RHAN 12LL+CTramgwyddau a Chostau
RhwystroLL+C
60.—(1) Ni chaiff neb—
(a)rhwystro unrhyw berson yn fwriadol wrth iddo arfer pŵ er a roddwyd gan reoliad 9 neu 10 neu wrth iddo gyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall;
(b)methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd arno yn unol â rheoliad 8 neu 9, neu fethu â rhoi i unrhyw berson, sy'n arfer pŵ er a roddwyd gan y rheoliadau hynny neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall, unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall fod arno angen rhesymol amdano er mwyn arfer y pŵ er neu gyflawni'r swyddogaeth; neu
(c)rhoi i unrhyw berson sy'n arfer pŵ er a roddwyd gan reoliad 8 neu 9 neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei fod yn ffug neu'n gamarweiniol.
(2) Ni fydd paragraff (1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu taflu bai ar y person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 60 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1
Amddiffyniad diwydrwydd dyladwyLL+C
61.—(1) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dorri un o ddarpariaethau'r rheoliadau a restrir yn Atodlen 5, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson o dan ei reolaeth.
(2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu fethiant person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni chaiff y person a gyhuddir, heb ganiatâd y Llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y person a gyhuddir—
(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b)os yw'r person a gyhuddir wedi ymddangos, neu wedi'i ddwyn, o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis ar ôl iddo ymddangos felly am y tro cyntaf,
wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig yn rhoi unrhyw wybodaeth sy'n dangos, neu sy'n helpu i ddangos, pwy yw'r person arall hwnnw, a honno'n wybodaeth a oedd yn ei feddiant ar y pryd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 61 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1
ToriadauLL+C
62. Bydd unrhyw berson—
(a)sy'n torri un o ddarpariaethau'r Rholiadau hyn, ac eithrio —
(i)y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn rheoliadau 8(2) a 19(3) ac sy'n cyfeirio at dalu costau; a
(ii)y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn rheoliadau 23(7), 28, 43(5), 45(2) a 55; neu
(b)sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd iddo o dan y Rheoliadau hyn,
yn euog o dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 62 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1
CosbauLL+C
63.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n euog o'r tramgwydd o dorri rheoliad 60(1)(a) neu (b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu gyfnod yn y carchar heb fod yn fwy na thri mis, neu'r ddau.
(2) Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis neu'r ddau;
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod heb fod yn fwy na dwy flynedd neu'r ddau.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 63 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1
Tramgwyddau gan gyrff corfforaetholLL+C
64.—(1) Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a'i bod wedi'i phrofi bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu oddefiad swyddog corfforaethol i'r corff corfforaethol, neu fod y tramgwydd hwnnw yn dramgwydd y gellid ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran un o swyddogion corfforaethol y corff corfforaethol, bydd y swyddog corfforaethol yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “swyddog corfforaethol” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 64 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1