i)“vermicelli” neu “flakes” | (b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni nad yw llai na chyfanswm o 20 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, dim llai na 12 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl ac nad yw llai na chyfanswm o 12 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth). |
(ii)“couverture” | (ii)Cynnyrch y mae o leiaf cyfanswm o 31 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth). |
(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja” | (iii)Y cynnyrch siocled llaeth cnau a geir (1) o siocled llaeth y mae isafswm o 10 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych, a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu' gyfan gwbl, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod cyfran y rheini'n gyfran o'r fath fel nad yw 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys llai na 15 gram ac nid mwy na 40 gram o gnau cyll; a gellid bod wedi ychwanegu ato gnau almon, cnau cyll a chnau o fathau eraill, naill ai'n gyfan neu'n ddarnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch. |
(c)Os rhoddir yn lle “Milk” — (i)“cream” | (c)(i)Cynnyrch y mae isafswm o 5.5 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth. |
(ii)“skimmed milk” | (ii)Cynnyrch nad yw mwy nag 1 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth. |
5. Family milk chocolate neu Milk chocolate | Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth y mae —
|
6. White chocolate | Cynnyrch a geir o saim coco, llaeth neu gynhyrchion llaeth a siwgrau ac y mae nid llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco ac nid llai na 14 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn, neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac y mae nid llai na 3.5 y cant ohono'n saim llaeth. |
7. Filled chocolate neu Chocolate with ... ... ... ... filling neu Chocolate with ... ... ... ... centre | Cynnyrch â llenwad, os cynnyrch a bennir yng ngholof 2 o eitem 3, 4, 5 or 6 o'r Atodlen hon yw'r rhan allanol ohono ac os nad yw'r rhan allanol honno'n fwy na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch â llenwad, os cynhyrchion wedi'u pobi, toes, bisged neu iâ bwytadwy sydd y tu mewn iddo. |
8. Chocolate a la taza | Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant ohono'n solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych, ac nid mwy nag 8 y cant ohono'n flawd neu'n starts. |
9. Chocolate familiar a la taza | Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu o starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 30 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 12 y cant ohono'n solidau coco difraster sych ac nid mwy na 18 y cant yn flawd neu'n starts. |
10. A chocolate neu A praline | Cynnyrch nad yw'n fwy o faint nag un llond ceg ac sy'n cynnwys:— (a) y cynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 o'r Atodlen hon; neu (b) un siocled neu gyfuniad neu gymysgedd o siocled o fewn ystyr unrhyw ddiffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5 a 6 o'r Atodlen hon ac unrhyw sylwedd bwytadwy arall, ar yr amod nad yw'r siocled yn llai na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch. |
Rheoliadau 2 and 3
1. Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol yr Atodlen hon, seimiau sy'n cyfateb i saim coco ac sy'n cydymffurfio â'r meini prawf canlynol, boed hynny wrthynt eu hunain neu'n gyfuniad ohonynt, yw'r seimiau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3:—LL+C
(a)seimiau llysiau nad lorel mohonynt, sy'n gyfoethog o ran triglyseridau cymesur monoannirlawn o'r math POP, POSt a StOSt;
(b)gellir eu cymysgu ni waeth beth fyddo'u cyfrannau gyda saim coco, ac maent yn gydweddol â'i nodweddion ffisegol (ymdoddbwynt a thymheredd crisialu, cyfradd toddi, yr angen am gyfnod tymheru);
(c)fe'u ceir yn unig trwy broses coethi neu broses ffracsiynu, neu'r ddwy, sy'n hepgor addasu'r strwythur triglyserid yn ensymatig.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
2. I gydymffurfio â'r meini prawf a bennir ym mharagraff 1 uchod, ceir defnyddio'r seimiau llysiau canlynol, a geir o'r planhigion a restrir yn y Tabl isod:—LL+C
Enw arferol y saim llysiau | Enw gwyddonol y planhigion y gellir cael y seimiau a restrir ohonynt |
---|---|
1. Illipe, Coeden wêr Borneo neu TengkawangLL+C | Shorea spp. |
2. Olew palmwyddLL+C | Elaeis guineensisElaeis olifera |
3. SalLL+C | Shorea robusta |
4. SheaLL+C | Burtyrospermum parkii |
5. Kokum gurgiLL+C | Garcinia indica |
6. Cnewllyn mangoLL+C | Mangifera indica |
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
3. Gellir defnyddio olew cneuen goco mewn siocled ar gyfer cynhyrchu hufen iâ a chynhyrchion tebyg wedi'u rhewi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
4. Yn yr Atodlen hon —LL+C
ystyr “P” yw asid palmitig;
ystyr “O” yw asid oleig;
ystyr “St” yw asid stearig.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn cysylltiad â chynhyrchion coco a siocled a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19). Maent yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau —
(a)yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer cynhyrchion coco a siocled dynodedig (rheoliad 2 ac Atodlen 1);
(b)yn pennu'r brasterau llysiau, ac eithrio saim coco, y gellir eu hychwanegu at gynhyrchion siocled dynodedig (rheoliad 3 a Atodlen 2);
(c)yn cymhwyso'r Rheoliadau at gynhyrchion coco a siocled dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 4);
(ch)yn cyfyngu ar ddefnyddio disgrifiadau neilltuedig a hynny i'r cynhyrchion coco a siocled y mae'r disgrifiadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 5);
(d)yn ei gwneud yn ofynnol bod disgrifiadau neilltuedig a datganiadau penodedig yn cael eu cymhwyso at gynhyrchion coco a siocled dynodedig ac yn rhagnodi'r dull o'u marcio neu o'u labelu (rheoliadau 6 a 7);
(dd)yn pennu cosb, cyfrifoldebau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reoli bwydydd yn swyddogol (OJ Rhif L186 30.6.1989, t.23) a'r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd, amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (rheoliadau 8 a 9);
(e)yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10);
(f)yn dileu'r esemptiad i gynhyrchion coco a siocled yn Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, dirymu'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 11 a 12).
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi ei osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
Trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd yn arferadwy yn y gorffennol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.
O.S. 1976/541; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1982/17, 1982/1727, 1990/2486, 1991/1476, 1992/2596, 1995/3187, 1995/3267, 1996/1499 a 2002/329(Cy.42).
O.S. 1982/1727 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1990/2486 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1992/1476 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1992/2596 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1995/3187; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/1413, 1999/1136, 2001/1440(Cy.102), 2001/1787(Cy.128) a 2002/329(Cy.42).
OJ Rhif L228 16.8.1973, t.23, fel y'i dirymwyd yn effeithiol o 3 Awst 2003 gan Gyfarwyddeb 2000/36/EC (OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19).
OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19.
O.S. 1995/3124 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1995/3187; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1136.
OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: