- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
19. Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder y Rhan newydd sy'n dilyn—
11A.—(1) Ni chaniateir i grant o dan Ran 4 neu fenthyciad o dan Ran 5 o ran blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr o ran y flwyddyn academaidd honno.
(2) I gael benthyciad o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r myfyriwr ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol.
11B. Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 11C yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a)gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau o dan Rannau 4 neu 5 ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b)nad yw'r cyfryw grantiau a benthyciadau ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.
11C. Dyma'r digwyddiadau—
(a)mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);
(c)pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(ch)pan fydd y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(d)pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);
(dd)pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(e)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: