Search Legislation

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1754 (Cy.187) (C.70)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

7 Gorffennaf 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004 ac mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

Diwrnodau penodedig

2.—(1I'r graddau y mae'n rhoi pwerau i wneud rheoliadau, y diwrnod wedi'r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn yw'r diwrnod a benodir ar gyfer adran 58 i ddod i rym.

(21 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod a benodwyd i'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf ddod i rym—

(a)adran 48 ac Atodlen 4;

(b)adran 57 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(2);

(c)adran 58 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(ch)adran 67(1) a pharagraff 15(1) o Atodlen 5 i'r graddau y maent yn ymwneud â —

(i)paragraff 15(2); a

(ii)y rhan honno o baragraff 15(3) sy'n mewnosod y geiriau “making of direct payments to a person in respect of his securing provision of community care services or services to carers”, a'r cyfeiriadau cysylltiedig at Ran 4 o'r Ddeddf, yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(3);

(d)adran 67(2) a Rhan 3 o Atodlen 6 i'r graddau y maent yn ymwneud a'r cofnodion yn Rhan 3 ynghylch—

(i)Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996(4);

(ii)Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000(5).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6))

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Gorffennaf 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y seithfed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (“Deddf 2001”) mewn perthynas â Chymru yn unig yw'r Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn penodi 1 Tachwedd 2004 yn ddiwrnod pan fydd adran 48 ac adrannau 57 a 58 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) o Ddeddf 2001 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru.

Mae adran 48 yn mewnosod darpariaethau yn Neddf Iechyd 1999 ac sy'n darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud gorchmynion trosglwyddo staff mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a chyrff y GIG ac a wnaed o dan Ddeddf 1999.

Mae adran 57 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad wneud rheoliadau sy'n awdurdodi awdurdodau lleol, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau gofal cymunedol neu wasanaethau ar gyfer gofalwyr yn uniongyrchol, ac mae'n gwneud darpariaeth o ran effaith y rheoliadau hynny.

Mae adran 58 yn mewnosod adran 17A newydd yn Neddf Plant 1989 ac sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad wneud rheoliadau sy'n awdurdodi awdurdodau lleol, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau yn uniongyrchol o dan adran 17 o Ddeddf 1989, ac mae'n gwneud darpariaeth o ran effaith y rheoliadau hynny.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf 2001 sy'n gwneud diwygiadau, a diddymiadau, i ddarpariaethau eraill mewn deddfwriaeth sylfaenol ac yn eu diddymu o ganlyniad i adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2001.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Darpariaeth Deddf 2001Dyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 31 Gorffennaf 2002 (yn rhannol)2002/1475 (Cy.147) (C.41)
Adran 51 Gorffennaf 20022002/1475
Adran 6(3)24 Ionawr 20042004/103 (Cy.10) (C.6)
Adran 111 Rhagfyr 20022002/1475
Adran 1231 Ionawr 20042004/103
Adran 1317 Mawrth 20032003/713 (Cy.87) (C.36)
Adran 1626 Awst 20022002/1919 (C.60)
Adrannau 19 i 261 Gorffennaf 20022002/1475
Adran 2726 Awst 20022002/1919
Adrannau 28 i 391 Gorffennaf 20022002/1475
Adrannau 41 i 431 Gorffennaf 20022002/1475
Adran 49 Adran 50(1)3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) a 1 Ebrill 2004 (gweddill) 8 Ebrill 20022001/3807 (Cy.315) (C.124) a 2004/103 2001/3752 (C.122)
Adran 50(2) i (10)19 Rhagfyr 20012001/3807
Adrannau 51 a 528 Tachwedd 20012001/3752
Adrannau 53 i 551 Ebrill 20032003/939 (Cy.123) (C.50)
Adran 67(1) ac Atodlen 51 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (pob un yn rhannol)2002/1095 (C.26), 2002/1475 a 2002/1919
Adran 67(2) ac Atodlen 61 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (pob un yn rhannol)2002/1095, 2002/1312 (C.36), 2002/1475 a 2002/1919
Atodlenni 2 a 31 Gorffennaf 20022002/1475

Mae'r Gorchmynion a ganlyn wedi cychwyn darpariaethau Deddf 2001 mewn perthynas â Lloegr yn unig: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36); O.S. 2002/2363 (C.77); O.S. 2003/53 (C.3); O.S. 2003/850 (C.46) ac O.S. 2003/2245 (C.87).

(1)

2001 p.15. Rhoddwyd y pwerau i'r “relevant authority” y mae adran 66 o Ddeddf 2001 yn ei ddiffinio fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr.

(2)

Gweler adran 70(2)(c) o Ddeddf 2001.

(4)

1996 p.30; diwygiwyd adran 1 gan adran 5 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources