RHAN 11LL+CDatganiadau Brys
Brigiadau clefyd mewn trydydd gwledyddLL+C
59.—(1) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall fod clefyd y cyfeirir ato yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 82/894/EEC ar hysbysu o glefydau anifeiliaid o fewn y Gymuned(1), milhaint neu glefyd arall neu ffenomen neu amgylchiad sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd yn bresennol mewn unrhyw drydedd wlad, neu pan fydd ganddo neu ganddi seiliau rhesymol dros amau ei fod yn bresennol, caiff atal unrhyw gynnyrch o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r drydedd wlad honno rhag cael ei gyflwyno i Gymru, neu caiff osod amodau ar ei gyflwyno, drwy ddatganiad ysgrifenedig.
(2) Rhaid i ddatganiad o'r fath fod mewn ysgrifen a rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn y modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn dda a rhaid iddo bennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.
(3) Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.
(4) Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.
(5) Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni sydd wedi'i phennu yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.
(6) Caniateir i ddatganiad gael ei addasu, ei atal neu ei ddirymu drwy ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, i'r graddau y mae'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 59 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1
OJ Rhif L378, 31.12.82, t.58, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 807/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.36).