Offerynnau Statudol Cymru
2006 Rhif 30 (Cy.4)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud
10 Ionawr 2006
Yn dod i rym
11 Ionawr 2006
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2006.
Diwygio Rheoliadau
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau newydd canlynol—
“ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;”;
“ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ond nid yw'n cynnwys uned cyfeirio disgyblion;”.
(3) Yn rheoliad 2, yn lle'r diffiniad o “disgybl chweched dosbarth” rhodder—
“ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl mewn ysgol sy'n cael addysg addas ar gyfer anghenion disgyblion dros yr oedran ysgol gorfodol;”.
(4) Yn Rhan 1 o'r Atodlen, ym mharagraff 5, hepgorer “ac, os felly, gyda phwy”.
(5) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1 yn lle “disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol” rhodder “person sydd, neu a oedd, ar unrhyw adeg blaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y cafodd y cais am yr wybodaeth ei wneud ynddi, yn ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol”.
(6) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1(c) ar ôl “ddechrau” mewnosoder “a diwedd”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Ionawr 2006
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) drwy wneud y canlynol—
(a)ychwanegu diffiniad o “ysgol”, rhoi diffiniad newydd o “disgybl chweched dosbarth” yn lle'r hen un, ac ychwanegu diffiniad newydd o “blwyddyn ysgol”;
(b)newid ychydig eiriad paragraff 5 o Ran 1 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel na fydd yn ofynnol mwyach i gorff llywodraethu ysgol ddatgan â phwy y mae disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref;
(c)newid geiriad paragraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen honno fel bod modd i'r wybodaeth y gall fod yn ofynnol i'r corff llywodraethu ei darparu am ddisgyblion chweched dosbarth gynnwys gwybodaeth am ddisgyblion sydd wedi gadael yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol; ac
(ch)newid ychydig eiriad paragraff 1(c) o'r Rhan honno fel y bydd yr wybodaeth y gall fod yn ofynnol ei darparu ynghylch anghenion disgyblion, o ran sgiliau sylfaenol, am lythrennedd a Rhif edd yn cynnwys bellach anghenion disgyblion ar ddiwedd, yn ogystal ag ar ddechrau, eu rhaglen gweithgareddau dysgu.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 20, ac fe'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 2003/3237 (Cy.137), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/35 (Cy.2).