- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan berson hawl, heb wneud cais o dan reoliad 7 (ceisiadau am hawl), i gael taliad llawn treuliau teithio GIG ac i beidio â thalu ffi GIG o gwbl os yw —
(a)yn cael cymhorthdal incwm;
(b)yn cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;
(c)yn cael credyd gwarant credyd pensiwn;
(ch)yn aelod o'r un teulu â pherson sy'n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu gredyd gwarant credyd pensiwn; neu
(d)yn aelod o deulu y mae un aelod ohono yn cael —
(i)credyd treth gwaith a chredyd treth plant,
(ii)credyd treth gwaith sy'n cynnwys elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol, neu
(iii)credyd treth plant, ond nad yw'n gymwys i gael credyd treth gwaith,
ar yr amod y penderfynir adeg y dyfarniad nad yw incwm perthnasol yr aelod neu'r aelodau y rhoddir y credyd treth iddo neu iddynt o dan adran 14 o Ddeddf Credydau Treth 2002 yn fwy na £15,050.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan y personau canlynol hawl i gael taliad llawn treuliau teithio GIG ac i beidio â thalu ffi GIG o gwbl ond mae'n ofynnol iddynt wneud cais am daliad neu am beidio â thalu yn unol â rheoliad 7 (ceisiadau am hawl) —
(a)person sy'n byw yn barhaol —
(i)mewn cartref gofal, neu
(ii)mewn llety a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adrannau 21 i 24 a 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (darparu llety),
ac sydd wedi bodloni'r awdurdod hwnnw nad yw'n gallu talu am y llety hwnnw yn ôl y gyfradd safonol, neu, yn ôl fel y digwydd, y gyfradd lawn;
(b)ceisydd lloches y darperir cymorth ar ei gyfer o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999;
(c)aelod o'r un teulu â cheisydd lloches a ddisgrifir yn is-baragraff (b);
(ch)plentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A o Ddeddf Plant 1989(1) y mae awdurdod lleol cyfrifol yn darparu cymorth ar ei gyfer o dan adran 23B(8) o'r Ddeddf honno;
(d)unrhyw berson arall sy'n bodloni Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rhan 4 nad yw ei adnoddau cyfalaf yn uwch na'r terfyn cyfalaf ac nad yw ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion neu eu bod yn fwy na'i anghenion o hanner cant y cant neu lai o swm y ffi a bennwyd yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000(2); ac
(dd)aelod o'r un teulu â pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (d).
(3) Dim ond os yw'n berson a ddisgrifir ym mharagraff (1) neu (2) ar yr adeg —
(a)Pan y codir y ffi;
(b)yr ysgwyddir y treuliau teithio GIG; neu
(c)yn achos ffi am wasanaethau deintyddol perthnasol pan—
(i)y gwneir y trefniadau ar gyfer y driniaeth neu'r cwrs o driniaeth frys o dan y Ddeddf,
(ii)pan wneir y trefniadau ar gyfer cyflenwi dant gosod neu gyfarpar deintyddol arall o dan y Ddeddf heblaw fel rhan o wasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol, neu
(iii)y codir y ffi,
y mae hawl person i gael taliad llawn treuliau teithio GIG neu i beidio â thalu ffi GIG o gwbl yn codi.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae gan berson hawl i gael taliad rhannol unrhyw dreuliau teithio GIG ac i beidio â thalu rhan o ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol ar yr amod ar yr adeg yr ysgwyddir y treuliau teithio neu y codir y ffi —
(a)nad yw ei adnoddau cyfalaf yn uwch na'r terfyn cyfalaf; a
(b)naill ai —
(i)bod ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion o lai na thraean o'r ffi, neu, yn ôl fel y digwydd, o lai na'r treuliau teithio a ysgwyddir mewn unrhyw wythnos, neu
(ii)ei fod yn aelod o deulu'r person a ddisgrifir yn is-baragraff (b)(i),
ond mae'n ofynnol iddo wneud cais am beidio â thalu neu am daliad yn unol â rheoliad 7 (ceisiadau am hawl).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y swm y mae gan berson hawl i'w gael o dan baragraff (1) yw —
(a)yn achos ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol, y gwahaniaeth rhwng y ffi a thair gwaith y swm y mae ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion; a
(b)yn achos treuliau teithio y gellir eu hadennill, y gwahaniaeth rhwng swm y treuliau a ysgwyddwyd a'r swm y mae ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion.
(3) Yn achos ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol, y ffi y gellir peidio â thalu rhan ohoni o dan y rheoliad hwn, ac y mae'n rhaid ei defnyddio at ddibenion y cyfrifiad y gofynnir amdano o dan baragraff (2)(a), yw'r ffi a godir —
(a)am un cwrs o driniaeth neu gwrs o driniaeth frys, gan gynnwys unrhyw ffi a godir am ddant gosod neu gyfarpar deintyddol arall a gyflenwir yn y cwrs hwnnw o driniaeth; neu
(b)am gyflenwi dant gosod neu gyfarpar deintyddol arall o dan y Ddeddf heblaw fel rhan o wasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am hawl o dan reoliad 5(2) (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) neu reoliad 6(1) (hawl i beidio â thalu rhan o ffi ac i gael taliad rhannol) wneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ffurflen sydd naill ai wedi'i darparu at y diben neu wedi'i chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Ar gais o dan baragraff (1), rhaid i'r ceisydd ddarparu unrhyw dystiolaeth a gwybodaeth y mae'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn amdanynt a hynny o fewn unrhyw amser y mae'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn amdano.
(3) Caniateir i gais gael ei wneud ar ran person arall os yw'r person hwnnw'n methu, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol, â gwneud y cais ei hun.
(4) Os na fydd ceisydd yn cydymffurfio â cheisiadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r dystiolaeth neu'r wybodaeth neu'r amseru a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r ceisydd na phenderfynir ar y cais a bod rhaid barnu bod y cais wedi'i gau.
8.—(1) Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu, ar gais a wneir o dan reoliad 7 (ceisiadau am hawl), fod gan y ceisydd ac unrhyw aelod o deulu'r ceisydd hawl i beidio â thalu unrhyw ran o ffi GIG neu i gael unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau teithio GIG, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad hawl i'r ceisydd.
(2) Os oes gan berson hawl i beidio â thalu ffi GIG o gwbl ac i gael taliad llawn treuliau teithio GIG am ei fod yn aelod o deulu a ddisgrifir yn rheoliad 5(1)(e) (teuluoedd credyd treth), rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad hawl i'r teulu hwnnw ac mewn achos o'r fath bydd yr hysbysiad yn gymwys i holl aelodau'r teulu hwnnw.
(3) Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) yn gymwys i holl aelodau teulu'r ceisydd a rhaid i'r hysbysiad hawl ddatgan —
(a)a oes gan y personau hynny hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn ynteu hawl i beidio â thalu rhan o ffi ac i gael taliad rhannol; a
(b)yn achos peidio â thalu rhan o ffi neu gael taliad rhannol, swm unrhyw ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol neu dreuliau teithio GIG nad oes hawl i beidio â'i dalu neu i gael taliad amdano.
(4) Rhaid i hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) neu baragraff (2) ddatgan am ba gyfnod o amser y mae'n ddilys a'r dyddiadau y mae'r amser hwnnw'n dechrau ac yn diweddu.
(5) Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) yn ddilys am 12 mis gan ddechrau ar ddyddiad y cais ac eithrio —
(a)yn achos hysbysiad a roddir i fyfyriwr amser-llawn ym mlwyddyn olaf neu unig flwyddyn cwrs astudio, ei fod yn ddilys o ddyddiad y cais tan ddiwrnod olaf y cwrs hwnnw;
(b)yn achos hysbysiad a roddir i blentyn perthnasol, ei fod yn ddilys am 12 mis neu tan 18fed pen-blwydd y plentyn, p'un bynnag yw'r olaf;
(c)yn achos hysbysiad a roddir i berson a grybwyllir yn rheoliad 5(2)(b) (ceisydd lloches), ei fod yn ddilys am 6 mis gan ddechrau ar ddyddiad y cais;
(ch)yn achos hysbysiad a roddir i berson a grybwyllir ym mharagraff (6), ei fod yn ddilys am y cyfnod o amser a bennir yn y paragraff hwnnw.
(6) Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) yn ddilys am 5 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais os yw'r ceisydd —
(a)yn berson sengl heb fod yn llai na 65 oed; neu
(b)yn un o bâr lle mae un partner heb fod yn llai na 60 oed ac un partner heb fod yn llai na 65 oed,
nad yw'n cael —
(i)dim enillion;
(ii)dim taliadau o gynllun pensiwn galwedigaethol;
(iii)dim taliadau o gynllun pensiwn personol; a
(iv)dim taliadau o gontract blwydd-dal.
(7) Nid yw paragraff (6) yn gymwys i berson y mae ganddo blentyn neu berson ifanc dibynnol yn aelod o'i aelwyd.
(8) Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (2) yn ddilys o unrhyw ddyddiad ac am unrhyw gyfnod y penderfynir arnynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(9) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10), (12) a (13), ni fydd unrhyw newid yn amgylchiadau ariannol neu amgylchiadau eraill ceisydd neu aelod unrhyw o deulu ceisydd, yn ystod cyfnod dilysrwydd hysbysiad hawl, yn effeithio ar ei ddilysrwydd mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw, neu yn achos peidio â thalu rhan o ffi neu daliad rhannol, ar y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b).
(10) Rhaid i geisydd y rhoddir hysbysiad hawl iddo sy'n syrthio o dan baragraff (6) hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru am unrhyw newid yng nghyfansoddiad ei deulu neu ei aelwyd yn ystod cyfnod dilysrwydd yr hysbysiad hawl a chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dynnu'r hysbysiad hawl yn ôl neu amrywio'r symiau a ddatganwyd ar yr hysbysiad hawl fel y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b) os na fydd y ceisydd yn bodloni gofynion paragraffau (6) a (7) mwyach.
(11) Caiff ceisydd y rhoddir hysbysiad hawl i gael taliad rhannol treuliau teithio GIG neu i beidio â thalu rhan o ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol wneud cais pellach yn unol â rheoliad 7 ar unrhyw adeg yn ystod oes yr hysbysiad os yw'n credu y dylai'r symiau sydd wedi'u datgan ar yr hysbysiad hawl fel y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) gael eu gostwng oherwydd newid yn ei amgylchiadau ariannol ef neu yn amgylchiadau ariannol unrhyw aelod o'i deulu.
(12) Rhaid i geisydd y rhoddir hysbysiad hawl iddo o dan y rheoliad hwn ei ddychwelyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn unrhyw achos lle gwelir wedyn fod ei gais wedi'i seilio ar osodiad ffug.
(13) Dim ond at ddibenion yr hawl i beidio â thalu ffioedd GIG ac i gael taliad treuliau teithio GIG yn unol â'r Rheoliadau hyn y mae hysbysiad hawl a roddir o dan y rheoliad hwn yn effeithiol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: