- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
19 Mawrth 2003
Yn dod i rym
2 Ebrill 2003
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriad at y “prif Orchymyn” yn gyfeiriad at Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999(3).
3. Yn erthygl 3 (Mwyafswm disgowntau) o'r prif Orchymyn yn lle'r ffigur “£24,000” rhodder y ffigur “£16,000”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (4)
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Gall fod gan berson sy'n arfer yr hawl i brynu tŷ annedd yng Nghymru yr hawl o dan Ran V o Ddeddf Tai 1985 (“y Ddeddf”), o dan adrannau 129 i 131 o Atodlen 4 i'r Ddeddf, i ddisgownt sy'n gymesur â chanran o'r pris cyn disgownt.
Mae adran 131 o'r Ddeddf yn darparu terfynau ar swm y disgownt y mae gan brynwr arfaethedig hawl iddo ac mae adran 131(2) yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud Gorchymyn yn rhagnodi'r mwyafswm y gellir gostwng y pris sy'n daladwy am y tŷ annedd o dan y cynllun hawl i brynu. Breinir y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
O dan adran 131(2), gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau ar y Disgownt) (Cymru) 1999 (“y prif Orchymyn”) a ragnododd, ymysg pethau eraill, mai mwyafswm y disgownt hwn oedd £24,000. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn drwy ddarparu mai mwyafswm y disgownt sydd ar gael yw £16,000.
Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: