- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TIR COMIN, CYMRU
Wedi'u gwneud
2 Ebrill 2003
Yn dod i rym
1 Mai 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ffurflen” ( “the Form”) yw Ffurflen 21 fel y cafodd ei hamnewid yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau;
ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) 1966(3).
2. Yn Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau—
(a)yn y golofn gyntaf, yn lle'r geiriau “ten pounds” rhodder y geiriau “twenty pounds”; a
(b)yn yr ail golofn, yn lle'r symiau “£6.00” a “50p” rhodder y symiau “£14.00” a “£1.00” yn eu trefn.
3. Yn y rhan o'r Ffurflen o dan y pennawd “FEES”, yn lle'r symiau “£6.00”, “50p” a “£10.00”, rhodder y symiau “£14.00”, “£1.00” a “£20.00” yn eu trefn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Ebrill 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu, mewn perthynas â Chymru, ar gyfer cynyddu'r ffioedd a ragnodwyd yn Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471), a gynyddwyd o'r blaen gan Reoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1980 (O.S. 1980/1195) a Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1989 (O.S. 1989/2167)), am chwiliadau yng Nghofrestrau Tir Comin a Meysydd y Trefi a'r Pentrefi ac am ddarparu copïau wedi'u hardystio o gofnodion yn y Cofrestrau.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r symiau a bennir yn Nhabl y Ffioedd sydd ar ddiwedd y ffurflen yn yr Atodlen i O.S. 1989/2167 yn unol â hynny.
1965 p.64. Gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 22(1).
Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1966/1471; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1970/1996, 1980/1195 a 1989/2167.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: