Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau 2, 3 a 6

ATODLEN 1CYNHYRCHION COCO A SIOCLED A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Colofn 1Colofn 2
Disgrifiadau NeilltuedigCynhyrchion Dynodedig

Nodiadau

1.

(1)

Yn ddarostyngedig i reoliad 3 a pharagraph (2) o'r Nodyn hwn, ceir ychwanegu sylweddau bwytadwy eraill at y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o''r Atodlen hon:

Ar yr amod nad yw'r paragraff hwn yn awdurdodi ychwanegu —

(a)

saim anifeiliaid a pharatodau a geir ohonynt nad ydynt yn deillio o laeth yn unig; neu

(b)

blodiau, starts mewn gronynnau neu starts powdr ac eithrio'n unol â'r diffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 8 a 9 o'r Atodlen hon; neu

(c)

sylweddau bwytadwy eraill a bod y cyfrannau ohonynt a ychwanegir yn fwy na 40 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig.

(2)

Dim ond y cyflasynnau hynny nad ydynt yn dynwared blas siocled neu saim llaeth y ceir eu hychwanegu at y cynhyrchion dynodedog a bennir yng nholofn 2 o eitemau 2, 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon.

2.

(1)

Caiff isafswm cynnwys y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon eu cyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon.

(2)

Yn achos y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon, caiff isafswm y cynhwysion ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon, yn ogystal â phwysau'r llenwad.

(3)

Caiff cynnwys siocled y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon ei gyfrifo mewn perthynas â chyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig, yn cynnwys y llenwad.

3.

Yn yr Atodlen hon, mae “sugars” yn cynnwys siwgrau yr ymdrinnir â hwy yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC(1) a siwgrau eraill.

1.  Cocoa butter

Y saim a geir o ffa coco neu rannau o ffa coco y mae iddo'r nodweddion canlynol:—

  • nad yw mwy na 1.75 y cant o'i gynnwys yn asid brasterog rhydd (wedi'i fynegi fel asid oleig); aco ran saim coco wedi'i wasgu, nad yw mwy na 0.35 y cant ohono'n ddeunydd na ellir ei droi'n sebon (a bennir trwy ddefnyddio ether petroliwm);

  • neuo ran saim coco arall, nad yw mwy na 0.5 y cant ohono'n ddeunydd na ellir ei droi'n sebon (ac wedi'i bennu yn yr un modd).

2.—(aCocoa powder neu Cocoa

Y cynnyrch a geir o droi ffa coco sydd wedi'u glanhau, y plisgyn wedi'i dynnu, a'r ffa wedi'u rhostio, yn bowdr ac na yw llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo yn unol â phwysau'r deunydd sych, ac nad yw mwy na 9 y cant ohono'n ddwr.

(b)Fat-reduced cocoa neu Fat-reduced cocoa powder

Coco powdr y mae llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo'n unol â phwysau'r deunydd sych.

(c)Powdered chocolate neu Chocolate in powder

Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 32 y cant o'i gynnwys yn goco powdr.

(ch)Drinking chocolate neu Sweetened cocoa neu Sweetened cocoa powder

Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr.

(d)Fat-reduced drinking chocolate neu Fat-reduced sweetened cocoa neu Fat-reduced sweetened cocoa powder

Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a bennir yn eitem 2(b) a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr o'r fath.

3.—(aChocolate

(a)Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco a siwgrau ac, yn ddarostyngedig i eitem 3(b), nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco, a dim llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych.

(b)Os ychwanegir at “Chocolate”

(i)“vermicelli” neu “flakes”

(b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni ac nad oes llai na chyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 12 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych.

(ii)“couverture”

(ii)Cynnyrch nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 31 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 2.5 y cant ohono'n solidau coco difraster sych.

(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja”

(iii)Y cynnyrch siocled cnau a geir (1) o siocled y mae o leiaf cyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych ac isafswm o 8 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n solidau coco difraster sych, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod y gyfran o'r rheini'n gyfran o'r fath fel bod 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys dim llai nag 20 gram a dim mwy na 40 gram o gnau cyll; gellir fod wedi ychwanegu ato —

  • laeth, neu solidau llaeth sych a geir drwy anweddu, neu'r ddau, a bod y gyfran o'r rheini'n gyfran o'r fath fel nad yw mwy na 5 y cant o gynnwys y cynnyrch gorffenedig yn solidau llaeth sych;

  • cnau almon, cnau cyll a chnau o fathau gwahanol, naill ai'n gyfan neu mewn darnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch.

4.—(aMilk chocolate

(a)Y cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth ac, yn ddarostyngedig i eitem 4(b) —

  • nad yw llai na chyfanswm o 25 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych;

  • nad yw llai nag 14 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl;

  • nad yw llai na 2.5 y cant o'i gynnwys yn solidau coco difraster sych;

  • nad yw llai na 3.5 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth;

  • nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth).

(b)Os ychwanegir at “Milk chocolate” —

(i)“vermicelli” neu “flakes”

(b)(i)Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni nad yw llai na chyfanswm o 20 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, dim llai na 12 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl ac nad yw llai na chyfanswm o 12 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth).

(ii)“couverture”

(ii)Cynnyrch y mae o leiaf cyfanswm o 31 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth).

(iii)“Gianduja” neu un o ddeilliannau “Gianduja”

(iii)Y cynnyrch siocled llaeth cnau a geir (1) o siocled llaeth y mae isafswm o 10 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych, a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu' gyfan gwbl, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod cyfran y rheini'n gyfran o'r fath fel nad yw 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys llai na 15 gram ac nid mwy na 40 gram o gnau cyll; a gellid bod wedi ychwanegu ato gnau almon, cnau cyll a chnau o fathau eraill, naill ai'n gyfan neu'n ddarnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch.

(c)Os rhoddir yn lle “Milk” —

(i)“cream”

(c)(i)Cynnyrch y mae isafswm o 5.5 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth.

(ii)“skimmed milk”

(ii)Cynnyrch nad yw mwy nag 1 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth.

5.  Family milk chocolate neu Milk chocolate

Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth y mae —

  • nid llai na chyfanswm o 20 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych;

  • nid llai nag 20 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl;

  • nid llai na 2.5 y cant o'i gynnwys yn solidau coco difraster sych;

  • nid llai na 5 y cant yn saim llaeth;

  • nid llai na chyfanswm o 25 y cant yn saim (saim coco a saim llaeth).

6.  White chocolate

Cynnyrch a geir o saim coco, llaeth neu gynhyrchion llaeth a siwgrau ac y mae nid llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco ac nid llai na 14 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn, neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac y mae nid llai na 3.5 y cant ohono'n saim llaeth.

7.  Filled chocolate neu Chocolate with ... ... ... ... filling neu Chocolate with ... ... ... ... centre

Cynnyrch â llenwad, os cynnyrch a bennir yng ngholof 2 o eitem 3, 4, 5 or 6 o'r Atodlen hon yw'r rhan allanol ohono ac os nad yw'r rhan allanol honno'n fwy na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch â llenwad, os cynhyrchion wedi'u pobi, toes, bisged neu iâ bwytadwy sydd y tu mewn iddo.

8.  Chocolate a la taza

Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant ohono'n solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych, ac nid mwy nag 8 y cant ohono'n flawd neu'n starts.

9.  Chocolate familiar a la taza

Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu o starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 30 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 12 y cant ohono'n solidau coco difraster sych ac nid mwy na 18 y cant yn flawd neu'n starts.

10.  A chocolate neu A praline

Cynnyrch nad yw'n fwy o faint nag un llond ceg ac sy'n cynnwys:—

(a)

y cynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 o'r Atodlen hon; neu

(b)

un siocled neu gyfuniad neu gymysgedd o siocled o fewn ystyr unrhyw ddiffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5 a 6 o'r Atodlen hon ac unrhyw sylwedd bwytadwy arall, ar yr amod nad yw'r siocled yn llai na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch.

Rheoliadau 2 and 3

ATODLEN 2SEIMIAU LLYSIAU A AWDURDODIR

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol yr Atodlen hon, seimiau sy'n cyfateb i saim coco ac sy'n cydymffurfio â'r meini prawf canlynol, boed hynny wrthynt eu hunain neu'n gyfuniad ohonynt, yw'r seimiau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3:—

(a)seimiau llysiau nad lorel mohonynt, sy'n gyfoethog o ran triglyseridau cymesur monoannirlawn o'r math POP, POSt a StOSt;

(b)gellir eu cymysgu ni waeth beth fyddo'u cyfrannau gyda saim coco, ac maent yn gydweddol â'i nodweddion ffisegol (ymdoddbwynt a thymheredd crisialu, cyfradd toddi, yr angen am gyfnod tymheru);

(c)fe'u ceir yn unig trwy broses coethi neu broses ffracsiynu, neu'r ddwy, sy'n hepgor addasu'r strwythur triglyserid yn ensymatig.

2.   I gydymffurfio â'r meini prawf a bennir ym mharagraff 1 uchod, ceir defnyddio'r seimiau llysiau canlynol, a geir o'r planhigion a restrir yn y Tabl isod:—

Enw arferol y saim llysiauEnw gwyddonol y planhigion y gellir cael y seimiau a restrir ohonynt

1.  Illipe, Coeden wêr Borneo neu Tengkawang

Shorea spp.

2.  Olew palmwydd

Elaeis guineensisElaeis olifera

3.  Sal

Shorea robusta

4.  Shea

Burtyrospermum parkii

5.  Kokum gurgi

Garcinia indica

6.  Cnewllyn mango

Mangifera indica

3.  Gellir defnyddio olew cneuen goco mewn siocled ar gyfer cynhyrchu hufen iâ a chynhyrchion tebyg wedi'u rhewi.

4.  Yn yr Atodlen hon —

  • ystyr “P” yw asid palmitig;

  • ystyr “O” yw asid oleig;

  • ystyr “St” yw asid stearig.

(1)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources