- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “aelwyd” (“household”) yw —
grŵp o bobl a chanddynt gyfeiriad cyffredin yn unig neu'n brif breswylfa ac sydd naill ai'n rhannu un pryd y dydd neu'n rhannu'r llety byw yn y breswylfa honno; neu
unig neu brif breswylfa person sengl nad yw'n rhannu nac un pryd y dydd na'r llety byw yn y breswylfa honno â pherson arall;
mae i “anghydfod masnach” yr ystyr a roddir i “trade dispute” yn adran 35(1) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995;
mae i “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1);
ystyr “ceisydd” (“claimant”) yw person sy'n gwneud cais am beidio â thalu ffi, taliad neu ad-daliad yn unol â rheoliad 7 neu 10;
ystyr “contract blwydd-dal” (“annuity contract”) yw contract sy'n darparu ar gyfer taliadau bob hyn a hyn gan ddechrau ar ddyddiad sydd wedi'i ddatgan neu ddyddiad amodol ac sy'n parhau am gyfnod penodedig neu drwy gydol oes y blwydd-dal;
mae i “contract GIG” yr ystyr a roddir i “NHS contract” yn adran 7(1) o'r Ddeddf;
rhaid i “credyd cynilion credyd pensiwn” (“pension credit savings credit”) gael ei ddehongli yn unol ag adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(2);
ystyr “credyd treth gwaith” (“working tax credit”) yw credyd treth gwaith o dan Ddeddf Credydau Treth 2002(3);
ystyr “credyd treth plentyn” (“child tax credit”) yw credyd treth plant o dan adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
mae i “cwrs o driniaeth” yr ystyr a roddir i “course of treatment” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (1);
mae i “cwrs o driniaeth frys” yr ystyr a roddir i “urgent course of treatment” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006;
ystyr “cyfradd lawn” (“full rate”) yw'r gyfradd a bennwyd o dan adran 26(2) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;
ystyr “cyfradd safonol” (“standard rate”) yw'r gyfradd safonol a bennwyd yn unol ag adran 22(2) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;
ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, ac mae'n cynnwys ychwanegiad treuliau personol, ychwanegiad trosiannol arbennig ac ychwanegiad trosiannol fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Trosiannol) 1987(4);
mae i “cynllun pensiwn galwedigaethol” yr ystyr a roddir i “occupational pension scheme” gan adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993(5);
ystyr “cynllun pensiwn personol” (“personal pension scheme”) yw cynllun pensiwn personol —
fel y'i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993; neu
fel y'i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn (Gogledd Iwerddon) 1993(6);
ystyr “darparwr” (“provider”) yw darparwr unrhyw wasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(1)(a);
ystyr “dros y môr” (“abroad”) yw unrhyw le y tu allan i'r Deyrnas Unedig;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw —
yn achos cais o dan reoliad 7, dyddiad y cais; a
yn achos cais o dan reoliad 10(2), y dyddiad y cafodd y ffi GIG neu'r treuliau teithio GIG eu talu;
ystyr “dyddiad y cais” (“date of the claim”) yw'r dyddiad y bydd cais a wneir o dan reoliad 7 neu 10 yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “elfen anabledd” (“disability element”) yw elfen anabledd y credyd treth gwaith fel y'i pennwyd yn adran 11(3) o Ddeddf Credydau Treth 2002;
ystyr “elfen anabledd difrifol” (“severe disability element”) yw elfen anabledd difrifol y credyd treth gwaith fel y'i pennwyd yn adran 11(6)(d) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (y gyfradd uchaf);
mae i “enillion” yr ystyr a roddir i “earnings” yn rheoliadau 35 a 37 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;
mae i “ffi GIG” (“NHS charge” ) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;
rhaid i “gwarant credyd pensiwn” (“pension credit guarantee”) gael ei ddehongli yn unol ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;
mae i “gwasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant primary dental services” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006;
mae i “incwm perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant income” yn adran 7(2) o Ddeddf Credydau Treth 2002;
mae i “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” yr ystyr a roddir i “income-based jobseeker’s allowance” gan adran 1(4) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995;
mae i “myfyriwr amser-llawn” yr ystyr a roddir i “full time student” yn rheoliad 61 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;
mae i “pâr” yr ystyr a roddir i “couple” yn adran 137 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
ystyr “partner” (“partner”) —
os yw'r ceisydd yn aelod o bâr, yw'r aelod arall o'r pâr hwnnw,
os yw'r ceisydd yn briod yn aml-gymar â dau neu fwy o aelodau o'i aelwyd, yw unrhyw aelod o'r fath;
mae i “person ifanc” yr ystyr a ragnodir i “young person” yn rheoliad 14 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;
ystyr “person sengl” (“single person”) yw person nad oes ganddo bartner ac nad yw'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, ac nad yw'n aelod o'r un aelwyd â phlentyn neu berson ifanc;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 16 oed;
ystyr “plentyn neu berson ifanc dibynnol” (“dependent child or young person”) yw unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n cael ei drin fel pe bai'n gyfrifoldeb i'r ceisydd neu i bartner y ceisydd, os yw'r plentyn hwnnw neu'r person ifanc hwnnw'n aelod o aelwyd y ceisydd;
mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, porthladd i fferri neu orsaf drenau ryngwladol ym Mhrydain Fawr y mae siwrnai ryngwladol yn dechrau oddi yno;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd (“health care professional”) yw person sy'n aelod o broffesiwn sy'n cael ei reoleiddio gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(7);
ystyr “Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth” (“State Pension Credit Regulations”) yw Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(8);
ystyr “Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Suport Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(9);
ystyr “y Rheoliadau Ffioedd” (“the Charges Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(10);
ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) —
yn achos person sy'n byw yn barhaol mewn cartref gofal neu mewn llety a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adrannau 21 i 24 a 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(11) yw'r swm a ragnodwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 22(5) o'r Ddeddf honno, a
yn achos unrhyw berson arall, y swm a ragnodwyd at ddibenion adran 134(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(12);
mae i “teulu” yr ystyr a roddir i “family” gan adran 137(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 fel y mae'n gymwys i gymhorthdal incwm, ac eithrio —
yn rheoliad 5(1)(ch), mewn perthynas â pherson sy'n cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm mae iddo yr ystyr a roddir yn adran 35 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995(13),
yn rheoliadau 5(1)(d) ac 8(2) mae iddo yr ystyr a ddyrennir gan reoliad 2(2) o Reoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(14), ac
os oes cais wedi'i wneud am gymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(15), mae'n golygu y ceisydd lloches sydd wedi gwneud y cais hwnnw ac unrhyw ddibynnydd, fel y'i diffinnir yn adran 94 o'r Ddeddf honno, y mae wedi'i gynnwys yn y cais hwnnw, a dylai'r cyfeiriadau at “teulu” yn rheoliadau 5(2)(c) ac 8(1), (3) a (7) gael eu dehongli yn unol â hynny;
mae i “treuliau teithio GIG” (“NHS travelling expenses”) a “treuliau teithio tramor GIG” (“NHS foreign travelling expenses”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 3;
ystyr “wythnos” (“week”) yw cyfnod o 7 diwrnod sy'n dechrau am ganol nos rhwng dydd Sadwrn a dydd Sul;
mae i “ymddiriedolaeth GIG” yr ystyr a roddir i “NHS trust” yn adran 18 o'r Ddeddf.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “treuliau teithio GIG” (“NHS travelling expenses”) yw'r treuliau teithio y mae'n angenrheidiol i berson eu hysgwyddo —
(a)i fod yn bresennol yn y canlynol —
(i)un o ysbytai'r gwasanaeth iechyd,
(ii)unrhyw sefydliad arall a reolir gan Ymddiriedolaeth GIG neu Fwrdd Iechyd Lleol, neu
(iii)unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig,
at ddibenion darparu unrhyw wasanaethau (ac eithrio gwasanaethau meddygol personol neu ddeintyddol personol a ddarperir o dan Rannau 4 a 5 o'r Ddeddf) o dan ofal ymgynghorydd yn unol â Rhannau 1 a 2 o'r Ddeddf; a
(b)i deithio i borthladd ym Mhrydain Fawr er mwyn teithio dros y môr i gael gwasanaethau a ddarperir yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf a pharagraff 18 o Atodlen 3 iddi.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “treuliau teithio tramor GIG” (“NHS foreign travelling expenses”) yw'r treuliau teithio y mae'n angenrheidiol i berson eu hysgwyddo wrth deithio dros y môr o borthladd ym Mhrydain Fawr i gael gwasanaethau yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf a pharagraff 18 o Atodlen 3 iddi.
(3) Mae treuliau teithio GIG a threuliau teithio tramor GIG yn cynnwys treuliau teithio cydymaith mewn achos lle mae'r person y darperir gwasanaethau ar ei gyfer naill ai —
(a)yn blentyn; neu
(b)yn berson y mae ei anhwylder meddygol yn golygu bod arno angen cydymaith, ym marn meddyg sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaethau neu, os yw'n briodol, ym marn proffesiynolyn gofal iechyd arall sy'n ymwneud â felly.
(4) Rhaid i berson sy'n dymuno dibynnu ar hawl i gael treuliau teithio GIG —
(a)gwneud cais am hawl o dan reoliad 7, oni bai ei fod yn berson nad yw'n ofynnol iddo wneud cais o'r fath yn rhinwedd rheoliad 5(1); a
(b)gwneud cais am daliad treuliau teithio o dan reoliad 9.
(5) Mae swm unrhyw dreuliau teithio GIG y mae gan berson hawl i'w gael o dan y Rheoliadau hyn —
(a)yn gorfod cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at gost y teithio drwy ddefnyddio'r drafnidiaeth rataf sy'n rhesymol o roi sylw i oed ac anhwylder meddygol y person ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill; a
(b)os teithir mewn car preifat, yn cael cynnwys lwfans milltiroedd a threuliau parcio car.
(6) Dim ond os yw'r corff gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau dros y môr yn cytuno ar y dull teithio a chost y teithio a'r angen neu'r diffyg angen cydymaith cyn i'r treuliau gael eu hysgwyddo y mae gan berson hawl i gael taliad treuliau teithio tramor GIG.
4.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “ffi GIG” (“NHS charge”) yw unrhyw ffi a fyddai fel arall yn daladwy —
(a)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 121(1) a (2) o'r Ddeddf, am gyflenwi cyffuriau, moddion, cyfarpar a gwasanaethau fferyllol;
(b)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 125 o'r Ddeddf mewn perthynas â ffioedd am wasanaethau deintyddol perthnasol.
(2) Rhaid i berson sy'n dymuno dibynnu ar hawl o dan y Rheoliadau hyn i beidio â thalu ffi GIG —
(a)gwneud cais am hawl o dan reoliad 7 neu reoliad 10, oni bai ei fod yn berson nad yw'n ofynnol iddo wneud cais o'r fath yn rhinwedd rheoliad 5(1); a
(b)darparu unrhyw ddatganiad neu dystiolaeth o hawl y gofynnir amdanynt o dan y Rheoliadau Ffioedd.
O.S. 2007/121 (Cy.11). Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1.4.07.
1992 p.4. Y Rheoliadau perthnasol yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 O.S. 1987/1967.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: