Search Legislation

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1717 (Cy.132)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

28 Mehefin 2005

Yn dod i rym

29 Mehefin 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 3, 5, 15(3) a 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), ac a freiniwyd ynddo bellach(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 29 Mehefin 2005.

(3Yn y Gorchymyn hwn mae gan “Cymru” yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3), ac mae “dyfroedd Cymru” yn golygu yr ardaloedd morwrol sydd o fewn Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “bar tynnu” (“tow bar”) yw unrhyw ddyfais neu offeryn y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gosod neu ddodi llusgrwyd cregyn bylchog yn sownd i gwch er mwyn galluogi i'r fath lusgrwyd gael ei thynnu gan y cwch.

ystyr “cregyn bylchog” (“scallop”) yw'r rhywogaeth Pecten maximus;

ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(4) neu sydd dan berchenogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;

ystyr “gorchymyn cyfatebol” (“equivalent order”) yw unrhyw orchymyn arall a wneir o dan adrannau 1, 3, 5 neu 15 o'r Ddeddf, ac sy'n creu gwaharddiadau tebyg i unrhyw rai o'r rheini sydd yn erthyglau 3, 4, 5, 6 a 7 o'r Gorchymyn hwn ac sy'n rhychwantu unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig neu sy'n gymwys i unrhyw ran;

ystyr “gwaelodlinau” (“baselines”) yw'r ystyr a roddir i “baselines” yn Neddf Môr Tiriogaethol 1987(5);

ystyr “llusgrwyd cregyn bylchog” (“scallop dredge”) yw unrhyw gyfarpar ac iddo ffrâm anhyblyg yn enau, a lusgir drwy'r dŵr ac a gaiff ei weithgynhyrchu, ei addasu, a'i ddefnyddio neu y bwriedir ei ddefnyddio at bwrpas pysgota am gregyn bylchog.

Cyfyngu ar y nifer o lusgrwydi cregyn bylchog

3.—(1Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig, ar unrhyw adeg, dynnu mwy na 43 llusgrwyd cregyn bylchog ar y naill ochr a'r llall o'r cwch mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sy'n gorwedd o fewn 3 milltir fôr o'r lan, ac fe fesurir y pellter yma o'r gwaelodlinau.

(2Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig, ar unrhyw adeg, dynnu mwy nag 8 llusgrwyd cregyn bylchog y naill ochr a'r llall o'r cwch mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sy'n gorwedd mwy na 3 milltir fôr o'r lan, ac fe fesurir y pellter yma o'r gwaelodlinau.

Cyfyngiad ar faint barau tynnu

4.—(1Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sydd yn gorwedd o fewn 3 milltir fôr o'r lan, (y pellter yma i gael ei fesur o'r gwaelodlinau), gario neu ddefnyddio bar tynnu oni bai fod y bar tynnu yn cydymffurfio ag anghenion paragraff (2);

(2Yr anghenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw'r rhain;

(a)ni chaiff bar tynnu fod yn fwy na 3.8 metr o hyd, a

(b)ble mae bar tynnu yn 3.8 metr neu lai o hyd, ni ddylsai fod wedi ei wneuthur yn y fath fodd fel y gall gael ei osod i fwy na 4 llusgrwyd cregyn bylchog ar yr un pryd.

(3Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, yn unrhyw ddarn o ddyfroedd Cymru sydd yn gorwedd mwy na 3 milltir fôr o'r lan, (y pellter yma i gael ei fesur o'r gwaelodlinau), gario neu ddefnyddio bar tynnu onibai fod y bar tynnu hwnnw yn cydymffurfio ag anghenion pharagraff (4);

(4Yr anghenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw'r rhain:

(a)ni chaiff bar tynnu fod yn fwy na 7.6 metr o ran hyd, a

(b)ble mae'r bar tynnu yn 7.6 metr neu lai o ran hyd, ni ddylsai fod wedi ei wneuthur yn y fath fodd fel y gall gael ei osod i fwy nag 8 llusgrwyd cregyn bylchog ar yr un pryd.

Manyleb llusgrwydi cregyn bylchog

5.—(1Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig gario na thynnu llusgrwyd cregyn bylchog o fewn dyfroedd Cymru onibai mewn perthynas â'r fath lusgrwydo —

(a)bod pob rhan o'i ffrâm yn llai na neu yn gyfartal â 85 centimetr o led;

(b)ei bod yn cynnwys bar danheddog sbringlwythog sy'n ateb y diben, yn weithredol ac yn symudol;

(c)nad yw'r llusgrwyd yn cynnwys unrhyw atodiadau ar ei chefn, ar ei thop neu y tu mewn iddi;

(ch)nad yw'r llusgrwyd yn cynnwys plât plymio neu unrhyw ddyfais debyg arall; a

(d)nad yw cyfanswm pwysau'r llusgrwyd yn cynnwys yr holl ffitiadau heb fod yn fwy na 150 cilogram.

(2Ni chaiff unrhyw gwch pysgota Prydeinig gario neu dynnu llusgrwyd cregyn bylchog o fewn dyfroedd Cymru —

(a)os yw'r llusgrwyd yn 80 centimetr o led neu fwy —

(i)onid yw'r nifer o resi o fodrwyau bol sy'n hongian o'r bar bol heb fod yn fwy nag 8 ar draws;

(ii)os yw'r dannedd i gyd yn mesur 12 milimetr neu lai, onid yw'r nifer o ddannedd ar y bar danheddog heb fod yn fwy na 9;

(iii)os oes unrhyw un o'r dannedd yn mesur mwy na 12 milimetr, onid yw'r nifer o ddannedd ar y bar danheddog heb fod yn fwy nag 8;

(b)os yw'r llusgrwyd yn llai nag 80 centimetr o led —

(i)onid yw'r nifer o resi o fodrwyau bol sy'n hongian o'r bar bol heb fod yn fwy na 6; a

(ii)onid yw'r nifer o ddannedd ar y bar danheddog heb fod yn fwy na 6;

(c)onid oes ganddo ddim mwy nag 1 rhes o fodrwyau bol yn hongian o'r naill ochr a'r llall o'r llusgrwyd yn unionsyth at y modrwyau sy'n hongian o'r bar bol; ac

(ch)onid yw pob dant ar y bar danheddog heb fod yn fwy na —

(i)22 milimetr lle y mae'r llusgrwyd yn 80 centimetr o led neu fwy; neu

(ii)12 milimetr lle y mae'r llusgrwyd yn llai na 80 centimetr o led.

(3Yn yr erthygl hon —

(a)llinell o fodrwyau unigol sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd yw rhes o fodrwyau bol, lle y mae'r fodrwy ar un pen i'r llinell yn hongian naill ai o'r bar bol neu o brif strwythur y llusgrwyd yn unionsyth i'r bar bol;

(b)bar bol yw'r bar sydd wedi'i gysylltu â ffrâm y llusgrwyd sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r bar danheddog ac y mae'r modrwyau bol yn hongian wrtho;

(c)bar danheddog yw'r bar ac arno ddannedd sydd â'u pennau'n pwyntio i lawr ac y bwriedir iddynt gyffwrdd â gwely'r môr pan yw'r llusgrwyd yn weithredol;

(ch)maint dant yw mwyafswm ei led wedi'i fesur yng nghyfeiriad llinell y bar danheddog.

(4Nid yw modrwyau bol a'r teclynnau sy'n eu cysylltu â'i gilydd ac â'r ffrâm i'w hystyried fel atodiadau at ddibenion paragraff (1)(c).

Cyfyngiadau pysgota

6.—(1At ddibenion adran 1(3) o'r Ddeddf, isafswm maint cragen fylchog y gellir ei chario gan gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru yw 110mm.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff unrhyw berson bysgota, cymryd neu ladd cregyn bylchog yn Nyfroedd Cymru yn ystod y cyfnod 1 Mehefin i 31 Hydref gan gynnwys y dyddiadau hynny, ym mhob blwyddyn, drwy unrhyw gyfrwng gan gynnwys plymio.

(3Mewn perthynas â'r flwyddyn galendr 2005, mae'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 2 i gychwyn ar 30 Mehefin.

Mesur cregyn bylchog

7.  At ddibenion erthygl 6, mae maint cragen fylchog i'w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd trwy gyfrwng camau technegol er mwyn diogelu organebau morol bychan(6), a hynny fel y'i newidiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 602/2004 dyddiedig 22 Mawrth 2004(7).

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig

8.—(1At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.

(3Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol fel y'i darllenir gyda'r Ddeddf ac, yn arbennig —

(i)caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad; ac

(ii)caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sydd yng ngwarchodaeth neu ym meddiant y person hwnnw, ac sy'n ymwneud â'r cwch, â'i weithrediadau pysgota neu â gweithrediadau eraill sy'n ategol i hynny, neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;

(iii)at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan y Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd ei angen, yn nhyb y swyddog, i hwyluso'r archwiliad;

(iv)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad â'r cwch, yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath, a gyflwynir neu a ddarganfyddir ar y cwch, at ddibenion galluogi'r ddogfen i gael ei defnyddio'n dystiolaeth mewn achos sy'n ymwneud â'r tramgwydd;

(4Nid oes dim ym mharagraff (3)(iv) yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(5Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog —

(a)mynnu bod meistr y cwch yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd, sef y porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; ac

(b)cadw'r cwch yn y porthladd, neu fynnu bod y meistr yn ei gadw yno;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu yn ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei gadw, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Dirymu

9.  Caiff Gorchymyn Cregyn Bylchog Rhy Fach Eu Maint (yr Arfordir Gorllewinol) 1984(8), Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) 1984(9), a Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) (Amrywio) 1986(10) eu dirymu cyn belled â'u bod yn gymwys o ran Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mehefin 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn sydd yn gymwys o ran Cymru, yn rheoleiddio pysgota am gregyn bylchog yn “nyfroedd Cymru”. Ar gyfer pwrpasau y Gorchymyn hwn diffinir “dyfroedd Cymru” fel yr ardaloedd morwrol sydd o fewn Cymru fel y diffinir gan adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

Mae Erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn cyfyngu ar y nifer o lusgrwydi cregyn bylchog y caiff cychod pysgota Prydeinig eu tynnu.

Mae Erthygl 4 yn pennu y cyfyngiadau ar hyd barau tynnu y gellir eu cario neu eu defnyddio gan gychod pysgota Prydeinig.

Mae Erthygl 5 yn pennu manyleb y llusgrwydi cregyn bylchog y caniateir eu cario neu eu tynnu.

Mae Erthygl 6 yn pennu beth fydd isafswm maint y gragen fylchog y caniateir i gwch pysgota Prydeinig ei chario, a hefyd yn darparu ar gyfer tymor caeëdig mewn perthynas â physgota cregyn bylchog, sef y cyfnod sydd yn dechrau fel yn 2005 ar 30 Mehefin, ac ymhob un o'r blynyddoedd dilynol ar 1 Mehefin, gan ddod i ben ar 31 Hydref.

Mae Erthygl 7 yn darparu y dull y mae cregyn bylchog i gael eu mesur ar gyfer pwrpasau Erthygl 6.

Mae Erthygl 8 yn darparu bod gan swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig bwerau penodol i fynd ar fwrdd cychod pysgota Prydeinig, i'w harchwilio a'u cadw ac i archwilio, copïo a chadw dogfennau.

Mae Erthygl 9 yn dirymu Gorchymyn Cregyn Bylchog Rhy Fach eu Maint (yr Arfordir Gorllewinol) 1984, Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) 1984 a Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) (Amrywio) 1986 cyn belled â bod y Gorchmynion yma yn gymwys o ran Cymru.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn a gellir ei archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1967 p.84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adran 19(1) a Deddf Llongau Masnachol 1995 (p.21), Atodlen 13, paragraff 38(a) a Gorchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820), Atodlen 2, paragraff 43(1), (2) a (3). Diwygiwyd adran 3 gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86), Atodlen 2, paragraff 16(1), Deddf Pysgota Gyda'r Lan (yr Alban) 1984 (p.26), Atodlen 1 ac O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 43(1), (2) a (4). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), Atodlen 1, paragraff 38(3) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86), Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 43(2)(b). Gweler adran 22(2)(a) i gael y diffiniadau o “the Ministers” at ddibenion adran 3 a 15(3); diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adrannau 19(2)(d) a 45(b) a (c) a chan O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 43(12).

(2)

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd yn arferadwy o dan adrannau 1, 3, 5, 15(3) a 20 o Ddeddf 1967 i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (sydd, yn ôl y diffiniad yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yn cynnwys “y môr yn gyfagos â Chymru ac allan i'r môr hyd at ffin y môr tiriogaethol”).

(6)

OJ Rhif L125, 27.4.1998, t.1.

(7)

OJ Rhif L097, 1.4..2004, t.30.

(11)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources