Search Legislation

Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 706 (Cy.85)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

12 Mawrth 2003

Yn dod i rym

28 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 76(4) a 140(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac sydd erbyn hyn wedi eu breinio ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r Rheoliadau

2.  Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 neu wedi hynny, diwygir Rheoliad 3 o Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000(3)

(a)drwy hepgor paragraff (d); a

(b)drwy ychwanegu ar y diwedd—

(j)Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 78 a 79 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu bod grant cynnal refeniw yn daladwy i unrhyw gorff sy'n darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol ac sy'n gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 drwy dynnu Corff Cydgysylltu yr Awdurdodau Lleol ar Fwyd a Safonau Masnach oddi ar y rhestr o gyrff penodedig a thrwy ychwanegu Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol. Mae'r diwygiadau yn effeithiol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 neu wedi hynny.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources