Search Legislation

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2796 (Cy.235)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

17 Hydref 2006

Yn dod i rym

27 Hydref 2006

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1), ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 27 Hydref 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “Atodlen 1” neu “Atodlen 2” yn gyfeiriad at yr Atodlen briodol sy'n gysylltiedig â'r Gorchymyn hwn.

(4Yn y Gorchymyn hwn:

(a)ystyr “Rheoliad y Cyngor 1251/99” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1251/1999 sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol(3) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003(4);

(b)ystyr “Rheoliad y Cyngor 1254/99” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo(5) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1455/2001(6); Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1512/2001(7); Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2345/2001(8); y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(9); Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003(10) a'r diwygiadau a wnaed gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003(11) i Erthygl 10(1) ac Atodiadau 1 a 2 o Reoliad y Cyngor 1254/99;

(c)ystyr Rheoliad y Cyngor 2529/01” (“Council Regulation 2529/01”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr(12) fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(13);

(ch)mae “blwyddyn farchnata” i'w dehongli yn unol â “marketing year” yn Rheoliad y Cyngor 1251/1999.

Asesiad o gapasiti cynhyrchiol tir

2.—(1Mae'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu capasiti cynhyrchiol uned o dir amaethyddol sydd wedi'i lleoli yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” yn is-baragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2Am y cyfnod o 12 mis gan ddechrau ar 12 Medi 2004, pan ellir defnyddio'r tir o dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o Atodlen 1, yna—

(a)yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a

(b)y swm a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn perthnasol i Atodlen 1 fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

(3Am y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2004, pan fo tir y gellid ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu pan fo wedi'i ddynodi'n neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o Atodlen 1, yna —

(a)yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a

(b)y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

(4Am y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2005, pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yna—

(a)yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a

(b)y swm a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 2 gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn perthnasol i Atodlen 2 fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

(5Am y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2005, pan fo tir y gellid ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu pan fo wedi'i ddynodi'n neilltir yn y flwyddyn farchnata 2004/2005, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yna—

(a)yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a

(b)y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o Atodlen 2 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2004(14) drwy hyn wedi'i ddirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(15).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Hydref 2006

Erthyglau 1(2), 2(3) a 2(3)

ATODLEN LUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Defnydd ffermioUned gynhyrchuIncwm blynyddol net o uned gynhyrchu (£)

NODIADAU I ATODLEN 1

(1)

Didynner £135 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglyn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1254/99 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo.

Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglyn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99.

Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99 .

(2)

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis.

Didynner £115 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor 1254/99.

Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu.

Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu.

Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis ac nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £115 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol.

Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis ac yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu'n gyntaf £115 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £115 ac (os oedd yr incwm blynyddol net yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm dad-ddwysáu) y swm o £27 (pan fo'r premiwm dad-ddwysáu hwnnw wedi'i dalu ar y raddfa is) neu £54 (pan fo'r premiwm dad-ddwysáu hwnnw wedi'i dalu ar y raddfa uwch).

(3)

Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (ni waeth beth fo'u hoedran) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis, rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.

(4)

Didynner £19 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colled incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad y Cyngor 2529/01 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr.

(5)

Didynner £15 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm blynyddol defaid.

(6)

Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn ag iawndal y caniateir i gynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor 1251/99.

(7)

Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(8)

Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(9)

Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(10)

Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(11)

Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel)buwch260
Buchod bridio cig eidion :
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001(16)buwch31 (1)
Ar dir arallbuwch80 (1)
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)pen63 (2)
Buchod llaeth i lenwi bylchaupen45 (3)
Mamogiaid:
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001mamog14 (4)
Ar dir arallmamog21 (5)
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)pen1.05
Moch:
Hychod a banwesi torroghwch neu fanwes95
Moch porcpen1.90
Moch torripen3.50
Moch bacwnpen5.50
Dofednod:
Ieir dodwyaderyn1.25
Brwyliaid/ieir bwytaaderyn0.15
Cywennod ar ddodwyaderyn0.30
Tyrcwn Nadoligaderyn3.00
2. Cnydau âr fferm
Haiddhectar199 (6)
Ffahectar175 (7)
Had porfahectar120
Ceirchhectar131 (8)
Rêp had olewhectar188 (9)
Pys:
Sychhectar201 (10)
Dringohectar175
Tatws:
Cynnar cyntafhectar900
Prif gnwd (gan gynnwys hadau)hectar780
Betys siwgrhectar270
Gwenithhectar266 (11)
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredinhectar575
Ysgewyll Brwselhectar1600
Bresych, bresych Safwy a brocoli blagurohectar2000
Moronhectar3100
Blodfresych a brocoli'r gaeafhectar1000
Selerihectar8000
Cenninhectar3600
Letushectar4150
Nionod/Winwns:
Bylbiau sychhectar1305
Saladhectar3800
Pannashectar3250
Riwbob (naturiol)hectar6900
Maip ac erfin/swêdshectar1500
4. Ffrwythau'r berllan
Afalau:
Seidrhectar380
Coginiohectar1250
Melyshectar1400
Ceirioshectar900
Gellyghectar1000
Eirinhectar1250
5. Ffrwythau meddal
Cyrans Duonhectar850
Mafonhectar3100
Mefushectar4200
6. Amrywiol
Hopyshectar1700
7. Tir Porthiant
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001hectarSwm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
8. Neilltir
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fo'r tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99) i ddarparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu o fewn y Gymuned gynhyrchion nad oeddent wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaidhectar37

Erthyglau 1(3), 2(4) a 2(5)

ATODLEN 2UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Defnydd ffermioUned gynhyrchuIncwm blynyddol net gan uned gynhyrchu (£)

NODIADAU I ATODLEN 2

(1)

Didynner £135 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004.

Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004.

Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004.

(2)

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis.

Didynner £115 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004.

Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004.

Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004.

Yn achos anifeiliaid sydd—

(1)

yn cael eu cadw am lai na 12 mis, a

(2)

na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004,

cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £115 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol.

Yn achos anifeiliaid sydd—

(1)

yn cael eu cadw am lai na 12 mis, a

(2)

y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004,

cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu'n gyntaf £115 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £115 ac (os byddai'r incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm dad-ddwysáu petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004) y swm o £27 (pan fyddai'r premiwm dad-ddwysáu yn cael ei dalu ar y raddfa is) neu £54 (pan fyddai'r premiwm dad-ddwysáu yn cael ei dalu ar y raddfa uwch).

(3)

Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (ni waeth beth fo'u hoedran) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.

(4)

Didynner £19 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad y Cyngor 2529/01 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004.

(5)

Didynner £15 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm blynyddol defaid petai'r premiwm hwnnw yn dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004.

(6)

Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r iawndal y caniateir i gynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) ac y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor 1251/99 petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005.

(7)

Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005.

(8)

Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005.

(9)

Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005.

(10)

Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005.

(11)

Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005.

1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel):buwch260
Buchod bridio cig eidion:
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001buwch31 (1)
Ar dir arallbuwch80 (1)
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)pen63 (2)
Buchod llaeth i lenwi bylchaupen45 (3)
Mamogiaid:
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001mamog14 (4)
Ar dir arallmamog21 (5)
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)pen1.05
Moch:
Hychod a banwesi torroghwch neu fanwes95
Moch porcpen1.90
Moch torripen3.50
Moch bacwnpen5.50
Dofednod:
Ieir dodwyaderyn1.25
Brwyliaid/ieir bwytaaderyn0.15
Cywennod ar ddodwyaderyn0.30
Tyrcwn Nadoligaderyn3.00
2. Cnydau âr fferm
Haiddhectar199 (6)
Ffahectar175 (7)
Had porfahectar120
Ceirchhectar131 (8)
Rêp had olewhectar188 (9)
Pys:
Sychhectar201 (10)
Dringohectar175
Tatws:
Cynnar cyntafhectar900
Prif gnwd (gan gynnwys hadau)hectar780
Betys siwgrhectar270
Gwenithhectar266 (11)
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredinhectar575
Ysgewyll Brwselhectar1600
Bresych, bresych Safwy a brocoli blagurohectar2000
Moronhectar3100
Blodfresych a brocoli'r gaeafhectar1000
Selerihectar8000
Cenninhectar3600
Letushectar4150
Nionod/Winwns:
Bylbiau sychhectar1305
Saladhectar3800
Pannashectar3250
Riwbob (naturiol)hectar6900
Maip ac erfin/swêdshectar1500
4. Ffrwythau'r berllan
Afalau:
Seidrhectar380
Coginiohectar1250
Melyshectar1400
Ceirioshectar900
Gellyghectar1000
Eirinhectar1250
5. Ffrwythau meddal
Cyrans Duonhectar850
Mafonhectar3100
Mefushectar4200
6. Amrywiol
Hopyshectar1700
7. Tir Porthiant
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001hectarSwm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
8. Neilltir
Tir a oedd, ym mlwyddyn farchnata 2004/2005, wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fo'r tir hwnnw wedi'i ddefnyddio (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99) i ddarparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu o fewn y Gymuned gynhyrchion nad oeddent wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaidhectar37

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu capasiti cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y blynyddoedd 12 Medi 2004 hyd 11 Medi 2005 yn gynhwysol a 12 Medi 2005 hyd 11 Medi 2006 yn gynhwysol drwy gyfeirio at Atodlenni 1 a 2 yn ôl eu trefn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2004.

Mae gofyn cael asesiad o gapasiti cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” (“commercial unit of agricultural land”) at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) and 50(2) yn benodol.

Mae “uned fasnachol o dir amaethyddol” yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai nag agregiad enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn 20 oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986).

Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen briodol i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r asesiad o gapasiti cynhyrchiol y tir o dan sylw, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn o'r Atodlen honno fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen berthnasol yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gapasiti cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.

Mae'r Nodiadau i Atodlen 1 ac Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i wahanol ychwanegiadau a didyniadau gael eu defnyddio mewn perthynas â thaliadau a oedd yn daladwy o dan nifer o gynlluniau Polisi Amaethyddol Cyffredin sydd bellach wedi'u disodli gan Gynllun y Taliad Sengl. Mae'r nodiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r ychwanegiadau a'r didyniadau hynny gael eu defnyddio pan fyddai neu pan na fyddai'r taliadau yn cael eu gwneud petai'r cynlluniau hynny yn dal yn weithredol a bod yr amodau ar gyfer derbyn taliadau ym mlwyddyn olaf gweithredu pob cynllun yn dal yn gymwys.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog (a ddiffinnir yn adran 96(1) o Ddeddf 1986 fel yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru) o dan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

(3)

OJ Rhif L160, 26.6.99, t.1. Diddymwyd Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1251/99 hefyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (Erthygl 153(3)) a oedd yn gymwys o 28 Hydref 2003 ymlaen (Erthygl 156(2)) ond a ddaliodd i fod yn gymwys i flwyddyn farchnata 2004/2005 (1 Gorffennaf 2004 i 30 Mehefin 2005).

(4)

OJ Rhif L270, 21.10.03, p.1.

(5)

OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21. Mae Rheoliad y Cyngor 1254/99 wedi'i ddiwygio ymhellach gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 a chan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1913/2005 (OJ Rhif L307, 25.11.05, t.2). Er hynny, at ddibenion asesiadau a wneir o dan Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, mae'r diwygiadau pellach hyn i Reoliad y Cyngor 1254/99 i'w diystyru.

(6)

OJ Rhif L198, 21.07.01, t.58.

(7)

OJ Rhif L201, 26.07.01, t.1.

(8)

OJ Rhif L315, 1.12.01, t.29.

(9)

OJ Rhif L236, 23.09.03, t.33.

(10)

OJ Rhif L122, 16.05.03, t.1.

(11)

OJ Rhif L270, 21.10.03, t.1.

(12)

OJ Rhif L341, 22.12.01, t.3. Mae Rheoliad y Cyngor 2529/01 wedi'i ddiwygio ymhellach gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (OJ Rhif L270, 21.10.03, t.1) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1913/2005 (OJ Rhif L307, 25.11.05, t.2). Er hynny, at ddibenion asesiadau a wneir o dan Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, mae'r diwygiadau pellach hyn i Reoliad y Cyngor 2529/01 i'w diystyru.

(13)

OJ Rhif L236, 23.09.03, t.33.

(15)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources