- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
22.—(1) Rhaid i hawliad am daliad o ran lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth gynnwys datganiad wedi'i lofnodi gan yr aelod, neu rhaid anfon y cyfryw ddatganiad gyda'r hawliad, a rhaid datgan yn y datganiad nad yw'r aelod wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn cysylltiad â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef.
(2) Ni chaniateir gwneud unrhyw daliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth yn adran 176 o Ddeddf 1972 mewn cysylltiad â mater y mae taliad wedi'i wneud mewn cysylltiad ag ef i'r person hwnnw yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau cynllun o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn.
23. Rhaid i unrhyw daliad o ran lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth i aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol â rheoliadau o dan adran 94 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) gael ei wneud gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y cyfansoddwyd y panel apêl mewn perthynas â hi neu â hwy.
24.—(1) Rhaid i awdurdod gadw cofnod o 'r taliadau y mae'n eu gwneud yn unol â'r Rheoliadau hyn neu ag unrhyw gynllun a wneir yn unol â hwy.
(2) Rhaid i gofnod o'r fath —
(a)pennu enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad; a
(b)bod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn yr ystyr yn adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod.
(3) Caiff person y mae ganddo hawl i archwilio cofnod o dan baragraff (2) wneud copi o unrhyw rhan ohono o dalu'r cyfryw ffi resymol ag y byddo'r awdurdod yn gofyn amdani.
25.—(1) Rhaid i awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud neu ddiwygio unrhyw gynllun a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, wneud trefniadau i'w gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod.
(2) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno o dan y cynllun i bob aelod sy'n gynghorydd mewn cysylltiad â phob un o'r canlynol—
(a)lwfans sylfaenol;
(b)lwfans cyfrifoldeb arbennig; ac
(c)lwfans gofal.
(3) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob un o'r aelodau mewn cysylltiad â'r canlynol—
(a)lwfans teithio
(b)lwfans cynhaliaeth; ac
(c)lwfans aelodau cyfetholedig.
1998 p.31; diwygiwyd adran 94 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.31), adran 51, gweler Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1398) (Cy.112).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: