Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 30 (Cy.4)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

10 Ionawr 2006

Yn dod i rym

11 Ionawr 2006

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2006.

Diwygio Rheoliadau

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau newydd canlynol—

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;;

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ond nid yw'n cynnwys uned cyfeirio disgyblion;.

(3Yn rheoliad 2, yn lle'r diffiniad o “disgybl chweched dosbarth” rhodder—

ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl mewn ysgol sy'n cael addysg addas ar gyfer anghenion disgyblion dros yr oedran ysgol gorfodol;.

(4Yn Rhan 1 o'r Atodlen, ym mharagraff 5, hepgorer “ac, os felly, gyda phwy”.

(5Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1 yn lle “disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol” rhodder “person sydd, neu a oedd, ar unrhyw adeg blaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y cafodd y cais am yr wybodaeth ei wneud ynddi, yn ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol”.

(6Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1(c) ar ôl “ddechrau” mewnosoder “a diwedd”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ionawr 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) drwy wneud y canlynol—

(a)ychwanegu diffiniad o “ysgol”, rhoi diffiniad newydd o “disgybl chweched dosbarth” yn lle'r hen un, ac ychwanegu diffiniad newydd o “blwyddyn ysgol”;

(b)newid ychydig eiriad paragraff 5 o Ran 1 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel na fydd yn ofynnol mwyach i gorff llywodraethu ysgol ddatgan â phwy y mae disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref;

(c)newid geiriad paragraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen honno fel bod modd i'r wybodaeth y gall fod yn ofynnol i'r corff llywodraethu ei darparu am ddisgyblion chweched dosbarth gynnwys gwybodaeth am ddisgyblion sydd wedi gadael yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol; ac

(ch)newid ychydig eiriad paragraff 1(c) o'r Rhan honno fel y bydd yr wybodaeth y gall fod yn ofynnol ei darparu ynghylch anghenion disgyblion, o ran sgiliau sylfaenol, am lythrennedd a Rhif edd yn cynnwys bellach anghenion disgyblion ar ddiwedd, yn ogystal ag ar ddechrau, eu rhaglen gweithgareddau dysgu.

(1)

1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 20, ac fe'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources